Llusernau Awyr

Cyhoeddwyd 16/10/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

4900283051_965e774547

Llun: O Flickr gan elwillo.  Dan drwydded Creative Commons

Mae llusernau awyr, a elwir hefyd yn llusernau Tsieineaidd wedi’u gwneud, fel arfer, o bapur sy’n gallu gwrthsefyll tân mewn ffrâm o wifrau sy’n cynnwys cell tanwydd.     Yn aml, caiff nifer fawr ohonynt eu rhyddhau ar yr un pryd, ac maent wedi denu sylw oherwydd eu heffaith bosibl ar yr amgylchedd. Ym mis Mai 2012, cynigiodd Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy ar y pryd, John Griffiths AC, y dylid cynnal gwaith ymchwil i ddatblygu’r dystiolaeth ar effaith rhyddhau llusernau a balwnau ac, os oedd y dystiolaeth yn cyfiawnhau hynny, i ymchwilio i’r dewisiadau ar gyfer camau ychwanegol y gellid eu cymryd i liniaru’r effeithiau hynny. Ym mis Mai 2013, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru a DEFRA ganfyddiadau adroddiad ar y cyd ar effaith llusernau awyr yng Nghymru a Lloegr. Prif gasgliadau tîm y prosiect oedd: Peryglon i dda byw ac iechyd anifeiliaid
  • Mae adroddiadau anecdotaidd a sylw yn y cyfryngau yn awgrymu bod pryder eang ymhlith grwpiau amaethyddol ac eraill ynglŷn ag effeithiau llusernau awyr ar iechyd a lles da byw a cheffylau.
  • Nifer fach iawn o achosion sy’n cael eu hadrodd bob blwyddyn o anifeiliaid yn cael eu brawychu a’u gwylltio gan lusernau neu sy’n llyncu malurion llusernau awyr, er mae’n bosibl nad yw’r nifer hwn yn cynrychioli’r darlun llawn.
  • Bach iawn yw’r effaith gyffredinol.
Perygl tân
  • O ystyried y gall digwyddiadau unigol achosi aflonyddwch sylweddol neu arwain at golli eiddo a pheryglu bywyd pobl ac anifeiliaid, mae perygl tân sylweddol yn gysylltiedig â defnyddio llusernau awyr.
Effeithiau ar yr amgylchedd, ysbwriel ar y tir a’r môr
  • Cyfraniad bach mae ysbwriel llusernau awyr yn ei wneud i ysbwriel amgylcheddol yn gyffredinol. Fodd bynnag, gall effeithiau ysbwriel yn lleol fod yn fawr mewn rhai mannau.
Peryglon i awyrennau
  • Mae’r Awdurdod Hedfan Sifil (CAA) wedi darparu tystiolaeth am 48 o ddigwyddiadau y dywedwyd iddynt gael eu hachosi gan lusernau awyr a balwnau heliwm rhwng 2001 a 2012.
  • Mae llusernau awyr yn peryglu diogelwch awyrennau oherwydd mae’n bosib y gallant gael eu sugno i mewn i’r injan a gallant beryglu awyrennau ar y rhedfeydd ac achosi oedi wrth iddynt godi a glanio.
Peryglon i wasanaethau achub y glannau
  • Mae llusernau awyr yn berygl sylweddol i wasanaethau achub y glannau weithredu’n gywir ac effeithiol.
  • Gellir camgymryd llusernau awyr coch yn enwedig am ffaglau cyfyngder.
Y Sector Llusernau Awyr
  • Mae trosiant blynyddol cyfredol y farchnad llusernau awyr yn y DU wedi’i brisio rhwng £6m a £16m, yn seiliedig ar bris manwerthu cyfartalog o £2 yr uned.
  • Mae’r cwmnïau sy’n cyflenwi llusernau awyr yn tueddu i fod yn fach o ran nifer y gweithwyr ac yn ôl pob tebyg caiff llai na 100 o unigolion eu cyflogi’n uniongyrchol gan y sector yn y DU. Serch hynny, canfu’r astudiaeth bod y sector hwn yn gysylltiedig â lefel sylweddol o weithgarwch economaidd.
Datganiad ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru Ar 18 Gorffennaf 2013, wrth ymateb i’r canfyddiadau a nodwyd yn yr adroddiad ymchwil gan DEFRA, cyhoeddodd Alun Davies AC, y Gweinidog Adnoddau Naturiol a Bwyd, y datganiad a ganlyn: Mae’r dystiolaeth yn yr adroddiad yn awgrymu nad ydynt yn cael llawer o effaith ar yr amgylchedd ac mai ychydig o berygl sydd iddynt achosi niwed neu farwolaeth i lawer o dda byw.  Ar sail y canfyddiadau hyn, byddai’n anodd cyfiawnhau gwahardd naill ai lusernau awyr na balwnau heliwm. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod ei bod yn bwysig darparu gwybodaeth briodol i’r cyhoedd fel y gall pobl wneud dewisiadau gwybodus wrth benderfynu a ydynt am ryddhau llusernau awyr a balwnau heliwm ai peidio. Er nad yw’n fater datganoledig, rydym yn cefnogi Llywodraeth y Deyrnas Unedig wrth iddynt symud ymlaen â’r gwaith o sicrhau bod y gwneuthurwyr yn rhoi rhybuddion clir ar y pecynnau. Byddwn yn cadw golwg fanwl wrth i Lywodraeth y DU gydweithio â manwerthwyr, gwneuthurwyr ac eraill i helpu’r cyhoedd i ddeall sut i ddefnyddio’r pethau hyn mewn ffordd gyfrifol. Hefyd, mae Alun Davies AC wedi ysgrifennu at awdurdodau lleol a mudiadau elusennol i’w hannog i ystyried peryglon llusernau awyr a balwnau heliwm yn eu hardaloedd. Rhagor o wybodaeth: Adroddiad DEFRA: AC0229 - Sky lanterns and helium balloons: an assessment of impacts on livestock and the environment, Mai 2013. Cynulliad Cenedlaethol Cymru,  P-04-385 Deiseb ar ryddhau balwnau a lanternau, 1 Mai 2012 Llywodraeth Cymru, Datganiadau Ysgrifenedig: Camau arfaethedig yn dilyn cyhoeddi’r adroddiad ymchwil annibynnol ar effaith rhyddhau llusernau awyr a balwnau heliwm ar raddfa fawr , Gorffennaf 2013 Llywodraeth y DU Jim Paice: sky lanterns are causing problems in our countryside 19 Mehefin 2011. Erthygl gan Philip Donkersley