Police officers riding horses through a high street in Cardiff

Police officers riding horses through a high street in Cardiff

Polisi cyfiawnder troseddol yng Nghymru: myfyrdodau, a chamau nesaf

Cyhoeddwyd 11/03/2026

Dros y degawd diwethaf, mae deunydd ymchwil cynyddol wedi edrych yn fanwl ar sut mae cyfiawnder troseddol yn gweithredu yng Nghymru, a pham mae’r system yn aml yn cael trafferth i gyflawni canlyniadau cyson a theg. Mae llawer o'r gwaith hwn yn tynnu sylw at yr un problemau strwythurol, sef: Mae Cymru mewn sefyllfa rhwng pwerau datganoledig a phwerau a gedwir yn ôl, ac mae hyn yn creu yr hyn y mae academyddion yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru wedi’i ddisgrifio fel ‘ymyl ysgythrog’, fel petai, o ran cyfrifoldebau rhannol. Mae'r trefniant yn dibynnu ar gydweithrediad agos rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Chymru.  

Yr achos o blaid datganoli

Gan y cyrff Comisiwn Thomas (2019), Comisiwn Brown (2022) a’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru (2024), lleiswyd achos cyson y gallai datganoli cyfiawnder alluogi canlyniadau gwell drwy sicrhau bod polisi cyfiawnder yn gydnaws â gwasanaethau datganoledig fel iechyd, tai ac addysg. Mae'r cyrff hyn yn dadlau bod system bresennol Cymru a Lloegr yn creu trefn atebolrwydd dameidiog ac yn llesteirio gweithredu cydlynol, yn enwedig o ran atal troseddau ac adsefydlu.

Mae Llywodraeth Cymru yn atgyfnerthu'r farn hon yn ei hadroddiad cynnydd ar Sicrhau Cyfiawnder i Gymru (2024), ac mae’n mynegi’r uchelgais am “ffordd Gymreig” fwy integredig o sicrhau cyfiawnder.

Mae’r gwaith ymchwil gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru yn amlygu problemau parhaus, yn enwedig o ran cadw yn y ddalfa, dedfrydu, a chanlyniadau anghyfartal, y maent yn dadlau eu bod yn deillio o ddiffyg cydnawsedd strwythurol o fewn y setliad presennol.

Yr achos yn erbyn datganoli

Mae pryderon ynghylch ymarferoldeb datganoli cyfiawnder yn parhau’n ganolog gan Lywodraeth y DU, fodd bynnag. Roedd tystiolaeth yr Arglwydd Timpson i Bwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd ym mis Gorffennaf  2025 yn tynnu sylw at y ffaith bod y system gyfiawnder o dan “bwysau enfawr," ac fe ddadleuodd ef y dylai sefydlogrwydd gael blaenoriaeth dros newid cyfansoddiadol. Nododd fod gwasanaethau prawf eisoes wedi'u cleisio yn sgil diwygiadau blaenorol, a rhybuddiodd y gallai newidiadau strwythurol mawr ddwysáu'r ansefydlogrwydd hwn. Rhybuddiodd hefyd fod newidiadau o'r fath mewn perygl o ddod yn blaster dros y clwyf, fel petai, yn hytrach na darparu gwelliannau parhaol.

Mae Llywodraeth y DU, yn yr un modd wedi dadlau y gallai datganoli cyfiawnder leihau effeithlonrwydd a chynyddu costau, ac mae dadansoddiad o’r goblygiadau cyllidol yn dangos amlygiad ariannol sylweddol i Gymru, gyda thua £1.2 biliwn mewn gwariant ar gyfiawnder yn flynyddol yn trosglwyddo ochr yn ochr â gofynion sefydlu a gweinyddu sylweddol.

Yn yr un modd, mae dadansoddiad annibynnol yn rhybuddio y gallai newid cyfansoddiadol pellach waethygu'r cymhlethdodau presennol, er enghraifft: mae ymchwil gan y maes plismona wedi dangos bod datganoli rhannol yn creu heriau gweithredol, tra bod Cymdeithas y Gyfraith wedi pwysleisio bod datganoli cyfiawnder sydd wedi’i gynllunio’n wael neu sydd wedi’i dan-ariannu yn creu “risg sylweddol,” ac y byddai symudiad tuag at awdurdodaeth ar wahân yn creu risg arbennig o fawr. 

Gyda'i gilydd, mae'r safbwyntiau hyn yn codi cwestiynau ynghylch a fyddai diwygio strwythurol mawr yn cyflawni'r manteision a fwriadwyd, neu yn lle hynny yn cyflwyno ansicrwydd newydd i system sydd eisoes dan bwysau.

Y gyfres ar Gyfiawnder Troseddol

Mae’r gyfres ar Gyfiawnder Troseddol yng Nghymru, a gyhoeddwyd gan Ymchwil y Senedd, â’r nod o roi cipolwg ar sut mae system cyfiawnder troseddol Cymru yn gweithio ar hyn o bryd ar draws y meysydd carchardai, cyfiawnder ieuenctid, dedfrydu, y gwasanaethau prawf, y llysoedd, plismona a gwasanaethau i ddioddefwyr. Mae wedi tynnu sylw at ble mae tystiolaeth gref, ble mae cynnydd wedi'i wneud, a ble mae bylchau yn parhau. Mae'r gyfres hefyd yn egluro bod meysydd allweddol fel cyfiawnder teuluol, tai, trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, a chamddefnyddio sylweddau, er y tu hwnt i gwmpas uniongyrchol cyfiawnder, eu bod yn ganolog i ddeall sut mae cyfiawnder yn gweithredu yng Nghymru.

O edrych ar y gyfres gyfan, mae un neges yn amlwg iawn sef, ni ellir gwahanu cyfiawnder troseddol oddi wrth y gwasanaethau cyhoeddus ehangach sy'n llunio bywydau pobl. Mae Plismona, y llysoedd, y gwasanaeth prawf, a’r carchardai yn dibynnu ar effeithiolrwydd addysg, iechyd, tai a gofal cymdeithasol. Pan fydd un rhan o'r system yn newid, teimlir yr effeithiau ar draws llawer o rannau eraill.

Nid yw’r dystiolaeth drwyddi draw yn arwain at un casgliad ynghylch dyfodol trefniadau cyfiawnder yng Nghymru. Yn hytrach, mae'n tynnu sylw at gymhlethdod y system, cyd-ddibyniaeth y rhannau gwahanol ohoni, a'r gwahanol ffyrdd y gall ffactorau strwythurol, ffactorau gweithredol a ffactorau cyfansoddiadol ddylanwadu ar ganlyniadau.

Drwy amlinellu'r materion hyn yn glir, bwriad y gyfres yw darparu sylfaen ar gyfer trafodaeth wybodus. Mae'r cwestiwn yn parhau’n agored i'r Aelodau, rhanddeiliaid, a'r cyhoedd ei ystyried sef, yng ngoleuni'r dystiolaeth, pa fath o system gyfiawnder yw’r un orau i wasanaethu Cymru, a sut y dylid trefnu cyfrifoldebau i'w chyflawni?

Mae’r erthygl hon yn rhan o gyfres sy’n trafod agweddau allweddol ar gyfiawnder troseddol yng Nghymru, o’r setliad datganoli presennol a gweithio rhynglywodraethol, i wasanaethau prawf, polisi cyfiawnder ieuenctid, a phlismona. 

Erthygl gan Sarah Hatherley, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru