Newidiadau i brofion COVID-19: Pwy, ble, a pham?

Cyhoeddwyd 21/04/2022   |   Amser darllen munudau

Daeth profion asymptomatig rheolaidd i’r cyhoedd i ben yng Nghymru ar 31 Mawrth 2022.

Wrth i Lywodraeth Cymru fynd ar drywydd ei strategaeth 'byw ochr yn ochr â COVID-19', efallai bod Aelodau o’r Senedd yn cael ymholiadau gan etholwyr, yn meddwl tybed pwy sydd bellach yn gymwys i gael profion am ddim ac o dan ba amgylchiadau, sut i gael mynediad atynt, a beth yw’r rhesymeg y tu ôl i newid y polisi.

Mae ein herthygl yn rhoi canllaw cyflym i'r newidiadau a lincs i’r canllawiau perthnasol.

Pwy all gael eu profi?

Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru’r canllawiau ynghylch pwy sy’n gymwys i gael prawf COVID-19.

O 1 Ebrill 2022, nid yw pobl heb symptomau COVID-19 (sy'n asymptomatig) yn gallu archebu profion llif unffordd mwyach na’u cael o fferyllfeydd. Mae pob safle profi PCR i’r cyhoedd bellach wedi’u cau. Bellach, gallwch chi archebu profion llif unffordd dim ond os yw unrhyw un o'r canlynol yn gymwys:

  • os oes gennych symptomau COVID-19 (peswch parhaus newydd, gwres uchel, colli/newid i synnwyr arogli neu flasu);
  • os yw eich meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol yn gofyn i chi gymryd prawf;
  • os oes gennych COVID-19 a’ch bod eisiau gwirio a yw canlyniad eich prawf yn bositif o hyd ar ôl diwrnod pump;
  • os oes meddyg neu arbenigwr wedi dweud eich bod yn gymwys i gael triniaethau COVID-19 newydd (i gleifion sydd mewn mwy o berygl o COVID-19);
  • os ydych chi'n mynd i ymweld â rhywun sy'n gymwys ar gyfer triniaethau COVID-19 newydd.

O dan yr amgylchiadau hyn, mae modd archebu profion ar-lein neu drwy ffonio 119 (rhif rhad ac am ddim yw hwn, sydd ar agor bob dydd rhwng 7am ac 11pm). Mae pecynnau prawf ‘fel arfer yn cyrraedd o fewn 3 diwrnod’, ond ‘gallai hyn gymryd mwy o amser yn ystod cyfnodau prysur neu wyliau’.

Nid yw bellach yn ofyniad cyfreithiol i bobl â COVID-19 a'u cysylltiadau hunan-ynysu, ond mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn argymell hyn. Bydd y taliad o £500 i gefnogi pobl sydd angen hunanynysu yn parhau i fod ar gael tan ddiwedd mis Mehefin.

Darpariaeth addysg arbennig

Nid yw profion rheolaidd yn cael eu hargymell mwyach i staff ym mhob lleoliad addysg a gofal plant (nac i bob dysgwr o oed ysgol uwchradd), ond mae profion yn parhau i gael eu hannog i staff a dysgwyr oed ysgol uwchradd mewn darpariaeth addysg arbennig.

Caiff staff mewn lleoliadau addysg arbennig sy’n datblygu symptomau COVID-19 eu cynghori i ynysu, a gallant gael mynediad at brofion PCR, sy’n cael eu trefnu drwy fyrddau iechyd lleol.

Staff iechyd a gofal

Y cyngor o hyd yw i bob aelod o staff iechyd a gofal cymdeithasol sy'n ymdrin â’r cyhoedd gymryd profion asymptomatig rheolaidd, gydag ‘argymhelliad cryf’ iddynt gymryd prawf llif unffordd ddwywaith yr wythnos. Gall staff archebu profion llif unffordd drwy eu cyflogwr.

Caiff staff iechyd a gofal sydd â symptomau COVID-19 eu cynghori i hunan-ynysu a threfnu prawf PCR drwy eu cyflogwr.

Gofalwyr di-dâl

Fel y nodir yn y ‘cynllun pontio gofal cymdeithasol’ diweddar gan Lywodraeth Cymru, bydd gofalwyr di-dâl sy'n gofalu am unigolion sy'n agored i niwed yn glinigol hefyd yn gallu cael mynediad at brofion llif unffordd drwy eu hawdurdodau lleol.

Ymwelwyr â chartrefi gofal

Mae Llywodraeth Cymru yn cynghori y dylai ymwelwyr â chartrefi gofal gymryd prawf llif unffordd (a dangos tystiolaeth o ganlyniad negyddol) yn y 24 awr cyn yr ymweliad. Dylai cartrefi gofal sicrhau bod profion ar gael i ymwelwyr eu cymryd eu hunain oddi ar y safle, gan nad yw’r rhain bellach ar gael yn hawdd i aelodau o’r cyhoedd drwy ffyrdd eraill.

Torri’n ôl ar Brofi, Olrhain, Diogelu

Mae strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer byw ochr yn ochr â COVID-19 yn disgrifio “dull graddol” o gwtogi ar y trefniadau profi, olrhain a diogelu. Mae’r amserlenni dangosol yn awgrymu ar ddiwedd mis Mehefin:

  • na fydd profion llif unffordd ar gael mwyach ar gyfer profion symptomatig;
  • bydd y canllawiau ar hunan-ynysu yn cael ei newid i gyngor ynghylch cymryd rhagofalon ychwanegol yn ystod salwch (ee aros gartref lle bo modd); a
  • bydd olrhain cysylltiadau rheolaidd yn dod i ben.

Mae Llywodraeth Cymru yn disgrifio’r dull hwn fel un sy’n gymesur â’r risg barhaus, ac yn un sy’n golygu bod modd ailgyfeirio adnoddau. Bydd y ffocws wrth symud ymlaen ar “ddiogelu’r rheini sydd fwyaf agored i niwed a thargedu ein hymdrechion, yn hytrach na cheisio ymyrryd ar draws y boblogaeth gyfan”. Mae hyn yn cynnwys y canlynol:

  • diogelu’r rheini sy’n agored i niwed rhag clefyd difrifol;
  • cynnal y capasiti i ymateb i frigiadau o achosion yn lleol ac mewn lleoliadau risg uchel;
  • cadw systemau gwyliadwriaeth effeithiol ar waith i nodi unrhyw fygythiadau, e.e. yn sgil amrywiolion niweidiol; a
  • pharatoi ar gyfer dychweliad posibl y feirws.

Dywed Llywodraeth Cymru y bydd yn cadw'r seilwaith angenrheidiol fel bod modd ailddechrau profion ar raddfa yn ôl yr angen o dan unrhyw senario 'COVID Brys'.


Erthygl gan Philippa Watkins, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru