Oherwydd bod pob llais yn cyfrif: Sefydliadau cymdeithas sifil Cymru a'r UE yn dod at ei gilydd yn y Senedd

Cyhoeddwyd 18/10/2022   |   Amser darllen munudau

Mae “Oherwydd bod pob llais yn cyfrif” yn ymadrodd y byddwch yn ei weld ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewrop (EESC).).

Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewrop yw sefydliad cymdeithas sifil yr UE. Mae 329 o aelodau ar y Pwyllgor sy’n cynrychioli busnesau, gweithwyr a buddiannau eraill y trydydd sector, o ffermio a’r amgylchedd i addysg a hawliau dynol. Ei rôl yw sicrhau bod llais cymdeithas sifil yr UE yn cael ei glywed wrth galon y broses o wneud penderfyniadau yn Ewrop.

Cyn i’r DU ymadael â’r UE, roedd sefydliadau o bob rhan o’r DU, gan gynnwys Cymru, yn aelodau o’r sefydliad. Ar ôl iddi ymadael â’r UE mae'r Pwyllgor EESC wedi sefydlu Pwyllgor Dilynol yr UE-y DU. Gwaith y Pwyllgor hwn yw monitro sut mae telerau'r berthynas rhwng y DU a'r UE yn effeithio ar gymdeithas sifil, a chynnal cysylltiadau rhwng lleisiau cymdeithas sifil yn yr UE a'r DU.

Ar 18-19 Hydref, bydd y Senedd, ynghyd â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Canolfan Llywodraethiant Cymru yn croesawu dirprwyaeth o bwyllgor y DU Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewrop (EESC) fel rhan o'i daith yn y DU. Byddant yn cyfarfod ag amrywiaeth o sefydliadau Cymreig ac Aelodau o’r Senedd, gan gynnwys y Llywydd a’r Dirprwy Lywydd. Cynhelir trafodaethau ar sut mae cysylltiadau rhwng y DU a’r UE yn effeithio ar fywydau bob dydd dinasyddion Cymru a’r UE.

Beth fydd yn cael ei drafod?

Er bod bron i ddwy flynedd ers i’r DU a’r UE gytuno ar sut y byddent yn cydweithredu ar ôl Brexit, mae anghytundebau rhwng y ddwy ochr yn parhau’n flaenllaw yn y penawdau. O fewn y tensiynau lefel uchel hyn mae busnesau, gweithwyr a sefydliadau cymdeithas sifil eraill yn parhau i geisio datrys beth yw’r goblygiadau iddynt hwy yn ymarferol, beth yw'r heriau a pha atebion cyffredin y gellir eu canfod.

Bydd y trafodaethau’n canolbwyntio ar faterion sy’n gysylltiedig â’r cwestiynau hyn, gan gynnwys hawliau dinasyddion a Phrotocol Gogledd Iwerddon, ynghyd â chyfleoedd i ddatblygu o ran cydweithredu ar ôl Brexit.

Y Cytundeb Ymadael

Roedd y Cytundeb Ymadael yn pennu’r telerau ar gyfer ymadawiad y DU â'r UE. Daeth i rym ar 1 Chwefror 2020 ond nid yw wedi’i roi ar waith yn llawn eto. Mae’n cynnwys Protocol Gogledd Iwerddon a sefydlodd drefniadau newydd ar gyfer ffin tir y DU a’r UE rhwng Gogledd Iwerddon ac Iwerddon. Mae hefyd yn cynnwys trefniadau ar gyfer diogelu hawliau dinasyddion sy'n byw yn nhiriogaethau ei gilydd.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein gwe dudalen bwrpasol ar y Cytundeb Ymadael.

Y Cytundeb Masnach a Chydweithredu

Mae’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu (TCA) yn sefydlu’r berthynas rhwng y DU a’r UE ar ôl i’r DU ymadael â’r UE. Mae'n cynnwys cydweithredu mewn nifer o feysydd y mae Llywodraeth Cymru a’r Senedd â chyfrifoldeb amdanynt, fel pysgodfeydd, ffermio, iechyd a’r amgylchedd.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein gwe dudalen bwrpasol ar y Cytundeb Masnach a Chydweithredu.

Cysylltiadau rhwng y DU a’r UE yn y Senedd

Ers dechrau’r Chweched Senedd, mae cysylltiadau rhwng y DU a’r UE wedi cael lle amlwg yng ngwaith pedwar o bwyllgorau’r Senedd yn ogystal â chael eu prif ffrydio ar draws pwyllgorau eraill. Bydd Aelodau o’r Senedd yn trafod y gwaith hwn gyda’r ddirprwyaeth o Bwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewrop (EESC).

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Mae’r Pwyllgor yn craffu ar drefniadau llywodraethu’r cytundebau rhwng y DU a’r UE. Mae wedi herio Llywodraeth Cymru i wella tryloywder ei rôl yn y cytundebau a’r ffordd y mae’n ymdrin â nhw, o ystyried eu “pwysigrwydd a’r diddordeb sylweddol” ynddynt o ran rhanddeiliaid.

Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Cysylltiadau Rhyngwladol a Chwaraeon

Mae'r Pwyllgor hwn yn gyfrifol am graffu ar gysylltiadau rhyngwladol, gan gynnwys strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer ymgysylltu ag Ewrop. Mae’r Pwyllgor wedi clywed tystiolaeth ynghylch lleihad o ran cyfleoedd ymgysylltu ar gyfer sefydliadau cymdeithas sifil Cymru â chymheiriaid yn yr UE ar ôl Brexit.

Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol

Mae'r Pwyllgor wedi dewis monitro Cynllun Setliad yr UE (EUSS) yng Nghymru ac mae’n cyflwyno adroddiadau yn rheolaidd i'r Senedd. Cyhoeddodd ei adroddiad blynyddol cyntaf yn ddiweddar a oedd yn manylu ar ei bryderon am ddinasyddion Ewropeaidd sy’n ceisio aros yng Nghymru, gan gynnwys Iwcraniaid sy’n ffoi o’r rhyfel.

Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig

Mae’r Pwyllgor hwn yn craffu ar gytundebau masnach rhyngwladol, gan gynnwys cytundebau rhwng y DU a’r UE. Bu’n ystyried materion yn ymwneud â pharodrwydd porthladdoedd Cymru ar gyfer trefniadau ffiniau newydd, mynediad at raglen ymchwil yr UE, sef Horizon, a goblygiadau economaidd perthnasoedd masnachu newydd y tu allan i'r UE.

Sicrhau bod lleisiau'n cael eu clywed

Bydd Pwyllgor EESC y DU yn llunio adroddiad ar weithrediad y Cytundeb Ymadael gan ddefnyddio tystiolaeth a safbwyntiau a gasglwyd yn ystod ei ymweliadau. Bydd yr adroddiad yn cael ei rannu â sefydliadau'r UE a'i gyhoeddi.

Er gwaethaf eu gwahaniaethau, roedd y DU a’r UE ar yr un donfedd pan wnaethant gytuno y dylai mewnbwn cymdeithas sifil fod yn nodwedd o’r cydweithredu rhyngddynt ar ôl Brexit. 

Mae’r trafodaethau hyn, sydd wrth galon democratiaeth Cymru, yn cynnig cyfle pwysig i’r lleisiau hynny gael eu clywed.


Erthygl gan Nia Moss a Sara Moran, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru