Paratoi ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb: y sefyllfa ddiweddaraf

Cyhoeddwyd 08/01/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munud

Wrth i Lywodraeth y DU a'r UE ddwysáu eu paratoadau cyn y Nadolig ar gyfer y posibilrwydd y bydd y DU yn gadael yr UE heb gytundeb, mae'n briodol ystyried sut y mae Llywodraeth Cymru a sector cyhoeddus datganoledig Cymru yn paratoi ar gyfer sefyllfa o’r fath.  Mae'r erthygl hon yn cynnwys y cyhoeddiadau diweddaraf gan Lywodraeth y DU a'r Comisiwn Ewropeaidd, ac mae hefyd yn manylu ar y gwaith sy'n mynd rhagddo yng Nghymru a’r gwaith y mae'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol wedi argymell yn ddiweddar y dylid ymgymryd ag ef.

Beth oedd yn natganiad Llywodraeth y DU yn ddiweddar ynghylch paratoi ar gyfer gadael yr UE heb gytundeb?

Ar 18 Rhagfyr 2018, cyhoeddodd Trysorlys y DU ei fod yn parhau i ddwysáu ei gynlluniau i baratoi ar gyfer gadael yr UE heb gytundeb. Mae wedi dyrannu dros £2 biliwn o gyllid ychwanegol i 25 o adrannau'r llywodraeth ar gyfer 2019-20.

Mae'r dyraniadau mwyaf arwyddocaol yn cynnwys £480 miliwn i'r Swyddfa Gartref, £410 miliwn i Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) a £375 miliwn i CThEM. Yn ôl y cyhoeddiad:

  • Bydd y Swyddfa Gartref yn defnyddio ei chyllid i gynyddu gallu Llu Ffiniau’r DU drwy gyflogi cannoedd o swyddogion newydd.
  • Bydd Cyllid a Thollau EM yn cyflogi dros 3,000 ychwanegol i weithio yn ei wasanaethau cwsmeriaid a’i wasanaethau cydymffurfio i ymdrin â’r cynnydd yn ei waith ym maes tollau, er mwyn sicrhau bod masnach yn parhau ‘mor ddirwystr â phosibl'.
  • Bydd DEFRA yn defnyddio ei chyllid i roi trefniadau ar waith ar y ffin ac mewn mannau eraill i sicrhau 'masnach ddirwystr' mewn cynhyrchion pysgodfeydd ac bwyd-amaeth.
  • Bydd yr Adran Masnach Ryngwladol yn defnyddio ei dyraniad i sicrhau bod masnach yn parhau ar ôl gadael yr UE, mewn perthynas ag oddeutu 40 o gytundebau masnach sy'n cynnwys dros 70 o wledydd. Bydd hefyd yn defnyddio’r cyllid i weithio ar gytundebau masnach yn y dyfodol ar hyd a lled y byd.

Yn y cyfamser, yn Nhŷ'r Cyffredin, dywedodd Gavin Williamson, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn, wrth yr Aelodau Seneddol y byddai personél milwrol ar gael i gynorthwyo os bydd unrhyw drafferthion yn codi os bydd y DU yn gadael yr UE heb gytundeb. Wrth ymateb i gwestiwn gan Will Quince AS, dywedodd y bydd 3,500 o bersonél milwrol yn barod i gynorthwyo adrannau Llywodraeth y DU gydag unrhyw gynlluniau wrth gefn os bydd angen.

Mae llefarydd ar ran Llywodraeth y DU hefyd wedi dweud wrth y cyfryngau y dylai dinasyddion a busnesau baratoi ar gyfer y posibilrwydd o adael yr UE heb gytundeb yn unol â'r hysbysiadau technegol a gyhoeddwyd hyn yma, ac yn unol â’r cyngor manylach ychwanegol a gaiff ei gyhoeddi dros yr wythnosau nesaf.

Sut y mae’r UE27 yn paratoi ar gyfer y posibilrwydd y bydd y DU yn gadael yr UE heb gytundeb?

Ar 19 Rhagfyr, dechreuodd y Comisiwn Ewropeaidd roi ei gynllun wrth gefn ar waith i baratoi ar gyfer y posibilrwydd na fydd cytundeb gan lansio 14 o gynigion at y diben hwnnw hefyd.  Mae'r rhain yn cynnwys y canlynol:

  • Mae'r UE yn annog ei Aelod-wladwriaethau i gymryd agwedd hael tuag at hawliau dinasyddion y DU yn yr UE, ar yr amod bod y DU hefyd yn trin dinasyddion yr UE yn y DU yn yr un modd. Fodd bynnag, nid yw'n glir beth y byddai hyn yn ei olygu’n ymarferol i hawliau dinasyddion.
  • Bydd gwasanaethau awyr rhwng y DU a'r UE yn gallu parhau dros dro am 12 mis ar ôl i'r DU adael yr UE, a bydd trwyddedau hedfan yn parhau'n ddilys dros dro am 9 mis.
  • Bydd rheoliadau’n cael eu gwneud os bydd y DU yn gadael yr UE heb gytundeb i ganiatáu i gwmnïau o’r DU barhau i gludo nwyddau mewn lorïau i'r UE dros dro, ar yr amod bod y DU yn gweithredu yn yr un modd.

Dywedodd y Comisiwn Ewropeaidd hefyd :

These measures will not – and cannot – mitigate the overall impact of a ‘no deal’ scenario, nor do they in any way compensate for the lack of stakeholder preparedness or replicate the full benefits of EU membership or the terms of any transition period, as provided for in the Withdrawal Agreement. They are limited to specific areas where it is absolutely necessary to protect the vital interests of the EU and where preparedness measures on their own are not sufficient.

Hefyd ar 19 Rhagfyr 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Iwerddon ei Chynllun Gweithredu wrth Gefn hithau ar gyfer y posibilrwydd y bydd y DU yn gadael yr UE heb gytundeb. Mae hwn yn cynnwys nifer o gamau penodol y mae Llywodraeth Iwerddon yn bwriadu eu cymryd yn y sefyllfa hon.

Beth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei ddweud am ei baratoadau ar gyfer y posibilrwydd y bydd y DU yn gadael yr UE heb gytundeb?

Ym mis Ebrill 2018, ymatebodd Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar y modd y mae’n paratoi ar gyfer gadael yr UE, gan dynnu sylw at y ffaith ei bod yn gyfrifol am sicrhau y byddai'r trefniadau angenrheidiol ar waith mewn meysydd datganoledig. Fodd bynnag, dywedodd hefyd:

...mae’n bwysig pwysleisio, er hynny, na fydd yn bosibl lleddfu’n llwyr yr effaith y byddai ‘dim cytundeb’ yn ei chael ar Gymru. Ac mae’n bwysig pwysleisio hefyd mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU fydd gwneud y trefniadau angenrheidiol mewn sawl maes allweddol. Byddem yn disgwyl hefyd i Lywodraeth y DU roi digon o adnoddau i ni, Llywodraeth Cymru, i ddelio â’r heriau ychwanegol y byddem yn eu hwynebu petaent yn gadael i’r fath sefyllfa ddigwydd.

Ym mis Tachwedd 2018, cafodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y llythyrau roedd Llywodraeth Cymru wedi’u hanfon at randdeiliaid yn sôn am hysbysiadau technegol y bydd Llywodraeth y DU yn eu rhoi ar waith os bydd y DU yn gadael yr UE heb gytundeb, ac yn sôn hefyd ym y paratoadau sy’n mynd rhagddynt.  Ar yr un pryd, rhoddodd y  wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am y modd roedd yn ymateb i argymhellion y Pwyllgor mewn perthynas â pharatoi i adael yr UE.

Ar 19 Rhagfyr 2018, aeth Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, i gyfarfod Cyd-bwyllgor y Gweinidogion ochr yn ochr â Phrif Weinidog y DU, Prif Weinidog yr Alban a swyddogion Gogledd Iwerddon. Mewn datganiad cyn y cyfarfod, dywedodd Prif Weinidog Cymru y bydd Llywodraeth Cymru yn 'dwysáu'r paratoadau’ ar gyfer gadael yr UE heb gytundeb. Aeth rhagddo i ddweud ei fod wedi gofyn i Weinidogion ei Gabinet newydd wneud mwy i ymgysylltu â phartneriaid yng Nghymru i baratoi ar gyfer y posibilrwydd na fydd cytundeb, gan gynnwys nodi meysydd i fuddsoddi o’r newydd ynddynt i hybu’r gwaith paratoi.

Os bydd y DU yn gadael yr UE heb gytundeb, sut y gallai hynny effeithio ar sectorau penodol yng Nghymru, a pha gamau eraill y byddai angen eu cymryd i fynd i'r afael â'r goblygiadau?

Ers mis Tachwedd 2018, mae’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol wedi cyhoeddi tri adroddiad, yn ymdrin â pharodrwydd Cymru i adael yr UE, gan ganolbwyntio ar borthladdoedd; gofal iechyd a meddyginiaethau; a'r sector bwyd a diod.  Roedd yr adroddiadau’n cynnwys nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru, ac mae'r rhai sy’n ymdrin â’r posibilrwydd o adael yr UE heb gytundeb wedi'u nodi isod.  Mae'r rhain yn adeiladu ar adroddiad cynharach y Pwyllgor ar Sut y mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer Brexit, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2018.   Mewn perthynas â’r porthladdoedd, argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru gyfathrebu’n well â phorthladdoedd i sôn am y paratoadau a’r cynlluniau ar gyfer 29 Mawrth 2019; y dylai gyhoeddi manylion ei gynllun wrth gefn ar gyfer rheoli effaith y cynnydd mewn traffig a thagfeydd ym mhorthladdoedd Cymru ar ôl gadael yr UE; ac y dylai weithio gyda chwmnïau sy’n cludo nwyddau mewn lorïau i sicrhau eu bod yn gallu cyfrannu at gynllun Llywodraeth y DU ar gyfer gwneud cais am drwydded.

Mewn perthynas â gofal iechyd a meddyginiaethau, argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru roi braslun o’r trafodaethau sy’n mynd rhagddynt â Llywodraeth y DU ynghylch cydgysylltu’r paratoadau ar gyfer gadael yr UE a’r gwaith sy’n mynd rhagddo i sicrhau bod digon o le i storio cyflenwadau os bydd angen. Mae hefyd yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru alw ar Lywodraeth y DU i sicrhau y bydd radioisotopau meddygol yn dal ar gael ar ôl Brexit.

Mewn perthynas â chyflenwadau bwyd, argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru amlinellu manylion y gwaith sy’n mynd rhagddo i baratoi ar gyfer gadael yr UE heb gytundeb a helpu busnesau i liniaru effeithiau hynny ar ddiogelwch a pharhad cyflenwadau bwyd yng Nghymru.

Bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i'r adroddiadau hyn yn ystod yr wythnosau nesaf, a bydd yn rhoi rhagor o fanylion ynghylch ei pharodrwydd i ymdrin ag unrhyw broblemau a allai godi os bydd y DU yn gadael yr UE heb gytundeb.


Erthygl gan Gareth Thomas ac Peter Hill, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru