Gyda phwysau dros y gaeaf ar y gorwel, bydd y Senedd yn trafod ffyrdd o leihau oedi wrth ryddhau cleifion o’r ysbyty, a hynny ddydd Mercher 12 Tachwedd.
Mae hyn yn dilyn ymchwiliad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai i rôl awdurdodau lleol o ran cefnogi’r broses o ryddhau cleifion o'r ysbyty, gan adeiladu ar waith blaenorol y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ryddhau cleifion o'r ysbyty (2022).
Ers mis Ebrill 2023, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ystadegau misol ar Oedi Llwybr Gofal, pan oedd 1,750 o bobl yn profi oedi wrth gael eu rhyddhau. Ers hynny mae'r cyfanswm wedi amrywio, a 1,367 oedd y ffigurau diweddaraf sydd ar gael (Medi 2025), sy'n awgrymu cynnydd cyfyngedig.
Mae gwaith y ddau Bwyllgor wedi dangos bod heriau yn barhaus gan gynnwys:
- Diffyg capasiti gofal cymdeithasol a phwysau ar ofalwyr di-dâl;
- Prinder gofal canolraddol (cam i lawr) priodol;
- Yr angen am waith partneriaeth cryfach rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, a rhannu gwybodaeth ddigidol yn well.
Darllenwch ein herthygl flaenorol i gael rhagor o wybodaeth am ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Capasiti gofal cymdeithasol
Tynnodd y ddau ymchwiliad sylw at yr heriau sylweddol sy'n wynebu gwasanaethau gofal cymdeithasol, gan gynnwys lefelau uchel o swyddi gwag, yn enwedig ym maes gwaith cymdeithasol a gofal cartref. Mae cyfyngiadau capasiti yn achosi oedi wrth ddarparu gofal, a all rwystro'r broses o ryddhau cleifion o’r ysbyty.
Galwodd y Pwyllgorau am well cyflog, telerau ac amodau i’r gweithlu gofal cymdeithasol a mwy o gydraddoldeb rhwng iechyd a gofal cymdeithasol. Clywodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol hefyd fod diffyg data gofal cymdeithasol wedi’u cyhoeddi, sef pwynt y mae'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi'i godi'n rheolaidd gyda Llywodraeth Cymru. Roedd adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn galw am gyhoeddi data ar amseroedd aros ar gyfer asesiadau gofal a gwasanaethau gofal, ac ar y lefelau presennol o swyddi gwag. Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn gweithio tuag at hyn, gan ddisgwyl cyhoeddiad yn ystod gwanwyn 2026.
Y pwysau ar ofalwyr di-dâl
Clywodd y ddau Bwyllgor bryderon sylweddol ynghylch y pwysau sy'n cael ei roi ar deuluoedd a gofalwyr di-dâl wrth helpu i ryddhau cleifion o’r ysbyty a llenwi'r bylchau yn y ddarpariaeth gofal, yn ogystal â'r diffyg cefnogaeth sydd ar gael iddynt. Mae gan awdurdodau lleol ddyletswyddau statudol i sicrhau bod gofalwyr yn ‘yn barod ac yn abl’ i ddarparu gofal, ac i gefnogi'r rhai sydd ag anghenion cymwys, ond tynnodd rhanddeiliaid sylw at y ffaith nad yw hyn yn digwydd i lawer o ofalwyr a bod "bwlch gweithredu" sylweddol gyda'r ddeddfwriaeth.
Mewn ymateb i argymhelliad gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, comisiynodd Llywodraeth Cymru Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (ADSS) Cymru i gynnal adolygiad cyflym o hawliau gofalwyr di-dâl. Canfu’r adolygiad (2023) fod “rhestrau aros ar gyfer asesiadau gofalwyr yn y rhan fwyaf o ardaloedd, sy'n atal gofalwyr rhag cael y cymorth sydd ei angen arnynt”. Daeth i’r casgliad gan ddweud “nid yw asesiadau yn cael eu cynnig i lawer o ofalwyr”, a “gofal seibiant yw'r angen mwyaf arwyddocaol nad yw'n cael ei ddiwallu”. Dywed Llywodraeth Cymru fod cynllun gweithredu wedi'i ddatblygu yn dilyn yr adolygiad, gyda chamau gweithredu i'w cwblhau erbyn gwanwyn 2026.
Pwysleisiodd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai fod angen gwella'r ddarpariaeth gofal seibiant ledled Cymru. Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd hyn yn amcan strategol yn ei Strategaeth Genedlaethol newydd ar gyfer Gofalwyr Di-dâl a fydd yn cael ei chyhoeddi yng ngwanwyn 2026.
Mae’r Pwyllgor Iechyd a Diogelwch wrthi’n cynnal ymchwiliad i wella cefnogaeth - yn enwedig seibiannau - i ofalwyr di-dâl a bydd yn adrodd ar hyn yn y flwyddyn newydd.
Gwella gofal canolradd (camu i lawr)
Yn aml mae angen i bobl sy'n feddygol yn barod i adael yr ysbyty ond sydd ag anghenion gofal parhaus gael lleoliad dros dro (canolradd) ar gyfer cyfnod o adferiad. Tynnodd y ddau Bwyllgor sylw at yr angen i gynyddu'r ddarpariaeth o leoedd gofal canolraddol priodol ledled Cymru.
Clywodd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai fod yr ymdrech i ryddhau gwelyau ysbyty yn gyrru llawer o bobl hŷn at ofal preswyl yn gynamserol, a gellid lliniaru hyn pe bai'r math cywir o ofal canolradd ar gael.
Canfu’r ymchwiliad fod pobl hŷn sydd angen gofal canolraddol yn aml yn cael eu rhyddhau i gartrefi gofal yn rheolaidd, i ddechrau fel mesur dros dro, ond yna bod hynny’n aml yn dod yn barhaol wrth iddynt golli annibyniaeth. Disgrifiodd yr Athro John Bolton fod pobl yn cael eu troi allan o ysbytai acíwt, dim ond er mwyn eu cael i wely, ond nad oes gan y gwely unrhyw gyfleuster i helpu’r claf i adfer. A dywedodd fod y claf wedyn yn sownd ac yn aros yn y cartref gofal.
Dywedodd Archwilio Cymru fod pob rhanbarth yn ddibynnol ar welyau canolradd mewn cartrefi gofal preswyl heb fewnbwn therapiwtig i gefnogi’r broses rhyddhau cleifion oherwydd diffyg opsiynau eraill. Dywedodd cynrychiolydd o awdurdod lleol wrth yr Aelodau fod cyfleusterau gofal preswyl safonol yn cael eu defnyddio'n gyffredinol a dywedodd y gall pobl ddatgyflyru mewn gofal preswyl safonol yn yr un modd ag y gallant yn yr ysbyty.
Pwysleisiodd y Pwyllgor fod angen gofal canolraddol sy'n canolbwyntio mwy ar adferiad gyda mewnbwn therapiwtig a nyrsio, ac roedd ei argymhellion yn cynnwys galwad am adolygiad cyflym o arferion gofal canolraddol cyfredol. Er bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhellion, nid yw ei hymateb yn awgrymu y bydd unrhyw gamau newydd yn cael eu cymryd o ganlyniad (gan gynnwys adolygiad cyflym).
Rhannu gwybodaeth ddigidol
Daeth y ddau Bwyllgor i'r casgliad bod angen gwell gweithio mewn partneriaeth rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys datblygiadau digidol i alluogi gwell rhannu gwybodaeth.
Nododd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai fod diffyg rhannu gwybodaeth ddigidol yn parhau i fod yn rhwystr sylweddol rhag rhyddhau cleifion o’r ysbyty, gyda systemau TG a chyfathrebu gwahanol ac anghydnaws yn cael eu defnyddio ar draws gofal sylfaenol ac eilaidd, yn ogystal ag ar draws byrddau iechyd ac awdurdodau lleol. Dywedodd yr aelodau fod y “diffyg cynnydd yn y maes hwn yn eithriadol o rwystredig”.
Mae gwybodaeth am gleifion fel arfer yn cael ei chadw ar systemau TG gwahanol nad ydynt yn gysylltiedig â’i gilydd ac nad oes modd i’r holl staff sy’n ymwneud â chynllunio gofal a rhyddhau cleifion eu gweld. Clywodd y Pwyllgor, er bod rhai ardaloedd yn defnyddio systemau digidol amser real i olrhain statws cleifion ac argaeledd gofal, mae llawer yn dal i ddibynnu ar systemau hen ffasiwn, datgysylltiedig. Roedd yr aelodau yn “siomedig” o glywed bod peiriannau ffacs a systemau papur yn dal i gael eu defnyddio mewn rhai llefydd, gan adleisio teimlad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ôl yn 2022.
Mae adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn feirniadol o'r diffyg cynnydd a wnaed gan Gofal Iechyd Digidol Cymru wrth fethu â chyflawni trawsnewid digidol. Galwodd y Pwyllgor am arweinyddiaeth gryfach a mwy o atebolrwydd i yrru hyn ymlaen ar frys.
Gwaith atal ac ymyrraeth gynnar
Daeth y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai i'r casgliad bod gormod o ffocws ar hyn o bryd ar ofal ysbyty acíwt, a bod angen symud tuag at atal ac ymyrraeth gynnar, gyda mwy o ffocws ar atal derbyn cleifion i'r ysbyty mewn achosion lle gellir eu hosgoi. Clywodd fod cyrff sector cyhoeddus yn canolbwyntio ar yr hyn maent yn atebol amdano, ac mae'n anodd i'r GIG symud at fwy o ofal cymunedol, ataliol, pan mae cyllid craidd a mesurau perfformiad yn canolbwyntio ar ysbytai acíwt.
Dywed adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ei fod yn rhannu siom y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol nad yw Llywodraeth Cymru wedi dangos newid sylweddol eto mewn dyraniadau gwariant iechyd tuag at atal, er gwaethaf ei nodi fel blaenoriaeth (sef pwynt a amlygwyd wrth graffu ar y gyllideb ddrafft).
Roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cydnabod fod ganddynt system sy’n mesur allbynnau o ofod gofal eilaidd yn bennaf, ac sy’n ymateb i’r targedau sy’n cael eu mesur fwyaf yn gyhoeddus. Nododd y gall fod yn heriol cofnodi canlyniad mesurau ataliol, ond dywedodd fod Llywodraeth Cymru yn edrych ar sut y gellir datblygu hyn.
Argymhellodd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu metrigau perfformiad ar gyfer mesurau ataliol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddatblygu metrigau perfformiad pellach ac i nodi a rhannu arferion gorau a fydd yn cefnogi arferion ataliol. Dywedodd ei bod drwy hynny yn disgwyl datblygu sylfaen dystiolaeth a sylfaen gryfach i adeiladu cynlluniau gwaith rhanbarthol a chenedlaethol arni a all lywio dyraniadau gwariant a chynllunio yn y dyfodol.
Erthygl gan Amy Clifton, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru