[rt_reading_time label="Amcangyfrif o amser darllen:" postfix="Munud" postfix_singular="Munud"]
31 Gorffennaf 2020
View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg
Ymadawodd y DU â’r UE ar 31 Ionawr a dechreuodd ar gyfnod pontio sy’n dod i ben ar 31 Rhagfyr. Mae negodwyr yr UE a’r DU wedi cydnabod nad yw’r negodiadau i gytuno ar y berthynas rhwng y DU a'r UE yn y dyfodol wedi arwain at lawer o gynnydd.
Os yw’r DU a’r UE am ddod i gytundeb ar y berthynas rhyngddynt yn y dyfodol, rhaid cwblhau’r negodiadau a chadarnhau’r testunau terfynol yn brydlon cyn i unrhyw drefniadau newydd ddod i rym ar 1 Ionawr 2021.
Mae'r blog hwn yn nodi’r llinell amser ar gyfer gweddill 2020 ac yn esbonio'r prosesau dan sylw.
Cylchoedd negodi
Mae’r negodiadau wyneb yn wyneb wedi ailddechrau yn dilyn cyfres o negodiadau rhithwir o ganlyniad i bandemig y coronafeirws. Cydnabu’r UE a’r DU, yn sgil y diffyg cynnydd o un cylch i’r llall, y byddai sesiynau ychwanegol, arbenigol yn dechrau mynd i'r afael â'r meysydd lle y ceir y gwahaniaethau mwyaf. Cynhelir y rhain rhwng y prif gylchoedd, mae eu cwmpas yn fwy cyfyngedig ac maent yn cynnwys meysydd fel pysgodfeydd a chystadleuaeth (y cyfeirir atynt fel y 'sefyllfa gydradd').
Yn dilyn y cylch negodiadau llawn diwethaf (Cylch 5), dywedodd David Frost, Prif Negodwr y DU fod y DU yn parhau i baratoi ar gyfer pob senario bosibl. Daw hyn yn sgil colli’r terfyn amser ar gyfer dod i ddealltwriaeth gynnar o'r egwyddorion sy'n sail i unrhyw gytundeb. Cynhaliwyd cylch arbenigol yn Llundain yr wythnos hon a bydd cylch llawn (Cylch 6) yn cychwyn ar 17 Awst ym Mrwsel. Mae'r ddwy ochr yn disgwyl i'r negodiadau barhau hyd at fis Medi (PDF, 413KB) a chadarnhawyd hyn gan Mr Frost ar 23 Gorffennaf.
Datblygiadau yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei blaenoriaethau negodi ar gyfer y berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae Jeremy Miles, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd, wedi dweud bod Llywodraeth y DU, yn y bôn, heb ddiddordeb mewn ymgysylltu a’r llywodraethau datganoledig.
Wrth roi tystiolaeth i Bwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y Senedd ar 14 Gorffennaf, eglurodd fod problemau hirsefydlog yn parhau, gan gynnwys mewn perthynas â chael rhybudd ymlaen llaw o'r negodiadau, rhannu gwybodaeth a diffyg trafodaethau rhwng y pedair gwlad. Yn hyn o beth, awgrymodd nad yw’r sefyllfa wedi gwella o gwbl drwy gydol y negodiadau. Gwrthwynebwyd yr honiadau hyn yn y gorffennol gan Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wrth roi tystiolaeth i'r un Pwyllgor ar 30 Mehefin, a Michael Gove, Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn, mewn llythyr ar 14 Mehefin.
Cadarnhau
Os bydd y DU a'r UE yn dod i gytundeb ynghylch eu perthynas yn y dyfodol, bydd angen amser arnynt hefyd i'w gadarnhau cyn iddo ddod i rym. Mae Michel Barnier, Prif Negodwr yr Undeb Ewropeaidd, wedi dweud y bydd angen testun terfynol erbyn 31 Hydref fan bellaf er mwyn cwblhau proses gadarnhau’r UE cyn y terfyn amser ar 31 Rhagfyr. Mae David Frost, Prif Negodwr y DU (PDF, 215KB), hefyd wedi nodi bod mis Hydref neu fis Tachwedd ychydig yn rhy hwyr i’r negodiadau barhau os yw cytundeb i’w gadarnhau erbyn diwedd y flwyddyn.
Cadarnhau: yr UE
Mae proses gadarnhau'r UE (PDF, 2MB) yn cynnwys o leiaf dri o sefydliadau'r UE a, chan ddibynnu ar gynnwys y cytundeb, gall gynnwys mwy ohonynt. Mae Michel Barnier, Prif Negodwr yr UE, yn gweithredu ar ran Comisiwn yr UE.
Os caiff cytundeb ei gwblhau, bydd y Prif Negodwr yn ei gyflwyno i Gyngor yr UE, sy'n cynnwys arweinwyr y 27 Aelod-wladwriaeth. Rhaid i’r holl Aelod-wladwriaethau roi cydsyniad neu bydd y cytundeb yn oedi. Gallant, hefyd, benderfynu a ddylid cymhwyso’r cytundeb dros dro. Nid oes sicrwydd o unfrydedd gan 27 Aelod-wladwriaeth yr UE a chynhaliwyd sawl etholiad yn Aelod-wladwriaethau'r UE eleni. Bwriedir cynnal etholiad Lithwania ym mis Hydref, a allai effeithio ar safbwyntiau’r Aelod-wladwriaethau ar y cytundeb terfynol.
Gellid cynnal y bleidlais ar y cytundeb yng nghyfarfod y Cyngor ar 15-16 Hydref os bydd testun terfynol ar gael. Rhannodd Mr Barnier linell amser ddrafft yn seiliedig ar y senario hon â Grŵp Cydgysylltu’r DU yn Senedd Ewrop ar 24 Gorffennaf.
Os bydd y Cyngor yn rhoi cydsyniad unfrydol, rhaid i Senedd Ewrop roi ei chydsyniad hefyd. Gellid gwneud hyn yn ei sesiwn ar 23-26 Tachwedd. Os na wneir hyn, cynhelir cyfarfodydd nesaf y Cyngor a’r Senedd ym mis Rhagfyr (10-11 a 14-17, yn y drefn honno). Yn y gorffennol, mae'r ddau sefydliad wedi dangos parodrwydd i gynnal sesiynau ychwanegol i gynnal busnes sy'n gysylltiedig â Brexit ac efallai y bydd angen y dull gweithredu hwn eto.
Mae’n bosibl y bydd gofynion ychwanegol (PDF, 2MB) ym mhroses gadarnhau'r UE, gan gynnwys:
- Caiff unrhyw un o'r 27 Aelod-wladwriaeth ofyn am farn Llys Cyfiawnder Ewrop ynghylch a yw'r cytundeb yn gydnaws â chytuniadau'r UE. Os bydd Llys Cyfiawnder Ewrop yn canfod nad yw’n gydnaws, rhaid dychwelyd a diwygio'r cytundeb, neu gellir ei wrthod;
- Os yw'r cytundeb yn cynnwys meysydd cydweithredu sy'n pontio cymhwysedd yr UE a'r Aelod-wladwriaethau ('cytundeb cymysg' fel y'i gelwir), gellir gofyn am gydsyniad seneddau 27 Aelod-wladwriaeth yr UE yn ychwanegol at gydsyniad sefydliadau’r UE. Mae cytundebau yn y gorffennol wedi cymryd sawl blwyddyn i gwblhau’r cam hwn er y gellid cymhwyso rhywfaint o’r cytundeb neu'r cytundeb cyfan dros dro.
Cadarnhau: y DU
Rhaid i'r DU gwblhau ei phroses gadarnhau cyn 31 Rhagfyr hefyd. Mae'r rhan fwyaf o gytundebau rhyngwladol y DU yn cael eu dwyn i gyfraith ddomestig drwy Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol a Llywodraethu 2010, sef proses sy'n eu hymgorffori o fewn 21 diwrnod os nad yw'r Senedd yn gwrthwynebu. Nid oes rôl ffurfiol gan y deddfwrfeydd datganoledig o ran hyn, ond mae gan Bwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y Senedd broses benodol ar gyfer craffu ar effaith cytundebau rhyngwladol ar Gymru.
Nid oes angen pleidlais yn y Senedd, gan fod ymrwymiad Llywodraeth y DU i gael ei chymeradwyaeth wedi'i ddileu o fersiwn wreiddiol Deddf yr UE (Y Cytundeb Ymadael) 2020 pan gafodd ei hailgyflwyno ym mis Rhagfyr 2019. Fodd bynnag, gall fod angen deddfwriaeth sylfaenol o hyd i weithredu'r cytundeb cyn diwedd y flwyddyn. Gan fod y trefniadau’n debygol o fod o fewn cymhwysedd datganoledig, gall fod angen i Lywodraeth y DU ofyn am gydsyniad y llywodraethau a’r deddfwrfeydd datganoledig yn ystod tymor yr hydref eleni.
Gweithredu’r Cytundeb Ymadael
Yn y cyfamser, mae’r gwaith i weithredu'r Cytundeb Ymadael yn parhau a disgwylir i gyfarfodydd amrywiol gael eu cynnal rhwng mis Medi a mis Tachwedd. Mae gweithredu’r Cytundeb Ymadael yn gyfrifoldeb y mae’r DU a’r UE yn ei rannu. Darperir goruchwyliaeth gan Gydbwyllgor y DU a’r UE , gyda chymorth chwe phwyllgor arbenigol, y cychwynnodd eu gwaith rhwng mis Mawrth a mis Mehefin 2020. Mae'r chwe phwyllgor yn cwmpasu Iwerddon-Gogledd Iwerddon, Gibraltar, Hawliau Dinasyddion, Ardaloedd Safleoedd Sofran y DU yng Nghyprus, Darpariaethau Ariannol a darpariaethau gwahanu eraill.
Os na fydd y naill ochr na’r llall yn llwyddo i weithredu'r Cytundeb Ymadael, mae hyn yn debygol o effeithio ar eu parodrwydd i gytuno ar berthynas yn y dyfodol. Mae sefydliadau’r UE wedi nodi’n flaenorol y bydd cytundeb ar berthynas yn y dyfodol yn dibynnu ar y DU yn gweithredu'r Cytundeb Ymadael yn llawn.
Erthygl gan Sara Moran a Joe Wilkes, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru