Photograph of a cockerel and hens on grass

Photograph of a cockerel and hens on grass

Mae mwy o achosion o ffliw adar yn y DU nag erioed o’r blaen: beth yw'r effaith ar Gymru?

Cyhoeddwyd 13/12/2021   |   Amser darllen munudau

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno mesurau rheoli i helpu i fynd i’r afael â’r nifer anhygoel o achosion o ffliw adar pathogenig iawn (HPAI) yn y DU.

Mae tri achos wedi'u cadarnhau mewn dofednod yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi 'Parthau Rheoli lleol ar y safleoedd hyn i atal y firws rhag lledaenu.

Mae hefyd wedi cyhoeddi newidiadau i’r rheolau casgliadau adar, a chyflwynodd Barth Atal Ffliw Adar ar gyfer Cymru gyfan, sy'n ei gwneud yn ofynnol i geidwaid adar ddilyn mesurau bioddiogelwch.

Mae’r wybodaeth ddiweddaraf gan Lwodraeth Cymru am HPAI i’w gweld ar ei gwefan.

Beth yw ffliw adar?

Mae ffliw adar yn glefyd firaol heintus iawn sy’n effeithio ar system resbiradol, system dreulio a / neu system nerfol llawer o rywogaethau adar. Y tymor hwn mae nifer o achosion o’r straen HPAI ac H5N1 wedi’u darganfod. Gall y straen hwn ledaenu'n gyflym a lladd nifer fawr o ddofednod.

Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn pwysleisio mai’n anaml iawn y bydd H5N1 yn cael ei drosglwyddo i bobl. Ond mae pryderon y gallai greu straen o ffliw dynol a allai arwain at bandemig os yw’n ailgyfuno â firws y ffliw dynol tymhorol.

Gall dofednod gael eu heintio â HPAI drwy ddod i gysylltiad ag adar gwyllt, fel adar dŵr mudol (ee elyrch, gwyddau a hwyaid) a gwylanod.

Ble mae ffliw adar wedi'i gadarnhau’r tymor hwn?

Cafodd achosion o’r firws HPAI H5N1 eu cadarnhau gyntaf mewn elyrch a achubwyd a dofednod caeth mewn canolfan achob elyrch yng Nghaerwrangon (Lloegr) ar 15 Hydref.

Ers hynny, mae'r firws wedi'i ddarganfod ledled y DU. Ar 8 Rhagfyr, dywedodd Llywodraeth Cymru fod HPAI H5N1 wedi'i gadarnhau mewn 36 safle ym Mhrydain Fawr, a bod 276 o achosion wedi’u cadarnhau mewn adar gwyllt mewn 80 o safleoedd gwahanol.

Mae mwy o achosion o ffliw adar nag erioed o’r blaen yn y DU.

Dywedodd yr Athro Christine Middlemiss, Prif Swyddog Milfeddygol y DU fod nifer fawr o adar gwyllt mudol sy’n dychwelyd o ogledd Rwsia a dwyrain Ewrop wedi’u heintio.

Mae adroddiad yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) (a gaiff ei ddiweddaru bob wythnos) yn dangos lledaeniad y clefyd ymhlith adar gwyllt ledled Prydain Fawr. Mae’n bosibl na fydd nifer yr adar dŵr gwyllt sy'n mudo yn cyrraedd ei anterth tan fis Ionawr yn y DU.

Ar 8 Tachwedd dywedodd Llywodraeth Cymru nid oes “unrhyw arwydd uniongyrchol o'r sefyllfa'n gwella”.

Nid yw'r DU ar ei phen ei hun yn y cyswllt hwn. Gwelwyd cynnydd yn nifer yr achosion o HPAI yng ngogledd Ewrop dros yr wythnos ddiwethaf. Yn ne Ewrop, mae achosion ychwanegol o HPAI H5 a H5N1 yn parhau i gael eu cadarnhau. Mae’r adroddiad hwn gan Lywodraeth y DU yn nodi nifer yr achosion o’r clefyd ar hyd a lled Ewrop fel ar 29 Tachwedd.

A yw adar yn cael eu difa?

Ydynt, caiff yr holl ddofednod ar adar caeth sy’n cael eu cadw ar safle sydd wedi’i heintio eu difa. Mae hyn yn digwydd cyn gynted â phosibl ac mewn ffordd sy'n lleihau'r posibilrwydd i’r clefyd ledaenu.

Mae iawndal ar gael ar gyfer adar nad oeddent wedi’u heintio adeg eu difa, o dan

Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981. Nid oes iawndal ar gyfer:

  • adar a oedd wedi’u hentio adeg eu difa;
  • wyau neu gig dofednod a waredir ar y safle heintiedig neu’n dilyn ymchwiliadau i olrhain ffynhonnell y clefyd ar safle heintiedig; neu
  • colledion unrhyw fusnes o ganlyniad i fesurau rheoli

Beth yw Parthau Rheoli?

Mesurau penodol a roddir ar waith dros dro yw’r rhain i reoli lledaeniad HPAI ac maent yn berthnasol i’r safleoedd heintiedig yn unig. Mae Defra yn cynhyrchu map o’r Parthau Rheoli sydd ar waith drwy’r DU.

Mae maint pob parth, a'r mesurau i'w dilyn ynddynt, yn cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ar ôl cadarnhau achosion o HPAI ar safle heintiedig. Yn fwyaf diweddar, cyhoeddwyd Parthau Rheoli ym Mhowys. Mae'r mesurau'n cynnwys:

  • cofnodi manylion y rhai sy’n dod i’r safle;
  • mesurau bioddiolgewch ar y safle ac oddi arno; a
  • cyfyngiadau ar symud wyau, dofednod, ac adar neu famaliaid caeth eraill o fewn neu’r tu allan i'r parth.

Beth yw Parth Atal Ffliw Adar Cymru Gyfan?

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y Parth Atal ar 3 Tachwedd. Mae gofyniad cyfreithiol i bob ceidwad adar yn y Parth gadw at fesurau bioddiogelwch llym.

Ar 29 Tachwedd, cafodd y mesurau Parth Atal eu hymestyn, i’w gwneud yn ofynnol i bob ceidwad adar caeth gadw eu hadar ar wahân i adar gwyllt.

Dywedodd Prif Swyddogion Milfeddygol Cymru, Lloegr a’r Alban:

Whether you keep just a few birds or thousands, you are now legally required to introduce higher biosecurity standards on your farm or small holding.

Mae rhestr gyflawn o’r mesurau y mae'n rhaid i bob ceidwad adar eu dilyn i’w gweld yn Atodlenni 1 a 3 o’r Datganiad. Rhaid i geidwaid sydd â 500 neu ragor o ddofednod ar eu safle ddilyn “mesurau bioddiogelwch llymach”, ac mae’r rhain wedi’u rhestru yn Atodlen 2 o’r Datganiad ..

Beth sy'n digwydd o ran casgliadau adar?

O 8 Tachwedd ymlaen, gwaherddir casgliadau (ee marchnadoedd, sioeau ac arddangosfeydd) o rai rhywogaethau penodol o adar caeth, gan gynnwys:

  • adar galliforme (ee cynnwys ffesantod, cywion ieir a thyrcwn);
  • adar anseriforme (ee hwyaid, gwyddau, elyrch).

Beth y dylech ei wneud os ydych yn amau bod adar domestig neu wyllt wedi’u heintio â ffliw adar?

Os ydych yn gweld unrhyw arwyddion clinigol amheus o ffliw adar mewn dofednod neu adar caeth, dylech ffonio 0300 303 8268.

Dylech ffonio llinell gymorth Defra os byddwch yn gweld adar gwyllt marw: 03459 33 55 77.

Pa mor arwyddocaol yw’r sector dofednod yng Nghymru?

Mae'r sector dofednod yng Nghymru yn gymharol fach - mae dofednod ac wyau yn gyfrifol am oddeutu 6% o gynnyrch amaethyddol. Fel arfer, caiff nifer fawr o adar eu cadw gan nifer gymharol fach o gynhyrchwyr mawr.

Mae cyfanswm y dofednod a gedwir yng Nghymru wedi cynyddu yn ystod yr hanner can mlynedd diwethaf a hynny oherwydd cynnydd mewn unedau dofednod dwys ar gyfer cynhyrchu cig ac wyau.

Dywed Prif Swyddog Milfeddygol y DU na fydd lledaeniad HPAI yn effeithio ar gyflenwad cyw iâr ac wyau . Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (FSA) hefyd wedi dweud bod y risg i ddiogelwch bwyd yn isel iawn.

O dan y cyfyngiadau presennol ar gadw dofednod, gellir parhau i farchnata adar ac wyau fel cynhyrchion "maes" ar yr amod eu bod yn bodloni’r holl ofynion eraill. Mae datgan Parth Atal yn golygu y gellir cadw adar am hyd at 12 wythnos ar gyfer cynhyrchu cig dofednod ac 16 wythnos ar gyfer cynhyrchu wyau a pharhau i gadw’r statws ‘maes’.

Pa ddeddfau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u defnyddio i gyflwyno’r mesurau rheoli?

Mae’r pwerau i ddatgan y mesurau hyn wedi’u cynnwys yn y canlynol:

Gwybodaeth ychwanegol

APHA, Avian influenza in wild birds (gwefan)

Defra, Notifiable Avian Disease Control Strategy for Great Britain (2019)

Ymchwil y Senedd, Papur briffio ar y Sector Dofednod https://ymchwil.senedd.cymru/erthyglau-ymchwil/cyhoeddiad-newydd-y-sector-dofednod/

Llywodraeth y DU, Updated Outbreak Assessment #4 Highly pathogenic avian influenza (HPAI) in the UK and Europe (Tachwedd 2021)

Llywodraeth y DU Avian Influenza Guidance (gwefan)

Llywodraeth Cymru Achosion o Ffliw Adar: Adroddiad Sefyllfa (Rhag 2021)

Sefydliad y Byd ar gyfer Iechyd Anifeiliaid, Ffliw Adar (gwefan)


Erthygl gan Will Skinner a Katy Orford, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Will Skinner gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol, a alluogodd i’r Erthygl Ymchwil hon gael ei chwblhau.