Pleidlais ystyrlon neu bleidlais symbolaidd? Pleidleisiau Brexit yn y Cynulliad a San Steffan

Cyhoeddwyd 20/11/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Gyda’r posibilrwydd y bydd cytundeb Brexit yn cael ei gytuno ym Mrwsel y penwythnos yma, mae’r erthygl yma yn edrych ar y camau nesaf yn y broses yn Llundain ac ym Mae Caerdydd.

Beth nesaf ar ôl uwchgynhadledd yr UE?

Mae'r Cyngor Ewropeaidd wedi cadarnhau y byddant yn cwrdd ar 25 Tachwedd i gwblhau'r cytundeb Brexit, oni bai bod rhywbeth 'rhyfeddol' yn digwydd. Os bydd cytundeb, y cam nesaf yw pleidlais yn Nhŷ'r Cyffredin. Mae'n un o ofynion Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) y bydd cynnig i gymeradwyo dau destun: y cytundeb ymadael a'r fframwaith ar gyfer y berthynas yn y dyfodol a gytunwyd gan Lywodraeth y DU a negodwyr yr UE. Os caiff y cynnig ei basio, bydd y Llywodraeth yn symud ymlaen gyda Bil yr UE (Cytundeb Ymadael). Os na chaiff y cynnig ei basio, ni ellir cadarnhau'r cytundeb ymadael. Disgrifir y broses hon fel y ‘bleidlais ystyrlon'.

Pam ei bod hi’n cael ei galw'n bleidlais 'ystyrlon'?

Mae pa mor ‘ystyrlon’ yw’r bleidlais yn ymwneud â gallu Tŷ'r Cyffredin i newid y cytundeb ac awgrymu dewisiadau eraill. O dan reolau seneddol, byddai angen i unrhyw gynnig i gymeradwyo cytundeb y Llywodraeth fod yn 'gynnig o sylwedd' y gellir ei ddiwygio. Fodd bynnag, mae'r Llywodraeth wedi dadlau y byddai cynnig wedi’i ddiwygio yn achosi amwysedd cyfreithiol os caiff ei ddiwygio i raddau nad yw'n adlewyrchu'r cytundeb gafodd ei negodi, a allai atal y cytundeb rhag cael ei gadarnhau.

Felly, mae'r Llywodraeth am sicrhau bod Tŷ’r Cyffredin yn pleidleisio ar y cynnig fel y caiff ei gyflwyno’n wreiddiol. Mewn llythyr i'r Pwyllgor Gweithdrefn, dadleuodd Dominic Raab, yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Gadael yr UE bryd hynny, fod angen i'r broses ar gyfer cymeradwyo'r cytundeb yn y Senedd ganiatáu penderfyniad diamwys—hynny yw, pleidlais ‘ie neu na’. Dywedodd y byddai unrhyw beth heblaw cymeradwyaeth syml o’r cytundeb yn dod ag ansicrwydd mawr i fusnesau, defnyddwyr a dinasyddion.

Mae memorandwm sy'n cyd-fynd â'r llythyr yn dangos sut y gallai'r Llywodraeth sicrhau penderfyniad diamwys. O dan y gweithdrefnau presennol, byddai dadl ar gynnig fel hyn yn cael ei ddilyn gan bleidlais ar welliannau, ac yna pleidlais ar y cynnig. Fodd bynnag, mae'r Llywodraeth yn awgrymu bod pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio yn digwydd gyntaf, ac os caiff y cynnig ei basio, na fyddai unrhyw welliannau'n cael eu galw. Mae beirniaid y weithdrefn arfaethedig hon yn dweud y gallai atal pleidlais ar welliant a allai fod wedi cael pleidlais mwyafrif.

Beth ddywedodd y Pwyllgor Gweithdrefn mewn ymateb?

Ar 16 Tachwedd, ymatebodd y Pwyllgor Gweithdrefn i sylwadau'r Llywodraeth yn ei adroddiad ar Gynigion o dan adran 13(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018. Mewn perthynas ag awgrym y Llywodraeth y dylai'r Tŷ bleidleisio ar y cynnig yn gyntaf, a yna'r gwelliannau, anghytunodd y Pwyllgor Gweithdrefn, gan ddweud y dylid pleidleisio ar y gwelliannau i'r cynnig yn gyntaf. Awgrymodd dri model posibl ar gyfer sut i fynd ymlaen:

  1. dilyn gweithdrefn arferol y Tŷ, wedi'i addasu i ganiatáu i'r Llefarydd alw mwy nag un gwelliant ar gyfer penderfyniad ar ddiwedd y ddadl;
  2. gweithdrefn yn seiliedig ar y weithdrefn bresennol ar gyfer penderfyniadau ar gynigion ar ddiwrnodau gwrthblaid, lle gwahoddir y Tŷ i benderfynu ar y cynnig a gyflwynwyd yn wreiddiol, cyn penderfynu ar unrhyw welliannau iddo;
  3. gweithdrefn a fydd yn caniatáu penderfyniadau ar gyfres o gynigion unigol sy'n mynegi barn ar y cytundeb ymadael, cyn pleidlais ar y cynnig gwreiddiol a gyflwynwyd.

Fodd bynnag, mae'r pwyllgor yn cydnabod y dylai ASau allu penderfynu sut mae'r bleidlais yn digwydd, ac felly mae'n argymell y dylai'r Tŷ drafod pa weithdrefn ddylai gael ei ddefnyddio, o leiaf dau ddiwrnod eistedd cyn y diwrnod pan mae'r ddadl ar y cytundeb i fod i ddechrau.

Beth os yw Tŷ'r Cyffredin yn gwrthod y Cytundeb Ymadael?

Os bydd Tŷ’r Cyffredin yn gwrthod y Cytundeb Ymadael, mae Adran 13 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn ei gwneud yn ofynnol i'r Llywodraeth wneud datganiad o fewn 21 diwrnod ar sut y mae'n bwriadu symud ymlaen â'r trafodaethau gyda'r UE. O fewn saith diwrnod eistedd o'r datganiad hwnnw, rhaid cyflwyno cynnig.

Beth os nad oes cytundeb?

Mae Deddf yr UE (Ymadael) yn amlinellu proses yn y Senedd os nad oes cytundeb ymadael yn cael ei wneud, neu os nad yw’n cael ei gadarnhau. Mae Adran 13 o'r Ddeddf yn gwneud darpariaeth ar gyfer tri sefyllfa ‘dim cytundeb’.

  • Os yw'r Senedd yn gwrthod y cynnig i gymeradwyo'r cytundeb ymadael;
  • Os, cyn 21 Ionawr 2019, mae'r Llywodraeth yn dweud wrth y Senedd na ellir dod i gytundeb;
  • Os, ar ôl 21 Ionawr 2019, nad oes cytundeb.

Ym mhob un o’r senarios hyn, byddai'n rhaid i'r Llywodraeth wneud datganiad i'r Senedd yn nodi sut y mae'n bwriadu symud ymlaen. Rhaid i Dŷ'r Cyffredin wedyn gael cyfle i bleidleisio ar gynnig i ystyried y datganiad hwnnw. Ym mhob achos, rhaid i Dŷ'r Arglwyddi gael cyfle hefyd i ystyried cynnig yn ‘nodi’ y datganiad.

A oes rôl gan y Cynulliad?

O dan Ddeddf yr UE (Ymadael), does dim rôl swyddogol i’r Cynulliad. Fodd bynnag, mae’r Papur Gwyn yn dweud bod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i weithio'n effeithiol gyda'r gweinyddiaethau datganoledig wrth ddatblygu'r Bil, ac y bydd yn gofyn am gydsyniad y deddfwrfeydd datganoledig yn ôl yr angen. Mae'n mynd ymlaen i ddweud:

The UK Government remains committed to ensuring that our exit does not take any decision-making powers away from the devolved institutions and the Bill will continue this approach, so that the existing competence of the devolved institutions will be preserved.

O ran cydsyniad y Cynulliad ar gyfer y cytundeb ymadael, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd ACau yn cael pleidlais ar y cytundeb. Byddai’r pleidlais yma’n un symbolaidd ac nid yn gyfreithiol rwymol. Fe wnaeth y Prif Weinidog sylwadau ar hyn i’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaethol ar 17 Medi, gan ddweud ei fod yn rhagweld pleidlais yn y Cynulliad ar y cytundeb ymadael, ond hefyd pleidlais ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol mewn perthynas â’r Bil. Fe wnaeth e gadarnhau hyn mewn llythyr (PDF, 269 KB) i’r Pwyllgor ar 15 Tachwedd:

Rwy'n disgwyl y bydd y Bil yn cwmpasu meysydd lle y mae cymhwysedd wedi ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru, ac o ganlyniad bydd angen cydsyniad deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol… Mae gennym fwriad pendant i gynnal pleidlais hefyd ar y cytundeb ehangach gyda 27 gwlad yr UE. R Rwy'n bwriadu i'r bleidlais hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gael ei chynnal cyn y bleidlais ‘ystyrlon’ yn Nhŷ'r Cyffredin.

O ran amserlen ar gyfer y pleidleisiau hyn, nid oedd y Prif Weinidog yn gallu rhoi manylion, gan ddweud bod ansicrwydd o hyd o ran pryd fydd y cytundeb ymadael yn cael ei gytuno.

A beth nesaf ar ôl y bleidlais?

Mae rhai Aelodau wedi nodi y bydd yr amserlen ar gyfer pasio’r Bil Cytundeb Ymadael yn dynn; rhaid pasio’r Bil cyn i’r DU adael yr UE ar 29 Mawrth 2019. Pan ddaeth Robin Walker, Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn yr Adran Brexit, i’r Pwyllgor Materion Allanol ar 11 Hydref, gofynnwyd iddo am gydsyniad y deddfwrfeydd datganoledig o ystyried yr amserlen dynn, a dywedodd:

We also recognise that there are areas of the withdrawal agreement Bill, particularly within the citizens' rights arrangement and the functioning of the implementation period, where it will intersect with devolved competence. And, therefore, in those areas, we recognise our responsibilities under the Sewel convention…and we will, therefore, want to work very closely with the devolved administrations and, indeed, legislatures, to reflect that.

Pan ofynnwyd iddo a fyddai Llywodraeth y DU yn gallu rhannu cymalau drafft gyda’r sefydliadau datganoledig i sicrhau bod digon o amser i graffu ar y ddeddfwriaeth, fe wnaeth Robin Walker gadarnhau y byddai hyn yn heriol:

That is something we absolutely have to consider, but, again, we do have this challenge, clearly, that the Bill itself, and the clauses of the Bill, will depend on the withdrawal agreement, and we then have a very short window between reaching that agreement and trying to bring, first of all, the meaningful vote and then the withdrawal agreement Bill to Parliament.

Os ydych chi am gael clywed y diweddaraf ynghylch beth y mae’r Cynulliad yn ei wneud o ran Brexit, gallwch ddilyn y dudalen newydd Brexit yng Nghymru.


Erthygl gan Peter Hill, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru