Ddydd Mercher 12 Chwefror, bydd y Senedd yn trafod yr Adroddiad Sioc ddiwylliannol.
Mae’n cyflwyno’r dystiolaeth gyntaf o effeithiau Brexit ar y sector diwylliant gan y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol (“y Pwyllgor”).
Ers 1 Ionawr 2021, pan ddaeth Cytundeb Masnach a Chydweithredu y DU a’r UE i rym, mae teithio yn yr UE wedi bod yn destun clytwaith o reolau cymhleth oherwydd nad yw’r cytundeb yn cwmpasu gwaith creadigol trawsffiniol yn llawn.
Mor gynnar â mis Chwefror 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru bapur ar yr hyn y mae’r berthynas newydd â’r UE yn ei olygu i Gymru. Ar gyfer diwylliant a’r celfyddydau, rhybuddiodd fod:
… [y] cymhlethdod newydd hwn wedi arwain at yr angen am gryn dipyn o adnoddau, amser ac arian ychwanegol.
Mae tystiolaeth y Pwyllgor yn cyfeirio at rwystrau gweinyddol, ariannol a chanfyddiadol, y cymharodd y Theatr Byd Bach i “Llen Haearn ddiwylliannol”. Mae'r erthygl hon yn egluro rhai o'r materion, canfyddiadau'r Pwyllgor, ac ymatebion y llywodraethau.
Ymadael â’r UE a gwaith creadigol
Mae angen i wahanol elfennau gydweithio i hwyluso gwaith creadigol trawsffiniol, gan gynnwys symud pobl (fel artistiaid a pherfformwyr) a’u nwyddau (fel offerynnau, cyfarpar a nwyddau marchnata). Dim ond rhai elfennau y mae'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu yn eu cwmpasu. Dysgwch fwy isod:
Nid yw symud gweithwyr creadigol wedi’i gynnwys yn benodol yn y Cytundeb, a gall Aelod-wladwriaethau’r UE benderfynu ar eu dulliau eu hunain. O ganlyniad, rhaid i weithwyr y DU sy’n teithio yn yr UE ymdopi â 27 set o reolau. At hynny, dim ond hyd at 90 diwrnod y gall gwladolion nad ydynt yn rhan o’r UE dreulio mewn unrhyw gyfnod o 180 diwrnod o dan reolau Schengen.
Rhai gofynion ar gyfer symud nwyddau yw:
- Er mwyn mynd â nwyddau dros dro i’r UE, mae angen pasbort nwyddau, sef trwydded ATA. Mae trwyddedau ATA fel arfer yn costio rhwng £200 a £500, ynghyd â blaendal diogelwch yn seiliedig ar werth y nwyddau. Dywedodd NoFit State wrth y Pwyllgor fod ei drwydded yn costio tua £28,000;
- Mae rheolau a gofynion gwahanol yn berthnasol i nwyddau marchnata, yn dibynnu ar eu gwerth, eu pwysau a ble maent yn cael eu gwerthu. Dywedodd artist unigol mai nwyddau marchnata oedd wedi’u “[h]effeithio fwyaf” gan y rheolau newydd; ac
- Mae rheolau trafnidiaeth masnach arforol yn cyfyngu nifer yr arosfannau teithio i dri o bob saith diwrnod cyn bod yn rhaid ichi ddychwelyd i'r DU. Dywedodd UK Music fod hyn yn cymryd llawer o amser ac yn gost ariannol enfawr.
Clywodd y Pwyllgor am ddiffyg gwybodaeth gynhwysfawr, ddibynadwy, ac yn aml mae angen i artistiaid ymgynghori â ffynonellau lluosog. Dywedodd:
Mae’n amlwg i ni fod yr amser, yr ymdrech a’r adnoddau a ddefnyddir er mwyn dod o hyd i wybodaeth ddibynadwy, clir a chywir yn anghymesur ac yn cael effaith andwyol.
Galwodd y Pwyllgor ar y llywodraeth i egluro pa ganllawiau a chymorth y mae’n eu darparu i weithwyr creadigol ar weithio trawsffiniol ar ôl Brexit, ac i gadarnhau a yw’n ariannu gwasanaethau cynghori trydydd parti. Fodd bynnag, prin yw'r manylion a ddarperir mewn ymateb.
Roedd Brexit yn golygu bod y DU wedi gadael rhaglenni a rhwydweithiau ariannu’r UE, gan gynnwys Ewrop Greadigol y mae’r gyllideb ar ei chyfer ers hynny wedi cynyddu 66%, i €2.44 biliwn ar gyfer 2020-2027. Er bod y Cytundeb Masnach a Chydweithredu yn cynnwys darpariaeth i'r DU gymryd rhan yn rhaglenni’r UE, nid yw Ewrop Greadigol wedi’i gynnwys ar hyn o bryd. Dywedodd Jones the Dance wrth y Pwyllgor fod y golled wedi bod yn “ddinistriol”, ac y bydd ei waith yn debygol o ddod i ben.
Ar gais y Pwyllgor, amlinellodd Llywodraeth Cymru sut y mae wedi lliniaru effeithiau Brexit ar y sector yn ei hymateb, gan gynnwys cyflwyno cynlluniau cymorth ariannol a mentrau i feithrin gwydnwch ac arloesedd. Fodd bynnag, mae'n cyfaddef nad yw'r rhain yn ymroddedig i fynd i'r afael â materion Brexit.
Cyflwynwyd datrysiad arfaethedig i rai o’r materion hyn ym mis Rhagfyr 2023 gan gyd-senedd y DU a’r UE, y Cynulliad Partneriaeth Seneddol. Mae’r Pwyllgor yn cefnogi’r cynnig ac, yn ei hymateb i’r adroddiad, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn dweud ei bod yn “llwyr gefnogi” hyn.
Ymatebodd Llywodraeth Cymru yn gadarnhaol hefyd i alwad y Pwyllgor am gael ei blaenoriaethu yn yr adolygiad gweithredu sydd ar ddod o'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu. Ar hyn o bryd, mae pedwar o bwyllgorau’r Senedd yn ystyried tystiolaeth ar hyn.
Cyfrifoldebau a gwneud penderfyniadau
Mae nifer o adrannau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, a phortffolios gweinidogol, yn gyfrifol am y materion hyn, fel y dangosir ar ein ffeithlun isod.
Cyfrifoldebau adrannau llywodraethau Cymru a’r DU
Ymatebodd Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, ar ran Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor. Hi sy'n gyfrifol am fasnach a chydgysylltu’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu ar draws y llywodraeth.
O ran gweithio gyda llywodraethau eraill y DU, derbyniodd Llywodraeth Cymru yn rhannol alwad y Pwyllgor iddi hyrwyddo'r mater hwn mewn cyfarfodydd, ond gwrthododd yr alwad i adrodd yn ôl unwaith y tymor ar sut y mae wedi gwneud hyn. Dywedodd y Pwyllgor yr ymddengys fel pe bai’r system rynglywodraethol ar ôl Brexit wedi ‘methu’r sector’, heb unrhyw gofnod o’r materion hyn mewn dogfennau ffurfiol ers ei sefydlu ar adeg cyhoeddi’r adroddiad.
Data a thystiolaeth
Canfu’r Pwyllgor y canlynol:
Yr hyn sy'n ddiffygiol yw data ar lefel Cymru sy’n cyfleu gwir faint yr effaith y credwn y gall Llywodraeth Cymru yn unig ei chael ac y mae yn y sefyllfa orau i’w chael.
Cafodd ei “gythryblu” gan dystiolaeth nad yw Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu â’r sector i gasglu tystiolaeth o effeithiau Brexit, a gofynnodd iddi gadarnhau pa ddata y mae’n eu defnyddio i lywio penderfyniadau.
Mewn ymateb, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru nad yw wedi cynnal asesiad o effaith Brexit a’i bod yn dibynnu ar Celfyddydau Rhyngwladol Cymru am “fwyafrif” o’i data a’i thystiolaeth.
A yw’r adroddiad Sioc ddiwylliannol wedi cael effaith?
Er bod artistiaid teithiol yn flaenoriaeth yn y DU ar gyfer adolygiad gweithredu y Cytundeb Masnach a Chydweithredu sydd ar ddod a’r ailosodiad o ran y DU a’r UE, mae cyfeiriadau hyd yma at symud pobl yn unig. Nid yw manylion am yr elfennau eraill a ddisgrifir yn yr erthygl hon wedi dod i law.
Amlinellodd Syr Chris Bryant AS, Gweinidog Diwydiannau Creadigol, y Celfyddydau a Thwristiaeth Llywodraeth y DU ei uchelgais i wneud pethau’n haws i’r sector yn ei ymateb i’r adroddiad. Mae'n manylu ar y gwaith sydd ar y gweill gyda rhanddeiliaid, yr UE ac Aelod-wladwriaethau'r UE i wella'r sefyllfa.
Dadl dydd Mercher yw'r cam nesaf i ddeall sut mae Llywodraeth Cymru yn ymateb. Gwrthododd argymhellion allweddol eraill yn yr adroddiad, gan gynnwys:
- sefydlu grŵp cynghori newydd ar gysylltiadau rhwng y DU a’r UE, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r sector diwylliant;
- cynnwys y mater fel blaenoriaeth mewn strategaeth glir a chydlynol sy’n nodi ei huchelgais ar gyfer cysylltiadau rhwng y DU a’r UE a Chymru a'r UE; a
- darparu ei hasesiad o effaith Brexit ar y sector.
Derbyniodd yr alwad i ymgorffori canfyddiadau'r adroddiad yn niwylliant y dyfodol a strategaethau rhyngwladol ond dim ond pan fyddant yn cyd-fynd â'i blaenoriaethau.
Mae adroddiad y Pwyllgor yn paentio darlun llwm o'r sector o gyfleoedd coll, llai o weithgaredd , costau uwch ac incwm a gollwyd. Yn yr adroddiad Sioc ddiwylliannol, mae’r Pwyllgor yn addo hyrwyddo’r gwaith hwn yng Nghymru a chynnal pwysau ar y ddwy lywodraeth i ddod o hyd i ateb.
Erthygl gan Sara Moran, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru