Rydym am glywed eich barn am Senedd TV. Cymerwch ran yn ein harolwg byr i’n helpu i wella’r gwasanaeth.
Pleidleisiau Lloegr ar gyfer cyfreithiau Lloegr: Datblygiadau yn Senedd y DU
Cyhoeddwyd 07/10/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau
7 Hydref 2015
Erthygl gan Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
[caption id="attachment_3861" align="alignnone" width="682"]
Llun: o Wikimedia Commons gan Richard Pope. Dan drwydded Creative Commons.[/caption]
Cyn toriad Senedd y DU, gwnaeth y Gwir Anrhydeddus Chris Grayling AS, Arweinydd y Tŷ, ddatganiad yn Nhŷ'r Cyffredin am fwriad Llywodraeth y DU i gyflwyno "pleidleisiau Lloegr ar gyfer cyfreithiau Lloegr" ["EVEL"]. Roedd y Gwir. Anrhydeddus William Hague AS wedi gwneud datganiad yn y Senedd flaenorol yn amlinellu sut roedd Llywodraeth y DU yn bwriadu bwrw ymlaen â’r mater yn dilyn cynigion Comisiwn Mackay.
Y cynigion
Cyhoeddodd Arweinydd y Tŷ Reolau Sefydlog drafft a phapur polisi. Bydd y broses newydd yn gymwys i filiau’r Llywodraeth a gyflwynir yn y sesiwn seneddol hon ac a gaiff Ail Ddarlleniad yn Nhŷ'r Cyffredin ar ôl y cytuno ar y rheolau newydd. Yna, bydd yn gymwys i bob rhan o filiau’r Llywodraeth y bydd y Llefarydd yn ardystio’u bod yn cynnwys darpariaethau’n ymwneud â Lloegr yn unig, neu â Chymru a Lloegr yn unig. Ni fydd yn gymwys i filiau arferol sy’n gweithredu penderfyniadau’r Tŷynghylch gwariant sydd wedi’u cynnwys yn yr Amcangyfrifon. Bydd hefyd yn gymwys i is-ddeddfwriaeth.

- Pan gaiff bil ei gyflwyno yn Nhŷ'r Cyffredin, bydd y Llefarydd yn ardystio a ddylai’r bil, neu rannau ohono, fod yn ddarostyngedig i’r broses newydd. Wrth wneud y penderfyniad hwn bydd y Llefarydd yn penderfynu a yw'r ddeddfwriaeth yn ymwneud â Lloegr yn unig, neu â Chymru a Lloegr yn unig, ac a yw’n ymwneud â materion sydd wedi'u datganoli i Gymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.
- Ar ôl i’r Llefarydd ardystio bil, bydd yn symud ymlaen i’r Ail Ddarlleniad a’r cyfnod pwyllgor yn unol â’r drefn arferol.
- Os bydd y Llefarydd yn ardystio bod bil yn gymwys i Loegr yn unig, dim ond Aelodau Seneddol Lloegr fydd yn ei drafod yn y cyfnod pwyllgor. Bydd aelodaeth y pwyllgor hwn yn cyd-fynd â nifer yr Aelodau Seneddol sydd gan y pleidiau yn Lloegr.
- Yna, bydd y bil yn symud ymlaen i’r Cyfnod Adrodd, yn unol â’r drefn arferol.
- Os bydd bil yn cynnwys darpariaethau’n ymwneud â Lloegr neu â Chymru a Lloegr, bydd yn rhaid dilyn proses i gael cydsyniad Aelodau Seneddol o Loegr, neu o Gymru a Lloegr. Bydd Uchel Bwyllgor deddfwriaethol yn ystyried cynnig cydsyniad ar gyfer unrhyw gymalau y bydd y Llefarydd yn ardystio’u bod yn gymwys i Loegr yn unig neu i Gymru a Lloegr yn unig. Mae hwn yn gyfnod newydd a fydd yn caniatáu i holl Aelodau Lloegr, neu Cymru a Lloegr, naill ai gydsynio â’r cymalau hynny neu i roi feto arnynt. Yn ystod y cyfnod hwn, ni ellir cynnig diwygiadau i destun y bil ond gellir rhoi feto ar gymalau penodol drwy gynnig diwygiadau i’r cynnig cydsyniad. Os yw bil yn gymwys i Loegr yn unig, neu i Gymru a Lloegr yn unig, mae’r cyfnod hwn yn caniatáu i’r Aelodau Seneddol hynny gydsynio â’r bil cyfan neu i roi feto arno.
- Os bydd yr Uchel Bwyllgor deddfwriaethol yn rhoi feto ar gymalau’r bil, bydd cyfnod ailystyried i roi cyfle i’r Aelodau gynnig diwygiadau eraill, a chyfaddawdu. Gall y Tŷ cyfan gymryd rhan yn y cyfnod hwn sydd, i bob pwrpas, yn ail gyfnod adrodd ar gyfer rhannau cynhennus o’r bil. Yna, bydd ail Uchel Bwyllgor deddfwriaethol yn cyfarfod a gofynnir i holl Aelodau Seneddol Lloegr neu Aelodau Cymru a Lleogr gydsynio â’r diwygiadau a gynigiwyd gan y Tŷ cyfan. Os na allant gytuno, bydd y rhannau cynhennus yn methu.
- Yn dilyn y cyfnod adrodd ac unrhyw gynigion cydsyniad, bydd y bil yn symud ymlaen i’r Trydydd Darlleniad, pan gaiff yr holl Aelodau Seneddol gymryd rhan. Yna bydd yn symud i Dŷ'r Arglwyddi. Os bydd angen unrhyw ddiwygiadau canlyniadol i weddill y bil ar ôl i rannau cynhennus o’r bil fethu, bydd cyfnod ychwanegol cyn y trydydd darlleniad i ganiatáu hynny.
- Dyletswyddau'r Llywydd o ran pennu cymhwysedd deddfwriaethol Biliau'r Cynulliad;
- Disgrifiad manwl o'r weithdrefn a ddilynwyd, y profion deddfwriaethol a ddefnyddiwyd, maint a chymhlethdod y dasg a'r adnoddau / arbenigedd angenrheidiol;
- Y posibilrwydd y gallai anghydfod neu anghytundeb godi mewn perthynas â phenderfynu ar gymhwysedd deddfwriaethol biliau arfaethedig, a hefyd mewn perthynas ag ystyried Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Cynulliad.