Etholiad yn ystod pandemig

 Etholiad yn ystod pandemig

Llywodraeth Cymru’n cyflwyno Bil etholiadau brys yn sgil y coronafeirws

Cyhoeddwyd 27/01/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/01/2021   |   Amser darllen munudau

Mae etholiad cyffredinol nesaf y Senedd wedi’i drefnu ar gyfer dydd Iau 6 Mai 2021.

Ar 27 Ionawr 2021, cyflwynodd Llywodraeth Cymru Fil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) gerbron y Senedd. Mae’r Bil yn cynnig cyflwyno mesurau wrth gefn at ddibenion etholiad y Senedd 2021 yn unig.

Mae ein Crynodeb o’r Bil yn esbonio cefndir y Bil ac yn cynnwys dadansoddiad cynhwysfawr o’i ddarpariaethau.

Beth mae’r Bil yn ei wneud?

Mae’r Bil yn gwneud tri pheth allweddol:

1. Rhoi pŵer sy’n galluogi’r Llywydd i ohirio’r etholiad hyd at chwe mis;

  • Nid yw hyn yn newid dyddiad yr etholiad yn awtomatig;
  • Mae'r broses yn cael ei sbarduno gan y Prif Weinidog os bydd yn cynnig gohirio oherwydd y coronafeirws;
  • Yna gall y Llywydd bennu dyddiad newydd y mae'n rhaid iddo fod y dyddiad cynharaf sy’n cael ei ystyried yn rhesymol ymarferol; fodd bynnag
  • Rhaid i’r Senedd dderbyn unrhyw ddyddiad mewn pleidlais lle nad oes ‘llai na dwy ran o dair o gyfanswm nifer y seddi yn y Senedd’ yn pleidleisio o blaid. Yr enw am hyn yw ‘pleidlais uwchfwyafrif’.

2. Lleihau cyfnod diddymu'r Senedd i saith diwrnod, gan ddechrau ar 29 Ebrill 2021

  • Diddymu yw'r term swyddogol a ddefnyddir ar gyfer diwedd cyfnod senedd.
  • Heb y Bil, byddai'r Senedd yn cael ei diddymu ar 7 Ebrill 2021;
  • Pan gaiff y Senedd ei diddymu, ni ellir adalw’r Aelodau i drafod na phasio deddfwriaeth gan fod eu cyfnod yn y swydd yn dod i ben adeg y diddymiad;
  • Mae'r newidiadau o dan y Bil yn golygu y gellir adalw’r Aelodau i drafod rheoliadau’r coronafeirws neu ohirio'r etholiad hyd at wythnos cyn dyddiad yr etholiad a drefnwyd neu a ohiriwyd.

3. Darparu hyblygrwydd ar gyfer pleidleisio drwy ddirprwy

  • Mae pleidleisio ‘trwy ddirprwy’ yn golygu bod rhywun yn trefnu i berson arall bleidleisio ar ei ran;
  • Mae'r Bil yn ychwanegu hyblygrwydd at y rheolau cyfredol trwy ganiatáu i bobl bleidleisio trwy ddirprwy os na ellir yn rhesymol ddisgwyl iddynt bleidleisio wyneb yn wyneb oherwydd cydymffurfio â deddfwriaethau’r coronafeirws (er enghraifft, hunanynysu);
  • Gellir gwneud ceisiadau i bleidleisio trwy ddirprwy oherwydd y coronafeirws hyd at 5pm ar ddiwrnod yr etholiad ei hun.

Amserlen y Bil

Ar 26 Ionawr, cytunodd y Senedd y caiff y Bil ei drin fel Bil Brys. Mae’r Senedd wedi symleiddio’r prosesau deddfwriaethol ar gyfer craffu ar Filiau Brys sy’n galluogi deddfu ar faterion brys yn gyflym. Mae ein Canllaw ar Filiau Brys yn amlinellu'r broses hon.

O dan amserlen arfaethedig Llywodraeth Cymru ar gyfer y Bil , bwriedir cwblhau pob un o bedwar cyfnod craffu’r Senedd erbyn 10 Chwefror 2021.


Erthygl gan Gruffydd Owen, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru