Er gwaethaf y pandemig, bydd y cyfrifiad nesaf yn cael ei gynnal ar ddydd Sul 21 Mawrth 2021. Mae'r erthygl hon yn rhoi rhywfaint o wybodaeth am yr hyn a fydd ynddo, a sut y bydd yn cael ei ddefnyddio.
Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol
Beth yw’r Cyfrifiad?
Mae'r Cyfrifiad yn arolwg o'r holl aelwydydd yng Nghymru a Lloegr, sy'n cael ei gynnal bob 10 mlynedd. Ystyrir mai Cyfrifiad 1841 oedd un cyntaf y cyfnod modern ac ers hynny, dim ond ym 1941 ni chafodd y Cyfrifiad ei gynnal (oherwydd yr Ail Ryfel Byd).
Awdurdod Ystadegau'r DU a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol sy’n gyfrifol am reoli'r Cyfrifiad. Mae’r Datganiad ysgrifenedig: Cyfrifiad 2021 yng Nghymru yn egluro sut mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar bob agwedd ar y cyfrifiad yng Nghymru. Gall pawb yng Nghymru gymryd rhan yn y Cyfrifiad yn Gymraeg neu’n Saesneg.
Pa gwestiynau y mae’r Cyfrifiad yn eu gofyn?
Bydd Holiadur Cyfrifiad 2021 yn cynnwys cwestiynau am oedran, rhyw, gwaith, iechyd, addysg, sgiliau o ran y Gymraeg, maint aelwydydd ac ethnigrwydd. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn defnyddio Grwpiau Cynghori’r Cyfrifiad fel un dull o ymgynghori â defnyddwyr y Cyfrifiad. Mae rhagor o wybodaeth ynghylch y modd y datblygwyd yr holiadur yng Nghymru i’w chael ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
A yw'r holiadur wedi newid ers 2011?
Mae holiadur Cyfrifiad 2021 yn cynnwys cwestiynau gwirfoddol i bobl 16 oed a hŷn ar gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd am y tro cyntaf.
At hynny, mae yna gwestiwn newydd hefyd yn gofyn i ymatebwyr a ydyn nhw wedi gwasanaethu yn Lluoedd Arfog y DU o'r blaen. Yn yr adran aelwydydd mae cwestiwn newydd ar systemau ynni adnewyddadwy.
Mae cwestiynau sy'n gofyn am gyfanswm nifer yr ystafelloedd yn eich haelwyd a'r flwyddyn y buoch chi'n gweithio ddiwethaf wedi'u dileu.
Sut mae data’r Cyfrifiad yn cael ei ddefnyddio?
Defnyddir data a gesglir o'r Cyfrifiad at ystod eang o ddibenion gan gynnwys; llunio polisïau, dyrannu adnoddau, cynllunio gwasanaethau cyhoeddus a deall bywydau gwahanol grwpiau o fewn cymdeithas. Defnyddir y data gan Senedd Cymru, busnesau, awdurdodau lleol, awdurdodau iechyd, elusennau a llawer o rai eraill.
Mae'r Cyfrifiad yn darparu lefel ronynnog o ddata nad yw ar gael o ffynonellau eraill ac y gellir ei chymharu dros gyfnod hir.
Mae deall effeithiau pandemig y Coronafeirws ar fywydau pobl yng Nghymru hefyd yn gwneud y Cyfrifiad hwn yn bwysicach fyth. Nodiadau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol:
Mae'r Cyfrifiad yn cyrraedd ar adeg dyngedfennol. Bydd yn sylfaenol i'n dealltwriaeth o'r effaith y mae'r Coronafeirws (COVID-19) wedi'i gael ar wahanol gymunedau, a’r modd yr ydym i gyd yn byw.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 hefyd wedi cynyddu'r angen am ddata i ddeall llesiant pobl yng Nghymru.
Sut fydd y Cyfrifiad yn cael ei gynnal yn ystod pandemig y Coronafeirws?
Mae Llywodraeth Cymru a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cydweithio i sicrhau diogelwch y cyhoedd a staff maes yn ystod Cyfrifiad 2021. Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn monitro'r pandemig ac yn addasu eu cynlluniau yn unol â chanllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Dyma ddatganiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol:
Our main focus in planning and delivering the census at this time is the health and safety of the public and our staff, and we are ensuring that everyone can be safely counted.
Esbonia’r Swyddfa Ystadegau Gwladol sut iddyn nhw benderfynu bwrw ymlaen â Chyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr:
We have kept all options open throughout the decision making process, prioritising our ability to ensure the health and safety of the public and our staff. Consideration has been given to the fact that to delay would have meant waiting a whole year. This is because the census needs to take place in late March to allow sufficient hours of daylight for field officers to work... An added consideration is the cost of a delay which would have been approximately £360m, to take account of the need to repeat many activities already undertaken...
Mae Cyfrifiad 2021 yn 'gyfrifiad digidol yn gyntaf', gellir ei gwblhau ar unrhyw ddyfais gan gynnwys ffonau symudol, gliniaduron, cyfrifiaduron personol a llechi. Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn annog pobl i'w lenwi ar-lein pe gallan nhw wneud ac yn gobeithio y bydd y gyfradd llenwi ar-lein yn 75%. Bydd cymorth ar gael ar-lein, dros y ffôn, gwe-sgwrs, e-bost, y cyfryngau cymdeithasol neu neges destun, ond os yw'n well gan bobl lenwi ffurflen bapur byddant yn dal i allu gwneud hynny.
Ar ôl diwrnod y Cyfrifiad, bydd swyddogion maes yn ymweld ag aelwydydd nad ydynt wedi llenwi ffurflen y Cyfrifiad, gan eu hannog i wneud hynny. Bydd y swyddogion maes yn gwisgo Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) ac yn gweithio yn ôl arweiniad y llywodraeth, ac ni fyddant yn mynd i mewn i dai pobl.
Y Cyfrifiad yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban ac Iwerddon
Bydd y Cyfrifiad yng Ngogledd Iwerddon yn cael ei gynnal yr un diwrnod â'r cyfrifiad ar gyfer Cymru a Lloegr, ond mae’r Cyfrifiad yn yr Alban wedi symud i 2022 oherwydd y pandemig. Mae'r cyfrifiad yn Iwerddon hefyd wedi'i ohirio tan 2022.
Pryd fydd y canlyniadau ar gael?
Yn ôl cerrig milltir y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer Cyfrifiad 2021, cyhoeddir amserlen ddrafft o allbynnau'r cyfrifiad ym mis Mehefin 2021 gyda manylion llawn amserlen yr allbynnau ar gael ym mis Ionawr 2022.
Disgwylir i'r amcangyfrifon o boblogaethau awdurdodau lleol, sy'n seiliedig ar y cyfrifiad, gael eu cyhoeddi ym mis Mawrth 2022, gyda holl allbynnau cyfrifiad yn cael eu rhyddhau erbyn mis Mawrth 2023.
Rhagor o wybodaeth
Mae rhagor o wybodaeth i’w chael ar wefan Cyfrifiad 2021 y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Erthygl gan Helen Jones, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru