Llwybr newydd ar gyfer strategaeth drafnidiaeth Cymru

Cyhoeddwyd 12/03/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/03/2021   |   Amser darllen munudau

Lansiodd Llywodraeth Cymru ei hymgynghoriad, Llwybr Newydd: strategaeth drafnidiaeth newydd Cymru, ym mis Tachwedd y llynedd, ac fe’i derbyniwyd yn gadarnhaol ar y cyfan.

Gan fod y strategaeth derfynol ar fin cael ei chyhoeddi, mae’n adeg briodol i feddwl am yr heriau y bydd angen iddi fynd i’r afael â nhw, a sut mae cynigion yr ymgynghoriad yn cwrdd â’r gofynion.

Beth yw Strategaeth Drafnidiaeth Cymru?

Mae Strategaeth Drafnidiaeth Cymru yn ddogfen statudol. Mae'n ofynnol i Lywodraeth Cymru baratoi a chyhoeddi strategaeth, gan nodi ei pholisïau trafnidiaeth a sut y cânt eu gweithredu.

Cyhoeddwyd y strategaeth gyfredol yn 2008 ac fe'i gweithredwyd yn genedlaethol drwy Gynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol 2010 a, wedi hynny, y Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol..

Mae gweithredu lleol wedi bod trwy Gynlluniau Trafnidiaeth Lleol a Rhanbarthol.

Pam fod hyn o bwys?

Rhoddodd y Dirprwy Weinidog flas ar y materion y bydd angen i'r strategaeth fynd i'r afael â nhw pan lansiodd yr ymgynghoriad. Fe ddisgrifiodd “gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i roi trafnidiaeth gyhoeddus a thrafnidiaeth gynaliadwy wrth wraidd y Gymru yr ydym ni eisiau ei hadeiladu, i'n rhoi ar lwybr newydd.”

Bydd cyflawni'r weledigaeth honno'n golygu mynd i'r afael â rhai tueddiadau adnabyddus o ran polisi ac ymddygiad teithio, a chefnogi adferiad ar ôl y pandemig.

Bydd angen i'r strategaeth ddarparu fframwaith ar gyfer newid moddol i drafnidiaeth llesol a chynaliadwy sy'n ganolog i gynlluniau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd ac ansawdd aer gwael.

Mae Covid wedi dod ag ansicrwydd enfawr, ac mae adferiad cynaliadwy yn her wirioneddol. Mae wedi bod yn daith garw i drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, gyda’r gwasanaethau bysiau a’r gwasanaethau rheilffyrdd yn ddibynnol ar gynhaliaeth, tra bod y cyhoedd wedi dibynnu yn fwyfwy ar geir preifat. Mae bywyd o dan y cyfyngiadau symud wedi awgrymu cyfleoedd i annog teithio llesol. Tra bydd angen i borthladdoedd Cymru a Maes Awyr Caerdydd ymdopi â’r canlyniadau yn sgil Covid a diwedd cyfnod pontio Brexit.

Efallai y bydd union bwrpas trafnidiaeth yn newid yn sylweddol ar ôl y pandemig, gyda pholisi Cymru yn canolbwyntio ar gefnogi gweithio o bell, creu lleoedd a thrawsnewid trefi a dinasoedd i ymateb i newidiadau yn y ffordd y cânt eu defnyddio.

Mae llywodraethu trafnidiaeth yn newid hefyd: Mae rôl Trafnidiaeth Cymru (TfW) yn tyfu, ac mae strwythurau llywodraeth leol newydd wedi'u cynllunio i gyflawni polisi trafnidiaeth lleol ar sail ranbarthol. Bydd y rhain yn allweddol er mwyn darparu rhaglenni tocynnau mawr fel systemau Metro Cymru, ac argymhellion Comisiwn Burns.

Ac wrth gwrs, mae hyn i gyd yn digwydd cyn etholiad lle gallai llywodraeth newydd ddod â blaenoriaethau newydd.

Beth oedd yr ymgynghoriad yn ei gynnig?

Mae'r ddogfen ymgynghori yn nodi gweledigaeth 20 mlynedd ar gyfer “system drafnidiaeth gynaliadwy a hygyrch” gyda phedair “uchelgais” hirdymor i drafnidiaeth fod yn dda ar gyfer pobl a chymunedau; yr amgylchedd; lleoedd a'r economi; a diwylliant a’r Gymraeg.

Mae set gychwynnol o flaenoriaethau pum mlynedd “yn anelu at fynd i’r afael â’r materion mwyaf taer”:

  1. cynllunio ar gyfer gwell cysylltedd;
  2. gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus;
  3. seilwaith trafnidiaeth ddiogel a hygyrch a gaiff ei reoli a’i gynnal a'i gadw'n dda;
  4. gwneud trafnidiaeth gynaliadwy yn fwy deniadol a fforddiadwy; a
  5. chefnogi mesurau arloesol sy'n cyflawni dewisiadau trafnidiaeth mwy cynaliadwy.

O ran monitro a gwerthuso, mae'r ymgynghoriad yn ymrwymo “i gwmpasu pob dull teithio a hefyd ddefnyddio sawl ffynhonnell data”. Bydd Trafnidiaeth Cymru yn datblygu ffynonellau data newydd i lenwi unrhyw fylchau, a bydd targedau'n cael eu datblygu ar gyfer newid mewn dulliau teithio.

Disgrifir y broses o gyflawni yn nhermau egwyddorion fel buddsoddi cynaliadwy, a gweithio mewn partneriaeth, ac mae’r strategaeth wedi cael ei datblygu yng nghyd-destun Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Mae cynlluniau cyflawni amrywiol wedi’u nodi, gan gynnwys:

  • Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth (CCCT) ar gyfer ymyriadau Llywodraeth Cymru;
  • cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol ar gyfer ymyriadau llywodraeth leol ar sail ranbarthol;
  • Datganiad am y Cronfeydd sydd ar Gael (SoFA) sy'n darparu senarios cyllideb pum mlynedd ar gyfer Trafnidiaeth Cymru;
  • llwybr datgarboneiddio ar gyfer trafnidiaeth a chynllun gweithredu ar gyfer rheoli’r galw;
  • gweithio ar fentrau polisi parhaus gan gynnwys argymhellion Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru, terfynau cyflymder a chyfyngiadau ar barcio ar y palmant; a
  • strategaethau ar gyfer sectorau a dulliau teithio sy’n ymdrin â phob dull teithio.

A fydd y strategaeth yn llwyddiannus?

Mae'r ddogfen ymgynghori, sy'n disgrifio strategaeth gynhwysfawr, gynaliadwy, integredig, aml-fodd, wedi cael derbyniad da ar y cyfan gan lawer yn y sector trafnidiaeth.

Fodd bynnag, yn aml mae ymatebion rhanddeiliaid wedi bod yn gymysg eu natur, a bydd cyflawni’n hollbwysig.

Croesawodd Sustrans Cymru y strategaeth ddrafft, ond pwysleisiodd ‘yr angen i wneud yn siŵr bod y camau a gymerir yn cyflawni’r dyheadau’. Dywedodd y Gymdeithas Cludiant Cymunedol ei fod yn ‘foment gyffrous’ a chroesawodd yr ymrwymiad i ddull cydweithredol.

Croesawodd Transport Focus, sef y corff gwarchod defnyddwyr annibynnol ar gyfer rheilffyrdd ‘y cynigion uchelgeisiol’, ond pwysleisiodd yr angen i ganolbwyntio ar deithwyr - yn enwedig i fagu eu hyder eto ar ôl y pandemig.

Er bod y Grŵp Cludo Nwyddau ar y Rheilffyrdd ‘yn cefnogi’r weledigaeth ar gyfer y strategaeth newydd yn llawn’, fe synhwyrodd ei bod yn canolbwyntio ar deithwyr, ac awgrymodd nad yw cludo nwyddau yn cael ei ystyried yn llawn.

Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ei bod yn ‘gefnogol’ i’r cynigion, ond cododd nifer o faterion gan gynnwys yr angen am ‘fuddsoddiad sylweddol ymlaen llaw’ a’r adnoddau i gynnal seilwaith.

Mae'n ddigon posibl y bydd llywodraeth leol yn cwestiynu a fydd hefyd yn elwa ar y sicrwydd gwell a gynigir gan y senarios pum mlynedd arfaethedig ar gyfer Trafnidiaeth Cymru.

Rhoddodd Cynghrair Pobl Hŷn Cymru ‘groeso cyffredinol’ iddi, ond dywedodd fod ‘llawer i’w wneud i wireddu’r uchelgeisiau a sicrhau bod opsiynau trafnidiaeth dibynadwy ar gael i bobl hŷn, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig’. Gofynnodd am sicrwydd ar faterion fel tocynnau bws, codi ffi ar ddefnyddwyr ffyrdd a pha mor aml y mae gwasanaethau’n rhedeg. Yn yr un modd, roedd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn gadarnhaol, ond pwysleisiodd “y bydd angen cryn dipyn o waith i gyflawni yn erbyn ei huchelgais a’i hymrwymiadau.”

A yw'n gynaliadwy?

Croesawodd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol y ddogfen, gan ddweud ei bod wedi ymateb i’w heriau. Fodd bynnag, rhybuddiodd fod yn rhaid iddi gael ei “hategu” trwy ail-flaenoriaethu buddsoddi mewn ffyrdd, ynghyd â mwy o ffocws ar gysylltedd cynaliadwy a digidol.

Yn hyn o beth, mynegodd Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ‘siom’ nad oedd yr opsiwn 'llwybr coch' ar gyfer Coridor A55/A494/A548 Sir y Fflint, y mae'n ei wrthwynebu, wedi’i grybwyll. Er na fyddai prosiectau unigol o reidrwydd yn cael sylw mewn ymgynghoriad strategaeth, mae hyn yn amlygu’r her o ran gosod buddsoddiad priffyrdd mewn strategaeth sy’n hyrwyddo ei rhinweddau cynaliadwy.

Bydd y diwydiant hedfan yn codi cwestiynau tebyg.

Tynnodd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol sylw hefyd at yr angen am asesiad cadarn o fuddsoddiad drwy gymhwyso Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG), a adolygwyd yn 2017 gyda'i mewnbwn.

Tynnodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau y Senedd sylw at gyfyngiadau o ran gweithredu WelTAG yn ei adroddiad diweddaraf ar y gyllideb ddrafft . Croesawodd y Pwyllgor sylwadau gonest gan y Dirprwy Weinidog a ddywedodd ‘y gallwch newid y fformiwla [WelTAG] a newid y prosesau, ond os yw'r bobl sy'n eistedd i lawr yn gwneud y penderfyniadau hynny eisoes wedi gwneud eu penderfyniadau’ yna mae ‘WelTAG yn ddigon hydrin i allu cynhyrchu’r canlyniad rydych chi am iddo ei gynhyrchu’.

Ni all WelTAG wneud canlyniadau arfarniad yn gynaliadwy ar ei ben ei hun.

Rhoddodd Cyfeillion y Ddaear Cymru ‘groeso cynnes’ i’r ymgynghoriad, gan ddweud ei fod yn addo ‘dechrau newydd o ran y ffordd yr ydym yn gweld teithio a thrafnidiaeth yng Nghymru’. Galwodd am weithredu i gyflawni'r uchelgeisiau a'r blaenoriaethau. Mewn blog a gyhoeddwyd ar wefan Cyfeillion y Ddaear Cymru disgrifiodd Trafnidiaeth er Bywyd o Safon y cynigion fel “ein gobaith gorau ar gyfer system drafnidiaeth sy'n decach ar bobl a'r blaned”.

Dull gweithredu integredig?

Bydd integreiddio dulliau trafnidiaeth yn parhau i fod yn her, ynghyd ag integreiddio cynllunio trafnidiaeth â meysydd polisi ehangach fel iechyd a chynllunio defnydd tir.

Mae'r ymgynghoriad yn nodi bod “cynllunio ar gyfer gwell cysylltedd” yn flaenoriaeth, ac yn gwneud cysylltiadau â Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Llywodraeth Cymru a Pholisi Cynllunio Cymru, y mae'n rhannu'r hierarchaeth trafnidiaeth gynaliadwy â hwy.

Ond mae integreiddio polisi trafnidiaeth â meysydd polisi ehangach sy'n cynhyrchu teithiau mewn gwirionedd, nid ar bapur yn unig, yn anodd. Dywedodd y Dirprwy Weinidog wrth Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn hwyr y llynedd, yn gwbl didwyll:

… this is a really good area to press us on, frankly, because this is something Government has struggled with: moving beyond the silos to make sure that transport is an essential consideration in how that's done.

Croesawodd ymateb y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghymru i’r ymgynghoriad y cyfeiriadau at y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol, ond gwnaeth nifer o argymhellion gyda’r nod o gryfhau ei chysylltiadau â’r strategaeth drafnidiaeth. Awgrymodd y dylid adolygu'r dogfennau gyda'i gilydd a galwodd am ddull monitro sy'n ystyried effeithiolrwydd prosesau penderfynu, canlyniadau datblygu ar lawr gwlad ac effeithiau gyfansymiol ehangach.

Nid yw monitro a gwerthuso'r strategaeth gyfredol (2008) wedi bod yn bwynt cryf. Fe gafodd dangosyddion eu cynnwys, ond nid yw'n glir sut y cawsant eu defnyddio, na sut, os o gwbl, mae'r strategaeth wedi cael ei hadolygu dros y 12 mlynedd diwethaf. Terfynwyd cynlluniau ar gyfer monitro Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol 2010 yn 2013.

O ystyried maint y dasg sydd o'n blaenau, bydd pawb yng Nghymru yn gobeithio bod y strategaeth sy’n cael ei chyflwyno wir yn cynrychioli llwybr newydd ac nid ffordd i nunlle.

Bydd y Senedd yn trafod y strategaeth newydd ar 23 Mawrth. Gallwch wylio'n fyw ar Senedd.TV.


Erthygl gan Andrew Minnis, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru