Mae Erthygl 50 wedi’i thanio; beth sy'n digwydd nesaf?

Cyhoeddwyd 29/03/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

29 Mawrth 2017 View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Mae Theresa May, Prif Weinidog y DU, wedi hysbysu’r Cyngor Ewropeaidd fod Llywodraeth y DU yn bwriadu tanio Erthygl 50 o Gytuniad ar yr Undeb Ewropeaidd. Mae hyn yn golygu bod gan y DU a’r Undeb Ewropeaidd gyfnod o ddwy flynedd yn awr i drafod cytundeb i’r DU adael yr UE. Ni fydd modd ymestyn y cyfnod hwn o ddwy flynedd heb gefnogaeth unfrydol yr holl Aelod-wladwriaethau. O dan y broses a amlinellir yn Erthygl 50, rhaid i'r Cyngor Ewropeaidd gymeradwyo unrhyw gytundeb drwy fwyafrif cymwysedig a rhaid i Senedd Ewrop bleidleisio o blaid cytundeb drwy fwyafrif syml. I gael mwyafrif cymwysedig yn y Cyngor Ewropeaidd, rhaid i o leiaf 72% o’r Aelod-wladwriaethau sy’n cynrychioli o leiaf 65% o boblogaeth y 27 bleidleisio o blaid. Mae hyn yn cyfateb i 20 o Aelod-wladwriaethau. Amcangyfrifiwyd mai 508 miliwn oedd cyfanswm poblogaeth yr UE yn 2015 . Heb y DU, y ffigur ar gyfer 2015 fyddai 442 miliwn o bobl (65% o hyn fyddai tua 287 miliwn o bobl). Yr Aelod-wladwriaethau mwyaf poblog yw’r Almaen, Ffrainc, yr Eidal, Sbaen a Gwlad Pwyl, ac lleiaf poblog yw Malta, Lwcsembwrg, Cyprus, Estonia a Latvia. Caiff y DU ei thrin fel gwladwriaeth sydd y tu allan i'r UE at ddibenion unrhyw drafodaethau ynghylch Erthygl 50 ac, felly, ni fydd yn cymryd rhan yn nhrafodaethau’r Cyngor Ewropeaidd ynghylch y cytundeb i adael yr UE. Bydd yr UE yn cynnal y trafodaethau’n unol ag Erthygl 218 (3) o'r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd. Hon yw’r Erthygl sy'n esbonio’r broses y bydd yr UE yn ei dilyn pan fydd yn trafod cytundebau ag unrhyw wledydd nad ydynt yn rhan o’r UE, er enghraifft pan fydd yn trafod cytundebau masnach. Yn unol â gofynion yr Erthygl hon, bydd y Comisiwn Ewropeaidd yn cyflwyno canllawiau i'r Cyngor Ewropeaidd ar gyfer y trafodaethau. Bydd y rhain yn nodi'r blaenoriaethau a'r ffiniau cyffredinol y bydd yr UE yn ceisio cadw atynt yn ystod ei thrafodaethau â’r DU. Y Cyngor Ewropeaidd yw’r corff sy’n cynnwys Penaethiaid y Gwladwriaethau a Llywodraethau’r Aelod-wladwriaethau, Donald Tusk, Llywydd y Cyngor Ewropeaidd, a Jean-Claude Junker, Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd. Mae Donald Tusk, Llywydd y Cyngor Ewropeaidd, wedi dweud y bydd aelodau Cyngor Ewropeaidd yn cyfarfod ar 29 Ebrill, heb y DU, i drafod y canllawiau hyn. Cyn gynted ag y bydd y canllawiau wedi’u cytuno, mae’n debyg y caiff y Comisiwn Ewropeaidd y cyfrifoldeb o baratoi’r cyfarwyddebau manwl ar gyfer y trafodaethau. Bydd angen i Gyngor yr UE gytuno arnynt drwy fwyafrif cymwysedig. Yng Nghyngor yr UE y bydd gweinidogion yr Aelod-wladwriaethau, ar lefel is na phenaethiaid y gwladwriaethau, yn cyfarfod. Bydd gweinidogion penodol yn cyfarfod mewn cyfluniadau penodol o’r Cyngor yn ôl y maes pwnc. Er enghraifft, bydd gweinidogion amaethyddiaeth yn cyfarfod yn y Cyngor Amaethyddiaeth. Mae’n debygol y bydd y Cyngor Materion Cyffredinol, sy’n cynnwys gweinidogion Ewropeaidd neu Faterion Allanol yn pleidleisio ar y cyfarwyddebau trafod. Awgrymwyd y bydd y bleidlais hon yn cael ei chynnal tua diwedd mis Mehefin 2017 ar ôl etholiadau Arlywydd Ffrainc ar 7 Mai. Dim ond wedi i’r bleidlais hon gael ei chynnal y gall y trafodaethau ffurfiol ddechrau. Disgwylir i’r Cyngor Ewropeaidd ofyn i Michel Barnier, pennaeth tasglu’r Comisiwn Ewropeaidd, arwain trafodaethau’r UE ar Brexit , ond mae'n debygol o weithio'n agos gyda Didier Seeuws, Pennaeth Tasglu Brexit y Cyngor. Mae Guy Verhofstadt, prif negodwr Senedd Ewrop, hefyd yn debygol o fod yn rhan o’r trafodaethau o gofio bod angen i Senedd Ewrop gydsynio â’r cytundeb terfynol, yn ôl gofynion Erthygl 50. Nid yw ffurf y trafodaethau’n hysbys eto, na faint o drafodaethau a gynhelir, pwy fydd yn yr ystafell na lle y cânt eu cynnal. Dyma, mae’n debyg, fydd y peth cyntaf y cytunir arno. Mae Llywodraeth Cymru wedi galw am i’r gweinyddiaethau datganoledig gael eu cynnwys yn llawn yn y trafodaethau, yn enwedig yn y trafodaethau ar y meysydd lle y mae cymhwysedd wedi’i ddatganoli ac ar faterion a gadwyd yn ôl, fel masnach, a allai effeithio ar feysydd lle mae cymhwysedd wedi’i ddatganoli, fel amaethyddiaeth.

Ymatebion i’r hysbysiad

Yn ei llythyr ynglŷn ag Erthygl 50 at Donald Tusk, Llywydd Cyngor Ewrop, dywedodd y Prif Weinidog y byddai Llywodraeth y DU yn ystyried buddiannau penodol gwahanol wledydd a rhanbarthau’r DU yn ei thrafodaethau gyda’r UE.  Yn ychwanegol at hynny, amlinellodd y Prif Weinidog:
Pan ddaw at ddychwelyd pwerau i’r Deyrnas Unedig, byddwn yn ymgynghori’n llawn ar ba bwerau ddylai aros yn San Steffan a pha rai ddylai gael eu datganoli i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Ond mae’r Llywodraeth yn disgwyl mai canlyniad y broses hon fydd cynnydd sylweddol ym mhŵer pob gweinyddiaeth ddatganoledig i wneud penderfyniadau.
Mae Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, wedi nodi bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i’r blaenoriaethau a nodir yn ei Phapur Gwyn a bydd yn gweithio’n ‘adeiladol’ gyda Llywodraeth y DU yn y broses drafod. Fodd bynnag, dywedodd y Prif Weinidog hefyd:
Os y teimlwn, wrth i’r trafodaethau fynd yn eu blaen, nad yw ein blaenoriaethau’n cael eu hyrwyddo a bod ein cynrychiolaeth yn disgyn islaw lefel sy’n dderbyniol inni, ni fyddwn yn aros yn dawel. Ni fyddwn yn caniatáu i Gymru gael ei gwthio i’r cyrion - byddwn yn ddi-flewyn-ar-dafod ac yn sicrhau bod ein llais yn cael ei glywed.
Dywedodd David Rees, Cadeirydd Pwyllgor Materion Allanol y Cynulliad:
Mae tanio Erthygl 50 yn nodi moment arwyddocaol yn hanes ein gwlad. Bydd y cyfnod trafod o ddwy flynedd yn dechrau o ddifrif a bydd ein pwyllgor trawsbleidiol yn gweithio'n ddiflino i sicrhau bod llais Cymru'n cael ei glywed yn Llundain, ym Mrwsel, ac ym mhrifddinasoedd Ewrop.

Gwaith y Cynulliad ar Erthygl 50 a’r broses o adael yr UE

Mae'r Cynulliad wedi cynnal nifer o ddadleuon a thrafodaethau ynghylch y broses o adael yr UE. Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol  (@SeneddEAAL) sy’n arwain y gwaith o ystyried y goblygiadau i Gymru. Cynhaliodd y Pwyllgor gynhadledd genedlaethol i drafod blaenoriaethau Cymru yn nhrafodaethau Erthygl 50 a hynny ar 27 Mawrth yn y Pierhead, Caerdydd. Roedd yn gyfle i sefydliadau a chyrff allweddol o bob rhan o Gymru, a phobl ifanc ac Aelodau'r Cynulliad, ddod ynghyd i drafod blaenoriaethau ar gyfer y ddwy flynedd nesaf. Mae pwyllgorau eraill y Cynulliad yn cynnal ymchwiliadau i faterion yn ymwneud â sectorau penodol. Cyhoeddodd y  Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ei adroddiad ar ddyfodol rheoli rheoli tir yng Nghymru yn ddiweddar, ac mae’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol  yn cynnal ymchwiliad i hawliau dynol yng Nghymru sy'n cynnwys ystyried sut y bydd penderfyniad y DU i adael yr UE yn effeithio ar hawliau dynol yng Nghymru.
Erthygl gan Nia Moss, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Mae Erthygl 50 wedi’i thanio; beth sy'n digwydd nesaf? (PDF, 268KB)