cy

cy

‘Magu cyhyrau’: Cynulliad Partneriaeth Seneddol y DU a’r UE yn nodi angen hanfodol ar gyfer cydweithredu pellach.

Cyhoeddwyd 24/11/2022   |   Amser darllen munudau

Daeth seneddwyr o'r DU a'r UE at ei gilydd ar 7-8 Tachwedd yn ail gyfarfod fforwm newydd ar gyfer cydweithredu a sefydlwyd o dan y Cytundeb Masnach a Chydweithredu. Mae’n cael ei adnabod fel y Cynulliad Partneriaeth Seneddol.  Mae'r Cynulliad Partneriaeth Seneddol yn chwarae rhan bwysig wrth oruchwylio sut mae'r DU a'r UE yn cynnal eu perthynas newydd ac mae’n rhan o'u fframwaith sefydliadol. 

Cynrychiolwyd y Senedd gan Huw Irranca Davies AS, Cadeirydd Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad y Senedd, a Luke Fletcher AS, aelod o Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig 

Treuliwyd y rhan fwyaf o’r cyfarfod yn trafod Protocol Gogledd Iwerddon ond cytunodd y fforwm hefyd ar argymhelliad ar y cyd yn galw ar y DU a'r UE i ddyfnhau eu cydweithrediad ar ynni er mwyn ymateb i'r argyfwng ynni parhaus ac ymosodiad Rwsia ar Wcráin. 

Dywedodd Huw Irranca-Davies AS wrth y rhai a oedd yn bresennol fod y Cynulliad Partneriaeth Seneddol, wrth fabwysiadu'r argymhelliad, yn "magu ei gyhyrau". 

Trafodwyd meysydd eraill o bwys i Gymru, fel y materion sy'n wynebu artistiaid teithiol, cydweithredu ar ymchwil a datblygu a hawliau dinasyddion.    

Mae pwyllgorau'r Senedd wedi bod yn trafod effeithiau’r materion hyn yng Nghymru dros y 18 mis diwethaf.  

Dod o hyd i ffordd ymlaen ynghylch Gogledd Iwerddon 

Ers i'r Cynulliad Partneriaeth Seneddol gyfarfod ddiwethaf, pasiodd y dyddiad cau ar gyfer ffurfio Gweithrediaeth yng Ngogledd Iwerddon heb i'r DU a'r UE ddod i gytundeb ar sut y dylai Protocol Gogledd Iwerddon weithio'n ymarferol.  

Clywodd y Cynulliad Partneriaeth Seneddol gan Lywodraeth y DU a Chomisiwn yr UE eu bod bellach yn rhan o drafodaethau difrifol am y tro cyntaf ers mis Chwefror 2022 ac wedi ymrwymo i setliad a drafodwyd. Fe wnaeth yr Is-lywydd Šefčovič alw i Fil Protocol Gogledd Iwerddon Llywodraeth y DU gael ei dynnu yn ôl. Dywedodd Leo Doherty, Gweinidog Ewrop y DU, fod y Bil yn mynd yn ei flaen ond na fydd yn cael ei gyflymu.  

Mae pwyllgorau’r Senedd wedi trafod y Bil a’r materion sy’n berthnasol i Gymru. Pleidleisiodd y Senedd i beidio â rhoi cydsyniad ar 22 Tachwedd. 

Materion sy'n bwysig i Gymru a drafodwyd 

Wrth ymgysylltu â dinasyddion a sefydliadau Cymru, mae pwyllgorau’r Senedd a’r Aelodau wedi bod yn edrych ar agweddau ar y berthynas rhwng y DU a’r UE sy’n bwysig yn benodol i Gymru. Yn y Cynulliad Partneriaeth Seneddol, fe wnaeth cynrychiolwyr y Senedd dynnu sylw at y gwaith hwn. 

Hawliau dinasyddion

Cytunodd y Cynulliad Partneriaeth Seneddol i ysgrifennu at Gyngor Partneriaeth y DU a’r UE gyda rhestr o faterion ar hawliau dinasyddion sy'n adlewyrchu rhai o'r pwyntiau a godwyd gan Bwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd. Mae'r Cyngor Partneriaeth yn goruchwylio’r gwaith o weithredu’r holl  gytundebau rhwng y DU a'r UE ar ôl Brexit. 

Mae’r rhestr o faterion yn cynnwys yr hyn a ganlyn: 

  • mae’r ansicrwydd yn parhau ar gyfer dinasyddion yr UE y rhoddwyd statws preswylwyr cyn sefydlu iddynt o dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd; 
  • mae Awdurdod Monitro Annibynnol y DU wedi eirioli’n dda ar gyfer dinasyddion yr UE, ond nid yw'r gefnogaeth i ddinasyddion Prydeinig yn yr UE wedi bod yn gyfwerth â hynny; 
  • dylai’r DU a’r UE ystyried cynllun symudedd y dyfodol ar gyfer pobl ifanc. 
Artistiaid teithiol

Ni wnaeth y DU a’r UE gytuno ar drefniadau ar gyfer symudedd artistiaid teithiol. Mae diffyg cytundeb yn fater difrifol i'r sector diwylliant. Galwodd y Cynulliad Partneriaeth Seneddol ar y DU a'r UE i drafod cytundeb cynhwysfawr i ganiatáu i artistiaid deithio'n rhydd yn yr UE a'r DU ac i gymryd camau yn y cyfamser i leihau'r beichiau a grëwyd gan y rheolau presennol. 

Dywedodd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru wrth Bwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd am y problemau y mae’r sector yn eu hwynebu. 

Rhaglenni’r UE

Cytunwyd ar gyfranogiad y DU yn rhai o raglenni ariannu'r UE yn y Cytundeb Masnach a Chydweithredu ond mae'r cynnydd wedi bod yn araf tra bod yr UE yn cwblhau ei gweithdrefnau mewnol. Mae rhanddeiliaid Cymru yn pryderu'n benodol am gyfranogiad y DU yn Horizon Ewrop, cronfa ymchwil a datblygu'r UE. Yn y Cynulliad Partneriaeth Seneddol, cyhuddodd Llywodraeth y DU yr UE o wleidydda’r mater hwn trwy gysylltu mynediad y DU â'r anghydfod ynghylch Protocol Gogledd Iwerddon. 

Ailadroddodd yr Is-Lywydd Šefčovič farn yr UE fod cysylltiad sylfaenol rhwng gweithredu'r Protocol a’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu. Cwestiynodd pam y byddai'r UE yn ystyried dod i drydydd cytundeb gyda'r DU os nad oedd wedi anrhydeddu telerau'r ddau gytundeb cyntaf yn llawn, gan gyfeirio at y Cytundeb Ymadael ac at y Cytundeb Masnach a Chydweithredu.   

Mae Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd wedi codi pryderon rhanddeiliaid yng Nghymru ynghylch Horizon gyda Llywodraeth Cymru.  

Beth yw rôl y Senedd? 

Fe wnaeth Huw Irranca-Davies AS, Cadeirydd Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad y Senedd, siarad yn y Cynulliad Partneriaeth Seneddol am yr angen ar gyfer ymgysylltu parhaus rhwng y Cynulliad Partneriaeth Seneddol a’r deddfwrfeydd datganoledig. Dywedodd bod y Cytundeb Masnach a Chydweithredu o bwysigrwydd sylfaenol i Gymru a bod y Senedd wedi cymryd ei chyfrifoldebau i'w weithredu o ddifrif. Mae hyn wedi cynnwys cyflwyno trefniadau newydd ar gyfer yr amgylchedd, amaethyddiaeth, pysgodfeydd, diogelwch iechyd a chydweithredu ar ynni, sydd yn faterion datganoledig.  

Dywedodd bod y Senedd wedi cyflawni rhai buddugoliaethau nodedig o'i gwaith cynnar ar faterion yn ymwneud â'r DU a'r UE gan wella tryloywder y wybodaeth sydd ar gael iddi a dinasyddion Cymru.  

Beth sy'n digwydd nesaf? 

Bydd cyfarfod nesaf y Cynulliad Partneriaeth Seneddol yn cael ei gynnal ym Mrwsel yn ystod gwanwyn 2023. Mae wedi ysgrifennu at y DU a'r UE yn nodi ei argymhellion a'i gasgliadau, ac wedi gofyn am ymateb erbyn mis Ionawr 2023. 

Yn ôl y trafodaethau dros y deuddydd, er bod awydd o bob ochr i gael cydweithrediad dyfnach ar lawer o faterion sydd o bwys i Gymru, mae datrys Protocol Gogledd Iwerddon yn parhau i fod yn rhagofyniad ar gyfer symud ymlaen.  


Erthygl gan Nia Moss, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru