Pentwr o gynwysyddion cludo nwyddau yn y dociau

Pentwr o gynwysyddion cludo nwyddau yn y dociau

Masnach yng Nghymru o dan gytundebau masnach y DU

Cyhoeddwyd 09/11/2026   |   Amser darllen munud

Mae'r papur briffio hwn yn rhoi dadansoddiad newydd o’r newidiadau i fasnach nwyddau Cymru o dan bump o gytundebau masnach y DU ar ôl Brexit sef, â’r UE, Japan, Seland Newydd, Awstralia a bloc masnach y Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel (“CPTPP”).

Er bod pob perthynas fasnachu yn unigryw, daeth themâu cyffredin i'r amlwg sy'n sail i'r prif ganfyddiadau a ganlyn:

Mae swm y nwyddau ffisegol a fasnachir (symiau masnach) â phob un o'r pum partner wedi gostwng ers i'r cytundebau ddod i rym. Dros y cyfnodau a ddadansoddwyd, gostyngodd cyfanswm y fasnach 83.3% â Japan, 75.9% ag Awstralia, 73.7% â bloc masnach y CPTPP, 22.8% â Seland Newydd ac 8.9% â'r UE. Gwelwyd y gostyngiad mwyaf mewn mewnforion o Awstralia i Gymru, a oedd wedi gostwng 98.4% erbyn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2026.

Mae'r darlun yn fwy anghyson o ran newidiadau yng ngwerth masnach rhwng Cymru a'r pum partner. Gall newidiadau o'r fath adlewyrchu amrywiadau yng ngwerth cynhyrchion penodol felly nid ydynt o reidrwydd yn dilyn newidiadau o ran nifer y nwyddau a fasnachir. Cynyddodd gwerthoedd masnach cyffredinol 35.2% â Seland Newydd, 17.1% ag Awstralia, 10.4% â’r UE ac 1.7% â bloc masnach y CPTPP dros y cyfnodau a ddadansoddwyd, ond gwnaethant ostwng 44.7% â Japan.

Er y gellir priodoli gostyngiadau mewn masnach i ffactorau fel dirywiad economaidd byd-eang, llai o alw gan ddefnyddwyr a tharfu ar y gadwyn gyflenwi, mae'r dadansoddiad yn dangos na fu llawer o fanteision i Gymru. Gostyngodd masnach rhwng Cymru a Japan o ran gwerth a swm dros y cyfnod a ddadansoddwyd (44.7% o ran gwerth ac 83.3% o ran swm). Cynyddodd gwerth masnach â’r pedwar partner arall er i symiau masnach ostwng, ond gwelwyd y cynnydd mwyaf ag Awstralia a Seland Newydd, sef y partneriaid masnach lleiaf a drafodir yn y dadansoddiad hwn.

Cynyddodd gwerth masnach rhwng Cymru a'i phartner masnach mwyaf, yr UE, o dan y cytundeb masnach rhwng y DU a'r UE ond ni ddychwelodd y swm i’r lefelau a welwyd cyn Brexit. Dros y cyfnod a ddadansoddwyd, bu gostyngiadau sylweddol o ran swm y nwyddau a fasnachwyd rhwng Cymru a'r UE, hyd at 31.0%. Nid oedd y swm wedi gwella'n llwyr ar ôl pum mlynedd o dan y cytundeb, gan aros tua 8.9% yn is na’r cyfnod cyn i'r DU adael y bloc masnach. Yn y cyfamser, cynyddodd gwerth masnach 10.4% oherwydd cynnydd yng ngwerth mewnforion o’r UE i Gymru.

Ffigur 1: Newidiadau canrannol i werth a swm masnach nwyddau rhwng Cymru a phob partner, o’i gymharu â llinell sylfaen pob partner  

Newidiadau canrannol i werth a swm masnach nwyddau rhwng Cymru a phob partner, o’i gymharu â llinell sylfaen pob partner

Ffynhonnell: Ystadegau Masnach Rhanbarthol (CThEF, 2026). Dadansoddiad Ymchwil y Senedd o gyfnodau cymaradwy o amser cyn ac ar ôl i bob cytundeb ddod i rym (2014-2026).


Erthygl gan Sara Moran, Peter Davies a Josh Jenkins, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru