Is-etholiad Ynys Môn

Cyhoeddwyd 05/08/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Plaid Cymru yn cadw sedd Ynys Môn gyda mwyafrif uwch Yn yr is-etholiad i gynrychioli etholaeth Ynys Môn yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, a gynhaliwyd ar 1 Awst 2013, cafodd Rhun ap Iorwerth ei ethol dros Blaid Cymru gyda 12,601 o bleidleisiau, mwyafrif o 9,166 (42.3%) dros Tal Michael, ymgeisydd Llafur, a ddaeth yn ail gyda 3,435 o bleidleisiau. Mae hyn yn golygu bod Plaid Cymru yn cadw etholaeth Ynys Môn gyda mwafrif llawer yn uwch, tair gwaith y mwyafrif o 2,937 a gafwyd yn Etholiad y Cynulliad yn 2011. Cynhaliwyd yr is-etholiad yn sgil ymddiswyddiad Ieuan Wyn Jones, yr Aelod Cynulliad blaenorol dros Ynys Môn, ar 18 Mehefin 2013. O dan adran 10 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, unwaith i Aelod adael sedd etholaeth fel Ynys Môn, rhaid cynnal is-etholiad o fewn tri mis. Dyma’r trydydd is-etholiad i gael ei gynnal ers i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gael ei sefydlu, yn dilyn yr is-etholiadau blaenorol yn Nwyrain Abertawe yn 2001 a Blaenau Gwent yn 2006. Y ganran a bleidleisiodd yn Ynys Môn oedd 42.4%, a oedd yn is na’r 52.1% a bleidleisiodd ym Mlaenau Gwent yn 2006, lle cynhaliwyd is-etholiad ar gyfer y sedd yn San Steffan ar yr un diwrnod â’r is-etholiad ar gyfer y Cynulliad, ond yn uwch na’r ganran o 22.6% a bleidleisiodd yn Nwyrain Abertawe. Cafodd Plaid Cymru 58.2% o’r bleidlais yn yr is-etholiad, ymhell o flaen Llafur ac UKIP, a gafodd 15.9% a 14.3% o’r bleidlais yn ôl eu trefn. Cafwyd gogwydd o 13.6% o’r Blaid Lafur i Blaid Cymru o’i gymharu ag Etholiad y Cynulliad yn 2011. Ffigur 1: Nifer y pleidleisiau a chyfran y bleidlais a gafwyd gan bob plaid wleidyddol yn is-etholiad Ynys Môn Cymraeg Ynys Mon fig 1Ffynhonnell: Cyngor Sir Ynys Môn, Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru - Dydd Iau 1 Awst 2013 O’r pleidiau a fu’n sefyll dros Ynys Môn yn Etholiad y Cynulliad yn 2011, cynyddodd Plaid Cymru ei chyfran o’r bleidlais o 41.4% i 58.2%. Dyma gynnydd o 16.8 pwynt canran, a’r gyfran uchaf o’r bleidlais y mae Plaid Cymru erioed wedi’i chael mewn unrhyw un o etholiadau’r Cynulliad ar Ynys Môn. Gwelodd y pleidiau eraill a fu’n sefyll yn Etholiad y Cynulliad yn 2011, sef Llafur, y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol, eu cyfrannau o’r bleidlais yn lleihau. Nid oedd gan UKIP na Llafur Sosialaidd ymgeiswyr yn etholiad 2011. Ffigur 2: Y newid o ran pwyntiau canran yng nghyfran pob plaid o’r bleidlais ar Ynys Môn rhwng etholiad y Cynulliad yn 2011 a’r is-etholiadCymraeg Ynys Mon fig 2 Ffynonellau: Cyngor Sir Ynys Môn, Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru - Dydd Iau 1 Awst 2013 a Chynulliad Cenedlaethol Cymru, Canlyniadau’r Etholiad ar gyfer Ynys Môn Sylwer: Nid oedd gan UKIP na Llafur Sosialaidd ymgeiswyr dros Ynys Môn yn Etholiad y Cynulliad yn 2011; felly, maent wedi’u dangos mewn lliwiau goleuach ar y graff hwn. Mae’r ffaith bod Plaid Cymru wedi cadw sedd Ynys Môn yn golygu bod nifer y seddi sydd gan bob plaid yn y Cynulliad yn aros yr un peth. Mae gan Llafur 30 o seddi, y Ceidwadwyr 13, Plaid Cymru 11 a’r Democratiaid Rhyddfrydol 5. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Gareth Thomas: GarethDavid.Thomas@cymru.gov.uk / 02920 898917