Mewnfudo ar ôl Brexit

Cyhoeddwyd 19/11/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Erthygl wadd yw hon gan Lucy Stone o'r Sefydliad Bevan.

Mae Brexit yn dod â newidiadau uniongyrchol i amrywiaeth o feysydd polisi yn y DU, ac mae’n foment eithriadol o safbwynt polisi mewnfudo. Ym mis Medi, cyhoeddodd y Pwyllgor Cynghori Mudo (MAC) ei adroddiad ar fudo o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd yn y DU. Mae Llywodraeth y DU yng nghanol y trafodaethau Brexit, a disgwylir Papur Gwyn am fewnfudo erbyn diwedd y flwyddyn a allai amlinellu'r newidiadau mwyaf i system fewnfudo'r DU mewn degawdau.

Er mai San Steffan sy'n gyfrifol am bolisi mewnfudo yn y DU, bydd y cynigion o ddiddordeb i gymunedau a sectorau yng Nghymru, yn enwedig y GIG, gofal cymdeithasol, sectorau economaidd a sefydliadau addysg uwch.

Mudo yng Nghymru

Mae Cymru'n dibynnu'n helaeth ar fudo ar gyfer twf ei phoblogaeth, gan gynnwys twf ei phoblogaeth o oedran gweithio.

Rhwng 2016 a 2017, roedd bron 97 y cant o dwf poblogaeth Cymru o ganlyniad i fudo net – 57 y cant yn sgil mudo net mewnol (pobl yn mudo i mewn ac allan o Gymru o'r DU) a 39 y cant yn sgil mudo net rhyngwladol (pobl yn mudo i mewn ac allan o Gymru o'r tu allan i'r DU).

Fel cyfanswm, roedd cynnydd o 12,476 ym mhoblogaeth Cymru, sef 7,386 o bobl o'r DU a 5,090 o bobl o'r tu allan i'r DU.

O'r rhai a ddaeth i Gymru o'r tu allan i'r DU yn 2016, daeth 61 y cant o'r tu allan i'r UE a dim ond 28 y cant o'r UE (roedd 11 y cant arall wedi'u geni yn y DU).

System fewnfudo bresennol y DU

Ar hyn o bryd, mae gan ddinasyddion yr UE hawliau cytuniad i fyw a gweithio yn y DU o dan y drefn rhyddid i symud, a fydd yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2020 ar ôl cyfnod pontio Brexit. Mae dinasyddion o'r tu allan i'r UE sy'n dymuno byw a gweithio yn y DU yn ddarostyngedig i'r rheolau o dan system fewnfudo seiliedig ar bwyntiau y DU, sy'n cynnwys pum haen:

  • Haen 1: ar gyfer unigolion medrus iawn, a all gyfrannu at dwf a chynhyrchiant ac yn cynnwys nifer o wahanol feysydd;
  • Haen 2: ar gyfer gweithwyr medrus â chynnig swydd, er mwyn llenwi bylchau yng ngweithlu'r Deyrnas Unedig, a hefyd yn cynnwys gwahanol feysydd a throthwy cyflog o £30,000 y flwyddyn;
  • Haen 3: ar gyfer nifer gyfyngedig o weithwyr sgiliau isel y mae eu hangen i lenwi bylchau llafur dros dro. Mae'r haen hon ar gau i geisiadau;
  • Haen 4: ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno astudio mewn sefydliad nad yw'n academi, nac yn ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol;
  • Haen 5: ar gyfer gweithwyr dros dro a phobl ifanc o dan y Cynllun Symudedd Ieuenctid, sydd â chaniatâd i weithio yn y DU am gyfnod cyfyngedig.

Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE

Yn achos dinasyddion yr UE sy'n byw yn y DU, mae Llywodraeth y DU wedi datblygu Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE. Yn ôl y Swyddfa Gartref, mae Cynllun Preswylio'n Sefydlog yr UE yn caniatáu i ddinasyddion yr UE sy'n byw yn y DU a'u teuluoedd i barhau i fyw yn y DU yn barhaol. Yn unol â'r Cytundeb Ymadael drafft gyda'r Undeb Ewropeaidd a gyhoeddwyd ym mis Mawrth, mae'r Cynllun Preswylio'n Sefydlog yn golygu:

  • erbyn 31 Rhagfyr 2020, bydd dinasyddion yr UE a'u teuluoedd sydd wedi byw yn y DU am bum mlynedd neu fwy yn gymwys ar gyfer 'statws sefydlog' sy'n eu galluogi i aros yn y DU am gyfnod diderfyn;
  • bydd dinasyddion yr UE a'u teuluoedd sy'n cyrraedd erbyn 30 Rhagfyr 2020 ond sydd heb fod yn byw yn barhaus yn y DU am bum mlynedd yn gymwys ar gyfer 'statws cyn-sefydlog', a fydd yn caniatáu iddynt fyw yn y DU am bum mlynedd a gwneud cais am statws sefydlog;
  • bydd gan ddinasyddion yr UE a'u teuluoedd â statws sefydlog neu gyn-sefydlog yr un mynediad at ofal iechyd, pensiynau a budd-daliadau eraill ag yr oedd ganddynt o'r blaen.

Ni fydd hawliau dinasyddion yr UE o dan gyfraith yr UE yn newid cyn 31 Rhagfyr 2020. Disgwylir cyflwyno'r Cynllun Preswylio'n Sefydlog yn llawn erbyn diwedd mis Mawrth 2019, a'r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am statws sefydlog neu gyn-sefydlog i'r rheini sy'n preswylio yn y DU erbyn 31 Rhagfyr 2020 fydd 30 Mehefin 2021. Fodd bynnag, nid yw'r Swyddfa Gartref wedi cadarnhau'n bendant a fydd y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yn newid yn achos Brexit dim bargen.

Y Pwyllgor Cynghori Mudo (MAC)

Ym mis Gorffennaf 2017, comisiynodd Llywodraeth y DU y Pwyllgor Cynghori Mudo (MAC) i adrodd ar batrymau ac effeithiau presennol a thebygol mudo yr Ardal Economaidd Ewropeaidd yn y DU. Ddydd Mawrth 18 Medi 2018, cyhoeddodd y MAC ei adroddiad 'EEA migration in the UK'. Nod yr adroddiad yw bod yn sylfaen dystiolaeth ar gyfer dylunio system fewnfudo newydd ar gyfer y DU ar ôl Brexit.

Canfu adroddiad MAC fod ymfudwyr o'r AEE yn tueddu i gael fawr ddim effaith ar lefelau cyflogaeth, diweithdra a chyflogau'r gweithlu a aned yn y DU. Fodd bynnag, roedd yr effaith fach a ganfuwyd yn dangos tystiolaeth ansicr o effeithiau negyddol ar gyfer gweithwyr sgiliau is.

Hefyd, canfu dystiolaeth fod mewnfudo sgiliau uwch o'r AEE yn cael effaith gadarnhaol ar gynhyrchiant, gyda mudwyr sgiliau uwch yn cael effaith gadarnhaol ar arloesedd. Ond canfuwyd bod ymfudwyr sgiliau is yn cael effeithiau ychydig yn negyddol. Nid oedd unrhyw dystiolaeth hefyd bod mudo yn effeithio ar hyfforddiant ymysg gweithwyr a aned yn y DU.

Canfu'r adroddiad fod dinasyddion a aned yn yr AEE, ar gyfartaledd, yn talu mwy mewn trethi nag y maent yn ei dderbyn mewn budd-daliadau. Maent hefyd yn dueddol o gyfrannu llawer mwy at y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol mewn adnoddau ariannol a thrwy gyflogaeth nag y maent yn ei ddefnyddio mewn gwasanaethau.

Yn olaf, nid oedd unrhyw dystiolaeth bod mudo o'r AEE yn cael effaith ar droseddu na bod y mudo hwnnw wedi lleihau lefel y llesiant goddrychol ar gyfartaledd yn y DU.

Cynigion MAC

Ochr yn ochr â'r gwaith ymchwil newydd, mae adroddiad MAC yn gwneud nifer o gynigion ar gyfer system fewnfudo newydd y DU, sy'n cynnwys:

  • Peidio â rhoi triniaeth ffafriol i ddinasyddion yr AEE, ac ychwanegu dinasyddion AEE at gynllun cyfredol haen 2 y DU;
  • Diddymu'r terfyn fisas haen 2 (sef 20,700 ar hyn o bryd) ac ychwanegu swyddi sgiliau canolig at y cynllun haen 2;
  • Cadw'r trothwy cyflog o £30,000 ledled y DU ar gyfer y cynllun haen 2;
  • Gwrthod llwybr gwaith ar gyfer gweithwyr sgiliau is (ac eithrio'r cynllun gweithwyr amaethyddol tymhorol). Os bydd llwybr ar gyfer gweithwyr mudol sgiliau is, mae'r adroddiad yn argymell ehangu'r cynllun symudedd ieuenctid yn hytrach na defnyddio llwybrau seiliedig ar sectorau dan arweiniad cyflogwyr;
  • Cyfyngu mynediad i fewnfudwyr sydd â chymwysterau islaw lefel 3 ar y fframwaith cymwysterau rheoledig o ran gweithio yn y DU, a
  • Gwrthod cyflwyno mwy o amrywiadau rhanbarthol, yn enwedig trothwyon cyflog is.

Mae'n bwysig ychwanegu bod y cynigion hyn yn canolbwyntio ar system fewnfudo y DU yn y dyfodol os caiff ei gosod ar ei phen ei hun a'i heithrio o'r trafodaethau Brexit. Os caiff mudo o'r AEE ei gynnwys yn y trafodaethau Brexit, gallai edrych yn go wahanol.

Ond beth allai'r cynigion hyn ei olygu i Gymru?

Pe bai argymhellion MAC i gynnwys swyddi sgiliau canolig a chael gwared ar y terfyn ar fisas haen 2 yn cael eu mabwysiadu, byddai'r ystod o swyddi sy'n agored i weithwyr mudol yn ehangu, gan helpu i lenwi rhai swyddi medrus anoddach eu llenwi yng Nghymru. Fodd bynnag, os caiff yr awgrym o gadw'r trothwy cyflog o £30,000 ar gyfer gweithwyr mudol o dan ofynion fisas haen 2 ei weithredu, gallai hyn gael yr effaith i'r gwrthwyneb. Yn 2017, y cyflog gros cyfartalog yng Nghymru ar gyfer gweithwyr llawn amser oedd £26,327, ac mae'r cyflogau ar gyfer rhai swyddi sgiliau canolig i uchel yn is na'r trothwy o £30,000.

Yn ôl adroddiad interim MAC, mae gweithwyr o'r AEE yn gyfran sylweddol o'r gweithlu mewn rhai sectorau sgiliau is yng Nghymru, gan gyfrif am 25.6 y cant o'r gweithlu gweithgynhyrchu gweithlu bwyd a diodydd, a 5.4 y cant o'r gweithlu llety a lletygarwch. Pe bai'r argymhelliad i gyfyngu nifer yr ymfudwyr sgiliau is i'r DU yn cael ei gynnwys yn y system newydd, gallai hyn arwain at brinder gweithwyr yn y sectorau hyn yn y dyfodol.

Safbwynt Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Cyn yr adroddiad MAC, cyhoeddodd Llywodraeth y DU yn y Papur Gwyn Brexit y bydd rhyddid i symud yn dod i ben ar ôl cyfnod pontio Brexit. Ers cyhoeddi'r adroddiad MAC, mae Llywodraeth y DU wedi cymeradwyo rhai o'i gynigion.

Yng nghynhadledd y Blaid Geidwadol yn gynnar ym mis Hydref, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei chynigion ar gyfer un system fewnfudo ar gyfer dinasyddion o'r UE ac o'r tu allan i'r UE sy'n rhoi blaenoriaeth i weithwyr sgiliau uchel ac yn ceisio cyfyngu ar ymfudo sgiliau is.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref, Sajid Javid AS, y byddai'n ystyried cael gwared ar y terfyn presennol ar fisas haen 2 ar gyfer ymfudwyr sgiliau uwch, ac awgrymodd y gellid adolygu'r trothwy cyflog haen 2 o £30,000.

Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cynnig y bydd ymfudwyr sgiliau uchel yn gallu dod â'u teulu uniongyrchol, ond dim ond os oes ganddynt nawdd gan eu darpar gyflogwyr. Fodd bynnag, disgwylir i'r telerau terfynol fod yn ddarostyngedig i'r trafodaethau Brexit ac unrhyw fargeinion masnach yn y dyfodol.

Safbwynt Llywodraeth Cymru

Ym mis Hydref, gwnaeth Llywodraeth Cymru sylw ar y cynlluniau ymfudo ôl-Brexit hyn, gan ddatgan y bydd cynlluniau i gyfyngu ar fewnfudo ar ôl Brexit yn niweidio Cymru. Ar ôl cyfarfod y Cydbwyllgor Gweinidogol yn San Steffan, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford AC:

"I had to set out the reasons why the Welsh Government is fundamentally opposed to the way in which this UK government intends to go about migration, and to explain how their policies would do damage to Welsh businesses, Welsh public services and Welsh universities".

Yn ei phapur yn 2017, 'Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl', galwodd Llywodraeth Cymru am greu cysylltiad rhwng mudo a chyflogaeth, gan gynnal mynediad sylweddol i'r Farchnad Sengl a rhoi ffafriaeth ym maes mewnfudo i wladolion yr AEE.

Nid yw'n cefnogi Llywodraeth y DU o ran lleihau'r niferoedd sy'n ymfudo i gyrraedd y targed o 'ddegau o filoedd', gan honni y byddai'r hyn yn achosi cystadleuaeth o fewn y DU am weithwyr, a allai leihau mewnfudo i ardaloedd y tu allan i dde-ddwyrain Lloegr i ddim i bob pwrpas.

Hefyd, nid oedd papur 2017 yn cefnogi cynllun seiliedig ar sectorau oherwydd na fyddai o fudd i'r sectorau yng Nghymru sy'n dibynnu fwyaf ar weithwyr o'r UE, ond ar yr un pryd nid yw'n ceisio dull gweithredu rhanbarthol neu 'wahanol mewn ardaloedd penodol'. Fodd bynnag, dywedodd, pe na bai dull gweithredu Llywodraeth y DU yn cydnabod anghenion Cymru, “byddai’n well gennym weld dull gweithredu sy’n wahanol mewn ardaloedd penodol, lle byddai gan Lywodraeth Cymru fwy o ran wrth benderfynu sut i reoli mudo i Gymru yn y dyfodol er mwyn sicrhau bod modd i’n prif sectorau, gwasanaethau cyhoeddus a phrifysgolion barhau i recriwtio o Ewrop”.

Mae'r papur hefyd yn nodi “nad oes modd i anghenion neilltuol Cymru... gael eu diwallu’n rhwydd drwy’r drefn swta, drom ar adnoddau sydd ar hyn o bryd yn weithredol ar draws y DU”. Er nad yw MAC yn ffafrio cynlluniau sector-benodol, a bod MAC a Llywodraeth y DU yn dymuno creu cysylltiad rhwng mudo a chyflogaeth, nid yw safbwyntiau cyffredinol MAC a Llywodraeth y DU yn adlewyrchu'r safbwynt y mae Llywodraeth Cymru wedi'i nodi.

Beth sydd nesaf?

Ar hyn o bryd, nid yw'n eglur iawn beth fydd yn digwydd i fudo o'r UE os na fydd bargen ar Brexit. Roedd datganiadau gan y Gweinidog Gwladol dros Fewnfudo, Caroline Nokes AS, yng nghyfarfod y Pwyllgor Materion Cartref ddydd Mawrth 30 Hydref yn awgrymu, os bydd Brexit dim bargen, y bydd rhyddid i symud yn dod i ben ar 29 Mawrth 2019 ac y bydd angen i gyflogwyr weld a oes gan ddinasyddion o'r UE sy'n cyrraedd ar ôl y dyddiad hwnnw yr hawl i weithio yn y DU. Yn ddiweddarach, dywedodd Noakes, "employers will need to check passports or ID cards as they do now for EU citizens and indeed for British citizens when making a new job offer. We will not be asking employers to differentiate, even if there is no deal."

Mae disgwyl i'r Papur Gwyn ynghylch mewnfudo, y mae Llywodraeth y DU ar fin ei gyhoeddi, fynd i'r afael â'r ansicrwydd hwn a materion eraill. Dylai'r Papur Gwyn hwn amlinellu cynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer system fewnfudo newydd ar gyfer y DU ar ôl Brexit, a gallai arwain at un o'r newidiadau mwyaf i system fewnfudo'r DU ers degawdau. Mae'n bosibl credu y bydd y cynlluniau hyn yn ystyried rhai o gynigion MAC ar eu ffurf wreiddiol.

Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi ymrwymo i gyflwyno Bil Mewnfudo yn gynnar y flwyddyn nesaf cyn 29 Mawrth 2019 neu'r 'diwrnod Brexit'. Fodd bynnag, nid yw'n eglur a fydd y Bil Mewnfudo wedi mynd drwy'r Senedd cyn mis Mawrth 2019.


Erthygl gan Lucy Stone, y Sefydliad Bevan