Menyw yn cynhesu ei dwylo wrth y rheiddiadur

Menyw yn cynhesu ei dwylo wrth y rheiddiadur

Peryglus: pan fo cartrefi'n peryglu iechyd

Cyhoeddwyd 19/02/2026

Ledled Cymru, mae miloedd o bobl yn byw mewn cartrefi sy'n llaith, sy’n llwydni i gyd, sy’n oer neu sydd wedi'u hawyru'n wael – amodau y cydnabyddir eu bod yn gwneud pobl yn sâl. Mae gwasanaethau iechyd yn parhau i drin y symptomau, ond mae’r amodau tai sy'n sbarduno'r symptomau hynny yn aml yn parhau. Mae’r erthygl hon yn nodi'r hyn a wyddom am y ffordd y mae tai yn niweidio iechyd, y rheswm pam mae hyn yn fethiant polisi systemig, a'r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud hyd yma i ymdrin â’r mater.

Cartrefi sy'n gwaethygu iechyd yn weithredol

Mae tai o ansawdd gwael yn un o achosion uniongyrchol afiechyd, ac yn un sy’n bosibl ei atal. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn nodi sawl ffordd y gall cartrefi o ansawdd gwael niweidio llesiant corfforol a llesiant meddyliol. Mae'r rhain yn cynnwys gorlenwi, sy'n gysylltiedig ag ystod o gyflyrau iechyd mewn plant ac oedolion; dod i gysylltiad â llygryddion fel radon neu fwg tybaco; a risgiau sy'n gysylltiedig â dyluniad adeiladau gwael, sŵn gormodol neu ddamweiniau yn y cartref. Mae'r ffactorau hyn yn gysylltiedig â symptomau a heintiau anadlol, yn ogystal â chanser yr ysgyfaint, clefyd coronaidd y galon, straen ac effeithiau ehangach ar iechyd meddwl.

Mae maint y broblem yn sylweddol. Yn 2017-18, amcangyfrifwyd bod 238,000 o anheddau yng Nghymru yn cynnwys o leiaf un perygl Categori 1 — tua 18% o'r holl gartrefi. Peryglon Categori 1 yw'r risgiau mwyaf difrifol i iechyd a diogelwch, gan gynnwys oerfel gormodol, lleithder a llwydni, yn ogystal â’r risg o syrthio. Mae hyn yn golygu bod cannoedd o filoedd o aelwydydd yn byw mewn amodau a aseswyd yn swyddogol fel rhai sy’n beryglus i iechyd a llesiant.

Mae gan y peryglon hyn ganlyniadau rhagweladwy. Mae salwch anadlol, poen cronig, gorbryder, iselder a blinder parhaus oll yn cael eu gwaethygu - ac mewn llawer o achosion yn cael eu hachosi'n uniongyrchol - gan gartrefi oer, llaith neu anniogel. Mae clinigwyr yn gweld effeithiau hyn yn eu gwaith bob dydd. Mae Coleg Brenhinol y Meddygon yn adrodd bod mwy na 70% o feddygon yn trin niferoedd cynyddol o gleifion y mae eu cyflyrau'n gwaethygu oherwydd ffactorau cymdeithasol fel tai o ansawdd gwael. Mae hyn yn tynnu sylw at bwysigrwydd ymdrin ag achosion afiechyd, nid dim ond trin y symptomau clinigol.

Er gwaethaf hyn, mae gwasanaethau iechyd yn aml yn ymateb i'r symptomau yn unig, yn hytrach nag ymdrin â'r amodau tai sy'n eu hachosi. Mae Cynghrair Iechyd a Llesiant Cydffederasiwn GIG Cymru (clymblaid o 50 o sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol) wedi rhybuddio bod cartrefi oer, llawn llwydni yn achosi problemau anadlol a bod llawer o’r ffactorau sy’n achosi afiechyd y tu hwnt i gwmpawd y GIG. Maent yn dadlau bod ymdrechion i wella iechyd yng Nghymru yn galw am gamau cydgysylltiedig ar draws systemau tai, iechyd a gofal cymdeithasol.

Yr effaith ddynol: plant a grwpiau sy’n agored i niwed

Mae plant ymhlith yr unigolion yr effeithir arnynt fwyaf. Mae Comisiynydd Plant Cymru yn nodi tystiolaeth helaeth bod pobl ifanc yn byw mewn cartrefi llawn llwydni a lleithder, yn ogystal â chartrefi sydd wedi gorlenwi, cartrefi oer, cartrefi mewn lleoliadau anniogel a llety dros dro cyfyng. Mae'r amodau hyn yn effeithio'n negyddol ar iechyd corfforol, llesiant meddyliol ac addysg plant, yn ogystal â’u hymdeimlad o ddiogelwch.

Mae teuluoedd hefyd yn adrodd eu bod yn cael trafferth cael mynediad at dai wedi'u haddasu ar gyfer plant anabl, tra bod plant niwrowahanol — a allai fod â sensitifrwydd synhwyraidd uchel — yn wynebu amgylcheddau sy'n swnllyd, yn anrhagweladwy neu'n or-ysgogol, ond sy'n dal i gael eu barnu'n addas o dan y meini prawf presennol.

Mae'r data diweddaraf yn dangos bod tua 2,400 o blant yn byw mewn llety dros dro. Mae gwaith ymchwil a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Bevan wedi tynnu sylw at yr effaith y gall hyn ei chael ar iechyd corfforol plentyn, yn ogystal â’i lesiant a'i allu i ddatblygu a dysgu.

System heb berchennog clir

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, un o'r prif broblemau strwythurol yw natur ddarniog y system. Mae niwed i iechyd sy'n gysylltiedig â thai yn gysylltiedig â sawl system:

  • gall byrddau iechyd wneud diagnosis o salwch sy'n gysylltiedig â thai;
  • gall awdurdodau tai lleol nodi peryglon mewn tai a gorfodi gwelliannau; a
  • gall gofal cymdeithasol nodi unigolion bregus.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn pwysleisio'r angen am ddulliau integredig, gan nodi bod tai o ansawdd gwael yn arwain at gostau sylweddol i’r GIG ac i gymdeithas — amcangyfrifir mai cyfanswm y gost yw £1 biliwn y flwyddyn. Maent yn galw ar sefydliadau i rannu gwybodaeth, cronni adnoddau a chymryd camau ar y cyd i ymdrin â thai fel ffactor sy'n dylanwadu ar ganlyniadau iechyd, yn hytrach nag ymdrin â’r mater ar wahân i strategaeth iechyd y cyhoedd.

Ar yr un pryd, mae heriau strwythurol ehangach – gan gynnwys cynnydd mewn costau tai a diffyg cartrefi cymdeithasol – hefyd yn cyflwyno heriau sylweddol i lunwyr polisi sy'n ceisio ymdrin â'r mater hwn.

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud?

Mae gan Lywodraeth Cymru sawl fframwaith polisi sydd â'r nod o wella ansawdd tai, er bod eu cwmpas a'u heffaith yn amrywio.

Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC)

Mae Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) yn pennu meincnod ar gyfer ansawdd tai cymdeithasol yng Nghymru, gan ei gwneud yn ofynnol i gartrefi fod:

  • mewn cyflwr da;
  • yn ddiogel:
  • wedi'u gwresogi, eu hinswleiddio a'u hawyru'n ddigonol;
  • wedi'u gosod â cheginau ac ystafelloedd ymolchi modern; ac
  • yn addas ar gyfer anghenion yr aelwyd, gan gynnwys preswylwyr anabl.

Mae'n ofynnol i landlordiaid cymdeithasol gyrraedd a chynnal y safon hon, ac mae Llywodraeth Cymru yn monitro cydymffurfiaeth yn flynyddol. Fodd bynnag, dim ond i dai cymdeithasol y mae SATC yn berthnasol, nid i dai sy'n cael eu rhentu'n breifat na thai sy'n eiddo i berchen-feddianwyr — lle mae llawer o'r amodau gwaethaf i’w gweld.

Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru)

Gwnaeth Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 gyflwyno dyletswydd gyfreithiol ar landlordiaid i sicrhau bod y cartrefi y maent yn eu gosod yn addas i bobl fyw ynddynt ac wedi'u cadw mewn cyflwr da. Mae hyn yn rhoi cyfrifoldeb ar landlordiaid i gynnal eiddo fel lleoedd diogel ac iach i fyw, gan ystyried y 29 o faterion ac amgylchiadau a nodir yn y rheoliadau cysylltiedig.

Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am orfodi'r safonau iechyd a diogelwch hyn. Fodd bynnag, mae timau iechyd yr amgylchedd yn aml yn dygymod â diffyg capasiti i gynnal archwiliadau neu gymryd camau gorfodi. Mae’n bosibl bod tenantiaid hefyd yn oedi cyn rhoi gwybod am broblemau oherwydd pryderon ynghylch cael eu troi allan, cynnydd mewn rhent neu'r effaith bosibl ar eu perthynas â'u landlord. At ei gilydd, mae'r ffactorau hyn yn cyfyngu ar allu'r system i nodi peryglon mewn cartrefi rhent ac ymdrin â’r peryglon hyn.

Arolwg Cyflwr Tai Cymru

Mae Arolwg Cyflwr Tai Cymru yn darparu data ar gyflwr tai a pheryglon ar draws pob deiliadaeth yng Nghymru. Mae'n nodi graddfa peryglon Categori 1, aneffeithlonrwydd ynni ac adfeiliad.

Er bod hon yn set ddata genedlaethol gref, nid yw'r arolwg yn cael ei gynnal yn rheolaidd ac mae'r canlyniadau llawn diweddaraf yn dyddio o 2017–18. Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gomisiynu Arolwg Tai Cymru newydd a fydd yn casglu gwybodaeth am adeiledd a chyflwr cartrefi. Disgwylir i’r set gyntaf o ganlyniadau gael ei chyhoeddi yn 2028-29.

Mae diffyg arolygon mwy cyfredol yn cyfyngu ar allu Llywodraeth Cymru i olrhain problemau sy'n dod i'r amlwg fel llwydni sy'n gysylltiedig â thlodi tanwydd cynyddol.

Lle mae camau gweithredu wedi methu â chyrraedd y nod

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod yn eiriolwr cryf dros integreiddio polisi tai ac iechyd, gan ddadlau o blaid buddsoddi mewn cartrefi diogel a chynnes fel ymyrraeth iechyd cyhoeddus. Maent wedi awgrymu y gallai’r Strategaeth Tai ac Adfywio arfaethedig gan Lywodraeth Cymru fod yn gyfle i ymdrin â'r heriau tai systemig sy'n effeithio ar iechyd pobl.

Mae Tai Cymunedol Cymru, y corff sy’n cynrycholi cymdeithasau tai yng Nghymru, wedi galw hefyd am “ddull llywodraeth gyfan” sy'n canolbwyntio ar fesurau ataliol ac ymyrraeth gynnar i gadw pobl yn iach gartref.

Tra bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod tai fel ffactor sy'n dylawnadu ar ganlyniadau iechyd yn ei strategaethau ehanghach ynghylch iechyd cyhoeddus a gofal cymdeithasol, nid oes llwybr wedi'i ariannu'n benodol ar gyfer ailgartrefu'n gynnar sy'n gysylltiedig ag iechyd na chamau ataliol sy'n gysylltiedig â thai. Mae'r bwlch hwn yn golygu bod pobl yn aml yn gorfod cyrraedd pwynt argyfwng — fel cael eu derbyn i'r ysbyty neu amodau tai anniogel — cyn iddynt fod yn gymwys i gael cymorth.

Nid yw tai o ansawdd gwael yng Nghymru yn fater ymylol — mae'n effeithio ar bron i un o bob pump o gartrefi ac yn costio dros biliwn o bunnoedd y flwyddyn i'r genedl. Mae'r effeithiau ar iechyd yn ddwys ac yn rhagweladwy, ac mae modd eu hatal. Mae Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cymryd camau ystyrlon, yn enwedig drwy SATC, ond gellir dadlau bod y system yn parhau i fod yn rhy ddarniog a bod dim digon o adnoddau wedi’u dyrannu i ymdrin â’r broblem yn ei chyfanrwydd. Nes bod hyn yn newid, bydd pobl yn parhau i fynd yn sâl mewn cartrefi a ddylai eu cadw'n iach. 

Bydd ymdrin â thai fel blaenoriaeth iechyd cyhoeddus yn galw am fuddsoddiad cynaliadwy, atebolrwydd ar draws y system a strategaeth genedlaethol glir sy'n trin tai diogel fel ffactor sy’n hanfodol i lesiant.

Erthygl gan Sarah Hatherley a Gwennan Hardy, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru