Mae safleoedd rheoli ffiniau wedi'u lleoli mewn porthladdoedd a meysydd awyr ar gyfer gwirio rhai eitemau sy’n dod i mewn i’r wlad, megis nwyddau, anifeiliaid byw a phlanhigion. Mae hyn yn caniatáu i ni sicrhau eu bod yn ddiogel a’u bod yn bodloni gofynion domestig.
Mae angen mwy o safleoedd rheoli ffiniau ar y DU i wirio mewnforion oherwydd telerau Brexit. Mae gan y DU safleoedd rheoli ffiniau eisoes ar gyfer mewnforion sy’n dod o weddill y byd ond bellach maent yn angenrheidiol ar gyfer mewnforion o’r UE hefyd.
Gweinidogion Cymru sy'n gyfrifol am reolaethau bioddiogelwch, diogelwch bwyd ac iechydol a ffytoiechydol (SPS) yng Nghymru. Mae rheolaethau SPS yn diogelu iechyd anifeiliaid, planhigion a'r cyhoedd.
Mae cynlluniau ar y gweill i greu safleoedd rheoli ffiniau newydd ym mhorthladdoedd Caergybi, Sir Benfro ac Abergwaun i brosesu mewnforion o’r UE pan fydd gwiriadau’n cael eu cyflwyno o 31 Ionawr 2024.
Masnach rhwng y DU a'r UE ar ôl Brexit: trefn newydd
Mae Brexit yn golygu bod rheolau newydd ar gyfer masnachu rhwng Prydain Fawr, Gogledd Iwerddon a’r UE. Mae rheolau gwahanol yn berthnasol i wahanol symudiadau masnach ac i wahanol eitemau.
Protocol Gogledd Iwerddon a'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu (TCA) sy’n llywodraethu hyn. Fodd bynnag, nid yw rhai trefniadau yn dod o dan y naill na'r llall, sy'n golygu bod angen mwy o wiriadau.
Mae'r Cytundeb yn sefydlu'r berthynas newydd rhwng y DU a'r UE ar ôl Brexit. Nid yw'n berthnasol i fasnach mewn nwyddau rhwng Iwerddon a Gogledd Iwerddon sy'n parhau i symud yn rhydd ar ynys Iwerddon o dan y Protocol.
Bydd safleoedd rheoli ffiniau yn chwarae rôl bwysig wrth wirio mewnforion o’r UE. Maent yn arbennig o arwyddocaol i Gymru, gan fod ei phorthladdoedd yn cysylltu â phorthladdoedd Iwerddon sy'n rhan o bont tir y DU rhwng Iwerddon a thir mawr yr UE.
Er mwyn osgoi ffin galed ar ynys Iwerddon, cytunodd y DU a'r UE yn y Protocol y byddai Gogledd Iwerddon yn parhau i ddilyn rhai o reolau'r UE ar ôl Brexit.
Mae gwiriadau masnach sydd fel arfer yn ofynnol gan yr UE ar ei ffiniau allanol yn cael eu cynnal rhwng Prydain Fawr (Cymru, yr Alban a Lloegr) a Gogledd Iwerddon, ond nid ar ffin tir Iwerddon. Mae llifoedd masnach rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon yn cael eu trin fel mewnforion/allforion at y diben hwn.
Dywedir weithiau fod hyn fel petai wedi creu ffin ym Môr Iwerddon.
Er gwaethaf eu gwahaniaethau, mae'r DU a'r UE yn cytuno bod y Protocol wedi arwain at broblemau yng Ngogledd Iwerddon. Mae’r newidiadau y cytunwyd arnynt, a gyhoeddwyd ar 27 Chwefror, yn cynnwys syniad y DU i gael lôn werdd ar gyfer allforion Prydain Fawr i Ogledd Iwerddon sydd angen llai o wiriadau nag eitemau sy'n mynd ymlaen i Iwerddon.
Ers Brexit, nid yw gwiriadau ar fewnforion o’r UE wedi cael eu cyflwyno
Dylai gwiriadau ar fewnforion o’r UE i Brydain Fawr fod wedi dechrau ar 1 Ionawr 2021, yn syth ar ôl diwedd cyfnod pontio Brexit. Mae Cynllun Gweithredu’r Ffin Llywodraeth y DU yn nodi ei chynllun i gyflwyno gwiriadau yn raddol ond nid yw hyn wedi dechrau eto.
Ym mis Ebrill 2022, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai'n gohirio cyflwyno gwiriadau am y pedwerydd tro. Mae wedi rhoi rhesymau gwahanol am hyn, yn fwyaf diweddar i osgoi costau ychwanegol i fusnesau ac i atal tarfu ar borthladdoedd ac i gadwyni cyflenwi.
Disgwylir i ddrafft o'i strategaeth ffiniau newydd, y Model Gweithredu Targed (TOM). Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi gweithio ar y ar y TOM gyda swyddogion y DU ond nid yw Gweinidogion wedi cytuno arno eto.
Hyd nes y bydd gwiriadau'n cael eu cyflwyno, mae'r DU wedi dewis ymddiried bod mewnforion o’r UE yn bodloni gofynion Prydain Fawr. Mae Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr wedi dweud bod hyn yn rhoi mantais i gystadleuwyr yr UE.
Dechreuodd yr UE wirio allforion o Brydain Fawr ar 1 Ionawr 2021.
Mae gwiriadau wedi cael eu gohirio yng Nghymru hefyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi dilyn penderfyniadau Llywodraeth y DU i ohirio gwiriadau mewn meysydd datganoledig drwy gydsynio i reoliadau'r DU i’w gohirio a gwneud ei rheoliadau ei hun.
Mae Llywodraeth Cymru wedi holi yn y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a yw un rheoliad gan Lywodraeth y DU yn cydymffurfio'n llawn â rheolau Sefydliad Masnach y Byd a’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu, y mae'r Pwyllgor wedi ymateb iddo gan fynegi pryder (gweler paragraffau 43-44). Rhaid i Weinidogion Cymru gydymffurfio â rhwymedigaethau rhyngwladol y DU.
Roedd Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno gofynion rhag-hysbysu ar nwyddau SPS sy’n dod o Iwerddon, ond penderfynodd beidio â gwneud hynny ym mis Rhagfyr 2022 yn dilyn adborth gan randdeiliaid. Bydd y gofynion hyn yn cael eu cyflwyno yn ddiweddarach yn 2023.
Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi rhybuddio fod absenoldeb data rhag-hysbysu “wedi achosi bwlch data” sydd wedi llesteirio gwaith cynllunio a datblygu safleoedd rheoli ffiniau.
Safleoedd rheoli ffiniau ym mhorthladdoedd Cymru
Y bwriad yw sefydlu safleoedd rheoli ffiniau ym mhorthladdoedd Caergybi, Doc Penfro ac Abergwaun.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y disgwylir i’r gwaith adeiladu ddechrau yn "gynnar yn 2023" cyn i'r gwiriadau ddechrau o 31 Ionawr 2024.
Safle rheoli ffiniau Caergybi, a leolir ym Mharc Cybi, sydd wedi gwneud y cynnydd mwyaf yn y broses cynllunio. Yn ei diweddariad ym mis Tachwedd, dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd safle rheoli ffiniau Caergybi yn llai na'r disgwyl wrth i Lywodraeth y DU gynllunio i ddiwygio ei model gweithredu ar gyfer ffiniau a gohirio cyflwyno gwiriadau. Bydd hyn yn caniatáu i drefniadau parcio cerbydau nwyddau trwm barhau ar rywfaint o'r tir.
Ar gyfer y safleoedd rheoli ffiniau yn y deorllewin, yr opsiwn yr oedd Llywodraeth Cymru yn ei ffafrio oedd un safle yn Johnston i wasanaethu porthladdoedd Doc Penfro ac Abergwaun. Datgelodd arolygon safle nifer fawr o rywogaethau o ystlumod yno, felly dechreuodd ystyried opsiynau eraill.
Ym mis Mehefin 2022, awgrymodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, fod gofynion porthladdoedd y deorllewin yn dibynnu ar TOM diwygiedig Llywodraeth y DU, gan gynnwys yr hyn y mae'n ei ddweud am wiriadau sy'n ofynnol mewn porthladdoedd a gwiriadau ffisegol ar dda byw.
Dywedodd Llywodraeth Cymru yn 2017 y byddai’n anodd gwneud lle yn y porthladdoedd presennol a bod y broses o sefydlu safleoedd rheoli ffiniau am y tro cyntaf ‘yn torri tir newydd i Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a llawer o berchnogion porthladdoedd’. Dywedodd Gweinidog yr Economi yn 2021 mai adeiladu safleoedd rheoli ffiniau yw:
un o'r rhaglenni cyflenwi seilwaith mwyaf a mwyaf cymhleth y mae Llywodraeth Cymru yn ymwneud ag ef.
Yn ogystal â pharatoadau ar gyfer safleoedd rheoli ffiniau, rhybuddiodd Pwyllgor Materion Allanol blaenorol y Senedd a Phwyllgor Materion Cymreig Senedd y DU nad oedd porthladdoedd Cymru wedi paratoi'n ddigonol yn y cyfnod cyn Brexit.
Mapio
Mae lleoliad safleoedd rheoli ffiniau arfaethedig Cymru a llwybrau llongau Cymru-Iwerddon i’w gweld ar y map isod:
Gan ei bod hi'n llai beichus symud nwyddau o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon o dan y Protocol nag ydyw i symud nwyddau yn uniongyrchol o Brydain Fawr i’r UE o dan y Cytundeb Masnach a Chydweithredu, mae'r trefniadau newydd wedi newid llifoedd masnach i Gymru a thrwyddi.
Gall newidiadau i’r Protocol i leihau rhwystrau masnach rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon gymell rhagor o ddargyfeiriadau masnach o borthladdoedd Cymru i Loegr a'r Alban. Roedd adroddiad diweddar gan y Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig yn trafod ailgyfeirio masnach i ffwrdd o lwybrau deheuol (h.y. rhwng porthladdoedd Cymru ac Iwerddon) tuag at lwybrau gogleddol (h.y. rhwng porthladdoedd Mersi/yr Alban a Gogledd Iwerddon) gan fanteisio ar ofynion llai cymhleth y Protocol.
Adroddodd porthladdoedd Cymru ostyngiad sydyn o 50-60 y cant. mewn lefelau masnach yn syth ar ôl Brexit, a gyrhaeddodd lefel ddigyfnewid yn ddiweddarach ar ostyngiad o tua 30 y cant. Erbyn 2022, roedd y fasnach drwy Gaergybi wedi gwella ychydig ond roedd yn dal i fod tua 80 y cant o’r lefelau cyn Brexit.
Ochr yn ochr â hyn, erbyn 2021 roedd nifer y llwybrau llongau uniongyrchol rhwng Iwerddon a thir mawr yr UE wedi cynyddu o 12 i 44 yn y cyfnod ers Brexit i osgoi pont dir y DU a oedd yn gyflymach ac yn rhatach yn hanesyddol.
Mae academyddion yn Ysgol Economeg Llundain yn rhybuddio nad oes gan Gymru unrhyw ffordd o liniaru’r dargyfeiriadau masnach hyn.
Ar y gorwel
Yn ogystal, disgwylir penderfyniad yn fuan gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar borthladd rhydd yng Nghymru. Mae tri chais sy’n cystadlu o Gaergybi, Maes Awyr Caerdydd ac Aberdaugleddau a Phort Talbot ar y cyd (a elwir yn 'borthladd rhydd Celtaidd'). Ar 8 Chwefror, cafodd y Ceidwadwyr Cymreig 14 pleidlais o blaid eu cynnig yn galw am ddau borthladd rhydd, gyda 37 pleidlais yn erbyn.
Gyda model newydd ar y ffiniau, safleoedd rheoli ffiniau, Protocol wedi'i ail-negodi a porth rhydd Cymreig i gyd ar y gorwel, bydd gan Aelodau o'r Senedd ddigon i'w ystyried.
Erthygl gan Sara Moran a Sam Jones, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru