Mae petruster brechu yn fater cymhleth ac nid yw mor syml â dewis yr unigolyn. Ond beth yw petruster brechu, faint o broblem yw hyn yng Nghymru, a beth y gellir ei wneud i'w ddatrys?
Mae'r erthygl wadd hon gan Dr Simon Williams a Dr Kimberly Dienes o Brifysgol Abertawe yn trafod y materion hyn fel rhan o'n rhaglen cyfnewid gwybodaeth. Barn yr awduron a geir yma, nid barn Senedd Ymchwil na’r Senedd.
Faint o bobl sydd wedi cael brechlyn?
Ar 30 Mehefin 2021 roedd dros 70 y cant o boblogaeth Cymru wedi cael dos cyntaf o frechlyn, ac roedd dros 53 y cant o'r boblogaeth wedi cael yr ail ddos. Yn ôl y diweddariad o’i strategaeth frechu, o fis Mehefin, nod Llywodraeth Cymru oedd cynnig dos cyntaf i bob oedolyn erbyn diwedd mis Gorffennaf. Fe gyrhaeddodd y nod hwn chwe wythnos yn gynnar.
Nod Llywodraeth Cymru oedd i 75 y cant o bob grŵp blaenoriaethyn fod wedi cael dos cyntaf erbyn diwedd mis Gorffennaf. Un o bryderon Llywodraeth Cymru oedd y byddai nifer y bobl sy’n cael brechlyn yn is ymhlith y “boblogaeth iau ac iachach a fydd yn debygol o deimlo eu bod yn wynebu llai o berygl ac a allai hefyd fod yn fwy petrusgar”.
Mae data diweddar yn awgrymu bod brechiad cyntaf wedi cael ei gynnig i 71.6 y cant o bobl 18-29 oed erbyn 30 Mehefin - cyfran is na’r grwpiau oedran hŷn. Ond mae’n bosibl y bydd hyn yn cynyddu cyn diwedd mis Gorffennaf.
Canran y bobl sydd wedi cael dos cyntaf o frechlyn, fesul grŵp blaenoriaeth
Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru
Yn ogystal, rydym yn parhau i weld anghydraddoldebau sylweddol yn y cyfraddau brechu yn ôl ethnigrwydd a chefndir economaidd-gymdeithasol. Ym mhob grŵp oedran, lle mae cael brechlyn yn y cwestiwn, mae niferoedd y bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn is na niferoedd y bobl ag ethnigrwydd gwyn.
Pobl sy’n cael un dos o frechlyn COVID-19 yn ôl oedran a grŵp ethnig
Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru
Beth yw petruster brechu?
Mae petruster brechu yn fater amlochrog ac nid yw mor syml â dewis yr unigolyn. Yn hytrach, fel yr awgryma Matrics Penderfynyddion Petruster Brechu Sefydliad Iechyd y Byd, mae’n gydberthynas gymhleth o ddylanwadau hanesyddol, diwylliannol, cymdeithasol ac unigol ynghylch brechu yn gyffredinol, yn ogystal â dylanwadau yn ymwneud â brechlynnau penodol.
Yn ail, yn groes i’r ffordd mae’r cyfryngau weithiau’n cyfleu petruster brechu, nid yw’r un peth â daliadau gwrth-frechu. Mae'r mudiad gwrth-frechu, fel y mae'r enw'n awgrymu, yn tueddu i fod yn gryf yn erbyn brechu. Ond yn aml, cyn cael brechlyn, mae gan y rhai sy’n betrus yn ei gylch bryderon neu gwestiynau dilys am ddiogelwch ac effeithiolrwydd y brechlyn, ac a yw'n cael ei ddefnyddio er eu lles.
Rydym yn tueddu i ffafrio'r term 'oedi cyn brechu‘, am ei fod yn cyfleu’n gywirach y ffaith bod llawer o’r bobl sydd heb dderbyn eu gwahoddiad eto efallai’n gohirio eu penderfyniad nes eu bod yn teimlo bod y cwestiynau neu’r pryderon hyn wedi cael eu hateb.
Pam mae rhai pobl yn fwy petrusgar?
Rydym yn ymdrin ag agweddau'r cyhoedd at frechlynnau COVID-19 yn ein hymchwil Prifysgol Abertawe (a drafodir yn fanylach yn ein hadroddiad llawn), gan gynnwys rhai o'r prif resymau dros oedi cyn brechu.
Mae sgil-effeithiau posibl yn destun pryder mawr sy'n cyfrannu at oedi cyn brechu, sef rhywbeth a amlygir gan y cysylltiad rhwng brechlyn Rhydychen-AstraZeneca a cheuladau gwaed. Roedd llawer o'r rhai a ddywedodd eu bod am oedi cyn cael brechlyn yn cydnabod bod y risg o ddioddef sgil-effeithiau o'r fath yn hynod o isel, ond i rai pobl, roedd yn ddigon i blannu hedyn o amheuaeth, neu i godi awydd i aros am frechlyn gwahanol
Ffactor o bwys o ran oedi cyn brechu yw’r diffyg ymddiriedaeth yn yr awdurdodau sy’n gyfrifol am ddatblygu a chyflwyno’r brechlynnau, gan gynnwys y llywodraeth. Mae hyder yn y modd y mae'r pandemig yn cael ei drin yng Nghymru yn gymharol uchel, ond mae llawer o bobl yn anfodlon yn gyffredinol ynghylch dewisiadau polisi'r DU. Mae hefyd ymwybyddiaeth bod cyfradd farwolaethau’r DU ymhlith y gwaethaf ar gyfer gwledydd incwm uchel. Yng nghymunedau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, mae diffyg ymddiriedaeth mewn awdurdodau gwleidyddol a gwyddonol yn gallu bod yn arbennig o ddwys, ac mae hynny’n rhywbeth y gellir ei gysylltu yn rhannol â hiliaeth systemig, yn ôl adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r diffyg ymddiriedaeth mewn llywodraethau wedi bod yn fodd i ddamcaniaethau cynllwyn a chamwybodaeth luosogi a lledaenu, sydd yn ei dro’n porthi petruster brechu ac oedi cyn brechu ymhellach. Mae ymchwil yn awgrymu y gallai damcaniaethau cynllwyn ddenu rhai pobl, gan gynnwys pobl o rai grwpiau ethnig neu gymunedau difreintiedig yn economaidd, pan fo’r bobl hynny yn teimlo eu bod ar yr ymylon cymdeithas, efallai oherwydd eu bod wedi wynebu triniaeth anghyfartal yn hanesyddol. Mae damcaniaethau cynllwyn yn aml yn cael eu hybu gan grwpiau sydd yn erbyn y llywodraeth a gallent felly fod yn ddeniadol i bobl sydd wedi colli ffydd yn y system wleidyddol.
Beth y gellir ei wneud i fynd heibio i betruster brechu?
Mae'n bwysig cydnabod y pryderon gwirioneddol sy’n cael eu codi ac, ar yr un pryd, ddarparu gwybodaeth gywir am y risgiau a’r buddion. Yn ogystal â gweithio i ddod dros y rhwystrau y cyfeirir atynt uchod, mae'n bwysig harneisio’r ffyrdd o hwyluso cael brechiad, yn enwedig ar gyfer y grwpiau hynny sydd fwyaf cyndyn.
Er enghraifft, erbyn hyn, ar y cyfan, mae cael brechiad wedi dod yn norm sefydlog yn y gymdeithas. Gall pethau syml bob dydd helpu i ledaenu a chadarnhau'r norm hwn, pethau megis darllen yn y newyddion am gynnydd yn y cyfraddau brechu neu weld pobl â’u sticeri brechiad COVID-19 ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae profiadau anuniongyrchol o gael brechiad hefyd yn bwysig, er enghraifft drwy rannu o brofiadau cadarnhaol ffrindiau neu berthnasau. Dyma pam mae'n hanfodol cynnwys aelodau dylanwadol o'r cymunedau lle mae nifer yn bobl sy'n dewis cael eu brechu yn is.
Yn olaf, mae llawer o bobl yn gynyddol o’r farn mai brechu yw’r unig ffordd o fynd yn ôl i ‘normal’, ac felly, iddyn nhw, mae'r buddion yn drech nag unrhyw risgiau canfyddedig.
Mae cyfraddau brechu yn uchel yn gyffredinol, ond mae'n hanfodol ymgysylltu â chymunedau sydd â’r cyfraddau brechu isaf a’r cyfraddau petruster (neu oedi) uchaf os ydym am gyrraedd targed Llywodraeth Cymru o frechu 75 y cant ym mhob grŵp oedran, a rhagori arno yn ddelfrydol.
Os nad eir i’r afael â’r cyfraddau brechu is ymysg rhai grwpiau ethnig a chymunedau mwy difreintiedig, y tebygrwydd yw y bydd y cymunedau hyn yn wynebu dirywiad yn yr anghydraddoldebau iechyd sylweddol maen nhw eisoes yn eu hwynebu yn sgil COVID-19.
Mae pob brechiad yn cyfrif.
Erthygl gan Dr Simon Williams a Dr Kimberly Dienes o Brifysgol Abertawe.
Mae Dr Simon Williams yn Uwch-ddarlithydd ym maes Pobl a Threfniadaeth ym Mhrifysgol Abertawe, Cymru ac yn Ddirprwy Athro Cynorthwyol yn Ysgol Feddygaeth Feinberg, Prifysgol Northwestern, Chicago.
Mae Dr Kimberly Dienes yn Ddarlithydd ym maes Seicoleg Glinigol ac Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe, Cymru ac yn Ddarlithydd Anrhydeddus yng Nghanolfan Seicoleg Iechyd Prifysgol Manceinion.