Mynd i’r afael â phroblemau difrifol yn GIG Cymru: beth yw’r trefniadau ar gyfer gwella?

Cyhoeddwyd 12/04/2022   |   Amser darllen munudau

Mae pedwar o'r saith bwrdd iechyd lleol yng Nghymru yn destun trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd ar hyn o bryd. Mae hyn yn golygu y bu’n rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd mwy o reolaeth mewn ymateb i bryderon am berfformiad neu faterion penodol eraill. Mae llawer o'r materion yn rhagflaenu'r pandemig, ond mae pwysau'r ddwy flynedd ddiwethaf wedi gwaethygu ambell un ohonynt. Mae Fframwaith Uwchgyfeirio ac Ymyrryd GIG Cymru yn ei le i gefnogi gwelliant o ran ansawdd a diogelwch gwasanaethau, i sicrhau bod gan sefydliadau'r GIG drefniadau llywodraethu priodol ar waith ac i helpu i gynyddu hyder y cyhoedd yn eu gwasanaethau iechyd lleol lle mae problemau neu fethiannau wedi'u nodi.

Mae’r erthygl hon yn amlinellu trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd presennol GIG Cymru.

Trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd GIG Cymru

Ym mis Mawrth 2014, cafodd y trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd ar y cyd gan GIG Cymru (‘y trefniadau’) eu lansio. O dan y rhain, mae 'Partneriaeth Deirochrog' sy’n cynnwys Llywodraeth Cymru, Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn (neu’n amlach os bydd pryderon difrifol yn codi) i rannu gwybodaeth a thrafod sefyllfa gyffredinol pob bwrdd iechyd, sy'n darparu gwasanaethau iechyd i'w poblogaeth leol, ac Ymddiriedolaethau'r GIG, sy'n rheoli gwasanaethau Cymru gyfan neu wasanaethau arbenigol.

Yn seiliedig ar y trafodaethau hynny, mae Cyfarwyddwr Cyffredinol GIG Cymru wedyn yn gwneud argymhellion i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch lefelau uwchgyfeirio y gwahanol fyrddau iechyd ac Ymddiriedolaethau'r GIG.

Nod y gwaith ar y cyd hwn yw cefnogi GIG Cymru i:

  • fynd i’r afael â phryderon ynghylch darparu gwasanaethau, ansawdd gwasanaethau, a diogelwch gofal, ac effeithiolrwydd sefydliadol;
  • sicrhau bod materion a all fod yn ddifrifol yn cael eu nodi cyn gynted â phosibl, a hynny gan sicrhau ymateb effeithiol iddynt hefyd; a
  • chyflawni’r gwelliant gofynnol fel bod corff y GIG yn dychwelyd i drefniadau arferol cyn gynted â phosibl.

Mae’r trefniadau hyn yn ymwneud â materion ar lefel sefydliadol, ac nid ydynt wedi’u dylunio i ymateb i gwynion unigol, yr ymdrinnir â hwy drwy weithdrefn gwynion bresennol y GIG, sef Gweithio i Wella .

Beth yw'r lefelau uwchgyfeirio?

Ceir pedair lefel uwchgyfeirio sy’n berthnasol i sefydliadau GIG Cymru:

  1. Trefniadau arferol: mae hyn i bob pwrpas yn golygu busnes fel arfer
  2. Monitro uwch: ymateb rhagweithiol a arweinir gan gorff y GIG i roi prosesu effeithiol ar waith i ysgogi gwelliant. Caiff yr ymateb hwn ei fonitro’n agos, ei herio, a’i adolygu gan Lywodraeth Cymru a chyrff adolygu allanol
  3. Ymyrraeth wedi'i thargedu: camau gweithredu cydgysylltiedig a/neu unochrog i gryfhau capasiti a gallu corff y GIG i ysgogi gwelliannau
  4. Mesurau arbennig: mesurau a nodir pan fo angen newid sylweddol yn y trefniadau presennol. Caiff Gweinidogion Cymru ymyrryd fel y nodir yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006

Mae’r map rhyngweithiol isod yn dangos y statws uwchgyfeirio diweddaraf a gyhoeddwyd ar gyfer cyrff GIG Cymru, sef y statws ar 11 Chwefror 2022.

Statws uwchgyfeirio byrddau iechyd yng Nghymru

 

Ffynhonnell: Tystiolaeth ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru at y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus.

