Merch yn eistedd ar soffa gyda diod poeth.

Merch yn eistedd ar soffa gyda diod poeth.

Mae llai na thraean y bobl yn hunan-ynysu’n llawn yn ystod pandemig y coronafeirws. Pa gymorth sydd ar gael i gynyddu lefel y cydymffurfio?

Cyhoeddwyd 21/12/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/12/2020   |   Amser darllen munudau

Mae Pwyllgor Iechyd y Senedd wedi clywed mai dim ond tua hanner y bobl sy'n adnabod tri phrif symptom COVID-19, ac mae llai na thraean yn hunan-ynysu’n iawn pan mae’n ofynnol iddynt wneud hynny. Mae'r blog hwn yn edrych yn fanwl ar y ffigurau hunan-ynysu, y rhesymau posibl pam nad yw pobl yn cadw at y rheolau, a'r cymorth sydd ar gael i'r rhai sy'n hunan-ynysu.

Drwy gydol yr erthygl hon, mae hunan-ynysu yn cyfeirio at ‘y mae’n ofynnol i wneud hynny’ oherwydd canlyniad prawf COVID-19 positif, bod yn gyswllt agos â rhywun sydd wedi profi'n bositif a phobl sydd mewn cwarantîn ar ôl dychwelyd i'r DU.

Faint o bobl sy'n hunan-ynysu’n llawn?

Dywedodd yr Athro Susan Michie, Cyfarwyddwr y Ganolfan Newid Ymddygiad o Goleg Prifysgol Llundain, wrth Bwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Senedd ym mis Tachwedd mai “dim ond tua hanner y bobl, hyd yn oed nawr, sy'n adnabod tri symptom craidd COVID”. Aeth ymlaen i ddweud:

… if people aren't recognising the symptoms, then they're not going to get tested. If they're not going to get tested, they're not going to be in a situation where they're likely to be asked to isolate, or consider that they should isolate because they recognise those symptoms..

Mae'r Grŵp Gwyddonol Mewnwelediadau i’r Pandemig - Ymddygiadau (SPI-B) yn is-grŵp o’r Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE) Llywodraeth y DU. Ym mis Medi cyhoeddodd bapur ar gefnogaeth i'r rhai y mae angen iddynt hunan-ynysu neu fynd i gwarantîn. Roedd y papur yn nodi:

Current rates of full self-isolation are likely very low (<20%) based on self-report..

Rhoddodd yr Athro Susan Michie, sydd hefyd yn aelod o’r SPI-B, ddiweddariad i’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar y data, a dywedodd “mae wedi codi nawr i 29%”.

Profi, Olrhain, Diogelu

Mae'n ofyniad cyfreithiol i hunan-ynysu os bydd olrheiniwr cysylltiadau yn cysylltu â pherson ar ran gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar hunan-ynysu.

Rhan hanfodol o system Profi, Olrhain Diogelu Llywodraeth Cymru yw bod pobl sydd wedi cael prawf positif, neu wedi bod mewn cysylltiad â rhywun sydd wedi cael prawf positif, ar gyfer COVID-19, yn hunan-ynysu. Ystyr hyn yw “peidio â gadael y tŷ i wneud ymarfer corff neu waith a pheidio â mynd i’r siop i brynu bwyd neu eitemau eraill hanfodol” am 10 diwrnod.

Mae tystiolaeth yn awgrymu bod angen i 80 y cant o bobl hunan-ynysu er mwyn i system profi ac olrhain fod yn effeithiol i leihau rhif y lledaeniad (y rhif ‘R’). Rhwng 29 Tachwedd a 5 Rhagfyr 2020, cyrhaeddodd y system profi, olrhain, diogelu 91 y cant o’r achosion positif i ofyn am fanylion eu cysylltiadau diweddar. Wedyn roedd yr olrheinwyr cysylltiadau wedi cysylltu’n llwyddiannus ag 81 y cant o'r cysylltiadau diweddar hynny ac wedi'u cynghori i hunan-ynysu.

Pam mae'r niferoedd mor isel?

Mae lle mae pobl yn byw a'r swyddi maen nhw'n eu gwneud ymhlith nifer o ffactorau sy'n pennu'r effaith y mae’r pandemig COVID-19 yn ei chael ar eu bywydau.

Mae’r Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE) wedi dweud bod y cyfraddau ymlynu yn arbennig o isel yn y boblogaeth iau ac yn rhai o’r cymunedau economaidd-gymdeithasol difreintiedig. Mae’r Grŵp Gwyddonol Mewnwelediadau i’r Pandemig - Ymddygiadau (SPI-B) wedi dweud bod hyn yn debygol o fod yn “cyfrannu at anghydraddoldebau o ran effaith COVID-19”.

Mae lefelau ymlynu o ran hunan-ynysu yn amrywio, a gall amrywio o adael y tŷ unwaith yn unig ac osgoi pobl wrth wneud hynny, i beidio â hunan-ynysu o gwbl a pharhau i wneud popeth fel arfer.

Mae amrywiaeth o ffactorau sy’n effeithio ar allu neu barodrwydd unigolyn i hunan-ynysu gan gynnwys “colled ariannol, bod angen gofalu am berthnasau oedrannus neu fregus, neu ddiffyg dealltwriaeth o'r rhesymeg sy’n sail i ymlynu”.

Fodd bynnag, dywedodd yr Athro Susan Michie fod y rhain yn broblemau y gellir eu datrys drwy gefnogaeth ariannol ac ymarferol. Mae’r Grŵp Gwyddonol Mewnwelediadau i’r Pandemig - Ymddygiadau wedi nodi:

Support for affected communities is important because infection is more likely in deprived communities who are more in need of support both to get tested and to self-isolate.

Dywedodd yr Athro Devi Sridhar, Cadeirydd Iechyd Cyhoeddus Byd-eang ym Mhrifysgol Caeredin, wrth y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon bod yn “rhaid i holl genhedloedd y DU weithio ar […] gefnogi pobl yn well”. Dywedodd “mae angen i ni dalu pobl i aros adref” ac “ni allwch gosbi pobl am weithred ewyllys da, sef, eu bod yn hunan-ynysu er mwyn peidio â heintio pobl eraill.”

Beth ellir ei wneud i gefnogi pobl?

Mae’r Grŵp Gwyddonol Mewnwelediadau i’r Pandemig - Ymddygiadau yn ystyried y byddai'r cyfraddau hunan-ynysu yn gwella pe ceid cefnogaeth ychwanegol, ac mae’n awgrymu:

  • Cefnogaeth ariannol i sicrhau na fydd y rhai y mae'n ofynnol iddynt hunan-ynysu yn profi caledi ariannol wrth wneud hynny;
  • Cymorth anariannol diriaethol fel allgymorth rhagweithiol i nodi a datrys unrhyw anghenion ymarferol sydd gan bobl, er enghraifft mynediad at fwyd;
  • Gwell cyfathrebu â'r cyhoedd yn gyffredinol i egluro sut a phryd i hunan-ynysu, pam fod hynny’n angenrheidiol, a chyngor manwl i'r rheini sy'n hunan-ynysu; a
  • Chefnogaeth emosiynol i'r rhai sydd ei angen, a mynediad at gymorth cymdeithasol.

Ym mis Medi dywedodd y Grŵp Gwyddonol Mewnwelediadau i’r Pandemig - Ymddygiadau y dylid cyflwyno pecyn cymorth “ar frys”.

Pa gymorth sydd ar gael yng Nghymru?

Ar ddiwedd mis Hydref cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddau gynllun cymorth ariannol newydd i bobl y mae angen iddynt hunan-ynysu oherwydd canlyniad positif i brawf coronafeirws neu oherwydd y gofynnir iddynt wneud hynny gan system Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru.

Mae'r cynllun cymorth i rai sy’n hunan-ynysu yn cynnig hyd at £500 i'r rheini ar incwm isel ac na allant weithio gartref. Yn ddiweddar, estynnwyd y cynllun i gynnwys rhieni a gofalwyr plant y mae'n ofynnol iddynt hunan-ynysu oherwydd achosion o’r feirws yn eu hysgol. Mae rhagor o wybodaeth am gymhwysedd a sut i wneud cais ar wefan Llywodraeth Cymru yma.

Mae'r cynllun gwella tâl salwch statudol ar gael ar gyfer gweithwyr gofal i gynyddu eu tâl salwch statudol o gymharu â’u cyflogau arferol pan fydd gofyn iddynt hunan-ynysu. Dywedodd Llywodraeth Cymru fod hyn yn “dileu'r anfantais ariannol i weithwyr gofal cymdeithasol yn sgil cadw draw o'r gwaith”. Mae rhagor o fanylion, gan gynnwys ynghylch cymhwysedd, ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Beth mae gwledydd eraill yn ei wneud?

Yn Asia mae achosion a gadarnhawyd o COVID-19 yn cael eu hynysu mewn sefydliadau yn bennaf yn hytrach nag yn eu cartrefi fel sy'n digwydd ledled Ewrop. Mae'r sefydliadau hyn yn cynnwys barics y fyddin a gwestyau.

Dywedodd yr Athro Susan Michie, mewn gwledydd eraill mae pobl yn tueddu i gael naill ai alwad ffôn neu ymweliad bob dydd a gofynnir iddynt sut maen nhw'n gorfforol yn ogystal â gofyn a oes angen unrhyw gefnogaeth gymdeithasol neu seicolegol arnynt. Dywedodd y gellir ystyried hunan-ynysu fel swydd a bod y dull o ymdrin ag ef mewn ffordd lle mae pobl yn cael eu talu i aros gartref.

Amlinellodd yr Athro Devi Sridhar ddull gweithredu Efrog Newydd, lle mae ei chyfraddau hunan-ynysu “tua 98%”. Nododd eu bod hefyd yn ei gwneud yn swyddogaeth i aros adref, ac ar gyfer pobl sy’n hunan-ynysu rhoddir pecyn aros gartref gyda bwydydd hanfodol iddynt.


Erthygl gan Lucy Morgan, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru