Newidiadau i sgrinio serfigol

Cyhoeddwyd 16/09/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

16 Medi 2013 Mae adroddiad a gyhoeddwyd gan Sgrinio Serfigol Cymru yn dangos y byddai cyfraddau canser 3.6 gwaith yn uwch heb raglen sgrinio.Tan yn ddiweddar, roedd menywod rhwng 20 a 64 oed yn cael gwahoddiad ar gyfer sgrinio serfigol bob tair blynedd.  Fodd bynnag, o 1 Medi 2013 ymlaen, ni wahoddir menywod a aned ar 1 Medi 1993 neu’n ddiweddarach am brawf ceg y groth cyn iddynt gyrraedd eu 25 oed, a gwahoddir menywod rhwng 50 a 64 oed bob pum mlynedd yn hytrach na phob tair.Daeth astudiaeth reoledig a gyhoeddwyd yn 2003 i’r casgliad bod sgrinio’n llai effeithiol i fenywod ifanc. Am fod newidiadau yn y celloedd a ganfuwyd mewn llawer o fenywod wedi gwella ohonynt eu hunain, roedd pryderon y gallai sgrinio arwain at driniaethau di-angen, a all fod yn ffactor mewn achosion diweddarach o enedigaethau cynamserol. Casglodd yr astudiaeth hefyd y gall sgrinio menywod rhwng 50 a 64 oed bob pum mlynedd eu diogelu mewn modd tebyg i’r hyn a gynigir gan sgrinio bob tair blynedd. Dewisodd Gogledd Iwerddon yr un polisi yn 2011. Ym mis Tachwedd 2012, yn sgîl cais gan Bwyllgor Sgrinio Cymru am lunio polisi penderfynol ar gyfer Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU (Pwyllgor y DU), cyhoeddodd Pwyllgor y DU adroddiad yn argymell:
  • Codi’r oedran ar gyfer y gwahoddiad cyntaf ar gyfer sgrinio serfigol i 25 yng Nghymru a’r Alban ar y sail mai cymharol fychan yw’r buddiannau i’r nifer fawr o fenywod sy’n cael eu sgrinio a’u trin o dan yr oedran hwn.
  • Sgrinio menywod rhwng 50 a 64 oed bob pum mlynedd.
Ym mis Ionawr 2013, dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd, Lesley Griffiths AC, fod Pwyllgor Sgrinio Cymru wedi ystyried argymhellion Pwyllgor y DU a’u cymeradwyo, ac y byddai’r newidiadau hyn yn cael eu rhoi ar waith o 1 Medi 2013 ymlaen. Ceir gwybodaeth bellach am y newidiadau hyn ar wefan Sgrinio Serfigol Cymru, gan gynnwys taflen wybodaeth a gynhyrchwyd ganddynt am y newidiadau o ran oedran ac amlder ar gyfer sgrinio serfigol. Ceir gwybodaeth bellach hefyd yn Atal a sgrinio am ganser yng Nghymru a gyhoeddwyd gan y Gwasanaeth Ymchwil. Erthygl  gan Victoria Paris.