Mae’r erthygl hon yn rhan o’n casgliad 'Beth fydd nesaf? Materion o bwys i’r Chweched Senedd'.
A yw gwasanaethau llywodraeth leol wedi cyrraedd pwynt tyngedfennol? Ar ôl degawd o gyni, a phandemig yn dilyn hynny, beth fydd natur gwasanaethau yn y dyfodol?
Mae'r pwysau ariannol sydd wedi bod ar lywodraeth leol dros y degawd diwethaf wedi bod yn gatalydd ar gyfer newid, o ran y modd y caiff gwasanaethau lleol eu darparu. Wrth i awdurdodau lleol weld eu costau yn cynyddu a’u hincwm yn lleihau, maent wedi cwtogi rhai gwasanaethau ac wedi penderfynu darparu gwasanaethau eraill mewn modd gwahanol.
Mae'r pandemig wedi arwain at lu o alwadau newydd ar lywodraeth leol, gan waethygu'r pwysau a oedd eisoes yn bodoli. Mae ansicrwydd ynghylch dyfodol gwasanaethau llywodraeth leol, a bydd natur yr ymateb i'r heriau sy’n dod i’r amlwg yn llywio'r gwasanaethau hynny yn y blynyddoedd i ddod.
Sut mae gwariant ar wasanaethau lleol wedi newid?
Mae gwasanaethau awdurdodau lleol wedi newid yn sylweddol dros y degawd diwethaf.
Er bod gwariant cyffredinol gan awdurdodau lleol wedi gostwng oddeutu 7 y cant ers 2013-14 (mewn termau real), mae gwariant ar wasanaethau cymdeithasol wedi cynyddu dros 10 y cant. Mae gwariant wedi cael ei dorri ym mwyafrif y meysydd gwasanaeth eraill, gan gynnwys ym maes addysg. Mae gwasanaethau cynllunio a datblygu economaidd wedi cael eu taro’n galed; felly hefyd llyfrgelloedd, diwylliant, treftadaeth, chwaraeon a hamdden.
Newid canrannol yng ngwariant awdurdodau lleol ar wasanaethau, 2013-14* i 2019-20 (prisiau 2019-20)
Ffynhonnell: StatsCymru - Gwariant alldro refeniw, yn ôl gwasanaeth, a Datchwyddwyr Cynnyrch Mewnladol Crynswth (GDP) (Mawrth 2021)
*Defnyddir 2013-14 fel llinell sylfaen yn sgil newidiadau i’r broses o gasglu data sy'n golygu bod cymariaethau â blynyddoedd blaenorol yn llai cyson.
Gyda'i gilydd, roedd gwariant ar wasanaethau cymdeithasol ac addysg yn cynrychioli dros ddwy ran o dair o gyfanswm y gwariant ar wasanaethau gan y 22 awdurdod lleol yn 2019-20.
Newid yng ngwariant awdurdodau lleol, 2013-14 i 2019-20 (prisiau 2019-20)
Ffynhonnell: StatsCymru - Gwariant alldro refeniw, yn ôl gwasanaeth, Datchwyddwyr Cynnyrch Mewnladol Crynswth (GDP) (Mawrth 2021)
Serch hynny, er bod gwasanaethau cymdeithasol wedi cael eu diogelu rhag y gostyngiadau gwariant mwyaf difrifol, ni fydd hyn yn ddigon i sicrhau eu cynaliadwyedd ar gyfer y dyfodol. Canfu adroddiad yn 2017 gan raglen Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025 y canlynol:
…spending through local authorities on social care for the over 65s is not keeping pace with the growth in the population of older people. Spending may need to have increased by at least £129 million (23%) between 2015-16 and 2020-21 to get back to the equivalent spend per-head in 2009-10.
Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn amcangyfrif y bydd cynnydd o tua 60,000 (neu 1.9 y cant) ym mhoblogaeth Cymru rhwng 2021 a 2031. O fewn y twf hwnnw, amcangyfrifir y bydd cyfran y bobl hŷn yn y boblogaeth yn cynyddu. Disgwylir cynnydd o tua 119,000 (neu 17 y cant) yn y boblogaeth dros 65 oed.
Yn ôl Dadansoddi Cyllid Cymru, er nad oes modd cysylltu'r galw am ofal yn y dyfodol â thwf yn y boblogaeth hŷn, mae’r twf a ragwelir yn nifer y bobl hŷn sydd ag anghenion gofal cymhleth yn debygol iawn o arwain at bwysau cynyddol ar wasanaethau gofal. Mae'r sefydliad yn nodi bod disgwyl i nifer yr oedolion hŷn sy'n byw gyda dementia difrifol ddyblu i 53,700 erbyn 2040. Mae’r grŵp rhyng-weinidogol ar dalu am ofal cymdeithasol wedi amcangyfrif y gallai’r costau net o ddarparu gofal cymdeithasol, mewn senario 'cost uchel', gynyddu oddeutu £400 miliwn rhwng 2019-20 a 2022-23.
Mae Dadansoddi Cyllid Cymru yn rhagweld y gallai gwasanaethau cymdeithasol ac ysgolion gyfrif am 76 y cant o holl bwysau gwariant llywodraeth leol erbyn 2025-26 (gwasanaethau cymdeithasol – 55 y cant, ysgolion – 21 y cant).
Dibyniaeth gynyddol ar y dreth gyngor?
Mae’r modd y mae awdurdodau lleol yn cael cyllid i'w wario ar wasanaethau hefyd wedi newid. Bu gostyngiad yn y cyllid grant a ddarperir i awdurdodau lleol dros y cyfnod rhwng 2013-14 a 2019-20. Mae’r sefyllfa hon wedi cael ei lliniaru i ryw raddau gan drethi lleol. Er bod cyllid grant yn parhau i gynrychioli’r rhan fwyafrif o incwm awdurdodau lleol, roedd y swm a gasglwyd o drethdalwyr y dreth gyngor (ac eithrio cyllid ar gyfer cynllun budd-daliadau/gostyngiadau’r dreth gyngor) wedi cynyddu bron 30 y cant dros yr un cyfnod.
Mae'r cynnydd cyffredinol yn adlewyrchu codiadau blynyddol yn y dreth gyngor a delir gan breswylwyr dros y cyfnod dan sylw. Mae’r dreth gyngor gyfartalog ym mand D (ac eithrio'r elfen heddlu) wedi cynyddu £186 mewn termau real.
Fodd bynnag, mae awdurdodau lleol wedi rhybuddio'n gyson na fydd cynyddu’r dreth gyngor, ynddo’i hun, yn ddigonol i lenwi’r bylchau cyllid a fydd yn dod i’r amlwg yn y dyfodol. Er gwaethaf yr hwb a roddwyd yn ddiweddar i gyllid llywodraeth leol, mae arwyddion posibl o ansicrwydd ar y gorwel.
Yn sgil Cyllideb y DU ar gyfer 2021, nododd Dadansoddi Cyllid Cymru fod cynlluniau gwariant Llywodraeth y DU yn y tymor canolig yn creu rhagolwg mwy heriol ar gyfer cyllideb a gwasanaethau cyhoeddus Cymru. Nododd y sefydliad ei bod yn bosibl y byddai rhannau o gyllideb Cymru yn dychwelyd i gyfnod o gyni.
Mae’n debygol y bydd effeithiau ariannol y pandemig ar lywodraeth leol yn cael eu teimlo am nifer o flynyddoedd. Mae Archwilio Cymru yn nodi bod gorwariannau sylweddol i’w gweld mewn rhai gwasanaethau sy’n ymateb i’r galw amdanynt, fel gwasanaethau cymdeithasol, hyd yn oed ymhlith awdurdodau lleol a gyflawnodd warged cyllidebol yn 2018-19. Mae'n awgrymu bod y pwysau hynny'n debygol o ddwysáu o ganlyniad i’r pandemig.
Gwella gwasanaethau cyhoeddus: newid diwylliannol
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae llywodraeth leol wedi dechrau’r broses o drawsnewid sut mae'n darparu gwasanaethau. Mae awdurdodau lleol wedi mabwysiadu meddylfryd gwahanol o ran sut i wella gwasanaethau ar gyfer defnyddwyr, a sut i leihau’r gost o’u darparu. Enghraifft o’r broses hon yw’r defnydd o 'siopau un stop' neu 'hybiau'. Mae'r 'hybiau' hyn yn dwyn ynghyd nifer o wasanaethau a ddarperir gan gynghorau o dan yr un to, fel llyfrgelloedd, gwasanaethau cyngor ariannol a gwasanaethau dysgu i oedolion.
Un o’r agweddau mwyaf pwysig ar y rhaglen drawsnewid hon yw gwella’r defnydd o dechnoleg ac offer digidol. Sefydlodd Llywodraeth flaenorol Cymru gronfa trawsnewid digidol ar gyfer llywodraeth leol “er mwyn canfod a chynyddu'r cyfleoedd i ddatblygu trawsnewid digidol mewn llywodraeth leol yng Nghymru.” Mae Strategaeth Ddigidol Cymru, a gafodd ei lansio ym mis Mawrth 2021, yn gam arall ar y daith hon. Mae'n cynnwys gweledigaeth genedlaethol ar gyfer trawsnewid digidol, ac yn ceisio ysgogi newid diwylliannol o ran y modd y mae cyrff cyhoeddus yn darparu ac yn moderneiddio gwasanaethau, fel eu bod yn seiliedig ar anghenion defnyddwyr.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae adnoddau awdurdodau lleol wedi cael eu dargyfeirio, i ryw raddau, o'r gwaith trawsnewidiol hwn. Mae’r arbedion ariannol a ragwelir yn llai sicr. Awgrymodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn ddiweddar fod amheuon bellach ynghylch pryd y byddai rhai o’r arbedion hynny yn cael eu gwireddu, os o gwbl.
Ac eto, mae enghreifftiau wedi dod i’r amlwg ynghylch sut mae'r pandemig wedi sbarduno newid digidol ar draws llywodraeth leol:
- sefydlu tîm awtistiaeth rhithwir ar gyfer Cymru gyfan, sy'n cynnwys gweithwyr proffesiynol a phobl ag awtistiaeth;
- datblygu apiau symudol ym maes cymorth cymunedol er mwyn cydlynu gwaith gwirfoddol; a
- datblygu llwyfannau rhithwir ar gyfer dysgu a chyflawni, a hynny er mwyn ymgysylltu â phobl ifanc, eu haddysgu a’u cefnogi, ac er mwyn rhoi gwybodaeth iddynt.
Mae'n debygol y bydd y gwaith o ddatblygu meysydd o arfer da ac arloesi digidol yn un o flaenoriaethau'r Gweinidog nesaf sydd â chyfrifoldeb dros lywodraeth leol.
Beth nesaf i lywodraeth leol?
Yn sgil pasio Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, mae gan awdurdodau lleol ddulliau a phwerau newydd ar gyfer ymdrin â rhai o'r heriau niferus sy'n wynebu'r sector.
Er enghraifft, mae Llywodraeth Cymru yn awgrymu bod y pŵer cymhwysedd cyffredinol yn y Ddeddf yn galluogi awdurdodau lleol i ystyried dulliau mwy trawsnewidiol o ddarparu gwasanaethau. Mae'r Ddeddf hefyd yn gosod y sylfaen ar gyfer sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforedig, sef cyrff y bwriedir iddynt hwyluso mwy o weithio a chydweithio rhanbarthol mewn meysydd fel addysg a thrafnidiaeth.
Erys cwestiynau, fodd bynnag, ynghylch sut y bydd y cyrff newydd hyn yn gweithredu. Roedd yr ymatebion a gafwyd i ymgynghoriad a gynhaliwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth flaenorol Cymru ar y Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn dangos bod ansicrwydd o hyd ynghylch sut y byddant yn gweithredu, ac ynghylch eu costau a'u buddion cysylltiedig.
Er gwaethaf y cynnydd a welwyd yn ddiweddar yn y setliad llywodraeth leol ar gyfer y flwyddyn nesaf, a'r cymorth ariannol sylweddol a ddarparwyd mewn ymateb i'r pandemig, mae heriau sylweddol yn parhau i fodoli. Yn ôl Dadansoddi Cyllid ymru, Cer mwyn cwrdd â phwysau o ran costau dros y blynyddoedd nesaf, bydd angen i'r gwariant arfaethedig ar wasanaethau lleol gynyddu 3.4 y cant y flwyddyn, ar gyfartaledd, (mewn termau arian parod) rhwng 2020-21 a 2025-26.
Yn ddiweddar, dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru y gallai’r pwysau craidd – hynny yw, y bwlch ariannol rhwng yr arian sy'n dod i mewn a'r hyn sy'n ofynnol er mwyn talu am wasanaethau – fod mor uchel ag £822 miliwn erbyn 2023-24. Ni fydd dull o ddibynnu ar drethi lleol, fel y dreth gyngor, i gefnogi gwasanaethau allweddol fel gofal cymdeithasol ac addysg, yn lleddfu’r galw am y gwasanaethau hynny na’r gost o’u darparu.
Serch hynny, mae’r heriau sydd wedi dod i’r amlwg yn y 12 mis diwethaf hefyd wedi esgor ar gyfleoedd. Mae llywodraeth leol wedi addasu'n gyflym i ffyrdd newydd o weithio, gan ddefnyddio dulliau digidol i ddarparu gwasanaethau gwell, sy’n fwy ymatebol i anghenion defnyddwyr. Bydd cynnal y momentwm hwn, ac unrhyw fuddsoddiadau cysylltiedig, yn rhan hanfodol o sicrhau adferiad yn y blynyddoedd i ddod.
Erthygl gan Osian Bowyer ac Owen Holzinger, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru