Mae'r papur ymchwil yn amlinellu cyd-destun ymyriadau polisi Llywodraeth Cymru o ran llythrennedd a rhifedd ac yn ceisio esbonio'u pwysigrwydd.
Mae'r papur yn rhoi manylion y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd newydd a fydd yn ofyniad statudol o fis Medi 2013 ymlaen, a'r profion darllen a rhifedd cenedlaethol a gyflwynir bob blwyddyn o fis Mai 2013 ymlaen. Mae hefyd yn trafod ymateb y sector addysgu i'r polisïau hyn ac yn cyfeirio at dystiolaeth arall I ymchwilio i faterion sy'n ymwneud â sgiliau llythrennedd a rhifedd plant yng Nghymru.
Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.