Bydd adeiladau'r Senedd a'r Pierhead ar gau i'r cyhoedd ddydd Iau 15 Hydref. Mae rhagor o wybodaeth am gau’r adeiladau ar gael yma.
Mae ffigurau am effaith meini prawf maint ar gyfer budd-dal tai tenantiaid tai cymdeithasol ar gael am y tro cyntaf
Cyhoeddwyd 04/12/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munud
4 Rhagfyr 2013
Erthygl gan Gareth Thomas a Hannah Johnson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Ers 1 Ebrill 2013, mae tenantiaid tai cymdeithasol o oedran gweithio sy'n cael budd-dal tai yn wynebu gostyngiad yn eu budd-dal os ydynt yn byw mewn eiddo yr ystyrir ei fod yn rhy fawr iddynt.
Mae'r meini prawf maint yn y sector tai rhent cymdeithasol yn cyfyngu ar y budd-dal tai gan ganiatáu un ystafell wely i bob person neu gwpl sy'n byw fel rhan o'r teulu, ond mae eithriadau:
Dyma brif gasgliadau'r data:
Ffynhonnell: Cyfrifiadau'r Gwasanaeth Ymchwil drwy ddefnyddio Stat Xploreyr Adran Gwaith a Phensiynau
- mae disgwyl i blant o dan 16 oed o'r un rhyw rannu;
- mae disgwyl i blant o dan 10 oed rannu waeth beth yw eu rhyw;
- caniateir i denant neu bartner anabl gael un ystafell wely ychwanegol os oes angen i ofalwr, nad yw'n byw yn yr eiddo, aros dros nos;
- caniateir i ofalwyr maeth gael un ystafell ychwanegol yn eu cartrefi os ydynt wedi'u cofrestru fel gofalwyr maeth neu wedi maethu plentyn yn ystod y 12 mis diwethaf.
- Y rhai sydd wedi peidio â hawlio budd-dal tai oherwydd, er enghraifft, mae'r didyniad yn golygu nad oes dim budd-dal yn ddyledus iddynt neu maent wedi penderfynu peidio â hawlio budd-dal tai gan fod y swm y gallant ei hawlio mor fach.
- Y rhai sydd wedi symud eisoes - i eiddo llai yn y sector tai cymdeithasol, er enghraifft, neu wedi symud i'r sector tai rhent preifat.
Dyma brif gasgliadau'r data:
- Ar gyfartaledd, £13.11 oedd y gostyngiad wythnosol mewn budd-dal tai drwy Gymru yn Awst 2013. Mae hyn yn is na'r cyfartaledd drwy Brydain, sef £14.48, ond mae'n uwch na'r gostyngiad ar gyfartaledd yn yr Alban, Swydd Efrog a'r Humber a Gogledd-ddwyrain Lloegr. Yn Llundain y gwelwyd y gostyngiad mwyaf ar gyfartaledd, sef £20.22;
- Mae'r 33,876 o bobl yng Nghymru yr effeithiodd y mesur arnynt yn Awst 2013 yn cyfateb i 6.5% o bawb ym Mhrydain Fawr a oedd yn cael budd-dal tai. Mewn cymhariaeth, 5% o boblogaeth Prydain Fawr sy'n byw yng Nghymru;
- Ym mis Awst 2013, roedd y mesur wedi effeithio ar 21% o'r rhai sy'n cael budd-dal tai ac sy'n byw mewn tai cymdeithasol yng Nghymru. Mewn cymhariaeth, drwy Brydain, roedd y mesur wedi effeithio ar 16% o'r rhai sy'n cael budd-dal tai ac sy'n byw mewn tai cymdeithasol; a
- Yr awdurdodau lleol yng Nghymru lle mae'r mesur wedi effeithio ar y ganran uchaf o denantiaid tai cymdeithasol yw Merthyr Tudful (26.3%), Blaenau Gwent (25.8%) a Chaerffili (24.3%).
Ffynhonnell: Cyfrifiadau'r Gwasanaeth Ymchwil drwy ddefnyddio Stat Xploreyr Adran Gwaith a Phensiynau