Cyhoeddwyd 04/12/2013
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
  |  
Amser darllen
munudau
4 Rhagfyr 2013
Erthygl gan Gareth Thomas a Hannah Johnson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Ers 1 Ebrill 2013, mae tenantiaid tai cymdeithasol o oedran gweithio sy'n cael budd-dal tai yn wynebu gostyngiad yn eu budd-dal
os ydynt yn byw mewn eiddo yr ystyrir ei fod yn rhy fawr iddynt.
Mae'r meini prawf maint yn y sector tai rhent cymdeithasol
yn cyfyngu ar y budd-dal tai gan ganiatáu un ystafell wely i bob person neu gwpl sy'n byw fel rhan o'r teulu, ond mae eithriadau:
- mae disgwyl i blant o dan 16 oed o'r un rhyw rannu;
- mae disgwyl i blant o dan 10 oed rannu waeth beth yw eu rhyw;
- caniateir i denant neu bartner anabl gael un ystafell wely ychwanegol os oes angen i ofalwr, nad yw'n byw yn yr eiddo, aros dros nos;
- caniateir i ofalwyr maeth gael un ystafell ychwanegol yn eu cartrefi os ydynt wedi'u cofrestru fel gofalwyr maeth neu wedi maethu plentyn yn ystod y 12 mis diwethaf.
Os ystyrir bod gan denantiaid ormod o ystafelloedd gwely, byddant yn wynebu
gostyngiad yn eu budd-dal tai, sef gostyngiad o 14% os oes un ystafell wely sbâr a gostyngiad o 25% os oes dwy ystafell wely sbâr neu ragor.
Mae cyfyngiadau ar y budd-dal tai y gellir ei hawlio, sy'n seiliedig ar faint yr eiddo, yn gymwys i denantiaid yn y sector tai rhent
preifat ers 1989.
Mae'r polisi hwn yn cael ei alw'n “
dreth ystafell wely” gan rai a chyfeirir ato hefyd fel “
cymhorthdal ystafell sbâr”.
Ar 13 Tachwedd, cyhoeddodd yr Adran Gwaith a Phensiynau
Number of Housing Benefit claimants and average weekly spare room subsidy amount withdrawal, sef yr ystadegau swyddogol cyntaf sy'n dangos effaith y polisi hwn. Mae'r cyhoeddiad yn cynnwys manylion y rhai yr effeithiodd y meini prawf maint arnynt ym Mhrydain Fawr rhwng mis Mai 2013 a mis Awst 2013, ac mae'n dangos ystadegau ar gyfer pob awdurdod lleol unigol. Mae'n bwysig nodi nad yw'r data a gyhoeddwyd yn cynnwys dau grŵp y mae'r mesur wedi effeithio arnynt, sef:
- Y rhai sydd wedi peidio â hawlio budd-dal tai oherwydd, er enghraifft, mae'r didyniad yn golygu nad oes dim budd-dal yn ddyledus iddynt neu maent wedi penderfynu peidio â hawlio budd-dal tai gan fod y swm y gallant ei hawlio mor fach.
- Y rhai sydd wedi symud eisoes - i eiddo llai yn y sector tai cymdeithasol, er enghraifft, neu wedi symud i'r sector tai rhent preifat.
Mae'r ffigurau'n dangos bod
budd-dal tai 33,876 o bobl yng Nghymru wedi gostwng o ganlyniad i'r meini prawf maint newydd ym mis Awst 2013, ac roedd 3,163 ohonynt yn byw yng Nghaerdydd a 2,901 yn Abertawe.
Ffigur 1: Y nifer ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru a welodd ostyngiad yn eu budd-dal tai o ganlyniad i'r meini prawf maint newydd, Awst 2013
Dyma brif gasgliadau'r data:
- Ar gyfartaledd, £13.11 oedd y gostyngiad wythnosol mewn budd-dal tai drwy Gymru yn Awst 2013. Mae hyn yn is na'r cyfartaledd drwy Brydain, sef £14.48, ond mae'n uwch na'r gostyngiad ar gyfartaledd yn yr Alban, Swydd Efrog a'r Humber a Gogledd-ddwyrain Lloegr. Yn Llundain y gwelwyd y gostyngiad mwyaf ar gyfartaledd, sef £20.22;
- Mae'r 33,876 o bobl yng Nghymru yr effeithiodd y mesur arnynt yn Awst 2013 yn cyfateb i 6.5% o bawb ym Mhrydain Fawr a oedd yn cael budd-dal tai. Mewn cymhariaeth, 5% o boblogaeth Prydain Fawr sy'n byw yng Nghymru;
- Ym mis Awst 2013, roedd y mesur wedi effeithio ar 21% o'r rhai sy'n cael budd-dal tai ac sy'n byw mewn tai cymdeithasol yng Nghymru. Mewn cymhariaeth, drwy Brydain, roedd y mesur wedi effeithio ar 16% o'r rhai sy'n cael budd-dal tai ac sy'n byw mewn tai cymdeithasol; a
- Yr awdurdodau lleol yng Nghymru lle mae'r mesur wedi effeithio ar y ganran uchaf o denantiaid tai cymdeithasol yw Merthyr Tudful (26.3%), Blaenau Gwent (25.8%) a Chaerffili (24.3%).
Ffigur 2: Canran o'r holl denantiaid sy'n cael budd-dal tai yn y sector tai rhent cymdeithasol a welodd gostyngiad yn eu budd-dal ym mis Awst 2013, yn awdurdodau lleol Cymru
Ffynhonnell: Cyfrifiadau'r Gwasanaeth Ymchwil drwy ddefnyddio
Stat Xploreyr Adran Gwaith a Phensiynau