Yn ôl academyddion, mae’r pandemig wedi cael effaith anghymesur ar iechyd meddwl a lles emosiynol plant a phobl ifanc.
Roeddent yn rhoi tystiolaeth i Bwyllgor yn y Senedd a ganfu fod llawer o blant a phobl ifanc wedi profi straen, gorbryder ac unigrwydd.
Gallwch ddarllen mwy am y gwaith hwn yn ein herthygl flaenorol: 'Byw gyda COVID-19': ydyn ni wedi cyrraedd pen draw’r daith?
Mae data ar broblemau iechyd meddwl ymhlith plant a phobl ifanc yng Nghymru yn gyfyngedig. Mae ystadegau a nodir yn gyffredinol ar gyfer y DU yn cynnwys:
- amcangyfrif bob gan dri o blant a phobl ifanc ym mhob ystafell ddosbarth (neu un o bob wyth yn gyffredinol) gyflwr iechyd meddwl y gellir ei ddiagnosio; a
- bod hanner yr holl broblemau iechyd meddwl yn ymddangos erbyn 14 oed, gyda 75 y cant yn ymddangos erbyn 24 oed.
Mae’r ystadegau’n dangos cynnydd cyson yn nifer yr achosion o broblemau iechyd meddwl, hyd yn oed cyn y pandemig COVID-19. Pam, felly, y mae llywodraethau’r DU yn dal i fethu rhai plant, pobl ifanc a’u teuluoedd pan ddaw’n fater o salwch meddwl? Rhan o'r ateb yw ein bod ni fel cymdeithas yn parhau i ymateb i’r broblem yn bennaf yn hytrach na’i hatal.
Mae'r erthygl hon yn canolbwyntio ar atal ac yn edrych ar y canlynol:
- y dirwedd iechyd meddwl bresennol ar gyfer plant a phobl ifanc;
- a’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wrthdroi’r epidemig iechyd meddwl wrth inni adfer o’r pandemig.
Byddwn yn cyhoeddi erthygl arall a fydd yn edrych ar effaith y pandemig ar Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) arbenigol.
Mae gan Lywodraeth Cymru uchelgais clir i ganolbwyntio ar atal
Nid oes diffyg uchelgais ar ran Llywodraeth Cymru lle mae atal yn y cwestiwn.
Nid mater o ymwybyddiaeth iechyd meddwl ydyw – mae ein hymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl yn bendant yn fwy nag yr oedd ddegawd yn ôl. Mae hyn yn ddiau yn bwysig, ond mae atal yn ymwneud â helpu plant a phobl ifanc i ymdopi â’r llon a’r lleddf mewn bywyd. Mae'n fater o feithrin gwytnwch, hunan-barch a llesiant yn gynnar.
Rydym yn dechrau gweld y newid diwylliannol hwnnw, yn enwedig drwy ddull ysgol gyfan Llywodraeth Cymru. Mae’n canolbwyntio ar roi i blant a phobl ifanc y sgiliau iddynt ofalu am eu hiechyd meddwl eu hunain ac mae’n helpu i ddysgu iddynt feithrin eu gwytnwch emosiynol.
Mae hefyd yn helpu athrawon i gynorthwyo’n well plant a phobl ifanc sy'n profi gorbryder, hunan-barch isel a phroblemau iechyd meddwl lefel isel eraill.
Mae’r Cwricwlwm newydd i Gymru, y bydd angen i ysgolion cynradd ei weithredu o fis Medi 2022, yn cynnwys iechyd a llesiant fel un o’r meysydd dysgu allweddol. Mae llesiant hefyd wedi cael ei blethu trwy feysydd eraill y cwricwlwm.
Cyflwynodd Llywodraeth Cymru ganllawiau statudol newydd yn 2021 sy’n ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol ymgorffori dull ysgol gyfan tuag at iechyd meddwl a lles emosiynol yn eu harferion bob dydd. Gall ysgolion a cholegau benderfynu ar y cymorth iechyd meddwl y maent am ei ariannu a’i ddarparu eu hunain.
Mae enghreifftiau yn cynnwys gwasanaethau cwnsela mewn ysgolion, hyfforddiant athrawon, cynorthwywyr cymorth llythrennedd emosiynol (ELSA), a rhaglenni ymyrraeth.
Mae tua £320 miliwn bellach yn cael ei fuddsoddi mewn gwasanaethau iechyd meddwl bob blwyddyn, yn fwy nag unrhyw wasanaeth arall yn GIG Cymru.
Er gwaethaf yr uchelgeisiau cyllid a pholisi hyn, mae beirniadaeth hirsefydlog o Lywodraeth Cymru am ei hanallu i roi’r camau hyn ar waith. Ar adegau, mae Llywodraeth Cymru wedi’i chael yn anodd gweithredu rhai o’r blaenoriaethau yn ei strategaeth 10 mlynedd ’Law yn Llaw at Iechyd Meddwl - Cynllun Cyflawni‘.
Mewn dull ysgol gyfan, mae llesiant ac iechyd meddwl yn fater i bawb
Mae'r dull ysgol gyfan wedi cael ei hyrwyddo am nifer o flynyddoedd. Cyhoeddodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Bumed Senedd ei adroddiad dylanwadol Cadernid Meddwl yn 2018 - a'i adroddiad dilynol Cadernid Meddwl: Ddwy flynedd yn ddiweddarach.
Mae’r ddau adroddiad yn pwysleisio pwysigrwydd atal ar gyfer materion iechyd meddwl ymhlith plant a phobl ifanc.
Mae system sefydledig ar waith ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â phroblemau iechyd meddwl y gellir eu diagnosio (h.y. lle mae’r ysgol neu’r meddyg teulu yn gallu eu hatgyfeirio nhw at CAMHS), ond tynnodd yr adroddiad cyntaf sylw at y ffaith nad oes ond ychydig iawn o gymorth ar gael ar gyfer problemau lefel isel a phroblemau cynnar.
Gofynnodd y Pwyllgor pam y mae’n rhaid i blant a phobl ifanc fynd mor sâl fel bod angen arbenigwr arnynt cyn i gymorth gael ei ddarparu.
Mae'r Rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc wedi bod yn gyfrifol am ysgogi newid
Yn 2015, sefydlodd Llywodraeth Cymru Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc (T4CYP), rhaglen amlasiantaeth a gynlluniwyd i wella gwasanaethau iechyd meddwl i blant. Cafodd y rhaglen ei hymestyn tan fis Mawrth 2022 gyda thair blaenoriaeth y Rhaglen:
- cymorth cynnar a chefnogaeth uwch - Fframwaith NYTH NEST;
- gweithio gyda Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol; a
- gwasanaethau niwroddatblygiadol.
Daeth y rhaglen i ben ar 31 Mawrth 2022, ond mae gwaith gwaddol yn parhau tan fis Medi.
Trosglwyddo i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol – sicrhau na chollir momentwm
Ym mis Chwefror 2022, cyhoeddodd y Comisiynydd Plant 'Gwneud Cymru’n Genedl Dim Drws Anghywir – i ba raddau rydyn ni’n llwyddo?' Galwodd y Comisiynydd am i bobl ifanc gael y cymorth sydd ei angen arnynt lle bynnag y maent yn gofyn amdano – fel nad ydynt yn clywed eu bod wedi curo ar y 'drws anghywir'.
Mae fframwaith NYTH/NEST yn cynnwys Dim Drws Anghywir fel un o'i egwyddorion allweddol.
Mae adroddiad y Comisiynydd yn dweud bod gan bob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol gynllun ar gyfer darpariaeth plant, a bod y Byrddau wedi dechrau gwneud newidiadau tuag at ddull Dim Drws Anghywir. Ond mae hefyd yn dweud: “Mae plant a phobl ifanc yn dal i glywed, bob dydd yng Nghymru, eu bod wedi dod i’r drws anghywir wrth iddyn nhw estyn allan am gymorth gyda’u hanghenion iechyd meddwl, emosiynol neu ymddygiadol”.
Un maes sy’n peri pryder penodol yw amseroedd aros am asesiad ar gyfer cyflwr niwroddatblygiadol (ar gyfer plant yr amheuir bod ganddynt awtistiaeth, ADHD a chyflyrau tebyg eraill).
Mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd wrthi’n cynnal ymchwiliad i anghydraddoldebau iechyd meddwl. Mae niwroamrywiaeth yn un o'r meysydd ffocws allweddol.
Mae amgylchiadau megis tlodi parhaus yn ffactorau risg a all arwain at blant yn datblygu problemau iechyd meddwl difrifol
Mae ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd yn ein hatgoffa o bwysigrwydd dull teulu cyfan/system gyfan ar gyfer mynd i’r afael â’r epidemig ynghylch iechyd meddwl plant a phobl ifanc, gan gynnwys rôl cymdeithas a chymunedau. Mae’r gwahanol resymau dros iechyd meddwl gwael mewn plant a phobl ifanc yn gymhleth.
Mewn astudiaeth a gyhoeddwyd yn y British Journal of Psychiatry, dywedir bod un o bob tri chyflwr iechyd meddwl ymhlith oedolion yn ymwneud yn uniongyrchol â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Canfu ymchwil fod 47 o bob 100 o oedolion yng Nghymru wedi dioddef o leiaf un profiad niweidiol yn ystod eu plentyndod a bod 14 wedi dioddef pedwar neu fwy.
At hynny, edrychir ar effaith tlodi ar iechyd meddwl yn ein herthygl ymchwil, Tlodi ac iechyd meddwl: maen nhw'n cydblethu. Amcangyfrifir bod tua 30 y cant o blant Cymru yn byw mewn tlodi cymharol.
Ym mis Mawrth, yn ei thystiolaeth i'r Pwyllgor Iechyd ar anghydraddoldebau iechyd meddwl, dywedodd Sally Holland, y Comisiynydd Plant bryd hynny, nad yw pob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol eto mewn sefyllfa i ddarparu’n hyderus yr ymyriadau sydd eu hangen ar blant a phobl ifanc i feithrin gwytnwch, hunan-barch a llesiant.
Mae hyn yn mynd â ni yn ôl at y bwlch gweithredu a’r broblem ganfyddedig sydd gan Lywodraeth Cymru o ran sicrhau y gall gyflawni ei huchelgeisiau. Yn amlwg, mae materion systemig eraill yn llesteirio cynnydd.
Erthygl gan Sarah Hatherley, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru