Pleidleisiau ystyrlon yng Nghymru ac yn San Steffan – y diweddaraf

Cyhoeddwyd 11/12/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Fis diwethaf, fe wnaethon ni gyhoeddi blog yn amlinellu sut y byddai Senedd y DU a'r Cynulliad yn cael dweud eu dweud ar y cytundeb Brexit a gafodd ei negodi ym Mrwsel. Ers hynny, mae rhai datblygiadau pwysig wedi bod yn y broses. Mae'r erthygl hon yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf.

Beth sydd wedi dod â ni at y pwynt yma?

Heno, roedd Aelodau Seneddol i fod i bleidleisio ynghylch a ddylid derbyn y Cytundeb Ymadael Brexit a’r Datganiad Gwleidyddol, yn dilyn pum niwrnod o ddadl. Fodd bynnag, ar ôl tri diwrnod, ar ddydd Llun 10 Rhagfyr, cyhoeddodd y Prif Weinidog ei bwriad i ohirio'r bleidlais hollbwysig. Dywedodd ei bod hi’n credu y byddai yna wrthwynebiad sylweddol i’r cynnig, oherwydd bod gormod o Aelodau Seneddol yn gwrthwynebu'r cynigion ar gyfer y ‘backstop’—y cynllun wrth gefn i osgoi ffin galed yn Iwerddon os nad oes cytundeb. Ni ddywedodd y Prif Weinidog pryd fyddai’r bleidlais yn cael ei aildrefnu, ond nododd bod yn rhaid iddi, o dan Ddeddf yr UE (Ymadael), wneud datganiad i'r Senedd os nad oes cytundeb erbyn 21 Ionawr.

Pan fydd Tŷ’r Cyffredin yn pleidleisio ar y cynnig, bydd y Llefarydd yn gallu dewis hyd at chwe gwelliant i'r cynnig ar gyfer pleidlais. Fel yr amlinellwyd yn ein blog blaenorol, roedd anghytundeb ynghylch a fyddai gwelliannau i gynnig Llywodraeth y DU yn cael eu cymryd cyn neu ar ôl y bleidlais ar y cynnig ei hun. Mae'r cynnig busnes a gyflwynwyd ar 4 Rhagfyr yn dangos bod y Llywodraeth wedi derbyn argymhellion y Pwyllgor Gweithdrefn ar y mater yma, ac y bydd pleidleisiau ar welliannau yn cael eu cymryd cyn y bleidlais ar y cynnig i gymeradwy’r cytundeb.

Beth sydd wedi bod yn digwydd yn y ddadl?

Gan edrych nôl at ddiwrnod cyntaf y ddadl ar 4 Rhagfyr, datblygiad arwyddocaol oedd ASau yn pleidleisio o blaid gwelliant i'r cynnig busnes a gyflwynwyd gan Dominic Grieve. O dan adran 13 o Ddeddf yr UE (Ymadael), os gwrthodir y cynnig cymeradwyo, bydd gan y Llywodraeth 21 diwrnod i wneud datganiad ar sut y bwriedir symud ymlaen, ac yna cyflwyno cynnig i Dŷ'r Cyffredin ‘nodi’ y datganiad hwnnw. Mae hyn yn golygu na ellir cyflwyno unrhyw welliannau i'r cynnig. Fodd bynnag, mae gwelliant Dominic Grieve yn golygu nad yw'r rheol hon yn berthnasol yn y senario hon, sy'n golygu y byddai'r Senedd yn gallu diwygio cynnig sy'n nodi cynllun gweithredu'r Llywodraeth os caiff y cytundeb ei wrthod. Ni fyddai'r gwelliannau hyn yn gyfreithiol rwymol, ond gallant fod yn arwyddocaol o ran pennu’r ffordd ymlaen.

O blith y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig cymeradwyo, yr unig un sydd â chefnogaeth drawsbleidiol eang yw’r gwelliant gan Hilary Benn, Cadeirydd Pwyllgor Gadael yr UE. Mae ei welliant yn gwrthod y Cytundeb Ymadael a’r Datganiad Gwleidyddol, yn gwrthod y posibilrwydd o’r DU yn gadael yr UE heb gytundeb, ac yn galw ar y Llywodraeth i gyflwyno'r cynnig ar yr hyn y mae'n bwriadu ei wneud nesaf 'yn ddi-oed'. Unwaith eto, ni fyddai'r gwelliant hwn, pe bai'n cael ei basio, yn rhwymo'r Llywodraeth, ond byddai gwrthod y senario ‘dim cytundeb’ gan y Senedd yn ddatblygiad sylweddol.

Mae gwelliannau eraill—gan gynnwys gwelliant gan Ian Blackford o’r SNP, gyda chefnogaeth Plaid Cymru—yn cynnig ymestyn y terfyn amser ar gyfer Erthygl 50 i roi mwy o amser i benderfynu’r ffordd ymlaen. Nid yw'r rhan fwyaf o welliannau a gyflwynwyd yn cynnwys dewisiadau amgen i gytundeb y Llywodraeth.

Beth mae Aelodau Seneddol Cymru wedi’i ddweud yn ystod y ddadl?

Hyd yn hyn yn y ddadl yn Nhŷ'r Cyffredin, mae ASau Cymru wedi canolbwyntio'n bennaf ar effaith economaidd Brexit. Soniodd yr Aelodau Llafur Chris Ruane a Susan Elan Jones am y cronfeydd strwythurol y mae Cymru wedi'u derbyn. Roeddent yn gwrthwynebu'r cytundeb, trwy ddweud y byddai'r cytundeb a negodwyd yn gwneud Cymru'n dlotach. Gwrthododd Hywel Williams o Blaid Cymru y cytundeb hefyd, drwy sôn am ei effaith economaidd. Canolbwyntiodd ei sylwadau ar yr effaith ar staff a myfyrwyr o’r UE mewn prifysgolion ac ysbytai. Mae ASau Ceidwadol Cymru wedi rhannu amrywiaeth o safbwyntiau ar y cytundeb yn ystod y ddadl. Dywedodd David Jones na fydd yn cefnogi'r cytundeb, gan ddweud y byddai'r DU yn colli ei sofraniaeth a’i rhyddid i wneud penderfyniadau ‘yn groes i ddymuniadau ei phobl'. Fodd bynnag, dywedodd Alun Cairns, yn cynrychioli'r Llywodraeth, mai'r cytundeb a drafodwyd yw'r un gorau sydd ar gael i swyddi ac economi Cymru, gan ychwanegu y byddai Llywodraeth y DU yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i ofyn am gynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil Cytundeb Ymadael pan fydd yn mynd drwy Senedd y DU. Senedd chamber

Datblygiadau yng Nghymru

Yn dilyn ymrwymiad gan y Prif Weinidog y byddai'r Cynulliad yn cael pleidlais ar y cytundeb Brexit, cyflwynodd Llywodraeth Cymru gynnig yn y Cyfarfod Llawn ar ddydd Mawrth 4 Rhagfyr. Wrth osod safbwynt y Llywodraeth, dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, nad yw'r Cytundeb Ymadael yn ateb 'buddiannau sylfaenol' Cymru a'r DU. Fel rhan o'r ddadl, cymeradwyodd y Cynulliad welliant 2 i'r cynnig gwreiddiol, a gyflwynwyd gan Plaid Cymru, a oedd yn gwrthod y Cytundeb Ymadael mewn termau cryfach. Pleidleisiodd cyfanswm o 34 Aelod o blaid y cynnig diwygiedig, gyda 16 yn pleidleisio yn erbyn. Mae'r cynnig hwnnw'n nodi bod y Cynulliad:

  • Yn gwrthod y cytundeb ymadael a'r datganiad gwleidyddol am y berthynas rhwng y DU a'r UE yn y dyfodol a gytunwyd gan y Cyngor Ewropeaidd a Llywodraeth y DU.
  • Yn credu nad yw'r berthynas yn y dyfodol fel y’i rhagwelir gan y datganiad gwleidyddol yn mynd mor bell â’r model ar gyfer perthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol a nodwyd yn ‘Diogelu Dyfodol Cymru’, sy'n darparu gwarantau cadarn mewn perthynas â hawliau gweithwyr, hawliau dynol, deddfwriaeth cydraddoldeb a hawliau dinasyddion.
  • Yn nodi bod dadansoddiad economaidd hirdymor Llywodraeth y DU yn rhagweld y bydd economi'r DU yn gwaethygu 3.9 y cant dros 15 mlynedd o dan y cytundeb ymadael a’r datganiad gwleidyddol presennol.
  • Yn galw ar Lywodraeth y DU i geisio aelodaeth y DU o’r farchnad sengl Ewropeaidd a'r undeb tollau.
  • Yn galw am estyniad i’r broses ar gyfer erthygl 50.
  • Yn credu y dylai Llywodraeth y DU ddatgan yn awr ei bwriad i negodi ar y sail honno ac os yw’n methu â gwneud hynny, dylid naill ai cynnal Etholiad Cyffredinol neu bleidlais gyhoeddus i benderfynu ar y telerau ar gyfer ymadawiad y DU, neu a ydy’n dymuno aros.

Fe wnaeth Senedd yr Alban hefyd basio cynnig yn gwrthod y cytundeb, yn ogystal â'r posibilrwydd o adael heb gytundeb. Nid yw cynnig y Cynulliad na chynnig yr Alban yn rhwymo Llywodraeth y DU. Ar hyn o bryd, nid ydym yn gwybod a fydd dadl a phleidlais arall yn y Cynulliad os na chytunir ar gynnig cymeradwyo Llywodraeth y DU.

Felly, beth allai ddigwydd pan fydd pleidlais?

Os bydd Tŷ’r Cyffredin yn cytuno ar gynnig y Llywodraeth heb ei ddiwygio, bydd hyn yn golygu eu bod yn derbyn y cytundeb. Yna, rhaid pasio darpariaethau i weithredu'r Cytundeb Ymadael mewn Deddf Seneddol—hwn fyddai Bil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael). Byddai hefyd angen i destun y Cytundeb Ymadael gael ei gymeradwyo'n ffurfiol gan Senedd Ewrop.

Os yw Senedd y DU yn diwygio'r cynnig i gymeradwyo'r cytundeb, efallai y bydd gallu'r Llywodraeth i gadarnhau'r cytundeb wedi’i gyfyngu—yn enwedig os caiff y cynnig ei ddiwygio i’r graddau nad yw'n mynegi cymeradwyaeth o’r cytundeb a negodwyd. Mae'n debyg y byddai'r Llywodraeth yn cymryd cyngor cyfreithiol ynghylch a fyddai unrhyw newidiadau i’r cynnig yn atal y DU rhag gadarnhau’r cytundeb. Pe bai'r cynnig yn cael ei ddiwygio a chredwyd bod hyn yn rhwystro'r Llywodraeth rhag cadarnhau'r cytundeb, efallai y bydd penderfyniad y Llywodraeth i gadarnhau'r Cytundeb Ymadael yn caei ei herio.

Os gwrthodir y cynnig i gymeradwyo'r cytundeb, byddai'n rhaid i'r Llywodraeth wneud datganiad i'r Senedd yn nodi'r hyn y bwriedir ei wneud nesaf. Yna byddai gan y Senedd gyfle i bleidleisio ar y cynlluniau hynny, ar gynnig 'mewn termau niwtral'. Fel yr esboniwyd uchod, bydd gwelliant Dominic Grieve yn caniatáu i Aelodau Seneddol gyflwyno gwelliannau i gynnig y Llywodraeth i ddylanwadu ar y camau nesaf. Mae hyn yn golygu y gallai fod pleidlais ystyrlon arall os gwrthodir y cytundeb.


Erthygl gan Peter Hill, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru