Mae iechyd pobl gyfoethog yn gwella, ond nid felly iechyd pobl dlawd

Cyhoeddwyd 24/11/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 29/10/2020   |   Amser darllen munudau

24 Tachwedd 2016 Erthygl gan Sarah Hatherley, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Mae gormod o bobl yn marw cyn eu hamser yng Nghymru, dyna yw neges Adroddiad Blynyddol Prif Swyddog Meddygol Cymru.   Mae Prif Swyddog Meddygol newydd Cymru wedi defnyddio ei adroddiad blynyddol cyntaf i ganolbwyntio ar anghydraddoldebau iechyd. Mae Dr Frank Atherton yn dweud bod iechyd cyffredinol y boblogaeth yng Nghymru yn parhau i wella, a bod y gyfradd farwolaethau yn parhau i ostwng. Fodd bynnag, mae bwlch o hyd rhwng y rhai sydd â'r lefelau iechyd a llesiant gorau a'r rhai sydd â'r lefelau gwaethaf, ac mewn rhai achosion mae'r bwlch yn ehangu. Gall lle rydych chi'n byw, faint rydych chi'n ei ennill ac am ba hyd y byddwch chi'n parhau mewn addysg oll effeithio ar eich iechyd. Er enghraifft, bydd dynion sy'n byw yn y rhannau tlotaf o Gymru yn marw naw mlynedd ynghynt ar gyfartaledd na dynion sy'n byw yn y cymunedau cyfoethocaf. inequalities_info_walesw Yn ôl y Prif Swyddog Meddygol, mae anghydraddoldebau iechyd yn annheg, yn rhywbeth y gellir ei osgoi ac yn rhywbeth na ddylem fod yn barod i'w dderbyn na'i oddef yn rhagor. Anghydraddoldebau iechyd Anghydraddoldebau iechyd yw'r gwahaniaethau y gellir eu hosgoi o ran iechyd grwpiau cymdeithasol gwahanol a grwpiau gwahanol o'r boblogaeth. Maent yn cael eu cysylltu amlaf ag anghydraddoldeb economaidd-gymdeithasol. Nid yw anghydraddoldebau iechyd yn digwydd drwy hap a damwain, ond drwy amgylchiadau cymdeithasol sydd y tu hwnt i reolaeth unigolyn i raddau helaeth. Mae'r amgylchiadau hyn yn anfanteisiol i bobl ac yn cyfyngu ar eu cyfle i fyw bywyd hirach, iachach. Adroddiad Blynyddol y Prif Swyddog Meddygol, 'Adfer cydbwysedd i ofal iechyd. Gweithio mewn partneriaeth i leihau annhegwch cymdeithasol'.  Dyma brif negeseuon yr adroddiad blynyddol eleni: Mae bylchau o ran iechyd plant yn annerbyniol  Mae adroddiad blynyddol y Prif Swyddog Meddygol yn canolbwyntio ar atal anghydraddoldeb, yn enwedig yn y blynyddoedd cynnar. Os yw'n cael ei fagu mewn ardal dlawd yng Nghymru, bydd plentyn yn fwy tebygol o gael lefel waeth o iechyd a bydd hyn yn effeithio ar weddill ei fywyd. Mae'n hanfodol sicrhau'r dechrau gorau posibl i fywydau plant, meddai'r Prif Swyddog Meddygol. Mae ei adroddiad yn canolbwyntio ar y 1,000 diwrnod cyntaf ym mywyd plentyn, gan dynnu sylw at bwysigrwydd iechyd y fam, beichiogrwydd iach a phlentyndod cynnar iach. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw yn arbennig at y gyfradd farwolaethau ymhlith plant, sydd ar ei huchaf yn ardaloedd mwyaf difreintiedig y wlad. Yn yr un modd, mae'r adroddiad yn defnyddio'r enghreifftiau o ordewdra ymlith plant, anafiadau plant a phydredd dannedd i ddangos effaith tlodi ar iechyd plant. Sicrhau bod y GIG yn cael yr effaith fwyaf posibl o ran atal anghydraddoldebau iechyd Mae'r Prif Swyddog Meddygol yn mynnu y gall y GIG wneud rhagor i atal anghydraddoldebau iechyd; sicrhau bod gwasanaethau'n cyrraedd y bobl fwyaf difreintiedig a lleihau'r galw cyffredinol am wasanaethau. Mae'n dweud y gall gwasanaethau gofal iechyd gyfrannu drwy atal iechyd gwael i'r rheini sy'n wynebu'r risg fwyaf a thrwy hyrwyddo cydraddoldeb o ran mynediad at y gwasanaethau a ddarperir a chanlyniadau ohonynt.   Mae'r Prif Swyddog Meddygol am annog y GIG yng Nghymru i edrych o ddifrif ar beth y gall ei wneud, a beth y dylai ei wneud, o ran cynllunio, partneriaethau, defnyddio adnoddau a chydweithio â chymunedau lleol er mwyn mynd i'r afael â'r problemau hyn. Mae iechyd da yn dibynnu ar lawer mwy na darparu gwasanaeth iechyd da Mae adroddiad blynyddol y Prif Swyddog Meddygol yn ei gwneud yn glir hefyd fod angen i wasanaethau cyhoeddus gydweithio er mwyn targedu pobl ddifreintiedig yn well. Mae'r adroddiad yn pwysleisio bod angen i gyrff sector cyhoeddus gydweithio i dargedu adnoddau er mwyn atal anghydraddoldebau iechyd a monitro eu perfformiad ar y cyd. Nid yw'n glir faint o arian a gaiff ei wario gan fyrddau iechyd a chynghorau yn y maes hwn, nac ar beth y caiff yr arian ei wario. Un o negeseuon cryf yr adroddiad yw pa mor hanfodol ydyw i wasanaethau a sefydliadau gwahanol weithredu ar y cyd er mwyn sicrhau canlyniadau gwell a thecach o ran iechyd. Mae adroddiad blynyddol y Prif Swyddog Meddygol yn cyfeirio'n benodol at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, sy'n rhoi fframwaith ar gyfer creu amgylchedd i sicrhau iechyd gwell yng Nghymru. Barn y rhanddeiliaid Mae llawer o randdeiliaid yng Nghymru wedi croesawu'r ffocws ar anghydraddoldebau iechyd, gan gynnwys Cymdeithas Feddygol Prydain, y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sydd oll yn cytuno bod angen gwneud rhagor i gau'r bwlch o ran iechyd rhwng y cyfoethog a'r tlawd. Mae gan y Prif Swyddog Meddygol newydd enw da ymhlith gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd, a chaiff ei adnabod fel rhywun a all weithio'n effeithiol gyda chlinigwyr a'r cyhoedd i helpu i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu'r GIG yng Nghymru. Fodd bynnag, nid ar chwarae bach y mae addasu'r amgylchedd fel y gall pobl yng Nghymru fod mor iach â phosibl. Mae adroddiad blynyddol y Prif Swyddog Meddygol yn cydnabod na fydd mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd yn hawdd, ac mai effaith gyfyngedig a gaiff gwaith GIG Cymru ar ben ei hun. Penodwyd Dr Frank Atherton yn Brif Swyddog Meddygol newydd Cymru ar 27 Ebrill 2016. Mae'n gyfrifol am ddarparu cyngor proffesiynol annibynnol i Lywodraeth Cymru. Cyhoeddwyd ei adroddiad blynyddol ar 11 Tachwedd 2016, a chaiff ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ar 29 Tachwedd 2016.