Llun o Fae Caerdydd, yn dangos adeilad y Senedd a'r Pierhead.

Llun o Fae Caerdydd, yn dangos adeilad y Senedd a'r Pierhead.

Pam y dylech wneud cais ar gyfer cynllun interniaeth polisi UKRI yn Senedd Cymru

Cyhoeddwyd 11/06/2025

Mae pob un ohonom yn gwybod bod penderfyniadau da yn dibynnu ar dystiolaeth dda. Mae gwaith craffu a deddfu da yn cael eu hategu gan amrywiaeth gyfoethog o wybodaeth ac ymchwil – ac mae academyddion yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith hwnnw.

Un o'r ffyrdd y gall myfyrwyr PhD feithrin dealltwriaeth ddyfnach o rôl ymchwil a thystiolaeth mewn seneddau yw drwy Gynllun Interniaeth Polisi Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI). Yng Nghymru, mae hyn yn cael ei reoli gan Ymchwil y Senedd – gwasanaeth ymchwil arbenigol, diduedd Senedd Cymru – gan weithio ar y cyd gyda chydweithwyr o ddeddfwrfeydd eraill y DU.

Ers 2003, rydym wedi croesawu dros 80 o fyfyrwyr fel interniaid i Senedd Cymru, yn astudio ar gyfer PhDs mewn ystod amrywiol o bynciau gan gynnwys ecosystemau morol, cyfrifiadureg, ethnograffeg cerddoriaeth a deunyddiau ar gyfer adweithyddion ymasiad, i enwi ond ychydig.

Mae'r cynllun yn gyfle i fyfyrwyr PhD ddatblygu eu dealltwriaeth o sut mae ymchwil yn cael ei defnyddio mewn lleoliad seneddol. Gan adeiladu ar eu sgiliau ymchwil presennol, bydd interniaid polisi yn ennill profiad yn y gwaith o weithio mewn amgylchedd polisi sy'n newid yn gyflym yn ystod y lleoliad gwaith tri mis.

Beth mae Ymchwil y Senedd yn ei wneud?

Mae Ymchwil y Senedd yn darparu gwybodaeth ddiduedd, awdurdodol ar y pynciau diweddaraf sy'n cael eu hystyried yn Senedd Cymru. Yn ogystal â gwasanaeth ymholiadau rhagweithiol, rydym hefyd yn darparu cymorth briffio a pholisi i bwyllgorau'r Senedd, Aelodau unigol o'r Senedd a'u staff. Rydym yn cyhoeddi erthyglau ymchwil ar ystod eang o bynciau sy'n ymwneud â busnes seneddol a’r llywodraeth.

Yn ystod y lleoliad gwaith, bydd cyfle gan interniaid i gymryd rhan ym mhob agwedd ar ein gwasanaeth, a hynny wrth fod yn rhan o dîm profiadol, amlddisgyblaethol.

Beth mae interniaid UKRI yn ei wneud yn ystod eu lleoliad gwaith?

Bydd y tîm ymchwil yn cytuno ar y meysydd gwaith, ac oherwydd natur ein gwaith, bydd y rhan fwyaf yn cael eu harwain gan anghenion y pwyllgorau a'r Aelodau. Bydd interniaid yn ymateb i ymholiadau gan Aelodau, yn cyfrannu at bapurau briffio pwyllgorau, yn ysgrifennu erthyglau ymchwil byr rhagweithiol, ac yn arwain ar o leiaf un papur briffio ymchwil manwl (i'w gyhoeddi ar wefan Ymchwil y Senedd). Mae ein hinterniaid wedi dweud wrthym fod eu lleoliadau wedi eu helpu i ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu ar gyfer cynulleidfa anacademaidd, drwy hyfforddiant ffurfiol a phrofiad ymarferol yn y gwaith.

Anaml y bydd interniaid yn canolbwyntio ar ymchwilio i bwnc sy'n cyd-fynd yn agos â'u PhD. Yn hytrach, gallant ddefnyddio eu sgiliau trosglwyddadwy i ymchwilio, archwilio, deall ac ysgrifennu am bynciau nad oes ganddynt unrhyw wybodaeth flaenorol amdanynt. Er hyn, byddant yn gallu dangos effaith gwaith ymchwil amlddisgyblaethol.

Mae'r holl waith yn cael ei wneud gyda chefnogaeth ac o dan oruchwyliaeth arbenigwyr pwnc.

Yn ein profiad ni, mae interniaid yn elwa i'r eithaf o'u lleoliadau gwaith pan fyddant yn symud i Gaerdydd – ond gellir trafod opsiynau hybrid hefyd.

Mae enghreifftiau o waith ein hinterniaid o'r blynyddoedd diwethaf yn cynnwys:

Ond peidiwch â dibynnu ar ein gair ni…

Mae ein hinterniaid wedi mynd ymlaen i amrywiol rolau, y tu mewn a'r tu allan i'r byd polisi. Ymunodd nifer o’n staff yn Ymchwil yn y Senedd â ni’n wreiddiol fel interniaid, a mwynhaon nhw’r profiad gymaint nes iddyn nhw wneud cais pan ddaeth swyddi gwag i’r amlwg. Mae rhai’n gweithio mewn llywodraeth leol, melinau trafod, cynghorau ymchwil a diwydiant – ac mae eraill wedi aros yn y byd academaidd. Mae'r cynllun yn cynnig cyfle heb ei ail i weithio wrth wraidd democratiaeth Cymru, ac i helpu myfyrwyr i ystyried a allai gyrfa mewn ymchwil seneddol, neu bolisi ehangach, fod yn rhywbeth yr hoffent ei dilyn.

Gwnaeth Dr Charlotte Lenton, wedi’i ariannu gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol (EPSRC), interniaeth gyda ni yn 2024, gan ymgymryd â gwaith gan gynnwys papur briffio ymchwil ar y system reilffyrdd yng Nghymru. Ysgrifennodd Charlotte flog am ei phrofiad interniaeth, lle mae hi'n siarad yn fanwl am ei hamser yn y Senedd. Wrth grynhoi, dywedodd y canlynol:

For me, the internship has probably been the highlight of my PhD to date. Regardless of whether you’re considering a career in academia, industry, or policy I would highly recommend undertaking this internship. I learnt so many valuable skills in such a short time which will be really useful going forward.

Canfu gwaith ymchwil a gyhoeddwyd yn 2021 ar Ddeall y canlyniadau a'r effeithiau o gynlluniau cymrodoriaethau polisi PhD y canlynol:

PhD fellows were unanimous in their support for the experience […], describing it as “probably one of the best things I did in my PhD” and “way more social, interesting and dynamic than I expected”.

Roedd yr effeithiau allweddol i interniaid yn cynnwys:

  • Profiad o bolisi “o’r tu mewn”;
  • Safbwynt mwy helaeth o’r byd polisi a’r cyd-destun ehangach;
  • Mwy o gymhelliant ac ymdeimlad o gyfraniad;
  • Set sgiliau polisi unigryw a throsglwyddadwy;
  • Uchelgais o ran gyrfa a chyfleoedd o ran cyflogaeth.

Pwy sy'n talu a sut ydw i'n gwneud cais?

Mae'r cynllun yn agored i fyfyrwyr PhD a ariennir gan UKRI yn unig. Yn 2026, mae Ymchwil y Senedd yn awyddus i recriwtio hyd at chwech o interniaid o raglenni a ariennir gan NERC, BBSRC, ESRC, AHRC ac EPSRC, gan ddechrau ym mis Ionawr neu fis Medi 2026.

Bydd sefydliadau ymchwil yn parhau i dalu’r ariantal a’r ffioedd doethuriaeth drwy gydol y cyfnod interniaeth o dri mis. Mae hyd at £3,172 ar gael i interniaid i dalu costau teithio a llety. Mae Atodiad A o'r Canllawiau i Ymgeiswyr yn rhoi mwy o wybodaeth.

Agorodd ceisiadau ar gyfer lleoliadau gwaith 2026 ddydd Llun 2 Mehefin, a byddant yn cau ar 8 Medi. Mae rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais ar gael ar wefan UKRI. Byddwn hefyd yn cynnal sesiwn wybodaeth ar-lein am y cynllun ym mis Gorffennaf. Bydd hyn yn rhoi cyfle i ddarpar ymgeiswyr ddysgu rhagor am y cynllun, a chlywed gan rai o'n cyn-interniaid am eu profiad. I gofrestru eich diddordeb, llenwch y ffurflen ar-lein hwn erbyn 30 Mehefin.

Erthygl gan Chloe Corbyn, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru.