Ffotograff o löyn byw du a gwyn yn eistedd ar flodyn llygad y dydd

Ffotograff o löyn byw du a gwyn yn eistedd ar flodyn llygad y dydd

Mae tystiolaeth newydd yn nodi "moment hollbwysig" wrth fynd i'r afael â'r argyfwng natur

Cyhoeddwyd 03/02/2026

… mae ein hecosystemau’n ei chael yn anodd gwrthsefyll y pwysau o sut rydym yn rheoli’r tir yng Nghymru. Mae bioamrywiaeth yn dirywio, mae systemau naturiol dan straen, ac mae’r tirweddau sy’n cynnal iechyd, ffyniant a diwylliant yn ei chael yn anodd addasu i bwysau newydd a phresennol.

Mae’r adroddiad diweddaraf ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025, (SoNaRR) gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), yn cyflwyno tystiolaeth ddifrifol ar gyflwr amgylchedd Cymru.

Mae'r erthygl hon yn ymdrin â ’gwydnwch ecosystemau' fel agwedd sylfaenol ar iechyd ein byd natur, ac yn trafod polisïau sy'n anelu at ei ddiogelu.

Yn gyntaf, beth yw SoNaRR a pham mae'n bwysig?

SoNaRR yw asesiad CNC o gyflwr adnoddau naturiol yng Nghymru a rhaid ei gyhoeddi bob pum mlynedd.

Mae'n darparu'r sylfaen dystiolaeth i Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill ar gyfer llywio polisi, cynllunio, a gwneud penderfyniadau ehangach. Dyma'r sylfaen ar gyfer Polisi Adnoddau Naturiol Cenedlaethol Llywodraeth Cymru.

SoNaRR 2025 yw’r trydydd o’r adroddiadiau hyn. Mae’n tynnu sylw at dystiolaeth allweddol ar yr hyn sydd wedi newid ers SoNaRR 2020, gan ddod i’r casgliad bod hon yn “foment hollbwysig” ar gyfer gweithredu.

Mae gan SoNaRR sawl nod cysylltiedig sy'n canolbwyntio ar gyflenwadau adnoddau naturiol, gwydnwch ecosystemau, lleoedd iach i bobl ac economi adfywiol. 

Beth yw gwydnwch ecosystemau, a beth yw’r sefyllfa yng Nghymru?

Mae ecosystemau gwydn yn sail i'r canllaw Rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy (SMNR) sy'n darparu "gwasanaethau ecosystemau" fel dŵr glân, storio carbon, rheolaeth llifogydd a bwyd.

Mae CNC yn defnyddio priodoleddau Fframwaith DECCA i ddisgrifio gwydnwch ecosystemau:

  • amrywiaeth rhwng ecosystemau ac oddi mewn iddynt;
  • maint / graddfa ecosystemau;
  • y cysylltiadau rhwng ecosystemau ac oddi mewn iddynt;
  • cyflwr ecosystemau (gan gynnwys eu strwythur a’u gweithrediad); a
  • gallu ecosystemau i addasu.

Mae SoNaRR 2025 yn dod i’r casgliad bod gwydnwch ecosystemau yn parhau i fod yn isel ar draws y rhan fwyaf o gynefinoedd, gan gynnwys ecosystemau daearol, dŵr croyw a morol (Ffigur 1).

Mae cynefinoedd lled-naturiol wedi dirywio o ran maint a chyflwr, ac mae asesiadau morol yn dangos pwysau sylweddol gan lygredd, newid hinsawdd, a datblygu heb ei reoleiddio. Mae CNC yn rhybuddio:

Heb newid trawsnewidiol, bydd gwytnwch yn parhau i erydu, gan fygwth bioamrywiaeth, gwasanaethau ecosystemau, a llesiant hirdymor.

Matrics gwydnwch ecosystem 

Ffigur 1 Matrics i nodi gwydnwch ecosystemau ar draws gwahanol gynefinoedd yng Nghymru gan ddefnyddio'r dangosyddion gwydnwch amrywiaeth, maint, cyflwr a chysylltedd. Ffynhonnell y data SoNaRR 2025, CNC.

Er bod gwydnwch yn isel yn gyffredinol, mae'r asesiad yn datgelu rhywfaint o amrywiad gofodol. Mae ardaloedd ucheldirol yn tueddu i gadw cyfran uwch o gynefinoedd lled-naturiol ac yn sgorio'n fwy ffafriol ar draws priodoleddau gwydnwch. Mae ardaloedd iseldirol, sydd wedi'u haddasu'n fwy dwys, yn dangos gwydnwch is yn gyson.

Mae SoNaRR yn nodi'r sbardunau sy'n effeithio ar wydnwch ecosystemau: rheoli amaethyddol a rheoli coetir, newid hinsawdd, trefoli, datblygu morol, gorecsbloetio, llygredd, newid hydrolegol a rhywogaethau estron goresgynnol.

Beth yw'r ysgogiadau polisi i wella gwydnwch ecosystemau?

Bydd y rhan fwyaf o feysydd polisi yn cael effaith ar wydnwch ecosystemau, naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol. Yma rydym yn trafod ychydig o feysydd pynciol.

Amaethyddiaeth

Mae SoNaRR yn nodi bod rheolaeth amaethyddol yn sbardun allweddol ar gyfer gwydnwch ecosystemau a chan fod tir fferm yn cyfrif am dros 80% o arwynebedd tir Cymru, mae ganddo ran fawr i'w chwarae.

Mae Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 a'r Fframwaith Rheoli Tir yn Gynaliadwy yn anelu at wobrwyo rheolwyr tir nid yn unig am gynhyrchu bwyd, ond am liniaru ac addasu i newid hinsawdd a gwella gwydnwch ecosystemau (ymhlith pethau eraill).

Nod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) newydd yw cyflawni'r egwyddorion hyn. Lansiwyd y cynllun ym mis Ionawr, ac amser a ddengys a fydd y newid polisi hwn yn gwella gwydnwch ecosystemau.

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig y bydd yr elfennau 'dewisol' a 'chydweithredol o'r SFS yn cyflawni mwy dros yr amgylchedd. Fodd bynnag, maent yn dal i gael eu datblygu (dim ond yr elfennau 'cyffredinol' sydd ar gael ar hyn o bryd) ac mae amgylcheddwyr yn awyddus i'w gweld yn cael eu cyflwyno fel blaenoriaeth.

Dywed RSPB Cymru fod yn rhaid i'r SFS fynd ymhellach i wrthdroi dirywiad rhywogaethau sydd dan fygythiad fel y Gylfinir, glöyn byw Brith y Gors a’r Gardwenynen Feinlais. Mae Llywodraeth Cymru wedi tynnu sylw at elfennau dewisol sy'n debygol o godi yn 2026, gan gynnwys cymorth i ffermwyr i greu cynefinoedd newydd (megis plannu perllannau neu droi glaswelltiroedd wedi'u gwella yn laswelltiroedd cyfoethog eu rhywogaethau).

Mae SoNaRR yn tynnu sylw at bwysigrwydd dull o weithredu ar raddfa tirwedd rhwng ffermwyr a phartneriaid eraill, ac yn benodol at fynd i'r afael â gorlwytho maetholion a llygryddion eraill sy'n andwyo iechyd ecosystemau. Mae elfen 'gydweithredol' arfaethedig yn yr SFS yn cynnwys adfer a gwella ecosystemau ar raddfa tirwedd, fel mawndiroedd a gwlyptiroedd lle efallai nad yw’n bosibl i un fferm allu rheoli lefelau dŵr a llif y dŵr.

Mae rhanddeiliaid yn pwysleisio mai dim ond trwy gyllid digonol y bydd uchelgais yr SFS yn cael ei gyflawni, gyda ffermwyr ac amgylcheddwyr fel ei gilydd yn galw am gynnydd sylweddol.

Safleoedd gwarchodedig a chysylltedd

Mae'r rhwydwaith o safleoedd gwarchodedig yng Nghymru (megis y Rhwydwaith Safleoedd Cenedlaethol ac Ardaloedd Morol Gwarchodedig) yn anelu at ddarparu noddfeydd ar gyfer bioamrywiaeth sy'n cyfrannu at wydnwch ecosystemau.

Mae Cymru wedi ymrwymo i’r Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang (â’r DU fel llofnodwr) i ddiogelu 30% o'r tir, dŵr croyw a'r môr ar gyfer natur erbyn 2030 (y targed 30 erbyn 30).

Mae adroddiad cynnydd 2025 ar gyfer y DU gan y sector amgylcheddol ar y targed 30 erbyn 30 yn awgrymu y bydd Cymru yn methu'r targed o bell ffordd. Daw i'r casgliad mai dim ond 2.4% o dir Cymru sy'n bodloni'r meini prawf 30 erbyn 30, a bod diffyg data ynghylch yr amgylchedd morol wedi ei gwneud hi'n anodd asesu cynnydd yn gywir.

Gwnaeth Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith y Senedd sawl argymhelliad i wella'r rhwydwaith o safleoedd gwarchodedig yn ei adroddiad Atal a gwrthdroi colli natur erbyn 2030.

Dywedodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru lunio cynllun gweithredu sy’n nodi’r camau gweithredu sydd eu hangen i gyrraedd y targed 30 erbyn 30. Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn.

Disgrifiodd y Pwyllgor y cynnydd o ran ehangu'r rhwydwaith o safleoedd morol gwarchodedig fel un siomedig o araf. Argymhellodd roi mwy o gyllideb i’r Gronfa Rhwydweithiau Natur (sydd yn aml â gormod o danysgrifwyr) i wella'r rhwydwaith safleoedd gwarchodedig. Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'n cynyddu'r dyraniad os bydd cyllid ychwanegol yn dod i’r fei. 

Mae SoNaRR yn tynnu sylw at y ffaith bod gwydnwch go iawn, y tu hwnt i safleoedd gwarchodedig, yn dibynnu ar gysylltu'r safleoedd hyn, er enghraifft i ganiatáu i rywogaethau wasgaru, sy'n gofyn am bartneriaethau ar raddfa tirwedd a morwedd.

Un dull sy'n cael ei archwilio yw Ardaloedd Enghreifftiol Adfer Natur (NREA) a Mesurau Cadwraeth Effeithiol Eraill ar Sail Ardal (OECM), sef ardaloedd ac iddynt botensial cadwraeth y tu hwnt i safleoedd gwarchodedig fel gwarchodfeydd natur lleol. Mae grŵp o arbenigwyr wedi darparu dadansoddiad pellach o'r dulliau hyn, gan alw yn daer am fuddsoddiad cadarn ar gyfer adfer natur, o ffynonellau preifat yn ogystal â ffynonellau cyhoeddus.

Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru)

Mae Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethu a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru), sy'n cael ei ystyried gan y Senedd ar hyn o bryd, yn bwriadu diogelu gwydnwch ecosystemau drwy sefydlu:

  • amcan amgylcheddol ac egwyddorion amgylcheddol i atgyfnerthu gwneud penderfyniadau;
  • corff statudol, sef “Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru”, a fydd yn gyfrifol am sicrhau bod awdurdodau cyhoeddus yn cydymffurfio â’u dyletswyddau o dan gyfraith amgylcheddol; a
  • fframwaith gosod targedau bioamrywiaeth.

Mae SoNaRR yn pwysleisio bod yn rhaid i'r targedau bioamrywiaeth statudol "fod yn fesuradwy, glynu at amserlen, ac wedi’u hymgorffori ar draws sectorau" a bod yn rhaid i adroddiadau SoNaRR yn y dyfodol ddangos yr hyn sydd wedi'i gyflawni.

Mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith wedi pwyso am i'r targedau bioamrywiaeth gael eu cyflwyno drwy reoliadau ynghynt yn dilyn deddfu'r Bil, ac mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i fyrhau'r amserlen arfaethedig o dair blynedd i ddwy.

Mae gweithredu ar frys i adfer gwydnwch ecosystemau yn thema yn adroddiad SoNaRR. Gydag uchelgais bioamrywiaeth fyd-eang 2030 yn agosáu, bydd pob llygad ar y Seithfed Senedd a’r llywodraeth nesaf i fynd i'r afael â'r 'argyfwng natur'.

Erthygl gan Dr Katy Orford, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru