Maes Awyr Caerdydd - a yw’n llwyddo’n ariannol?

Cyhoeddwyd 06/03/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Beth wyddom ni am berfformiad ariannol Maes Awyr Caerdydd ers i Lywodraeth Cymru ei brynu yn 2013? Mae'r erthygl hon yn archwilio’r gwahanol ffactorau a ddefnyddir i fesur perfformiad ariannol y Maes Awyr, ynghyd â dangosyddion o'i effaith economaidd ehangach.

Cewch ragor o wybodaeth am brynu’r Maes Awyr yn ein cyfres ar Faes Awyr Caerdydd. Mae’r erthygl hon yn dilyn yr ail yn y gyfres o erthyglau ar nifer y teithwyr, cyn dadl Llywodraeth Cymru ar 10 Mawrth 2020.

A yw'r Maes Awyr wedi gwneud elw?

Naddo - mae wedi gwneud colled cyn treth ym mhob cyfnod ers i Lywodraeth Cymru ei brynu.

Yn 2018-19, gwnaeth y Maes Awyr golled o £18.5 miliwn, bron dair gwaith mwy na’r golled a wnaed yn 2017-18 (£6.6 miliwn) a mwy na chwe gwaith y golled a wnaed yn 2014-15 (£3.0 miliwn).

Mae'r graff isod yn dangos incwm, gwariant a cholled cyn treth y Maes Awyr rhwng 2012 a 2019.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Ymchwil y Senedd, Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd Cyf, Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr, cyfnodau a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2014, 2014-15, 2015-16, 2016-17, 2017-18 a 2018-19, ar gael gan Tŷ'r Cwmnïau

Pam wnaeth y Maes Awyr golled yn 2018-19?

Gwelwyd cynnydd o oddeutu £3 miliwn yn incwm y Maes Awyr yn 2018-19 (i £20.9 miliwn), o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Gellir priodoli’r rhan fwyaf o'r cynnydd i weithgareddau masnachol y Maes Awyr, gan gynnwys ei refeniw o gonsesiynau manwerthu, siopau di-dreth, bwytai a thaliadau parcio.

Fodd bynnag, mae cyfanswm gwariant y Maes Awyr wedi cynyddu llawer mwy; mae'r golled cyn treth ar gyfer 2018-19 yn adlewyrchu cynnydd o bron £15 miliwn yng nghyfanswm gwariant y Maes Awyr. Gellir priodoli dros £9 miliwn o'r cynnydd hwn i’r ffaith bod 'eitemau eithriadol' wedi’u cynnwys yng nghyfrifon y Maes Awyr ar gyfer 2018-19.

Yn ei gyfrifon diweddaraf, mae'r Maes Awyr yn amcangyfrif bod yr hawliau cytundebol sydd ganddo i ddarparu rhai gwasanaethau i sefydliadau eraill yn werth llai nag yr oedd wedi’i nodi’n flaenorol. Yn unol â’r rheolau cyfrifyddu, cafodd y gostyngiad yng ngwerth yr hawliau cytundebol hyn, sef £ 9.4 miliwn, eu cynnwys fel gwariant yn y cyfrifon. Nodwyd hyn, a chostau o £140,000 am ad-drefnu’r sefydliad, fel eitemau eithriadol.

Mae'r golled cyn treth hefyd yn adlewyrchu cynnydd yng nghostau gweinyddol y Maes Awyr, sydd wedi cynyddu bob blwyddyn ers i Lywodraeth Cymru ei brynu; cynyddodd £4.8 miliwn yn 2018-19 ers y flwyddyn flaenorol. Mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad yn cynnal ymchwiliad i’r Maes Awyr. Esboniodd swyddogion y rhesymau dros y cynnydd yng nghostau gweinyddol y Maes Awyr. Dywedodd Prif Weithredwr y Maes Awyr wrth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus:

We have 1.6 million passengers. If you look across—globally, actually, for airports under 3 million we are hit disproportionately by externally imposed regulatory charge

Dywedodd Cyfarwyddwr Cyllid y Maes Awyr wrth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus fod costau gweinyddol y Maes Awyr hefyd yn cynnwys cynnydd mewn costau dibrisiant.

Ers i Lywodraeth Cymru ei brynu yn 2013, mae’r Maes Awyr wedi buddsoddi yn ei seilwaith a’i gyfleusterau, fel y newidiadau i’r neuadd ymadael, cyflwyno cyfleoedd ychwanegol o ran manwerthu, bwyd a diod i “wella profiad y cwsmer”. Mae gwariant cyfalaf fel hyn yn cael ei gyfrifyddu mewn ffordd benodol, a chaiff y costau eu gwasgaru dros flynyddoedd ariannol gwahanol. Er enghraifft, os oes disgwyl i lwybr glanio newydd fod o fudd i'r Maes Awyr am 50 o flynyddoedd, ac mae’n costio £5 miliwn i'w adeiladu, gall gwariant y Maes Awyr gynnwys tâl o £100,000 bob blwyddyn am 50 mlynedd, yn hytrach nag un taliad o £5 miliwn.

Gelwir y swm a godir ar y gwariant yn ddibrisiant. Yn gyffredinol, bydd buddsoddi mwy yn ei fusnes drwy raglenni cyfalaf yn arwain at werthoedd dibrisiant uwch i'r Maes Awyr, sy'n arwain at wariant uwch a gallai hyn effeithio ar broffidioldeb.

Sut arall y gellid mesur perfformiad ariannol?

Gellir defnyddio elw neu golled cyn treth i fesur perfformiad ariannol drwy ystyried holl wariant y sefydliad, gan gynnwys dibrisiant ond nid trethiant.

Mae’r Maes Awyr yn defnyddio dangosydd arall, sef 'enillion cyn llog, treth, dibrisiant ac amorteiddio' (neu 'EBITDA'), wrth gofnodi ei berfformiad ariannol. Mae EBITDA yn addasu elw i gael gwared ar effaith penderfyniadau cyllido a chyfrifyddu sefydliad, ee dibrisiant a threthiant. Fe'i gwelir fel ffordd o fesur perfformiad gweithredol sefydliad ac mae llawer o gwmnïau'n ei gofnodi, gan gynnwys rhai meysydd awyr.

Yng Nghyfrifon y Maes Awyr ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2018, cofnodwyd EBITDA o £7,000. Wrth gyhoeddi’r canlyniadau, dywedodd y Maes Awyr:

… llwyddodd y Maes Awyr ennill EBITDA (enillion cyn llog, treth, dibrisiad ac amorteiddiad) cadarnhaol sydd yn fesur o berfformiad gweithredol cwmni. Dyma’r tro cyntaf i ganlyniad cadarnhaol gael ei sicrhau mewn wyth mlynedd.

Yng Nghyfrifon y Maes Awyr ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2018-19, cofnodwyd EBITDA o £77,000.

Mesur y gwerth ehangach

Mae'r Maes Awyr a Llywodraeth Cymru wedi dweud wrth PAC am effaith ehangach y Maes Awyr ar economi Cymru.

Yn ei thystiolaeth ysgrifenedig i ymchwiliad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, dywedodd Llywodraeth Cymru:

Yn 2018, roedd cyfanswm ôl troed gwerth ychwanegol gros o £246m ac mae hefyd yn cynnal oddeutu 2,400 o swyddi’n gysylltiedig â hedfan yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol yn Ne Cymru.

Mewn adroddiad annibynnol a gomisiynwyd gan y Maes Awyr (PDF 3 MB) nodwyd bod ei effaith economaidd yn cyd-fynd ag effaith meysydd awyr cyfatebol mwy mewn rhannau eraill o'r DU. Cafodd perfformiad ariannol y Maes Awyr ei feincnodi hefyd yn erbyn meysydd awyr eraill, gan ddod i’r casgliad a ganlyn:

…the Airport’s financial performance is in line with what might be expected of a facility of Cardiff’s size that lacks income from a sizable property portfolio to supplement its aeronautical and non-aeronautical income. Continuation of these encouraging results does depend heavily, however, on control of costs being maintained and further passenger growth being secured.

Beth sydd nesaf?

Ar 10 Mawrth 2020 bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal dadl ynghylch y Maes Awyr a gallwch wylio hon ar SeneddTV.

Hefyd, mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn cynnal ymchwiliad i’r Maes Awyr. Bydd y bedwaredd sesiwn dystiolaeth yn cael ei chynnal ar 23 Mawrth 2020, a gellir gwylio hon ar SeneddTV hefyd.

Nodyn * Cyn i Lywodraeth Cymru, ei brynu, byddai cyfrifon y Maes Awyr yn cael eu paratoi hyd at ddiwedd mis Rhagfyr bob blwyddyn. Ar ôl i Lywodraeth Cymru ei brynu, paratowyd y cyfrifon cyntaf am gyfnod o 15 mis (hyd at 31 Mawrth 2014) er mwyn i flwyddyn ariannol y Maes Awyr gyfateb i flwyddyn ariannol Llywodraeth Cymru. Oherwydd hyn, nid yw’n bosibl dadansoddi perfformiad ariannol y Maes Awyr o’r dyddiad y cafodd ei brynu gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2013. Er bod y ffigurau wedi’u cynnwys yn yr erthygl hon, nid yw'n briodol cymharu perfformiad y Maes Awyr cyn mis Mawrth 2015 gan nad oedd y cyfnodau dan sylw yn y cyfrifon yr un hyd.


Erthygl gan Joanne McCarthy, Lucy Morgan a Joe Wilkes, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru