Mae Papur Ymchwil Llythrennedd a Rhifedd ar gael

Cyhoeddwyd 27/06/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Pam mae llythrennedd a rhifedd yn awr yn cael lle llawer mwy blaenllaw mewn polisïau addysg yng Nghymru?  Mae hwn yn destun amserol iawn ac mae'r Gwasanaeth Ymchwil wedi cynhyrchu papur ymchwil sy'n dwyn y teitl 'Llythrennedd a rhifedd yng Nghymru', sy'n rhoi gwybodaeth am yr hyn sy'n digwydd ac yn dadansoddi’r sefyllfa. Llythrennedd a rhifedd yng Nghymru Mae'r papur ymchwil yn amlinellu cyd-destun ymyriadau polisi Llywodraeth Cymru o ran llythrennedd a rhifedd ac yn ceisio esbonio'u pwysigrwydd. Mae'r papur yn rhoi manylion y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd newydd a fydd yn ofyniad statudol o fis Medi 2013 ymlaen, a'r profion darllen a rhifedd cenedlaethol a gyflwynir bob blwyddyn o fis Mai 2013 ymlaen.  Mae hefyd yn trafod ymateb y sector addysgu i'r polisïau hyn ac yn cyfeirio at dystiolaeth arall I ymchwilio i faterion sy'n ymwneud â sgiliau llythrennedd a rhifedd plant yng Nghymru.
Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.