Nid yw safonau gofynnol yn ddigon, yn ôl Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Cyhoeddwyd 17/03/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Erthygl gan Amy Clifton, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) sy’n gyfrifol am arolygu gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymdeithasol i sicrhau eu bod yn ddiogel ar gyfer y bobl sy’n eu defnyddio. Bydd adroddiad blynyddol diweddaraf AGGCC (ar gyfer 2013-14) yn cael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn y prynhawn yma.

Mae arolygiadau AGGCC bellach yn canolbwyntio ar bedair thema ansawdd:

  • Ansawdd Bywyd
  • Ansawdd yr Amgylchedd
  • Ansawdd Arweinyddiaeth
  • Rheoli staff ac ansawdd staff.

Mae AGGCC yn nodi bod 85% o ofal i oedolion a 96% o ofal plant a arolygwyd wedi bodloni’r safonau gofynnol yn ystod 2013-14. Daeth prif arolygydd AGGCC i’r casgliad a ganlyn:

Er inni ganfod bod y mwyafrif o ofal yn dda yng Nghymru, nid yw safonau gofynnol yn ddigon a rhaid inni ganolbwyntio ar roi cymorth i bob sector er mwyn iddynt ragori.

Yn ystod y cyfnod hwnnw, cyflwynodd AGGCC 1,303 hysbysiad o ddiffyg cydymffurfio (hynny yw, rhybudd bod gwasanaeth yn mynd yn groes i reoliadau) i 343 o wasanaethau, a nodwyd 57 o wasanaethau yn ‘wasanaethau sy’n peri pryder’ (lle mae angen gweithredu ar frys i ddiogelu ac amddiffyn llesiant defnyddwyr gwasanaethau). Mae AGGCC yn dweud ei bod wedi gweithio gyda’r gwasanaethau i gymryd camau unioni, a bod y rhan fwyaf ohonynt (68%) wedi gwneud gwelliannau parhaol. Ar 31 Mawrth 2014, roedd 26 o wasanaethau yn parhau i fod yn ‘wasanaethau sy’n peri pryder’.

Table 1 Amy wel

Ffynhonnell: Adroddiad Blynyddol AGGCC ar gyfer 2013-14

Mae’r adroddiad yn nodi bod methiannau mewn arweinyddiaeth a rheolaeth yn cael eu hamlygu ar draws pob math o wasanaethau pan mae diffyg cydymffurfio difrifol yn cael ei nodi.

Mae ansawdd bywyd yn nodwedd arbennig o ddiffyg cydymffurfio mewn gwasanaethau gofal preswyl i oedolion. Caiff problemau gydag asesiadau, cynllunio gofal, maeth a hydradu a rhoi meddyginiaeth eu nodi.

Pryderon a godwyd

Pie Chart Wel Amy

Ffynhonnell: Adroddiad Blynyddol AGGCC ar gyfer 2013-14

Mae nifer y pryderon a gyfeirir at AGGCC wedi dyblu ers yr adroddiad blynyddol diwethaf. Yn ystod 2013-14 ymatebodd AGGCC i 2,170 o bryderon a godwyd gan bobl eraill, a arweiniodd hyn at 284 o arolygiadau ychwanegol.

Roedd y mwyafrif helaeth o’r pryderon hynny (tua 85%) yn ymwneud â gwasanaethau i oedolion. Cafodd y rhan fwyaf o’r pryderon eu codi gan weithwyr proffesiynol (52%), gyda pherthnasau, ffrindiau neu eiriolwyr yn ail (20%), staff yn drydydd (10%) a defnyddwyr gwasanaeth yn olaf (5%).

Mae AGGCC yn nodi mai mewn cartrefi gofal i oedolion… y ceir yr heriau mwyaf lle mae’r gwasanaethau yn fwy cymhleth, lefelau angen yn uchel a’r risgiau a gyflwynir yn fwy. Roedd y data a gasglwyd gan AGGCC ar gyfer adolygiad y Comisiynydd Pobl Hŷn o gartrefi gofal yn dangos bod cartrefi nyrsio ar gyfer pobl hŷn yn fwy tebygol o lawer o fod yn destun pryderon a dderbynnir, wynebu mwy o risg neu gael problemau wrth gydymffurfio.

Adolygiad Cenedlaethol o Gomisiynu ar Gyfer Gofal Cymdeithasol yng Nghymru 2014

Cynhaliodd AGGCC adolygiad i ganfod i ba raddau y mae awdurdodau lleol yn llwyddo wrth gomisiynu gofal cymdeithasol yng Nghymru, gan gynnwys gwasanaethau gofal dementia. Y canfyddiad oedd:

Canfu’r adolygiad bod angen i awdurdodau lleol a byrddau iechyd wneud newidiadau sylweddol i’r modd y maent yn cynllunio ac yn comisiynu gwasanaethau i bobl â dementia.

Fframwaith Dyfarnu Ansawdd

Yng Ngwanwyn 2014, treialodd AGGCC Fframwaith Dyfarnu Ansawdd mewn 43 o leoliadau gofal dydd i blant. Defnyddiwyd y Fframwaith Arsylwi Byr ar gyfer Arolygiadau yn rhan o’r fethodoleg i lunio barn ar bob un o’r pedair thema: (Ansawdd bywyd, ansawdd staffio, ansawdd arweinyddiaeth ac ansawdd yr amgylchedd). Cafodd pedair ‘barn’ AGGCC eu nodi yn erbyn tri band ar gyfer y peilot: da, boddhaol a gwael. Cynhaliodd Brifysgol De Cymru werthusiad annibynnol o’r peilot (Saesneg yn unig).

I ddatblygu’r gwaith hwn, mae AGGCC yn bwriadu cynnal cynllun peilot mewn cartrefi gofal i oedolion yn 2015. Cyfeirir at gynlluniau peilot fframwaith dyfarnu ansawdd AGGCC ym Memorandwm Esboniadol y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) a gyflwynwyd fis diwethaf. Ar hyn o bryd, mae’r Bil yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru gyflwyno graddau arolygu newydd ar ansawdd gwasanaethau (drwy reoliadau).

Sylwer: Lansiodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gynllun peilot newydd, Think About Me: Good Care Guide, yng Nghasnewydd yr wythnos diwethaf. Nod y canllaw newydd hwn, sy’n debyg i "Trip Advisor", yw helpu i breswylwyr mewn cartrefi gofal a’u teuluoedd i ymchwilio i ansawdd cartrefi a’u hadolygu arlein. Cafodd ei ddatblygu gan y Good Care Guide gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Phartneriaeth Gwyddorau Iechyd Academaidd De Ddwyrain Cymru. Bydd yn cael ei dreialu ledled Gwent i ddechrau, ond mae’n bosibl y bydd yn cael ei gyflwyno’n fwy eang os yw’n llwyddiannus.

Adolygiad yn y dyfodol

Dywed AGGCC ei bod yn bwriadu gweithio gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i gynnal adolygiad o gefnogaeth a gwasanaethau i bobl ag anableddau dysgu, gan dynnu ar ganfyddiadau ynghylch Winterbourne View (hynny yw, yr achosion o gam-drin oedolion ag anableddau dysgu yng nghartref Winterbourne View, ger Bryste, a gafodd eu nodi gan raglen Panorama ar y BBC).

View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg