Imiwneiddio a brechu yn y GIG

Cyhoeddwyd 24/11/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

24 Tachwedd 2014 Erthygl gan Dr Shane Doheny, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_1899" align="alignright" width="225"]Llun o Flickr gan Daniel Paquet. Dan drwydded Creative Commons Llun o Flickr gan Daniel Paquet. Dan drwydded Creative Commons[/caption] Ar 11 Mehefin 2013, cyhoeddodd Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, newidiadau i'r Rhaglen Frechu Genedlaethol 2013-14. Gall pob un o bedair gwlad y DU benderfynu ar ei strategaeth imiwneiddio ei hun, ond mae'r rhain yn cael eu seilio fel arfer ar gyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), fel ffordd o sicrhau bod mesurau'n cael eu cymryd ledled y DU i rwystro rhai clefydau penodol. Ym mis Mehefin 2013, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi:
  • newid i'r amseriad a'r dull o gyflwyno brechlyn MenC;
  • cyflwyno rhaglen i gyflwyno'r brechiad rotafirws i fabanod pan fyddant yn ddau a thri mis oed;
  • cyflwyno brechiad rhag yr eryr i bobl dros 70 oed;
  • trefnu bod plant dwy a thair oed, a disgyblion ysgol ym mlwyddyn 7, i gael y brechiad rhag y ffliw tymhorol; a
  • chyflwyno ail frechiad rhag y ffliw i blant hyd at naw oed yr ystyrir eu bod mewn perygl o ddatblygu cymhlethdodau.
Imiwneiddio plant Mae Llywodraeth Cymru wedi pennu targed Haen 1 ar gyfer imiwneiddio plant, er mwyn sicrhau bod 95% o'r holl blant preswyl o dan bedair oed yn cael yr holl frechiadau angenrheidiol yn rheolaidd. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud cynnydd yn y maes hwn a nododd y Prif Swyddog Meddygol yn ei hadroddiad blynyddol bod 'cyfran y plant a oedd wedi cael pob pigiad rheolaidd wedi cynyddu o 83 y cant i 88 cant, a rhagwelir y bydd hyn yn cynyddu eto.' Mae tlodi ac amddifadedd yn parhau i effeithio ar gyfraddau brechu. Yn ôl Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn 2012, roedd plant o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru 9% yn llai tebygol o fod wedi cael yr holl frechiadau angenrheidiol na'r rhai mewn wardiau llai difreintiedig. Y frech goch, clwy'r pennau a rwbela (MMR) Er bod Llywodraeth Cymru bellach yn cyrraedd ei tharged o sicrhau bod 95% o bobl ifanc yn cael yr MMR, mae pryderon o hyd ynghylch y pigiad atgyfnerthu. Gan gydnabod nad oedd 'un o bob deg person ifanc 16 oed yn 2013' wedi'i imiwneiddio’n llawn o hyd, nododd y Prif Swyddog Meddygol ein bod yn debygol o weld 'achosion o firws y frech goch yn cael ei fewnforio i Gymru ac yn lledaenu’n lleol i ryw raddau' dros y blynyddoedd nesaf. Yn y Cynulliad ar 4 Tachwedd 2014, soniodd y Gweinidog am sut y mae daearyddiaeth wedi effeithio ar nifer y rhai sydd wedi'u himiwneiddio, a bod carfan o blant rhwng 10 ac 16 oed a gafodd 'eu methu yn ystod y cyfnod o ddadlau am yr MMR', gan ychwanegu bod hwn yn 'un o'r meysydd hynny y mae pobl yn ymateb iddynt pan fyddant yn credu bod y risg yn wirioneddol ar garreg eu drws.   [...] Felly, nid yw'n faes hawdd i wneud cymaint o gynnydd ynddo ag yr hoffem ei wneud.' Feirws papiloma dynol (HPV) Ym mis Medi 2008, ychwanegwyd brechiad ar gyfer y feirws papiloma dynol at amserlen brechu plant y DU. Mae sawl math gwahanol o'r feirws papiloma dynol, ac fe'u trosglwyddir yn bennaf drwy gysylltiad rhywiol. Mae brechiad y feirws papiloma dynol wedi'i gynllunio i ddiogelu yn erbyn y mathau o'r feirws sydd fwyaf tebygol o arwain at ganser ceg y groth yn ddiweddarach mewn bywyd, ac fe'i rhoddir i ferched rhwng 12 a 13 oed, mewn tair dos dros gyfnod o chwe mis. Yn ôl adroddiad y Prif Swyddog Meddygol, manteisiodd 85.4% o'r merched targed ar y cwrs llawn o dair dos drwy'r rhaglen frechu hon. Hefyd, nododd y Prif Swyddog Meddygol gynnydd yn nifer yr achosion o ganser y geg neu’r gwddw ymhlith dynion. O gofio hynny, mae is-bwyllgor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ar y feirws papiloma dynol wedi bod yn trafod cynlluniau i ymestyn rhaglen frechu'r feirws i dargedu dynion sy'n cael rhyw â dynion, a rhaglen frechu gyffredinol sy'n cynnwys bechgyn yn eu harddegau. Llid yr ymennydd Mae'r Prif Swyddog Meddygol yn nodi mai 'grŵp B Meningococcaidd (MenB) yw dros 80 y cant o’r achosion ers yr ymgyrch brechu rhag MenC.' Yn y Cynulliad ar 4 Tachwedd, cyfeiriodd y Gweinidog at waith y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu sydd wedi: argymell cyflwyno brechiad llid yr ymennydd B, ar yr amod y gellir ei gyflenwi gan y gwneuthurwr am bris cost-effeithiol. Yr Adran Iechyd yn Llundain sy'n arwain ar ran y pedair gwlad yn y trafodaethau gyda'r gwneuthurwr, ac nid ydynt, hyd yma, wedi dod i ben. Ffliw Yn 2013, cafodd rhaglen y ffliw tymhorol ei hymestyn i bob plentyn rhwng dwy a thair oed, gan ddefnyddio brechlyn ffliw ar ffurf chwistrell i’r trwyn, ac i blant ym mlwyddyn 7, sy'n cael eu brechu drwy'r gwasanaeth nyrsio ysgolion. Yn ôl y Prif Swyddog Meddygol: Manteisiodd 68 y cant o’r plant ysgol ar y brechlyn ffliw a 38 y cant o blith grŵp y plant bach. Blwyddyn gyntaf rhaglen yw hon a’r nod yn y pen draw fydd cynnig brechiad rhag ffliw i bob plentyn rhwng dwy ac 16 oed bob hydref. Cafwyd trafodaeth yn y Cynulliad ar nifer y gweithwyr gofal iechyd sy'n manteisio ar y brechlyn ffliw ar 4 Tachwedd 2014. Targed Llywodraeth Cymru yw bod 50% o weithwyr gofal iechyd yn cael y brechlyn, ac mae'r nifer sy'n manteisio arno wedi cynyddu o 11.6% yn 2009-10 i 40.6% yn 20013-14. Trafododd y Gweinidog y posibilrwydd o newid y targed, ond dywedodd 'na fyddai'n ysgogol, yn y flwyddyn hon, i symud pyst y gôl ymhellach ymlaen ar yr union adeg y mae’n edrych yn debygol ein bod ar fin eu cyrraedd.' Serch hynny, roedd y Gweinidog yn 'glir mai hon yw'r flwyddyn olaf y byddwn yn dibynnu'n gyfan gwbl ar berswâd a'i gwneud yn haws i staff fanteisio ar y brechiad rhag y ffliw.'