Mae’r “dystiolaeth a roddwyd i'r ymchwiliad, ochr yn ochr â'r materion bywyd go iawn a brofwyd gyda'r trefniadau cyllido [ar gyfer Cymru] drwy gydol pandemig COVID-19 wedi dangos bod angen i'r mecanweithiau cyllido gael eu hadolygu ar frys gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU”.
Dyma’r canfyddiad allweddol o ymchwiliad diweddar gan Bwyllgor Cyllid y Senedd.
Beth yw’r fframwaith cyllidol?
Ym mis Rhagfyr 2016, cytunodd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar fframwaith cyllidol newydd, sy’n pennu pwerau cyllidol Llywodraeth Cymru. Roedd y cytundeb hwn yn cefnogi:
- datganoli Treth Dir y Dreth Stamp – y Dreth Trafodiadau Tir erbyn hyn;
- datganoli’r Dreth Dirlenwi – y Dreth Gwarediadau Tirlenwi erbyn hyn;
- creu Cyfraddau Treth Incwm Cymru.
Mae'r fframwaith hefyd yn ymdrin ag addasiadau i:
- Grant Bloc Cymru, i gyfrif am y newidiadau hyn;
- terfynau benthyca cyfalaf Llywodraeth Cymru;
- dulliau rheoli cyllideb Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Cronfa Wrth Gefn Cymru a benthyca refeniw;
- ymdrin â phenderfyniadau polisi gan un llywodraeth sy'n effeithio ar dreth neu wariant llywodraeth arall;
- trefniadau ar gyfer rhoi’r newidiadau hyn ar waith.
Er bod y Pwyllgor wedi canfod bod gweinyddu’r trethi datganoledig newydd wedi bod yn llwyddiannus, mae o’r farn bod materion sylweddol y mae angen mynd i'r afael â nhw.
Cronfa Wrth Gefn Cymru
Gall Llywodraeth Cymru arbed hyd at £350 miliwn o’i harian yng Nghronfa Wrth Gefn Cymru. Gellir trosglwyddo’r arian hwn o un flwyddyn ariannol i’r nesaf, ond caiff Llywodraeth Cymru ei chyfyngu o ran faint y gall ei dynnu i lawr bob blwyddyn - £125 miliwn ar gyfer refeniw a £50 miliwn ar gyfer cyfalaf.
Daeth y Pwyllgor i’r casgliad y dylid cynyddu’r cyfanswm y caiff Llywodraeth Cymru ei gario ar draws blynyddoedd ariannol a’r terfynau tynnu i lawr blynyddol, dros dro o leiaf. Yn ôl y Pwyllgor, byddai hyn yn galluogi Llywodraeth Cymru i ymateb i'r pandemig a chefnogi’r adferiad economaidd yn fwy effeithiol.
Ym mis Chwefror 2021, cyhoeddodd Trysorlys Ei Mawrhydi bod £650 miliwn pellach wedi'i ddyrannu i Gymru ar gyfer COVID-19. Amlygodd y gellir “gwario’r arian yn awr neu ei gario drosodd i’w wario ym mlwyddyn ariannol 2021/22, gan ddarparu hyblygrwydd hanfodol a digynsail”.
A yw hyn wedi cyflwyno achos i roi mwy o ddisgresiwn i Lywodraeth Cymru drosglwyddo rhagor o gyllid o un flwyddyn i’r llall i reoli ei chyllidebau yn fwy effeithiol?
Pwerau benthyca cyfalaf
Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid, ei bod wedi cael trafodaethau â Llywodraeth y DU ynghylch cynyddu’r £1 biliwn a £150 miliwn, sef y cyfanswm a’r terfynau benthyca blynyddol yn y drefn honno, ond y cafwyd gwrthwynebiad i hyn. Dywedodd hefyd nad oes unrhyw sail resymegol dros y terfynau benthyca cyfredol a’i bod yn teimlo y gallai cysylltu terfynau benthyca â refeniw trethi Cymru a gesglir, a grybwyllwyd yn ystod ymchwiliad y Pwyllgor, fod yn ddull mwy ymarferol.
Nid yw Llywodraeth y DU wedi ymateb yn gyhoeddus i sylwadau’r Gweinidog.
Datrys anghydfodau
Un mater allweddol gyda’r fframwaith cyllidol yw’r mecanwaith ar gyfer datrys anghydfodau posibl rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Dywedodd y Gweinidog y gellir trosglwyddo anghydfodau i Gyd-bwyllgorau’r Gweinidogion, fodd bynnag, nododd nad yw hynny’n ffordd foddhaol o’i wneud, oherwydd wedyn Llywodraeth y DU fyddai’n gyfrifol am benderfynu ar y mater.
Eto, nid yw Llywodraeth y DU wedi ymateb yn gyhoeddus i sylwadau’r Gweinidog.
Mae Llywodraeth Cymru am weld proses gyflafareddu annibynnol, a fyddai, yn ei barn hi, yn ddull mwy teg o ddatrys anghydfodau.
Mae cytundeb y fframwaith cyllidol yn nodi y gellir gofyn am farn cyrff annibynnol ar unrhyw adeg ar gyfer trafodaethau ynghylch anghydfodau.
Bydd y Senedd yn trafod adroddiad y Pwyllgor ar y fframwaith cyllidol ar 24 Mawrth 2021. Gallwch wylio’r ddadl yn fyw ar SeneddTV.
Erthygl gan Christian Tipples, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru