Yng Nghymru, mae cyfraddau cyflogaeth pobl anabl 16 i 64 oed 31 pwynt canran yn is na phobl nad ydynt yn anabl (2023 i 2024). Ym mis Mawrth, cyhoeddodd Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd ei adroddiad i leihau’r bwlch cyflogaeth anabledd hwn, a gydnabuwyd ers hynny yng Nghynllun Hawliau Pobl Anabl 10 mlynedd drafft Llywodraeth Cymru (Mai 2025). Mae’r adroddiad wedi cael ei gyhoeddi ar adeg dyngedfennol, wrth i Lywodraeth y DU wneud cynnig i ddiwygio'r system les, gan gynnwys newidiadau i fudd-daliadau iechyd ac anabledd. Mae’r adroddiad yn darparu tystiolaeth bwysig ar y rhwystrau y mae pobl anabl yn eu hwynebu ac yn amlinellu camau posibl i fynd i’r afael â hwy.
“Nid gallu yw’r broblem. Y diffyg cyfle yw’r broblem fwyaf”
Mae gan gyflogwyr rôl ganolog wrth gau’r bwlch cyflogaeth anabledd. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr wneud addasiadau rhesymol i sicrhau nad yw pobl anabl dan anfantais annheg yn y gweithle. Gall yr addasiadau hyn ddileu rhwystrau ymarferol, a rhannodd llawer o bobl anabl â’r Pwyllgor sut y mae newidiadau o'r fath wedi cael effaith gadarnhaol ar eu bywydau gwaith.
Fodd bynnag, mewn gwirionedd nid yw llawer o gyflogwyr yn rhoi’r addasiadau hanfodol hyn ar waith. Rhannodd RNIB Cymru ei gwaith ymchwil â’r Pwyllgor a ganfu nad yw 23% o gyflogwyr yn fodlon gwneud addasiadau i gyflogi rhywun ag amhariad ar y golwg er gwaethaf rhwymedigaethau cyfreithiol. Mae TUC wedi galw ar gyflogwyr i adolygu eu polisïau ar wneud addasiadau rhesymol, gan dynnu sylw at ganlyniadau arolwg o 1,000 o weithwyr anabl a ganfu nad yw 34% yn cael yr addasiadau rhesymol y mae arnynt eu hangen.
Cynllun Hyderus o ran Anabledd
Mae Hyderus o ran Anabledd yn gynllun achredu Llywodraeth y DU sy’n annog cyflogwyr i feddwl yn wahanol am anabledd a chymryd camau i wella sut y maent yn mynd ati i recriwtio, cadw a datblygu pobl anabl.
Er gwaethaf manteision posibl y cynllun, clywodd y Pwyllgor nad oes ganddo hygrededd ymhlith pobl anabl (sy’n ei gysylltu â’r Adran Gwaith a Phensiynau ac yn dweud bod ganddo ddiffyg trylwyredd).
Roedd yn flin gan y Pwyllgor ddysgu am y gyfran gymharol fach o sefydliadau’r sector cyhoeddus yng Nghymru sy’n cyrraedd y lefel uchaf o achrediad, gan mai dim ond dau o’r 22 awdurdod lleol (Sir Benfro a Phen-y-bont ar Ogwr) a phedwar o’r 12 bwrdd iechyd ac ymddiriedolaethau’r GIG sydd wedi cyflawni’r statws hwn.
Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhelliad y Pwyllgor i geisio newidiadau brys i’r Cynllun Hyderus o ran Anabledd ac mae wedi dwyn adroddiad y Pwyllgor i sylw Llywodraeth y DU. Fodd bynnag, nid yw papur gwyrdd Llywodraeth y DU ar ddiwygio anabledd yn cyfeirio at y cynllun.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ‘derbyn mewn egwyddor’ argymhelliad y Pwyllgor i’w gwneud yn ofynnol i gyrffdatganoledig y sector cyhoeddus wneud cyfraniad mwy sylweddol at y nod o ddileu’r bwlch cyflogaeth anabledd. Fodd bynnag, mae’r Cynllun Hawliau Pobl Anabl drafft yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y cyflogwyr yng Nghymru sy’n ennill yr achrediad uchaf (‘statws arweinydd’).
Os yw’r Gefnogaeth yn Gywir, Amdani!
Daeth y Pwyllgor i’r casgliad y gall cymorth cyflogaeth wneud cyfraniad sylweddol a chadarnhaol i gau'r bwlch cyflogaeth anabledd. Galwodd ar addysgwyr, cyflogwyr a llywodraethau i gymryd camau cydgysylltiedig i “fynd i’r afael ag achosion sylfaenol y bwlch cyflogaeth” a darparu cymorth cyflogaeth mawr ei angen i’r rhai sy’n gallu gweithio.
Mae Llywodraeth y DU wedi dweud ei bod am ddarparu cymorth cyflogaeth gwell a mwy teilwredig ac mae wedi nodi mesurau i gefnogi pobl anabl i gael gwaith, gan gynnwys:
- Buddsoddi £1 biliwn mewn gwarant cymorth newydd i’r holl bobl anabl a’r rhai sydd â chyflyrau iechyd yn hawlio budd-daliadau diweithdra ac sydd eisiau cymorth i gael gwaith neu ddychwelyd i’r gwaith.
- Cynlluniau i ddatganoli cyllid cymorth cyflogaeth nad yw’n dod o’r Ganolfan Byd Gwaith i Lywodraeth Cymru.
- Lansio £10 miliwn ar gyfer cynlluniau peilot arloesol anweithgarwch economaidd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Castell-nedd Port Talbot. Bydd y cymorth a gynigir drwy'r cynlluniau peilot hyn yn cynnwys help gyda llunio CV a chwilio am swydd, mentora un-i-un, gwasanaethau cwnsela, darparu lles, a mynediad at wasanaethau rheoli cyflwr i’r rhai sydd â chyflyrau iechyd.
Y cynllun Mynediad i Waith
Er y bydd buddsoddiad mewn cymorth cyflogaeth yn cael ei groesawu, clywodd y Pwyllgor bryderon penodol am weithrediad cynllun Mynediad i Waith Llywodraeth y DU. Wedi’i ddisgrifio fel y ‘gyfrinach fwyaf’, mae’r cynllun yn cefnogi pobl sydd â chyflwr corfforol neu iechyd meddwl neu anabledd i gael gwaith neu aros mewn gwaith. Er enghraifft, gall ddarparu offer yn y gweithle neu arian tuag at gostau teithio ychwanegol i’r gwaith ac oddi yno.
Canfu Inclusive Remote and Hybrid Working Study (prosiect ymchwil yn y DU sy’n astudio profiadau gweithwyr anabl o waith o bell a hybrid) fod ymwybyddiaeth o’r cynllun yn isel a bod amseroedd aros hir cyn i geisiadau gael eu prosesu. Mae adroddiadau diweddarach wedi codi pryderon gan fusnesau nad yw Llywodraeth y DU yn eu had-dalu am gost cefnogi pobl anabl. Yn ogystal, mae sefydliadau anabledd wedi tynnu sylw at adroddiadau o ymgyrch torri costau newydd o ran y cynllun Mynediad i Waith.
Ym mis Chwefror, dywedodd Syr Stephen Timms AS wrth Bwyllgor Gwaith a Phensiynau Senedd y DU fod dull presennol Mynediad i Waith yn annhebygol o fod yn gynaliadwy yn y tymor hir. Aeth ymlaen i ddweud bod rhaid dod o hyd i rywbeth gwell a mwy effeithiol, o ystyried lefel uchel iawn y galw presennol.
Mae Llywodraeth y DU yn ymgynghori ar ddyfodol y cynllun fel rhan o’i chynllun diwygiadau arfaethedig a amlinellwyd yn y papur gwyrdd.
“Dylai’r rhai sydd eisiau, ac sy’n gallu, gael urddas o weithio”
Mae'r diwygiadau arfaethedig i fudd-daliadau iechyd ac anabledd wedi ysgogi pryderon gan Aelodau o’r Senedd a sefydliadau pobl anabl, gydag Anabledd Cymru yn galw ar Lywodraeth y DU i “ailystyried ei hagwedd”. Mae gwaith ymchwil diweddar yn archwilio effaith ragweledig y diwygiadau wedi canfod y disgwylir y bydd hyn yn effeithio ar oddeutu 190,000 o bobl (6.1% o’r boblogaeth) yng Nghymru ac y bydd cynnydd sydyn mewn tlodi.
Dros y misoedd nesaf, bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn gosod eu cynlluniau ar gyfer mynd i’r afael â’r bwlch cyflogaeth, a fydd yn cael effaith sylweddol ar bobl anabl yng Nghymru. Mae cyfleoedd i lywio’r penderfyniadau pwysig hyn:
- Daw’r ymgynghoriad ar bapur gwyrdd Llywodraeth y DU ar ddiwygio iechyd ac anabledd i ben ar 30 Mehefin.
- Daw ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ei Chynllun Hawliau Pobl Anabl 10 mlynedd drafft i ben ar 7 Awst. Mae’r cynllun wedi’i strwythuro yn erbyn pedwar maes gweithredu cyffredinol, sy’n cynnwys cyflogaeth, incwm ac addysg.
Gallwch wylio’r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn fyw ar Senedd TV ddydd Mercher 11 Mehefin neu weld y trawsgrifiad tua 24 awr yn ddiweddarach. |
Erthygl gan Claire Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru.