Mynd i'r afael ag "argyfwng iechyd cyhoeddus" - Y camau nesaf yn y gwaith o wella ansawdd aer yng Nghymru

Cyhoeddwyd 04/12/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ar 5 Rhagfyr, bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal dadl ynghylch ansawdd aer yng Nghymru. Yn dilyn cydweithrediad rhwng Coleg Brenhinol y Meddygon a Lancet Countdown cyhoeddwyd ymchwil newydd ar lygredd yn y DU ym mis Hydref a dangosodd hwn fod 44 o ddinasoedd y DU yn torri canllawiau ansawdd aer Sefydliad Iechyd y Byd (WHO). Yng Nghymru, roedd llygredd aer yng Nghaerdydd, Abertawe, Port Talbot, Casnewydd, Cas-gwent a Wrecsam i gyd yn uwch na’r lefelau a gymeradwyir. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi disgrifio llygredd aer fel "argyfwng iechyd cyhoeddus", gan ddweud mai dyma’r argyfwng iechyd cyhoeddus mwyaf, ac eithrio ysmygu, sy’n ein hwynebu, a’i fod yn fwy o bryder na gordewdra ac alcohol.

Yn ôl un o gyhoeddiadau diweddar eraill Coleg Brenhinol y Meddygol, mae cynifer â 1,300 o bobl yn marw’n gynamserol bob blwyddyn yng Nghymru oherwydd eu bod wedi anadlu aer llygredig. Drwy’r DU, amcangyfrifir mai 40,000 yw’r ffigur a bod y broblem yn costio £27 biliwn y flwyddyn. Mae'r broblem mor ddifrifol erbyn hyn, mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi cyhoeddi adroddiad sy’n awgrymu bod llygredd aer byd-eang yn fwy o fygythiad na HIV ac Ebola.

Tagfeydd ar yr M4, Cymru Mae Cymru yn cyfrannu cryn dipyn at y llygredd hwn. Yn ôl bob tebyg, ar ffordd yng Nghaerffili y cofnodir y lefelau uchaf o nitrogen deuocsid (NO 2 ) ond un yn y DU. Credir mai hon yw’r ffordd fwyaf llygredig y tu allan i Lundain, a chofnodwyd bod y lefelau NO 2 arni uwchlaw’r lefelau a gymeradwyir ar 60 achlysur yn 2016; 42 gwaith mwy na’r hyn a ganiateir o dan ddeddfwriaeth yr UE.

Caiff NO 2 ei gynhyrchu gan bob peiriant tanio mewnol, er mai peiriannau disel yw'r gwaethaf. Gall y nwy effeithio ar y llwybrau anadlu a’r llygaid. Mae hefyd yn ffyrnigo cyflyrau resbiradol fel asthma.

Strategaeth ansawdd aer y DU

Hyd yn hyn, y prif arf a ddefnyddir yn y DU i fynd i’r afael â llygredd aer yw ' Strategaeth Ansawdd Aer y DU’. Cyhoeddwyd y strategaeth yn 2007 ac roedd yn cynnwys amcanion i fodloni a chynnal rhai safonau ansawdd aer penodol. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r strategaeth wedi’i beirniadu oherwydd nad yw’n ddigon effeithiol ac, o ganlyniad, penderfynodd Pwyllgor Dethol yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig gyhoeddi adolygiad 40 tudalen o’r mesurau. Roedd y ddogfen yn feirniadol o’r ffordd roedd DEFRA yn ymdrin â’r broblem gan ddweud bod y Gymdeithas Llywodraeth Leol yn credu nad oedd DEFRA yn gwneud hynny mewn ffordd “gydlynus, drawslywodraethol".

Ym mis Mai, cyhoeddodd DEFRA strategaeth ddrafft newydd ar ansawdd aer. Yn y ddogfen, a greodd dipyn o stwr pan gollodd Llywodraeth y DU achos yn yr uchel lys i ohirio dyddiad ei gyhoeddi. Ar ôl cyhoeddi’r strategaeth ddrafft, cyhoeddodd Llywodraeth y DU yr Air quality plan for tackling roadside nitrogen dioxide concentrations ddiwedd mis Gorffennaf.

Cynllun Ansawdd Aer y DU ar gyfer nitrogen deuocsid

Mae'r cynllun yn cynnwys camau i'w cyflwyno ledled y DU, gan ganolbwyntio ar fynd i'r afael ag NO 2 sy’n crynhoi ar rai ffyrdd.

Mae ansawdd aer yn gymhwysedd datganoledig, a gall deddfwriaeth fel Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) roi hwb i’r ymdrechion i ddatrys problem llygredd aer. Mae'r Ddeddf, sy'n annog cyrff cyhoeddus i wneud penderfyniadau cynaliadwy yn unol â nodau llesiant, yn cynnwys asesiadau o lesiant lleol a dangosydd i fesur llygredd NO 2 yn yr aer.

Mae'r rhan honno o’r cynllun sy’n ymdrin yn benodol â Chymru yn cyfeirio’n uniongyrchol at egwyddorion y Ddeddf;

Poor air quality has fundamental impacts on human health, affecting both the quality and duration of peoples’ lives, the quality of their lived environments and the resilience of their communities. It also has implications for equality of access to a healthy living environment. Reducing levels of air pollution within legislative limits in the soonest possible time will contribute, either directly or through associated impacts, to the Well-being Goals.

Yn y cynllun, amlinellwyd ymgynghoriad newydd gan Lywodraeth Cymru. Caiff yr ymgynghoriad ei gynnal yn ystod y 12 mis nesaf, a bydd yn cynnig 'Fframwaith Ardal Aer Glân i Gymru'. Un o'r cynigion a amlinellwyd yn y cynllun yw y dylid creu Ardal Aer Glân, a chyfyngu mynediad i gerbydau yng Nghaerdydd, a byddai hyn yn cael ei weithredu yn 2021 neu ynghynt.

Mesurau sydd ar waith yng Nghymru ar hyn o bryd

Bydd y 'Fframwaith Ardal Aer Glân' arfaethedig yn adeiladu ar amrywiaeth o fesurau sydd eisoes ar waith yng Nghymru, gan gynnwys monitro amser real ac chofnodi ansawdd aer.

Caiff y mesurau hyn yn eu rhoi ar waith gan awdurdodau lleol yn bennaf a hynny drwy system 'Rheoli Ansawdd Aer Lleol' (LAQM). Mae Llywodraeth Cymru wedi paratoi dogfennau canllaw i gyd-fynd â’r LAQM ac maent yn cynnwys targedau llygredd a gwybodaeth am baratoi cynlluniau gweithredu.

Caiff y rhain eu seilio ar yr amcanion ansawdd aer statudol a nodir yn Rheoliadau Ansawdd Aer (Cymru) 2000, Rheoliadau Diwygio 2002 a Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer (Cymru) 2010 sydd wedi'u seilio i raddau helaeth ar amcanion ansawdd aer yr UE.

Er mwyn cyflawni'r amcanion hyn, mae awdurdodau lleol wedi pennu safleoedd monitro ledled Cymru i gofnodi newidiadau yn ansawdd yr aer. Mae'r 22 awdurdod lleol yn aelodau o Fforwm Ansawdd Aer Cymru (WAQF) ac yn cyfrannu at y wybodaeth am ansawdd aer a gesglir gan WAQF. Mae'r fforwm hefyd yn cynnig cyngor ac arbenigedd i helpu awdurdodau lleol i gyrraedd eu targedau llygredd.

Ymgynghoriad Ansawdd Aer Llywodraeth Cymru 2016

Y llynedd, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ynghylch ansawdd aer lleol a chynigiodd nifer o fesurau i symleiddio'r broses Rheoli Ansawdd Aer Lleol, gan gynnwys cofnodi lefelau llygredd aer yn amlach ac i annog awdurdodau lleol i gydweithredu i wella effeithlonrwydd.

Rhan allweddol o'r ymgynghoriad hwn oedd trafodaeth ynghylch ‘Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer '(AQMA) . Y rhain yw’r ardaloedd nad ydynt yn cyrraedd y safon ansawdd aer cenedlaethol. Yn yr ardaloedd hyn, mae'n rhaid i awdurdodau lleol ymgymryd â mesurau arbennig i fonitro a rheoli llygredd. Gwneir hyn gyda chymorth cyngor a threfniadau rheoli Cyfoeth Naturiol Cymru. Un o argymhellion yr ymgynghoriad oedd y dylai bod yn haws i awdurdodau fedru datgan AQMA er mwyn medru rhoi mesurau ar waith yn brydlon ac yn effeithiol.

Mae Cynllun Ansawdd Aer y DU ar gyfer nitrogen deuocsid yn rhestru nifer o gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i’w cymryd yn dilyn yr ymgynghoriad. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Symleiddio'r broses AQMA;
  • Rhoi canllawiau newydd i awdurdodau lleol, gan bwysleisio’r prif fuddion iechyd cyhoeddus sy’n deillio o leihau llygredd aer mewn modd integredig;
  • Diwygio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i ychwanegu ansawdd aer at y rhestr o bethau y dylai Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus eu hystyried wrth baratoi asesiadau o lesiant lleol;
  • Adolygu polisi a chanllawiau cynllunio cenedlaethol mewn perthynas ag ansawdd aer; a
  • Gweithio gyda rhanddeiliaid i lansio ymgyrch addysgol ar ansawdd aer i weithwyr iechyd proffesiynol a'r cyhoedd.

Erthygl gan Chloe Corbyn, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Llun o Flickr gan Paul Townsend. Dan drwydded Creative Commons