Mae niwclear newydd yn dod i Gymru. Ym mis Tachwedd 2025, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y bydd Wylfa ar Ynys Môn yn gartref i orsaf ynni newydd a fydd yn cynnwys adweithyddion modiwlar bach (adweithyddion SMR) cyntaf y DU, sef math newydd o dechnoleg niwclear. Hon fydd yr orsaf niwclear newydd gyntaf yng Nghymru ers dros hanner canrif.
Uchelgais Llywodraeth y DU yw y bydd adweithyddion Wylfa yn cysylltu â'r grid erbyn canol y 2030au. Mae'r erthygl hon yn ystyried gorffennol diweddar Wylfa, yn edrych ar oblygiadau'r cyhoeddiad newydd, ac yn trafod beth allai ddigwydd nesaf.
Hen Wylfa a Wylfa Newydd
Roedd gorsaf ynni niwclear wreiddiol Wylfa yn cynhyrchu trydan o 1971 tan iddi gau yn 2015.
Yn 2012, prynodd Hitachi safle Wylfa gyda’r bwriad o godi gorsaf ynni newydd, o'r enw ‘Wylfa Newydd’, ar dir cyfagos. Penderfynodd Hitachi beidio â bwrw ymlaen â’r cynlluniau hyn yn 2020 ar ôl methu â dod i gytundeb â Llywodraeth y DU ynghylch costau adeiladu ymlaen llaw.
Prynwyd safle Wylfa gan Lywodraeth ddiwethaf y DU yn 2024, ac yn ddiweddarach fe’i clustnododd fel “dewis cyntaf o ran safle ar gyfer gorsaf bŵer niwclear gigawat fawr”.
Amserlen datblygiadau niwclear yn y gorffennol a'r dyfodol yn Wylfa

Ffynhonnell: Ymchwil y Senedd
Ynni niwclear mewn grid carbon isel
Er nad oes yr un orsaf ynni niwclear newydd yn y DU wedi dod ar-lein ers 1995, mae Llywodraeth y DU yn gweld ynni niwclear fel opsiwn carbon isel ar gyfer darparu ynni llwyth sylfaenol mewn grid trydan sy'n dibynnu ar ynni adnewyddadwy yn bennaf.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn y gorffennol wedi mynegi cefnogaeth i brosiectau niwclear newydd yn nau safle niwclear presennol (ac anweithredol ar hyn o bryd) Cymru – Wylfa a Thrawsfynydd. Roedd wedi hybu gwaith i ailddatblygu Trawsfynydd drwy Gwmni Egino, ond cyhoeddodd yn ddiweddar y byddai'r cwmni'n cael ei ddiddymu erbyn mis Ebrill 2026.
Yn 2024, pasiodd y Senedd gynnig yn cefnogi:
…swyddogaeth ynni niwclear ochr yn ochr ag ynni adnewyddadwy yng nghynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer trawsnewid gwyrdd a theg i economi carbon isel, gan sicrhau bod yr holl ynni newydd a gynhyrchir yng Nghymru yn ynni allyriadau sero.
Adweithyddion modiwlar bach
Mae adweithyddion SMR yn dechnoleg newydd – hyd yma, dim ond yn Rwsia a Tsieina maen nhw’n weithredol. Mae pob un o'r pum safle niwclear sifil sy’n weithredol ar hyn o bryd yn y DU yn orsafoedd ‘gigawat’ ar raddfa fawr, ac felly hefyd ddau brosiect sydd ar y gweill: Hinkley Point C a Sizewell C. Fodd bynnag, mae oedi a chostau cynyddol ar brosiectau niwclear newydd ar raddfa fawr wedi peri i lywodraethau droi eu sylw at adweithyddion SMR fel opsiwn niwclear a allai fod yn fwy hyblyg.
Bwriedir i adweithyddion SMR gael eu masgynhyrchu mewn ffatrïoedd, eu cydosod yn ôl dyluniad safonol, a'u cludo i’r mannau lle cânt eu defnyddio. Mae ganddynt ôl troed llai nag adweithyddion ar raddfa fawr ac maent yn defnyddio tanwydd mwy coeth nag adweithyddion confensiynol, er mwyn cynyddu effeithlonrwydd adweithiau niwclear.
Yn ei Hadolygiad o Wariant ar gyfer 2025, cyhoeddodd Llywodraeth y DU fuddsoddiad o £2.5 biliwn i ddatblygu adweithyddion SMR. Ym mis Mehefin, dewisodd Rolls-Royce fel y cynigydd yr oedd yn ei ffafrio i adeiladu adweithyddion SMR cyntaf y DU.
Wylfa i gynnal hyd at wyth adweithydd SMR
Ar 13 Tachwedd 2025, cyhoeddodd Gweinidog Ynni y DU, Michael Shanks AS, mai Wylfa fyddai’r safle cyntaf yn y DU i ddefnyddio adweithyddion SMR. Dywedodd:
The initial project will see the construction of up to three Rolls-Royce SMR units, with GBE-N [Great British Energy – Nuclear] assessing the site to have the potential to host up to 8 units, although this would be subject to future policy and funding decisions.
Dywedodd y byddai’r gwaith yn Wylfa yn creu hyd at 3,000 o swyddi newydd sgiliau uchel ar anterth y gwaith adeiladu. Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y prosiect yn cynnig “buddsoddiad cychwynnol o £2.5bn yn y Gogledd-orllewin”.
Pe baent yn cael eu hadeiladu yn unol â chapasiti datganedig Rolls-Royce (470MWe), byddai pob adweithydd SMR yn cynhyrchu digon i gyflenwi trydan i'r hyn sy'n cyfateb i tua 1 miliwn o gartrefi. Gorsaf ynni Wylfa gyda thri adweithydd SMR fyddai’r orsaf ynni fwyaf ond un yng Nghymru, y tu ôl i orsaf ynni nwy Penfro. Gorsaf gydag wyth adweithydd SMR fyddai’r orsaf ynni fwyaf yng Nghymru o bell ffordd. Mae'r tabl isod yn cymharu graddfa prosiectau ynni mawr presennol ac arfaethedig yng Nghymru.
Tabl: Cymhariaeth o gapasiti prosiectau ynni mawr yng Nghymru
|
Prosiect |
Capasiti (MWe) |
Nodiadau |
|
Hyd at 3,760 |
Hyd at wyth adweithydd SMR Rolls Royce 470MW |
|
|
O leiaf 3,100 |
Dau Adweithydd Dŵr Berwedig Uwch |
|
|
2,181 |
Yr orsaf ynni fwyaf sy'n cael ei phweru gan nwy yng Nghymru |
|
|
Hyd at 1,410 |
Hyd at dri adweithydd SMR Roll Royce 470MW |
|
|
1,000 |
Dau adweithydd Magnox |
|
|
576 |
Fferm wynt weithredol fwyf Cymru |
Ddiwrnod cyn i brosiect Wylfa gael ei gyhoeddi'n swyddogol, beirniadodd Warren Stephens, Llysgennad yr Unol Daleithiau i'r DU, y penderfyniad i fwrw ymlaen ag adweithyddion SMR yn hytrach na phrosiect niwclear newydd ar raddfa fawr. Dywedodd Gweinidog Ynni y DU wrth Dŷ’r Cyffredin fod adweithyddion SMR wedi'u dewis yn hytrach na phrosiect ar raddfa fawr oherwydd y cyllid a oedd ar gael a’r amseru.
Rheoleiddio, trwyddedu, a chaniatâd cynllunio
Ar hyn o bryd, mae angen tair cymeradwyaeth allweddol ar orsafoedd ynni niwclear newydd yng Nghymru cyn y gall unrhyw waith adeiladu ddechrau:
- trwyddedu’r safle a’r cydsyniad perthnasol gan y Swyddfa Rheoleiddio Niwclear (ONR);
- trwyddedau amgylcheddol gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC);
- caniatâd cynllunio gan yr awdurdod perthnasol, sy'n dibynnu ar faint y prosiect.
Gall cwmnïau hefyd ddewis cyflwyno dyluniad eu hadweithyddion i broses Asesiad Dylunio Generig (GDA), sy'n caniatáu asesiad ymlaen llaw o’r effeithiau o ran diogelwch, diogeledd a’r amgylchedd. Mae dyluniad adweithyddion SMR Rolls-Royce ar hyn o bryd yng ngham olaf y broses GDA, y disgwylir iddi ddod i ben erbyn mis Rhagfyr 2026.
Mae gan Wylfa eisoes drwydded safle niwclear, am na ddisgwylir i’r hen orsaf ynni gael ei datgomisiynu’n derfynol tan 2070-2115. Fodd bynnag, mae'r ONR yn dweud ei bod yn debygol y bydd angen aildrwyddedu gosodiadau newydd a gwaith i ehangu’r safle – mae'n dweud y gall penderfyniadau aildrwyddedu gymryd rhwng ychydig fisoedd ac ymhell dros flwyddyn, yn dibynnu ar gymhlethdod y prosiect.
CNC, fel rheoleiddiwr amgylcheddol Cymru, sy'n gyfrifol am drwyddedu gweithgareddau a allai effeithio ar yr amgylchedd. Mae hyn yn cynnwys unrhyw lygredd i ddŵr, y tir neu’r aer; a thynnu dŵr daear. Mae tudalen bwrpasol CNC ar y we yn ymdrin â'i rôl o ran rheoleiddio safleoedd niwclear, gan gynnwys rhan CNC yn y broses GDA a gwaredu gwastraff niwclear.
Mae'n debygol y bydd gan orsaf ynni newydd Wylfa gapasiti uwchlaw 350MW, sy'n golygu y byddai cydsyniad cynllunio ar gyfer y prosiect yn cael ei benderfynu drwy broses Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIP) Llywodraeth y DU, yn hytrach na gan Lywodraeth Cymru.
Efallai bod newidiadau i’r drefn reoleiddio ar y gorwel
Mae'n debygol y gallai'r fframwaith rheoleiddio presennol ar gyfer ynni niwclear newid – dywedodd adolygiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth y DU a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2025 fod methiant systematig yn y fframwaith. Roedd 47 argymhelliad yr adolygiad yn cynnwys sefydlu un corff rheoleiddio a fyddai’n gwneud penderfyniadau; safon ‘goddefgarwch risg’ wedi’i diffinio gan y llywodraeth; a symleiddio proses gydsynio NSIP Llywodraeth y DU. Ar adeg ysgrifennu’r erthygl hon, nid yw Llywodraeth y DU wedi ymateb i'r argymhellion hyn eto.
Gallai ‘Partneriaeth yr Iwerydd ar gyfer Ynni Niwclear Uwch’ rhwng y DU ac UDA, y cytunwyd arni’n ddiweddar, hefyd effeithio ar reoleiddio yn y dyfodol. Ei nod yw cyflymu gwaith adeiladu gorsafoedd niwclear drwy gynyddu cydnabyddiaeth gilyddol rhwng rheoleiddwyr niwclear y gwledydd.
Sut y bydd prosiect Wylfa yn cael ei ariannu?
Yn dilyn newid deddfwriaethol yn 2022, gall prosiectau niwclear fel prosiect SMR Wylfa ddefnyddio model ariannu Sylfaen Asedau Reoleiddiedig (RAB). Mae model RAB yn caniatáu i gwmnïau godi pris rheoleiddiedig ar bob cwsmer yn eu biliau ynni i gefnogi costau cyfalaf adeiladu prosiectau niwclear. Byddai tâl o'r fath yn cael ei reoli gan y rheoleiddiwr ynni Ofgem.
Y camau nesaf
Er bod prosiect Wylfa wedi’i gymeradwyo, mae ffordd bell i fynd cyn i'w adweithyddion SMR gynhyrchu unrhyw ynni. I gael rhagor o wybodaeth am ynni niwclear yng Nghymru, gan gynnwys datblygiadau yn Nhrawsfynydd a Llynfi; storio gwastraff peryglus, sy’n fater nad yw wedi’i ddatrys; a phwerau datganoledig perthnasol ynghylch sgiliau ac addysg; gweler ein papur briffio ar ynni niwclear a gyhoeddwyd yn 2025.
Erthygl gan Dr Matthew Sutton, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru