Cyflawni ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol: beth yw’r rhwystrau i weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol gyntaf y byd?

Cyhoeddwyd 23/03/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 23/03/2021   |   Amser darllen munudau

We hope that what Wales is doing today the world will do tomorrow. Action, more than words, is the hope for our current and future generations.

Dyma eiriau Nikhil Seth, Pennaeth Datblygu Cynaliadwy ar y pryd y Cenhedloedd Unedig, pan oedd ar ymweliad â Chymru ar ôl i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ddod i rym. Cymru yw’r unig wlad yn y byd o hyd lle mae’n rhaid cynnwys yr angen i amddiffyn cenedlaethau’r dyfodol yn y gyfraith. Ond, nid yw’r dull hwn heb ei heriau sylweddol. Mae’r Ddeddf yn mynnu newid diwylliant ar draws yr holl sector cyhoeddus. Rhaid i bob polisi, gweithred, menter a darn o ddeddfwriaeth gael eu cynllunio a’u darparu trwy lens yr egwyddor datblygu cynaliadwy a’r saith nod llesiant sydd wedi’u hymgorffori yn y Ddeddf.

Pan gafodd y ddeddfwriaeth ei chyflwyno, fe nodwyd pryderon o ran a oedd yn ddigon eglur er mwyn ysgogi newid ar lawr gwlad. Felly pa mor llwyddiannus y cafodd y Ddeddf ei gweithredu dros y pum mlynedd diwethaf, a beth yw’r heriau y mae’n ei hwynebu?

Yn 2020, dechreuodd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Senedd ar ddarn o waith yn edrych ar y rhwystrau i weithredu’r Ddeddf, gan edrych i weld a yw wedi cyflawni’r newid trawsnewidiol a ddatganwyd pan gafodd ei chyflwyno dros bum mlynedd yn ôl. Roedd y gwaith hwn yn cyd-fynd â chyhoeddi Adroddiad cyntaf Cenedlaethau’r Dyfodol gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a gwaith archwilio cyrff cyhoeddus o dan y Ddeddf gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, ac roedd yr adroddiadau hynny hefyd yn sail i waith y Pwyllgor. Gyda’r ymchwiliad yn cael ei gynnal yng nghyd-destun pandemig y coronafeirws, bu’r Pwyllgor yn edrych ar lefelau dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth am y Ddeddf; yr adnoddau sydd ar gael i gyrff cyhoeddus i’w gweithredu; y gefnogaeth a’r arweinyddiaeth a ddarperir gan Lywodraeth Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol; a beth sydd angen ei wneud i sicrhau bod y Ddeddf yn cael ei gweithredu’n llwyddiannus yn y dyfodol.

Bydd y Senedd yn trafod adroddiad y Pwyllgor ddydd Mercher 24 Mawrth.

A yw diwylliant wedi newid?

Mae’r darlun yn gymysg. Clywodd y Pwyllgor nad yw cyrff cyhoeddus ledled Cymru wedi gwneud digon i newid eu diwylliannau sefydliadol i gyd-fynd ag egwyddorion y Ddeddf. Nid ydynt ychwaith wedi gwneud digon i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ymhlith eu defnyddwyr gwasanaeth am y newid i ddatblygu cynaliadwy ar draws gwasanaethau cyhoeddus.

Mae gan Lywodraeth Cymru ddwy rôl hanfodol. Nid yn unig y mae’n un o’r 44 corff cyhoeddus sydd wedi’u rhestru o dan y Ddeddf, mae ganddi rôl arwain hefyd. Mae’n gyfrifol am hyrwyddo’r egwyddor datblygu cynaliadwy, gosod esiampl gadarnhaol i gyrff cyhoeddus eraill, a datblygu agweddau ar y Ddeddf, fel y dangosyddion cenedlaethol a’r cerrig milltir.

Daeth y Pwyllgor i’r casgliad, yn y blynyddoedd yn syth ar ôl i’r Ddeddf gael ei phasio, fod Llywodraeth Cymru yn rhy araf i’w gweithredu’n fewnol. Nid oedd wedi ei gwneud yn glir ychwaith i gyrff cyhoeddus fod disgwyl iddynt wneud hynny hefyd. Mae tystiolaeth o hyn, yn rhannol, gan nad yw’r llythyrau cylch gwaith blynyddol a roddir i gyrff cyhoeddus wedi’u gosod o fewn fframwaith y Ddeddf – mater sy’n cael ei gydnabod gan Lywodraeth Cymru, ac un y mae’n ceisio mynd i’r afael ag ef ar unwaith. Mae effaith y cychwyn araf hwn yn dal i fod yn amlwg ar draws y sector cyhoeddus heddiw, ac mae wedi bod yn rhwystr sylfaenol i weithredu’r Ddeddf.

Fodd bynnag, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’n ymddangos bod yr ymdrech wedi dwysáu. Mae datganiad diweddar Llywodraeth Cymru yn gosod map ffordd carlam ar gyfer cyflawni, gan gynnwys newidiadau i’r dangosyddion cenedlaethol, a chyhoeddi’r cerrig milltir hirddisgwyliedig. Mae hyn, ochr yn ochr ag ymrwymiad o’r newydd gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i ganolbwyntio ar gymorth i gyrff cyhoeddus (heblaw Llywodraeth Cymru), yn rhoi cyfle i weithredu’r Ddeddf i gynyddu graddau a chyflymder yn y blynyddoedd i ddod.

Ai arian yw popeth?

Mae’r Ddeddf yn herio cyrff cyhoeddus i wneud pethau’n wahanol. Er bod y Pwyllgor wedi clywed galwadau am gyllid ychwanegol er mwyn sicrhau adnoddau i newid diwylliant a chefnogi’r gwaith o weithredu’r Ddeddf, daeth i’r casgliad na ddylai diffyg cyllid ychwanegol fod yn rhwystr i weithredu. Fodd bynnag, argymhellodd y dylai Llywodraeth Cymru gynnal adolygiad o sut y gall ddarparu sicrwydd ariannol tymor hwy i gyrff cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i’r Ddeddf i gefnogi cynllunio tymor hwy. Awgrymodd hefyd adolygiad o sut yr ariennir gwaith Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, gan fod y trefniadau cyllido anghyson cyfredol yn cyflwyno heriau wrth gyflawni eu gwaith.

Tirwedd orgymhleth?

Mae Cymru yn gartref i lu o gyrff partneriaeth. Ym mis Ionawr 2014, nododd comisiwn a oedd yn gyfrifol am archwilio pob agwedd ar lywodraethu a chyflawni yn y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru:

…cydweithio rhwng sefydliadau yn y sector cyhoeddus fu’r thema ddiffiniol o ran rheoli’r sector cyhoeddus yng Nghymru ers datganoli. Mae hyn yn adlewyrchu’n rhannol ddewis egwyddorol o blaid cydweithredu yn hytrach na chystadlu wrth ddarparu gwasanaethau.

Fodd bynnag, aeth yr adroddiad ymlaen i nodi bod “y ffyrdd yr oedd strwythurau partneriaeth wedi datblygu a thyfu yn feichus ac yn orgymhleth”.

Ers hynny, mae deddfwriaeth a pholisi eraill wedi cymhlethu tirwedd y bartneriaeth ymhellach. Mae’r rhain yn cynnwys sefydlu Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol (o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014); Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a sefydlwyd o dan Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol, a; byrddau partneriaeth anffurfiol sydd wedi’u creu i wneud penderfyniadau ar gyllid gan Fargeinion Dinesig a Thwf. Ar ben hynny, bydd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn creu Cyd-bwyllgorau Corfforaethol.

Ystyriodd y Pwyllgor a yw tirwedd y bartneriaeth yn rhwystr i weithredu’r Ddeddf. Daeth i’r casgliad a ganlyn:

Mae tirwedd gymhleth a biwrocrataidd cyrff partneriaeth a llu o ofynion deddfwriaethol ac adrodd wedi’i gwneud yn fwy anodd i gyrff cyhoeddus fabwysiadu’r Ddeddf hon ac, ar brydiau, wedi peidio â’i chymell yn weithredol.

Argymhellodd na ddylai Llywodraeth Cymru greu unrhyw bartneriaeth na strwythurau cydweithredol newydd i gyflawni unrhyw swyddogaethau oni bai ei bod wedi ystyried y canlynol yn llawn:

  • Gallai strwythurau partneriaeth presennol gyflawni’r swyddogaethau hynny yn lle;
  • Gallai’r strwythur newydd ddisodli’r rhai presennol;
  • Gall y swyddogaethau gael eu cyflawni gan gyrff cyhoeddus sy’n bodoli eisoes; ac
  • Ar ôl ymgynghori â chyrff cyhoeddus y mae’r newidiadau arfaethedig yn effeithio arnynt, gall ddangos bod y rhan fwyaf o gyrff cyhoeddus y mae hyn yn effeithio arnynt o blaid y strwythurau newydd.

Edrych tua’r dyfodol

Ymhlith ei argymhellion eraill, roedd y Pwyllgor o blaid craffu ôl-ddeddfwriaethol ar y Ddeddf. Galwodd hefyd ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad o’r cyrff cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i’r Ddeddf, gan gyd-fynd ag argymhelliad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Mae pandemig y coronafeirws wedi golygu bod cyrff cyhoeddus wedi gorfod gweithio ar y cyd i fynd i’r afael â heriau ar y cyd. Gan adleisio galwadau gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, galwodd y Pwyllgor am i’r adferiad o’r pandemig gael ei siapio gan y Ddeddf, gan sicrhau nad yw arfer da yn cael ei golli wrth symud yn ôl i gynllunio ac atal tymor hir.

Mae gweithredu’r Ddeddf yn llwyddiannus yn dibynnu ar bob corff cyhoeddus ledled Cymru yn croesawu ac yn ymgorffori’r egwyddor datblygu cynaliadwy, y pum ffordd o weithio, a’r saith nod llesiant ym mhopeth a wnânt. Dim ond wedyn y gwelwn y newid trawsnewidiol wedi’i anelu at y sector cyhoeddus, a thu hwnt, yng Nghymru.


Erthygl gan Chloe Corbyn, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru