Creodd cyflwyno’r terfyn cyflymder diofyn o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru ym mis Medi 2023 lawer o ddadlau cyhoeddus. Roedd y polisi yn cynyddu cyfran y ffyrdd sydd â therfyn cyflymder 20mya o 2% i 37% o fis Medi 2023 ymlaen.
Er bod amcanion y polisi yn ymestyn y tu hwnt i ddiogelwch ffyrdd, yr amcan canolog oedd lleihau anafiadau, gwella diogelwch, a hyrwyddo dewisiadau teithio iachach fel cerdded a beicio.
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn monitro'r polisi drwy fframwaith o Ddangosyddion Perfformiad Allweddol, ac mae llawer o adroddiadau a datganiadau ar ddata wedi'u cyhoeddi yma.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn nodi bod angen o leiaf dair blynedd o ddata ar wrthdrawiadau i asesu effeithiau'r polisi yn gadarn. Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ym mis Chwefror y “bydd y gwerthusiad yn adrodd fesul cam: adroddiad cychwynnol eleni, adroddiad interim y flwyddyn nesaf ac adroddiad terfynol yn 2029.”
Fodd bynnag, gyda sgyrsiau eang yn y cyfryngau ynghylch effaith y polisi ar ddiogelwch ffyrdd, mae'r erthygl hon yn ystyried y tueddiadau o ran gwrthdrawiadau ac anafusion yng Nghymru o'i gymharu â Lloegr a'r Alban, ble mae cyflwyno cyflymder o 20mya yn parhau’n fater i awdurdodau priffyrdd unigol, yn hytrach na bod yn ddiofyn ar ffyrdd cyfyngedig.
Sut yr adroddir ar ddata o ran gwrthdrawiadau ar y ffordd?
Adroddir ar ddata diogelwch ffyrdd Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU (DfT) gan heddluoedd drwy system casglu data STATS19. Nid yw'r rhain yn cofnodi pob gwrthdrawiad, dim ond y rhai sy'n arwain at anaf.
Mae nifer y gwrthdrawiadau a'r anafusion ar ffyrdd yng Nghymru, Lloegr a'r Alban wedi lleihau yn gyffredinol ers y dechreuodd heddluoedd gasglu data gwrthdrawiadau ffyrdd STATS19 ym 1979. Er bod data mwy diweddar ar gael gan Ystadegau Cymru, defnyddiwyd data Adran Drafnidiaeth y DU ar gyfer y dadansoddiad yn yr erthygl hon er mwyn gallu cymharu tueddiadau ledled Prydain Fawr. Mae data dros dro ar gael gan yr Adran Drafnidiaeth ar gyfer hanner cyntaf 2025, ond nid yw hwn wedi'i ddefnyddio gan y gallai newid.
Gan fod data gwrthdrawiadau yn dymhorol, gall ffigurau chwarterol fod yn anwadal. I gymharu ar draws chwarteri, mae cyfartaledd treigl pedwar chwarter wedi'i gymhwyso i'r data. Mae'r ffigurau a ddisgrifir yn yr erthygl hon yn cyfeirio at y cyfartaledd treigl hwn.
Mae'r data wedi'i grwpio yn ôl gwledydd yn seiliedig ar yr heddlu a gofnododd y gwrthdrawiad. Mae gwrthdrawiadau lle nad yw data terfyn cyflymder wedi'i gofnodi wedi'u heithrio.
Er mwyn sicrhau bod yr un gyfres o ffyrdd yn cael eu cymharu cyn ac ar ôl y newid yn y terfyn cyflymder diofyn, mae gwrthdrawiadau ar ffyrdd 20mya a 30mya wedi'u grwpio. Er mwyn cymharu ar draws terfynau cyflymder, mae'r rhai sy'n digwydd ar bob ffordd arall hefyd wedi'u grwpio.
Sut mae gwrthdrawiadau ar ffyrdd Cymru yn cymharu â rhai Lloegr a'r Alban ers gweithredu'r terfyn cyflymder diofyn 20mya?

Mae data yn dangos bod nifer y gwrthdrawiadau a gofnodwyd ar ffyrdd 20mya/30mya yng Nghymru wedi lleihau yn gyflymach nag yn Lloegr a’r Alban, tra bod y rhai ar ffyrdd eraill wedi aros yn sefydlog.
Yn dilyn cyflwyno'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru, lleihaodd nifer y gwrthdrawiadau ar ffyrdd 20mya/30mya 22.5% o’r ail chwarter yn 2023 i’r pedwerydd chwarter yn 2024. Cafwyd ychydig yn llai o wrthdrawiadau ar ffyrdd eraill yng Nghymru sef 0.2% yn llai.
Yn ystod yr un cyfnod yn Lloegr, lleihaodd gwrthdrawiadau ar ffyrdd 20mya/30mya a ffyrdd eraill 4.7% ac 1.3% yn y drefn honno. Yn yr Alban gwelwyd cynnydd bach o 1.5% ar ffyrdd 20mya/30mya a gostyngiad o 7.4% ar ffyrdd eraill.
Sut mae anafusion ar ffyrdd Cymru yn cymharu â rhai Lloegr a'r Alban ers gweithredu'r terfyn cyflymder diofyn 20mya?

Wrth edrych ar anafusion bach, anafusion difrifol ac anafiadau angheuol gyda'i gilydd, mae’r niferoedd ar ffyrdd 20mya/30mya yng Nghymru hefyd wedi lleihau yn gyflymach nag yn Lloegr a'r Alban. Gwelwyd cynnydd bach ar ffyrdd eraill Cymru.
Yng Nghymru, lleihaodd nifer yr holl anafusion ar ffyrdd 20mya/30mya 23.8% o’r ail chwarter yn 2023 i’r pedwerydd chwarter yn 2024. Ar ffyrdd eraill, roedd cynnydd bach o 4.4%. Yn yr un cyfnod, yn Lloegr bu gostyngiadau o 5.2% a 3.1% ar ffyrdd 20mya/30mya a ffyrdd eraill yn y drefn honno, tra yn yr Alban bu cynnydd o 3.1% ar ffyrdd 20mya/30mya a gostyngiad o 6.4% ar ffyrdd eraill.
Yn hanesyddol, cofnodwyd rhagor o anafusion ar ffyrdd 20mya/30mya nag ar ffyrdd eraill. Erbyn pedwerydd chwarter 2024, nid oedd hyn yn wir yng Nghymru mwyach, gan ddilyn tuedd debyg a welwyd yn flaenorol yn yr Alban.
Sut mae anafusion a laddwyd neu a anafwyd yn ddifrifol (KSI) ar ffyrdd Cymru yn cymharu â rhai Lloegr a'r Alban ers gweithredu'r terfyn diofyn 20mya?

Mae nifer yr anafusion a laddwyd neu a anafwyd yn ddifrifol ar ffyrdd 20/30mya yng Nghymru wedi lleihau, tra bu cynnydd ar ffyrdd eraill. Mae'n ymddangos bod un rheswm dros y cynnydd hwn yn gysylltiedig â newid yn y fethodoleg adrodd gan Heddlu Dyfed-Powys, a thrafodir effaith hynny yn yr adran nesaf.
O’r ail chwarter yn 2023 i’r pedwerydd chwarter yn 2024, bu gostyngiad o 11.0% yn nifer yr anafusion a laddwyd neu a anafwyd yn ddifrifol ar ffyrdd 20mya/30mya Cymru, tra bod anafusion a laddwyd neu a anafwyd yn ddifrifol ar ffyrdd 40mya+ yng Nghymru wedi cynyddu 21.2% o’r ail chwarter yn 2023 i’r pedwerydd chwarter yn 2024, gan ddechrau cyn gweithredu'r terfyn diofyn 20mya. Cymharol ychydig o newid oedd yn Lloegr dros yr un cyfnod, gyda chynnydd o 0.3% ar ffyrdd 20mya/30mya a gostyngiad o 0.3% ar ffyrdd eraill. Yn yr Alban bu cynnydd o 8.0% ar ffyrdd 20mya/30mya a 0.2% ar ffyrdd eraill.
Pam y bu cynnydd yn nifer yr anafusion a laddwyd neu a anafwyd yn ddifrifol (KSI) ar ffyrdd eraill yng Nghymru o gwmpas adeg gweithredu'r terfyn cyflymder diofyn 20mya?
Ymddengys bod y cynnydd yn gysylltiedig â nifer fwy o anafusion KSI a gofnodwyd gan Heddlu Dyfed-Powys, yn dilyn ei newid i'r system adrodd yn seiliedig ar anafiadau sef, Cofnodi a Rhannu ar Wrthdrawiadau (CRASH).
Mae’n hysbys bod tan-gofnodi anafiadau difrifol ymhlith heddluoedd sy’n defnyddio system adrodd yn seiliedig ar ddim anafiadau (NIBRS). Heddlu Dyfed-Powys oedd yr heddlu cyntaf yng Nghymru i weithredu'r system CRASH ar gyfer adrodd am wrthdrawiadau ffyrdd yn ystod ail chwarter 2023.
Canfuwyd bod heddluoedd sy'n defnyddio CRASH yn adrodd am gyfran fwy o anafiadau difrifol na'r rhai sy'n defnyddio NIBRS. Mae'r Adran Drafnidiaeth yn darparu ffigurau wedi'u haddasu sy'n amcangyfrif nifer yr anafiadau difrifol a mân anafiadau a fyddai wedi cael eu hadrodd pe bai'r heddlu wedi bod yn defnyddio system adrodd yn seiliedig ar anafiadau (IBRS).
Ffigur 4: Anafusion KSI ar ffyrdd 40mya+ yng Nghymru yn ôl Heddlu, cyfartaledd treigl pedwar chwarter, data difrifoldeb heb ei addasu a data wedi'i addasu, o chwarter cyntaf 2014 i bedwerydd chwarter 2024

Gan ddefnyddio'r ffigurau wedi'u haddasu hyn, cynyddodd nifer yr anafusion a laddwyd ac a anafwyd yn ddifrifol ar ffyrdd 40mya+ yng Nghymru 7.4% o ail chwarter 2023 i’r pedwerydd chwarter 2024, gyda'r rhan fwyaf o'r cynnydd sy'n weddill hwn hefyd i'w weld yn Nyfed-Powys. Mae hyn yn awgrymu y gellir priodoli llawer o'r cynnydd mewn anafusion a laddwyd neu a anafwyd yn ddifrifol heb eu haddasu ar ffyrdd 40mya+ Cymru yn ystod y cyfnod hwn i’r ffaith bod Heddlu Dyfed-Powys yn newid i adrodd yn seiliedig ar anafiadau (IBRS), er y gallai ffactorau eraill fod yn cyfrannu. Mae defnyddio'r un ffigurau wedi'u haddasu ar gyfer ffyrdd 20mya/30mya yn dangos mwy o ostyngiad, sef 17.4%, o ran anafusion a laddwyd neu a anafwyd yn ddifrifol.
Ffigur 5: Anafusion a laddwyd ac anafiadau difrifol (KSI) ar ffyrdd 20mya/30mya a ffyrdd eraill yng Nghymru, cyfartaledd treigl pedwar chwarter, o ran difrifoldeb wedi'i addasu a difrifoldeb heb ei addasu, o ran chwarter cyntaf 2014 a chwarter cyntaf 2024

Mae'r hanes hyd yma am y cyfyngiad cyflymder 20mya yn awgrymu bod y polisi wedi lleihau gwrthdrawiadau ac anafusion ar ffyrdd Cymru, a bod y lleihad hwnnw’n fwy yng Nghymru nag mewn mannau eraill ym Mhrydain Fawr.
Mae'n ddyddiau cynnar arnom o hyd, fodd bynnag, ar gyfer y gwerthusiad hwn, ac mae effaith y polisi yn ymestyn y tu hwnt i ddiogelwch ffyrdd yn unig. O ystyried proffil uchel y polisi hwn, nid oes dim amheuaeth y bydd y cyhoedd yng Nghymru yn dilyn y broses werthuso gyda diddordeb mawr.
Erthygl gan Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru