Trosolwg o’r Gyfres: Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru

Mae’r gyfres hon yn edrych ar dirwedd cyfiawnder troseddol yng Nghymru wrth iddi esblygu, ac yn archwilio’r polisïau, y pwysau, a’r egwyddorion sy’n llunio’r dyfodol. Drwy gasgliad o erthyglau ar bynciau penodol, mae’n ceisio hwyluso dealltwriaeth o’r ffordd y mae cyfiawnder yn cael ei weinyddu, pwy y mae’n ei wasanaethu, a ble y gallai fod yn methu â chyrraedd y nod.

Erthyglau

Bron yn llawn: Pam mae Cymru’n ehangu capasiti carchardai nad oes eu hangen, o bosibl?

Erthygl sy’n ymchwilio i’r rhesymeg dros ehangu carchardai yng Nghymru, ac yn cwestiynu’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer cynyddu capasiti mewn system sydd eisoes o dan straen, a goblygiadau hirdymor hynny.

 

Diogelu yn hytrach na chosbi? Cyfiawnder Ieuenctid yng Nghymru

Erthygl sy’n edrych ar sut mae pobl ifanc yn cael eu trin yn y system gyfiawnder, gan asesu a yw’r dulliau presennol yn adlewyrchu ymrwymiad i adsefydlu a diogelu, neu a ydynt yn parhau’r cylchoedd cosbi.

 

Diwygio Dedfrydu: Beth sy’n newid a pham mae’n bwysig i Gymru

Mae polisi dedfrydu yn llunio nid yn unig y system gyfiawnder ond hefyd bywydau unigolion (gan gynnwys dioddefwyr a’r rhai a euogfarnwyd), teuluoedd a chymunedau.

 

Diwygio prawf yng Nghymru: sefydlogrwydd yn gyntaf, datganoli yn ddiweddarach

Mae prawf yn chwarae rhan bwysig yn y system gyfiawnder. Mae’n caniatáu i bobl sydd wedi cyflawni troseddau wneud eu dedfrydau yn y gymuned o dan oruchwyliaeth, yn hytrach nag yn y carchar.  

 

Llun yn dangos tu mewn i ystafell llys wag

Diffeithdir: mynediad at gymorth cyfreithiol troseddol yng Nghymru (Rhan 1)

Mae mynediad at gymorth cyfreithiol troseddol yn ddull hanfodol o ddiogelu cymdeithas ddemocrataidd. Mae'n sicrhau bod unrhyw un sy’n cael ei gyhuddo o drosedd yn gallu cael cymorth cyfreithiol, cynrychiolaeth ac achos teg - waeth beth fo'u sefyllfa ariannol. 

 

Diffeithdir: mynediad at gymorth cyfreithiol troseddol yng Nghymru (Rhan 2)

Mynediad at gyngor cyfreithiol sifil yw un o gonglfeini cymdeithas deg. I lawer o bobl, gall cyngor cyfreithiol wneud y gwahaniaeth rhwng cadw cartref, amddiffyn perthnasoedd teuluol, dianc rhag cam-drin, neu lywio rheolau mewnfudo cymhleth.

 

Menyw yn dal diod yn eistedd gyferbyn â pherson arall
Swyddog heddlu mewn lifrai yn gwisgo fest felen welededd uchel, yn sefyll yn yr awyr agored, gan symboleiddio plismona rheng flaen ac amlygrwydd cyhoeddus.

Ymddiriedaeth, cyfreithlondeb a hyder mewn plismona yng Nghymru: pam mae cydsyniad yn dal i fod yn bwysig

Mae plismona drwy gydsyniad yr egwyddor bod awdurdod yr heddlu yn deillio o ymddiriedaeth y cyhoedd, nid gorfodaeth wedi bod yn sail i blismona Prydeinig ers bron i ddwy ganrif. Ac eto, mae'r adroddiad  Cyflwr Plismona yng Nghymru a Lloegr diweddaraf yn pwysleisio bod y sylfeini cydsyniad dan straen. 

Datganoli cyfiawnder: pa gynnydd sy'n cael ei wneud?

Er gwaethaf ymrwymiad hirdymor Llywodraeth Cymru i ddatganoli cyfiawnder, mae cynnydd wedi bod yn araf ers i'r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru gyhoeddi ei adroddiad dros chwe blynedd yn ôl.

 

The statue of Lady Justice, holding a sword and scales in either hand, above the Old Bailey court in London