Testun eglurhaol: mae’r ffeithlun yn dangos statws uwchgyfeirio byrddau iechyd Cymru: Aneurin Bevan, trefn arferol; Betsi Cadwaladr, ymyrraeth wedi'i thargedu; Caerdydd a'r Fro, trefn arferol; Cwm Taf Morgannwg, mesurau arbennig ar gyfer mamolaeth ac ymyrraeth wedi'i thargedu ar gyfer ansawdd a llywodraethu; Hywel Dda, monitro uwch ar gyfer rheolaeth ariannol; Powys, trefn arferol; Bae Abertawe, monitro uwch.

Pryd a pham mae angen uwchgyfeirio ac ymyrraeth?

Bydd uwchgyfeirio fel arfer yn digwydd pan fo tystiolaeth yn dangos nad oes gwelliant digonol ac amserol yn digwydd. Gall uwchgyfeirio gwmpasu sefydliad cyfan ond gall hefyd dargedu gwasanaeth unigol fel gwasanaethau mamolaeth, neu faes penodol sy’n peri pryder fel perfformiad ariannol neu amseroedd aros am driniaeth.

Mae byrddau iechyd yng Nghymru wedi’u huwchgyfeirio yn y gorffennol oherwydd ystod eang o bryderon. Er enghraifft, rhoddodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd blaenorol, wasanaethau mamolaeth cyn Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg o dan fesurau arbennig ar ôl i Goleg Brenhinol y Bydwragedd a Choleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr gyhoeddi adroddiad ar y cyd yn nodi methiannau difrifol.

Hefyd, ceir enghreifftiau lle mae byrddau iechyd wedi gallu dangos gwelliant ac felly wedi’u symud i lefel is yn y trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd. Er enghraifft, ym mis Awst 2019, cafodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ei ddad-uwchgyfeirio i drefniadau arferol, yn dilyn gwelliannau mewn perfformiad gwasanaethau a pherfformiad ariannol.

Ym mis Tachwedd 2020, cafodd bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr ei ddad-uwchgyfeirio o fesurau arbennig i ymyrraeth wedi'i thargedu, er bod y fframwaith ymyrraeth wedi'i thargedu ar gyfer y bwrdd iechyd yn dal i gynnwys ystod heriol o feysydd i’w gwella. Dechreuodd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd ymchwiliad ym mis Mawrth 2022 ynghylch trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd, gan ystyried tystiolaeth a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, a’r bwrdd iechyd, i archwilio’r sefyllfa bresennol ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr – a oedd wedi bod yn destun mesurau arbennig ers dros bum mlynedd – a’r cwestiynau ehangach a ganlyn:

  • a yw’r trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd yn addas i’r diben; ac
  • a ydynt wedi cyflawni eu hamcanion.

Yn ôl Cadeirydd bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr,

the Targeted Intervention Framework has afforded the board the opportunity to set a clear trajectory for improvement, which can be evidenced and assessed, both by us and by that Tripartite.

Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi gwaith ymchwil ar gefnogi gwelliannau mewn byrddau iechyd (2019), a amlygodd pa mor werthfawr yw’r her gan gymheiriaid, amcanion clir ac arweinyddiaeth, ond hefyd yr angen i rymuso’r system gyfan, gan gynnwys rheolwyr canol a staff meddygol.

Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yn eu tystiolaeth i’r Pwyllgor, “nid yw'r fframwaith fel y'i drafftiwyd yn glir ynghylch pa ffactorau fyddai'n sbarduno newid yn statws sefydliad”, tueddwyd “i ehangu'r materion a gynhwysir”, ac:

…nid yw cadw sefydliadau mewn Mesurau Arbennig am gyfnod hir yn ddymunol. Po hiraf y bydd sefydliad yn aros ar lefel uwchgyfeirio uchel, po fwyaf y daw hyn y 'norm’.

Mae Llywodraeth Cymru yn nodi ei bod wedi bod yn gweithio gydag Archwilio Cymru, AGIC a byrddau iechyd i adolygu'r trefniadau presennol, gan gydnabod bod yn rhaid adolygu ac adnewyddu'r fframwaith yn ystod y flwyddyn i ddod. Yn amlwg, derbynnir bod lle i wella’r trefniadau presennol. A fydd hyn hefyd yn arwain at welliannau o ran pa mor gyflym ac effeithiol yr ymdrinnir â phryderon mawr o ran darparu gofal iechyd?


Erthygl gan Tracey Rosell, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru