Pa ddewisiadau sy'n wynebu Llywodraeth Cymru o ran gwariant, a beth fydd ei blaenoriaethau?

Cyhoeddwyd 23/09/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/12/2020   |   Amser darllen munudau

Ar 25 Medi, bydd y Cynulliad yn trafod blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru cyn i'r Llywodraeth gyhoeddi'r gyllideb ddrafft ar gyfer 2020-21 yn ddiweddarach eleni. Y ddadl hon yw'r gyntaf o'i bath yn y Cynulliad, a hynny ar anogaeth y Pwyllgor Cyllid.

Yn y Cyfarfod Llawn ar 17 Medi, amlygodd y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd ei bwriad i gyflwyno cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 ym mis Tachwedd 2019, yn dilyn cyhoeddiad Cylch Gwariant Llywodraeth y DU 2019.

I roi cyd-destun i'r datganiad hwn, mae ein blog ar Gylch Gwariant y DU yn nodi mai refeniw cyllidol Llywodraeth Cymru yn 2020-21 fydd £14.8 biliwn cyn addasiadau i'r grant bloc, sef cynnydd o £593 miliwn o'i gymharu â llinell sylfaen 2019-20. Bydd cyllideb gyfalaf Llywodraeth Cymru yn codi o £2.2 biliwn i £2.3 biliwn dros y cyfnod hwn. Fodd bynnag, mae'r Prif Weinidog wedi dweud nad yw’n hyderus y bydd y swm hwn yn bendant yn dod i Gymru, gan nad yw Senedd y DU wedi pleidleisio arno eto. Yn ei farn ef, mae'n bosibl na fydd hyn yn digwydd, a hynny am nifer o resymau, gan gynnwys yr addoediad, y posibilrwydd y bydd etholiad cyffredinol, a'r ffaith nad oes gan Lywodraeth y DU fwyafrif yn Nhŷ’r Cyffredin.

Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21?

Manylodd y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd ar wyth blaenoriaeth cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 mewn datganiad yn y Cyfarfod Llawn ar 16 Gorffennaf. Y blaenoriaethau yw:

  • Y blynyddoedd cynnar;
  • Gofal cymdeithasol;
  • Tai;
  • Sgiliau a chyflogadwyedd;
  • Gwell iechyd meddwl;
  • Datgarboneiddio;
  • Tlodi; a
  • Bioamrywiaeth.

Yn ei datganiad ar 17 Medi, nododd y Gweinidog y rhesymeg dros ganolbwyntio ar y meysydd hyn, gan nodi:

Rydym ni'n cydnabod mai'r wyth maes hyn yw'r rhai sy'n fwyaf tebygol o fod â'r cyfraniad mwyaf i'w roi i ffyniant a lles hirdymor. Maen nhw'n adlewyrchu'r amseroedd ym mywydau pobl pan fyddan nhw â'r angen mwyaf, a phan fydd y cymorth addas yn gallu cael dylanwad dramatig ar gwrs eu bywyd. Maen nhw'n feysydd o flaenoriaeth lle dangoswyd bod ymyrraeth gynnar—mynd i'r afael â'r achosion sylfaenol, yn hytrach na thrin y symptomau—yn talu ar ei ganfed. Os ydym ni am wireddu potensial llawn Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, mae integreiddio a chydweithio rhwng gweithgareddau a gwasanaethau, gydag ymyrraeth gynnar a dull o weithredu â phobl yn ganolog, yn hanfodol ar gyfer cyflawni canlyniadau hirdymor.

Mae'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd hefyd wedi dweud, yn achos Brexit 'heb gytundeb', byddai angen cefnogaeth ariannol ar unwaith ar Lywodraeth Cymru gan Lywodraeth y DU, gan na fyddai'r setliad cyllideb presennol yn ei galluogi i fynd i'r afael â hyd yn oed gyfran o sgil-effeithiau ymdael heb gytundeb. Ar 16 Medi, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Paratoi ar gyfer Brexit heb gytundeb, sef ei chynllun gweithredu ar gyfer yr senario hon.

Pa ddewisiadau y gallai fod angen i Lywodraeth Cymru eu gwneud wrth ddyrannu ei chyllideb?

Mae Dadansoddiad Cyllidol Cymru yn awgrymu (PDF 428KB) y bydd y cynnydd yn y grant bloc ar gyfer 2020-21 yn caniatáu i Lywodraeth Cymru gynyddu cyllid ar gyfer mwy o'i blaenoriaethau nag a fu'n bosibl ym mlynyddoedd cyni'r degawd diwethaf.

Mae'n dadlau mai'r dewis mawr i Lywodraeth Cymru yw faint i'w ddyrannu i'r gwasanaeth iechyd a'r gwasanaethau cymdeithasol yn 2020-21. Mae'n amlinellu goblygiadau posibl tair senario cyllido'r GIG ar gyfer gweddill cyllideb refeniw cyllidol Llywodraeth Cymru:

  • Pe bai Llywodraeth Cymru yn cynyddu refeniw cyllidol 3.1 y cant mewn termau real yng ngwariant y GIG yn 2020-21, i gyfateb i’r cynnydd i GIG Lloegr, byddai'n gallu rhoi cynnydd refeniw cyllidol o 1.4 y cant mewn termau real i'r holl wasanaethau cyhoeddus datganoledig eraill;
  • Pe bai Llywodraeth Cymru yn cynyddu cyllid refeniw GIG Cymru 2.8 y cant mewn termau real, i gyfateb i’r cynnydd i GIG Lloegr fesul person, byddai'n gallu rhoi cynnydd refeniw cyllidol o 1.7 y cant mewn termau real i'r holl wasanaethau cyhoeddus datganoledig eraill;
  • Pe bai Llywodraeth Cymru yn parhau yn ei thuedd i roi cynnydd cyllid refeniw o 2.3 y cant mewn termau real i GIG Cymru yn 2020-21, byddai'n gallu rhoi cynnydd cyllid refeniw o 2.2 y cant mewn termau real i bob gwasanaeth cyhoeddus datganoledig arall;

Mae Dadansoddiad Cyllidol Cymru yn nodi y byddai'n beryglus i Lywodraeth Cymru ymrwymo cyllid i wasanaethau penodol am fwy na blwyddyn heb wybod y goblygiadau i weddill ei chyllideb. Mae hefyd yn awgrymu y dylai Llywodraeth Cymru ystyried talu i'w chronfa wrth gefn, er mwyn gallu lliniaru effeithiau cyni posibl yn y blynyddoedd i ddod.

Pa waith a wnaed gan y Cynulliad cyn cyllideb ddrafft 2020-21?

Mae Pwyllgor Cyllid y Cynulliad yn craffu ar gyllidebau drafft ac chyllidebau atodol trwy gydol y flwyddyn, gan wneud argymhellion i Lywodraeth Cymru a mynd ar eu trywydd mewn gwaith dilynol.

Yn ogystal, nododd yr Uned Craffu ar Gyllid Cyhoeddus yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon ac Uned Craffu Ariannol Ymchwil y Senedd themâu allweddol yng ngwaith craffu Pwyllgorau'r Cynulliad yn eu dadansoddiad o gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20.

Cynhaliodd y Pwyllgor Cyllid sesiwn i randdeiliaid (PDF 136KB) yn Aberystwyth ar 27 Mehefin, lle nododd unigolion a sefydliadau eu barn am y meysydd y dylai Llywodraeth Cymru eu blaenoriaethu. Mae'r blaenoriaethau hyn wedi llywio gwaith craffu'r Pwyllgor ar y gyllideb ddrafft y mae'n ymgynghori arni tan 25 Medi. Bydd gwaith y Pwyllgor yn canolbwyntio ar:

  • Dull gweithredu Llywodraeth Cymru o ran gwariant ataliol a sut y mae'n cael ei adlewyrchu yn y dyraniad o adnoddau, yn enwedig ar gyfer byrddau iechyd lleol a gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol;
  • Cynaliadwyedd gwasanaethau cyhoeddus, arloesi a thrawsnewid gwasanaethau;
  • Polisïau Llywodraeth Cymru i hybu twf economaidd ac arloesedd, lleihau tlodi ac o ran anghydraddoldeb rhywiol, a lliniaru effaith diwygio lles;
  • Cynllunio a pharodrwydd ar gyfer Brexit;
  • Sut y dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio pwerau trethu a benthyca, yn enwedig o ran Cyfradd Treth Incwm Cymru;
  • Sut y mae tystiolaeth yn llywio gwaith Llywodraeth Cymru o ran pennu blaenoriaethau a dyrannu'r gyllideb;
  • Sut y mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn dylanwadu ar y gwaith o lunio polisïau; ac
  • Eglurder ynghylch sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymateb i'w datganiad o argyfwng hinsawdd, a sut y darperir adnoddau ar gyfer hyn.

Bydd y Pwyllgor Cyllid yn craffu ar ddewisiadau Llywodraeth Cymru yn y meysydd hyn, a mwy, pan gyhoeddir y gyllideb ddrafft.

Mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) yn argymell y dylai proses y gyllideb roi cyfleoedd i seneddau a phwyllgorau ymgysylltu ar bob cam allweddol yng nghylch y gyllideb. Dyma'r tro cyntaf i Aelodau'r Cynulliad drafod blaenoriaethau cyllideb Llywodraeth Cymru cyn i'r gyllideb ddrafft gael ei chyhoeddi, a rhaid aros i weld sut y bydd yn datblygu yn y dyfodol.


Erthygl gan Gareth Thomas, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru