Parodrwydd ar gyfer Covid yng Nghymru

Cyhoeddwyd 16/07/2025

Bydd y Senedd yn trafod adroddiad y prynhawn yma ar barodrwydd Cymru ar gyfer pandemig Covid-19 a pha fylchau sy'n parhau o ran deall y penderfyniadau a'r systemau a luniodd ymateb y wlad.

Mae’r adroddiad, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2025 gan Bwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru y Senedd, yn canolbwyntio ar Fodiwl 1 – gwydnwch a pharatoadau.

Sefydlwyd y Pwyllgor Diben Arbennig i sicrhau bod profiadau a safbwyntiau pobl Cymru yn cael eu hadlewyrchu'n ddigonol yn Ymchwiliad Covid y DU

Asesodd yr adroddiad ganfyddiadau Modiwl 1 o Ymchwiliad Covid y DU ynghylch paratoadau ledled y DU ar gyfer pandemig a nododd naw “bwlch” penodol yn y craffu sydd, yn ôl yr adroddiad, yn hanfodol ar gyfer deall ymateb Cymru a lle mae angen gwaith ymchwilio pellach.

Er i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ymateb ysgrifenedig a diweddariad chwe mis yn gynharach yr wythnos hon, nid aeth i'r afael yn llawn â'r pryderon a godwyd gan y Pwyllgor Diben Arbennig.

Canfyddiadau allweddol

Roedd canfyddiadau'r Pwyllgor yn seiliedig ar ystod o dystiolaeth, a ddefnyddiwyd i asesu pa mor dda yr oedd Cymru wedi cael ei chynrychioli yn y Modiwl hwnnw. Tynnodd ar ddadansoddiad bylchau gan arbenigwyr ym maes argyfyngau sifil ym Mhrifysgol Nottingham Trent, adborth gan randdeiliaid, ac ymateb manwl gan Lywodraeth Cymru.

Daeth yr adroddiad i’r casgliad bod naw maes lle mae angen craffu pellach yng nghyd-destun Cymru:

  • Modelau gwydnwch: Adolygiad o a oes gan Gymru'r strwythurau cywir ar waith o ran parodrwydd ar gyfer argyfyngau.
  • Fforymau Gwydnwch Lleol: Golwg agosach ar sut yr oedd y pedwar Fforwm Gwydnwch Lleol wedi gweithio yn ystod y pandemig, ac a oedd y cydlynu'n effeithiol.
  • Gwybodaeth leol: Defnydd gwell o gyd-destun ac arbenigedd lleol mewn cynllunio cenedlaethol.
  • Rhannu data: Sut y cafodd data eu rhannu o fewn sefydliadau a rhyngddynt, a rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
  • Atebolrwydd: Golwg gliriach ar strwythurau gwneud penderfyniadau Llywodraeth Cymru a pha mor dryloyw oeddent.
  • Anghydraddoldebau: Sut yr oedd materion anghydraddoldeb wedi cael eu cynnwys mewn cynllunio parodrwydd a gwydnwch.
  • Cyfathrebu: A oedd negeseuon iechyd cyhoeddus yn glir, wedi'u cydlynu, ac wedi'u hintegreiddio'n dda ar draws lefelau llywodraeth.
  • Materion trawsffiniol: Sut cafodd cyfrifoldebau rhwng awdurdodau Cymru a'r DU eu diffinio a’u cyfleu.
  • Gweithredu argymhellion Ymchwiliad y DU: Sicrhau y gall Cymru weithredu'n effeithiol ar ganfyddiadau Ymchwiliad y DU.

Beth sydd wedi digwydd ers hynny?

Yn ei diweddariad ar gyfer Gorffennaf 2025, cydnabu Llywodraeth Cymru adroddiad y Pwyllgor ac ailbwysleisiodd ei barn mai Ymchwiliad y DU yw'r cyfrwng gorau o hyd ar gyfer craffu ar ymateb Cymru i'r pandemig. Tynnodd sylw at rai adolygiadau a gwelliannau mewnol sydd eisoes ar y gweill.

Fodd bynnag, ni wnaeth ymrwymo i unrhyw fecanweithiau newydd ar gyfer mynd i'r afael â'r bylchau a nodwyd nac ar gyfer symud gwaith y Pwyllgor Diben Arbennig ymlaen mewn ffordd strwythuredig.

Ar yr un pryd, mae cefnogaeth wleidyddol i'r Pwyllgor Diben Arbennig — yn enwedig ymhlith Aelodau Ceidwadol o’r Senedd — wedi cwympo. Er bod y Senedd wedi mynegi ymrwymiad cyffredinol i barhau i graffu, mae’r Pwyllgor Diben Arbennig i bob pwrpas wedi dod i ben.

Ymgyrchwyr yn dal i alw am ymchwiliad llawn i Gymru

Mae grŵp ymgyrchu Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru, sy'n cynrychioli'r rhai a gollodd anwyliaid yn ystod y pandemig, yn parhau i bwyso am ymchwiliad cyhoeddus statudol penodol i Gymru – sef rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wrthsefyll.

Ym mis Hydref, amlinellodd y grŵp amrywiol bryderon, gan gynnwys a allai Pwyllgor yn y Senedd graffu i’r dyfnder sydd, yn eu barn nhw, yn ofynnol.

Mae pwyllgorau’r Senedd yn callu cynnal ymchwiliadau a holi tystion, ond nid oes ganddynt yr un awdurdod cyfreithiol, yr un annibyniaeth na’r un cwmpas ag ymchwiliad cyhoeddus.

Mae Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru yn dadlau bod diffyg ymchwiliad dan arweiniad Cymru yn amddifadu teuluoedd profedigaethus o ymchwiliad llawn.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Mae hynny'n parhau i fod yn aneglur. Gallai dadl y prynhawn yma yn y Senedd fod yn hanfodol o ran penderfynu a fydd yr adroddiad yn sail i waith craffu pellach.

Fel arall, mae risg y bydd cwestiynau a godwyd gan y Pwyllgor Diben Arbennig – yn enwedig ynghylch prosesau gwneud penderfyniadau, tryloywder, anghydraddoldebau, a pharatoadau lleol – yn aros heb ateb.

Erthygl gan Sarah Hatherley, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru.