Niwsans statudol

Cyhoeddwyd 24/01/2022   |   Amser darllen munudau

Gall niwsans effeithio’n andwyol ar fwynhad o eiddo, neu achosi risg i iechyd. O dan yr amgylchiadau hyn gallai hyn fod yn ‘niwsans statudol’.

Rhaid i awdurdod lleol archwilio ei ardal am niwsans statudol posibl, ymchwilio i gwynion am niwsans statudol sy’n cael eu gwneud gan bobl sy’n byw yn ei ardal, a chymryd camau i geisio datrys niwsans statudol.

Mae’r papur briffio hwn yn egluro beth sy’n cyfrif fel niwsans statudol, ffyrdd o ddatrys niwsans statudol, a chyfreithiau eraill sy’n berthnasol i fathau penodol o niwsans.


Erthygl gan Will Skinner, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Will Skinner gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol, a alluogodd i’r Erthygl Ymchwil hon gael ei chwblhau.