Plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal: Briff Ystadegol 2024

Cyhoeddwyd 14/03/2024   |   Amser darllen munud

Briff ystadegol newydd yw hwn ar blant sydd â phrofiad o fod mewn gofal yng Nghymru. Mae'n nodi rhai o nodweddion ‘plant sy'n derbyn gofal’, ffactorau o ran rhieni, gwariant gwasanaethau cymdeithasol a gwybodaeth am y gweithlu. Mae hefyd yn nodi canlyniadau i blant a phobl ifanc lle caiff y canlyniadau hynny eu mesur a'u cyhoeddi. Mae’r briff yn diweddaru ein cyhoeddiad blaenorol ac yn ychwanegu ato.

Mae’r Senedd wedi gwneud llawer o waith craffu ar bolisïau i gefnogi plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal, fel y nodir yn ein herthygl ym mis Gorffennaf 2023, Diwygio radical ar gyfer gwasanaethau i blant sydd â phrofiad o fod mewn gofal:  “Os nad nawr, pryd?”

Plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal: Briff Ystadegol 2024

Erthygl gan Helen Jones, Sian Thomas a Joe Wilkes- Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru