Maes Awyr Caerdydd - beth yw'r sefyllfa ddiweddaraf?

Cyhoeddwyd 30/06/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 30/06/2021   |   Amser darllen munud

Mae llawer wedi digwydd ers i ni gyhoeddi cyfres o erthyglau am Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd Cyfyngedig (y Maes Awyr) ddechrau mis Mawrth 2020. Yn fwyaf nodedig, y pandemig byd-eang a arweiniodd at atal teithio rhyngwladol i'r mwyafrif o bobl. Yn yr erthygl hon, rydym yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am berfformiad y Maes Awyr, a'r cymorth ariannol a ddarparwyd iddo gan Lywodraeth Cymru ers iddi ei brynu yn 2013.

Faint o deithwyr a ddefnyddiodd y Maes Awyr yn 2019-20?

Ar ôl amrywio ym mlynyddoedd cynnar perchnogaeth Llywodraeth Cymru, cynyddodd nifer y teithwyr o flwyddyn i flwyddyn o ychydig dros filiwn yn 2014, i bron i 1.6 miliwn yn 2018.

Fe wnaeth 2019-20 fynd yn groes i'r duedd honno, gan ostwng ychydig i 1.58 miliwn o deithwyr, sef gostyngiad o 0.4 y cant o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Roedd y Maes Awyr yn disgwyl cynnydd i 1.66 miliwn o deithwyr. Fodd bynnag, roedd hi'n flwyddyn heriol gyda dau o weithredwyr y Maes Awyr, sef Thomas Cook a Flybe, yn rhoi'r gorau i fasnachu. Ychwanegodd goblygiadau COVID-19 at hyn yn ystod wythnosau olaf y flwyddyn ariannol honno, gyda chyfyngiadau teithio o ganol mis Mawrth 2020.

Beth mae'r cyfrifon diweddaraf yn eu dangos?

Mae cyfrifon diweddaraf y Maes Awyr (Mawrth 2021), yn nodi colled o £23.90 miliwn cyn treth ar gyfer 2019-20. Fodd bynnag, mae hyn £5 miliwn yn fwy o golled na 2018-19. Mae hyn yn parhau tuedd yn ei berfformiad ariannol lle mae’r Maes Awyr wedi gwneud colled cyn treth ym mhob cyfnod ers i Lywodraeth Cymru ei brynu.

Mae'r graff isod yn dangos incwm, gwariant a cholled cyn treth y Maes Awyr rhwng 2012 a 2020.

Graff yn dangos incwm, gwariant ac elw/colled y Maes Awyr ar gyfer pob cyfnod adrodd ariannol rhwng mis Rhagfyr 2012 a mis Mawrth 2020. Mae pob cyfnod yn dangos colled cyn treth yn cynyddu o £4.3 miliwn yn y cyfnod o 15 mis hyd at fis Mawrth 2014 i £6.0 miliwn erbyn y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2018. Mae'r golled yn neidio i £18.5 miliwn yn y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2019 a £23.9 miliwn yn y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2020, gan adlewyrchu 'eitemau eithriadol' mawr neu gostau o £9.5 miliwn a £13.3 miliwn, yn y drefn honno.

Parhaodd y Maes Awyr i dyfu ei incwm, gan gynhyrchu bron i £25 miliwn yn 2019-20, sef bron £4 miliwn yn fwy nag yn 2018-19. Fodd bynnag, fe wnaeth y cynnydd yng ngwariant y Maes Awyr barhau i orbwyso ei incwm.

Gyda'i gilydd, cynyddodd ei wariant (cost ei werthiannau, treuliau gweinyddol a'r llog sy'n daladwy ar ei fenthyciadau) dros £5 miliwn yn 2019-20. Yn ychwanegol at hyn roedd cost 'eitemau eithriadol', sef trafodion sy'n rhan o weithgareddau cyffredin y Maes Awyr ond a gyflwynir ar wahân yn y cyfrifon oherwydd eu maint neu eu hamlder. Roedd y costau hyn yn ymwneud â dileu gwerth hawliau cytundebol sydd gan y Maes Awyr i ddarparu rhai gwasanaethau i sefydliadau eraill (£13.25 miliwn). Fe wnaeth y Maes Awyr ddileu rhywfaint o'u gwerth yn 2018-19.

Gellir defnyddio elw neu golled cyn treth i fesur perfformiad ariannol drwy ystyried holl wariant y sefydliad, gan gynnwys dibrisiant ond nid trethiant.

Mae’r Maes Awyr yn defnyddio dangosydd arall, sef 'enillion cyn llog, treth, dibrisiant ac amorteiddio' (neu 'EBITDA'), wrth gofnodi ei berfformiad ariannol. Mae EBITDA yn addasu elw i gael gwared ar effaith penderfyniadau cyllido a chyfrifyddu sefydliad, e.e. dibrisiant a threthiant. Fe'i gwelir fel ffordd o fesur perfformiad gweithredol sefydliad ac mae llawer o gwmnïau'n ei gofnodi, gan gynnwys rhai meysydd awyr.

Yn 2019-20, roedd gan y Maes Awyr EBITDA negyddol o £691,000 (ac eithrio eitemau eithriadol). Mae hyn yn cymharu ag EBITDA cadarnhaol o £77,000 ar gyfer 2018-19, a dywedodd y Maes Awyr: “Dyma’r tro cyntaf i ganlyniad cadarnhaol gael ei sicrhau mewn wyth mlynedd”.

Sut mae’r pandemig wedi effeithio ar y Maes Awyr?

Yn arwyddocaol - ni wnaeth y Maes Awyr gynnig teithiau awyren masnachol rhwng 27 Mawrth 2020 a Gorffennaf 2020. O ganlyniad i hyn a chyfyngiadau teithio ar ôl hynny, roedd nifer y teithwyr yn 2020 ychydig yn llai na 220,000, sef gostyngiad o 87 y cant ers 2019. Dywedodd yr Awdurdod Hedfan Sifil (CAA) mai dyma oedd y gostyngiad mwyaf yn unrhyw faes awyr yn y DU.

Arhosodd y maes glanio ar agor yn ystod y pandemig. Yn ôl y Maes Awyr, fe wnaethant gefnogi hedfan busnes hanfodol, hediadau meddygol ar gyfer y GIG, a hefyd hediadau hyfforddi. Hefyd, darparodd wasanaethau cludo nwyddau a logisteg, gan gynnwys darparu cyfarpar diogelu personol ar gyfer y GIG yng Nghymru.

Gyda'i derfynfa ar gau, mae'r Maes Awyr wedi bod yn “gweithio'n galed i leihau costau cymaint â phosibl ac i greu ffynonellau refeniw newydd”. Gostyngodd ei lefelau staff i'r “absolute minimum needed”, gan ddefnyddio Cynllun Cadw Swyddi Llywodraeth y DU, gydag ychydig dros hanner tîm y maes awyr i mewn ac allan o’r cynllun ffyrlo o 6 Ebrill 2020. Hefyd, fe ryddhaodd staff ar gontract i helpu gyda chyfleusterau profi ac olrhain awdurdodau lleol, a darparodd rhai diffoddwyr tân wasanaethau yn ysbyty Calon y Ddraig yn Stadiwm y Principality.

Dywedodd y Maes Awyr fod angen cefnogaeth arno wrth i’r diwydiant adfer fel y gall gynnal ei ‘seilwaith cenedlaethol hanfodol a'i rôl economaidd’ yng Nghymru.

Cymorth ariannol Llywodraeth Cymru

Ym mis Ebrill 2020, cyhoeddodd Llywodraeth flaenorol Cymru gymorth ariannol tymor byr ar gyfer y Maes Awyr. Dilynwyd hyn ym mis Mawrth 2021 gyda phecyn cymorth ariannol “yn erbyn cynllun pum mlynedd ar gyfer achub ac ailstrwythuro'r maes awyr”, gyda’r nod o ddod â’r maes awyr “yn ôl i hyfywedd ariannol” mewn oddeutu 6 mlynedd (erbyn 2025/26).

Roedd y pecyn hwn yn cynnwys grant hyd at £42.6 miliwn gyda’r bwriad o alluogi’r Maes Awyr i “ailstrwythuro ei weithrediadau, a sicrhau ei hyfywedd hirdymor”. Byddai hyn yn cael ei ddarparu dros bedair blynedd, gydag £16 miliwn yn cael ei ddyfarnu yn y flwyddyn gyntaf (2021-22).

Hefyd, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddileu £42.6 miliwn o'r benthyciad yr oedd wedi'i roi i'r Maes Awyr, gan adael £26.3 miliwn i’w ad-dalu erbyn 2045, gan ddweud:

Mae'r penderfyniad hwn yn cynyddu'r tebygolrwydd o adennill y benthyciadau mae Llywodraeth Cymru wedi’u buddsoddi, ac yn rhoi'r opsiwn cost oes isaf. Mae'n rhoi'r ffordd orau i Weinidogion Cymru ar gyfer symud ymlaen fel unig gyfranddalwyr y maes awyr o safbwynt masnachol.

Yn olaf, dywedodd Llywodraeth Cymru, o ganlyniad i'r pandemig, fod gan y Maes Awyr bellach “werth marchnad wedi'i ddiddymu o £15m ar gyfer holl asedau'r busnes ar sail y rhannau”. Fe wnaeth hyn arwain at ddileu £46.3m o werth y buddsoddiad.

Mae’r amserlen isod yn dangos buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn y maes awyr, a’i benthyciadau iddo.

Allwedd:

  Buddsoddi a chyfranddaliadau
  Benthyciadau masnachol

 

Mawrth 2013: £52m

Prynu'r Maes Awyr

Mawrth 2013: £3.3m

Buddsoddiad arian parod - wedi'i drosi'n gyfranddaliadau yn ddiweddarach

Tachwedd 2013: £10m

Ar gyfer gwariant cyfalaf

Tachwedd 2014: £13m

Ar gyfer datblygu llwybrau

Mawrth 2017: £15m

Cytundeb benthyciad diwygiedig a gyfunodd y ddyled a sicrhau bod arian ychwanegol ar gael (cyfanswm newydd o £38.2m)

Mawrth 2018: £6m

Prynu cyfranddaliadau ychwanegol

Hydref 2019: £21.2m

Ailgyllido'r cyfleuster benthyciad blaenorol a darparu arian ychwanegol.

Chwefror 2020

Llywodraeth Cymru'n adrodd bod y Maes Awyr wedi gofyn am £28m ond dim ond y ddwy flynedd gyntaf, gwerth £21.2 miliwn, a gymeradwywyd

Chwefror 2021: £71.6m

Llywodraeth Cymru yn cadarnhau cyfanswm gwerth y benthyciad ar adeg y cytundeb newydd (Medi 2019). Mae'n cynnwys y prif fenthyciad o £59.4 miliwn (sy'n cynnwys £38.2 miliwn - Mawrth 2017; a £21.2 miliwn - Hydref 2019), llog sydd wedi cronni (£5.4 miliwn) a'r swm a ofynnwyd amdano gan y Maes Awyr nad yw wedi'i gymeradwyo eto gan Lywodraeth Cymru (£6.8 miliwn).

Mae'r llythyr yn nodi mai'r "cymorth ariannol diweddaraf a gyhoeddwyd ar gyfer Maes Awyr Caerdydd oedd benthyciad brys ar wahân gwerth £4.8 miliwn i helpu’r Maes Awyr i ymdopi â’r pandemig".

Arwyddion cadarnhaol o adfer?

Ym mis Rhagfyr 2020, cyhoeddodd Wizz Air y byddai'n sefydlu canolfan newydd yng Nghaerdydd. Datgelodd rhai cwmnïau hedfan eu cynlluniau ar gyfer llwybrau newydd hefyd – o Gaerdydd i Ddulyn, Belffast a Chaeredin. Er bod hyn yn newyddion da i'r Maes Awyr, fe wnaeth Stobart Air – sef gweithredwr y llwybrau newydd a gynlluniwyd i Ddulyn a Belffast – roi’r gorau i fasnachu ar 11 Mehefin 2021.

O ran llacio cyfyngiadau, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai teithio rhyngwladol yn cael ei ganiatáu o 17 Mai 2021 ar gyfer pobl sy'n byw yng Nghymru.

Nid oes angen i deithwyr sy’n cyrraedd Cymru ynysu na rhoi eu manylion cyswllt a manylion eu taith os ydynt wedi teithio o rywle arall yn y Deyrnas Unedig (Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon) a’r Ardal Deithio Gyffredin (y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw a Gweriniaeth Iwerddon) ac os nad ydynt wedi bod y tu allan i’r Ardal Deithio Gyffredin yn ystod y 10 diwrnod cyn dod i Gymru.

Yn yr un modd â rhannau eraill o'r DU, cyflwynodd Llywodraeth Cymru system oleuadau traffig i bobl sy'n cyrraedd Cymru o wledydd eraill.

Beth fydd goblygiadau hyn i’r Maes Awyr a’i broses adfer?

Ar 24 Mehefin 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru newidiadau i’w chyfyngiadau teithio rhyngwladol, gan ychwanegu rhagor o wledydd a thiriogaethau at y rhestr werdd. Roedd y rhain yn cynnwys lleoliadau yr oedd y Maes Awyr wedi nodi teithwyr iddynt yn 2019-20, fel Barbados, Ynysoedd Baleares a Malta. Fodd bynnag, mae rhai o’i gyrchfannau neu deithiau awyren mwyaf poblogaidd yn parhau i fod ar y rhestr oren [cyrchwyd 28 Mehefin 2021], gan gynnwys ynysoedd Gwlad Groeg, yr Iseldiroedd, tir mawr Sbaen a’r Ynysoedd Dedwydd.

Yn ogystal â’r rheolau ar gyfer teithio dramor o ac i Gymru, mae angen i deithwyr wirio’r gofynion ar ymwelwyr ar gyfer y wlad neu’r diriogaeth y maent am deithio iddi neu drwyddi. Gallai’r rhain gael effaith bosibl ar niferoedd y teithwyr.

Y neges gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yw “dyma’r flwyddyn i gael gwyliau gartref”. Wrth wneud y cyhoeddiad diweddar am newidiadau i’r cyfyngiadau, dywedodd bod Llywodraeth Cymru yn parhau i alw ar bobl i “deithio dramor am resymau hanfodol yn unig”.

O ystyried arweiniad Llywodraeth Cymru, amser a ddengys beth fydd y llacio cyfyngiadau presennol yn ei olygu i'r Maes Awyr a chyflawni ei gynllun achub ac ailstrwythuro.


Erthygl gan Joanne McCarthy a Joe Wilkes, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru